Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2021/22. 

 

1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w parhau (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef -

 

ADRAN 

£’000 

Oedolion, Iechyd a Llesiant 

(69) 

Plant a Theuluoedd 

(97) 

Addysg 

(60) 

Economi a Chymuned 

(72) 

Priffyrdd a Bwrdeistrefol 

0 

Amgylchedd  

(100) 

Ymgynghoriaeth Gwynedd 

(100) 

Tai ac Eiddo 

(100) 

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol 

(33) 

Cyllid 

(96) 

Cefnogaeth Gorfforaethol 

(63) 

 

1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2)

 

·       Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £746k i ddiddymu ei orwariant am y flwyddyn yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn ymwneud â’r argyfwng eleni. Bydd hyn yn galluogi’r adran symud ymlaen i wynebu her 2022/23. 

 

·       Er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Ariannol, ni fydd yr adrannau canlynol yn cadw eu tanwariant uwchlaw (£100k):  

·       Adran Amgylchedd (£91k) 

·       Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd (£9k) 

·       Adran Tai ac Eiddo (£180) 

 

Ceisir penderfyniad y Cabinet i neilltuo’r cyfanswm o £280k i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor. 

 

·       Ar gyllidebau Corfforaethol: 

·       fod (£2,183k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf 

·       gyda gweddill y tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei neilltuo fel a ganlyn: 

·       (£395k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor 

·       (£3,000k) i'r Gronfa Trawsffurfio i gyllido blaenoriaethau'r Cyngor a gwaith trawsffurfiol ei natur 

·       (£1,377k) i'r Gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor. 

 

1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£851k) o gronfeydd gan ddefnyddio £746k ohono i gynorthwyo’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd wedi gorwario yn 2021/22 a throsglwyddo'r £105k sydd yn weddill i falansau cyffredinol y Cyngor. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/06/2022

Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2022 - Y Cabinet

Dogfennau Cefnogol: