Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Bod
y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Ynni Lleol
Blaengar ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a'r DU o'r broses
sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i'r
materion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i
baratoi Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses
gaffael a'r broses ganiatâd.
2.
Bod
y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd
a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb gaffael a'r meini prawf
gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.
3.
Bod
y Bwrdd yn nodi y bydd y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect yn
cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod
Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.
Dyddiad cyhoeddi: 24/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 24/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/03/2023 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Dogfennau Cefnogol: