Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
·
Derbyniwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac
ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran /
gwasanaeth.
·
Cymeradwywyd
trosglwyddiad o £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa
Strategaeth Ariannol y Cyngor.
·
Argymhellwyd
mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol fydd
defnyddio:
-
yn gyntaf,
Balansau Ysgolion i gyllido'r costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon,
cymhorthyddion, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr
ysgolion.
-
yn ail,
defnyddio’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes
Digartrefedd.
-
yn olaf,
defnyddio'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau
ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor.
Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: