Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Caniatáu - amodau

  1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 
  2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif   D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1  a  D794.20P1  a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
  3. Bydd yr unedau gwyliau cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac ni fyddant yn cael eu meddiannu fel unig neu brif breswylfa person. Bydd perchenogion/gweithredwyr yr unedau cadw cofrestr, cofnod cyfamserol o enwau holl berchenogion/deiliaid yr unedau ar y safle a chyfeiriadau eu prif gartref a byddant yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael ar bob adeg resymol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
  4. Ni ddylai unrhyw ddatblygiad (yn cynnwys addasiadau strwythurol neu waith dymchwel) gymryd lle heb fod manylion ar gyfer rhaglen cofnodi archeolegol wedi’i gyflwyno a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Dylai ymgymryd â’r datblygiad a’r holl waith archeolegol yn gwbl unol a’r manylion a ganiateir.
  5. Rhaid cyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag amod (a), a chyflwynwyd a chytunwyd yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol. 
  6. Ni chaniateir i ddŵr wyneb oherwydd cynnydd mewn arwynebedd to'r adeilad neu / neu hwynebau anhydraidd o fewn y cwrtil gysylltu, unai yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i'r gyfundrefn garthffos gyhoeddus.
  7. Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad gwreiddiol fod o wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil a math i gydweddu’r ffenestri presennol.  Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.   
  8.  Rhaid cyflwyno manylion y gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.
  9. Rhaid i'r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn llyfn gyda'r to. 
  10. Cyn cychwyn y gwaith a ganiateir yma rhaid cyflwyno manylion lleoliad i osod blychau nythu gwenoliaid du, a’u gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllun Lleol, a'u darparu ar y safle yn unol â'r manylion a gytunwyd.
  11. Rhaid i unrhyw arwyddion sy’n hysbysebu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle fod yn Gymraeg neu’n ddwyieithog gyda blaenoriaeth i’r Gymraeg.

Nodyn: Datblygwr i drafod posibiliadau cynnig tocyn parcio lleol i ddefnyddwyr yr adeilad gyda'r Gwasanaeth Trafnidiaeth

Dyddiad cyhoeddi: 22/11/2021

Dyddiad y penderfyniad: 22/11/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Dogfennau Cefnogol: