Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

(1)  Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

(2)   Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

 

i.                Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.

ii.              Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol

 

(3)   Hysbysu defnyddwyr Llithrfa yr Hafan am yr angen i sicrhau bod pob Cwch Hamdden a Bad Dwr Personol wedi cofrestru gyda Cyngor Gwynedd cyn lansio. Roedd hyn yn sgil pryderon a godwyd am y defnydd presennol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/10/2021 - Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

Dogfennau Cefnogol: