Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, Y Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

 

Bod y pwyllgor craffu yn cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn, sef:-

 

2.Nid yw’r Adroddiad yn cymryd i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref .

 

(a) Mae Datblygiad Newydd o godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal - mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein plant. 

 

(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai. 

 

Mae’r Gymdeithas tai wedi cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon. 

 

Nid yw’r adroddiad yn sôn dim am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.”

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Dogfennau Cefnogol: