skip to main content

Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

 

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r argymhelliad

 

  1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 
  2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif  80 1 - 22 - 0 5; 801 - 22 - 70; 22/115/P 09; 22/115/P 04 a 22/115/P 03 Amendment A a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
  3. Cyn i’r cyfleuster a ganiateir drwy hyn ddod yn weithredol fel iard storio/gwerthiant, rhaid yn gyntaf cyflwyno manylion i’w gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol o unrhyw adeilad a/neu strwythur bwriedir ei godi fel rhan o’r cyfleuster arfaethedig gan gynnwys dyluniad ac uchder.
  4. Rhaid i’r cyfleuster a ganiateir drwy hyn fod yn gysylltiedig â defnydd bwriedir ei wneud gan yr ymgeisydd o’r adeilad masnachol ar y Stryd Fawr fel canolfan busnes cyflenwr nwyddau/deunyddiau amaethyddol ac sydd wedi ei amlinellu mewn glas yng nghynllun rhif 22/115/P 03 Amendment A.
  5. Rhaid cyflawni'r cynllun plannu clawdd draenen gymysg a gynhwysir yng nghynllun rhif 22/115/P 03 Amendment A yn ystod y tymor plannu cyntaf ar ôl i'r defnydd ddod yn weithredol. Yn achos unrhyw rhan o’r clawdd a fydd o fewn cyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad plannu farw, a symudir neu a niweidir yn ddifrifol neu a ddaw'n heintus rhaid eu symud a phlannu yn eu lle yn ystod y tymor plannu nesaf eraill cyffelyb o ran maint a rhywogaeth oni bai i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ganiatáu ymrwymiad mewn ysgrifen.
  6. Cyn i'r cyfleuster ddod yn weithredol, rhaid yn gyntaf cyflwyno manylion i’w gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer unrhyw arwyddion sydd i’w codi ar y safle a bydd yr arwyddion hyn yn y Gymraeg yn unig, neu'n ddwyieithog gyda blaenoriaeth i'r Gymraeg.
  7. Rhaid cydymffurfio gyda Rhan 6.0 (Crynodeb a Chasgliadau) yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd (cyf. KRS.0639.001.R001.A) dyddiedig Medi, 2022 gan KRS Environmental.
  8. Rhaid i’r gwelliannau i’r fynedfa bresennol cael eu cario allan yn hollol unol  a’r manylion a gynhwysir o fewn cynllun rhif  22/115/P 03 Amendment A.
  9. Ni chaniateir derbyn nwyddau neu eu dosbarthu o'r safle a ganiateir drwy hyn y tu allan i'r oriau 08:00 i 18:00 Llun i Gwener; 08:00 i 12:00 dydd Sadwrn a dim o gwbl ar ddydd Sul.

 

Y rhesymau am ddyfarniad y Cyngor i ganiatáu'r datblygiad yn ddarostyngedig i'r amodau a nodwyd eisoes:

 

  1. Cydymffurfio â Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref.
  2. Cydymffurfio a darpariaethau Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref ac i sicrhau datblygiad boddhaol y safle, ac i ddiogelu mwynderau gweledol y cylch
  3. I sicrhau datblygiad trefnus y safle ac i ddiogelu mwynderau gweledol.
  4. I sicrhau datblygiad trefnus y safle.
  5. I ddiogelu mwynderau gweledol ac i sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth.
  6. I ddiogelu ac i hybu’r iaith Gymraeg.
  7. I gydymffurfio a gofynion Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd.
  8. Er budd diogelwch y ffyrdd.
  9. I ddiogelu mwynderau preswyl.  

 

Nodiadau

 

  1. Oherwydd maint a natur y datblygiad bydd angen darparu cais i’r Corff Cymeradwy Systemau Draenio Cynaliadwy i’w gymeradwyo cyn dechrau’r gwaith adeiladu.  Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan Gyngor Gwynedd yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy cyn y bydd gwaith adeiladu’n dechrau.

 

  1. Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Dwr Cymru ddyddiedig 24.02.23 a'r angen i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir ynddo. Mae’r llythyr i’w weld o dan gyfeirnod y cais yma ar dudalennau dilyn a darganfod ar safle we’r Cyngor.

 

  1. NODYN: Rhaid i ymyl y ffordd o flaen y fynedfa gael ei chryfhau gyda cyrbiau smwt 125 x 150mm wedi eu gosod yn unol â 'Dylunio Ffyrdd'. 

 

  1. NODYN: Na fydd yr Awdurdod Priffyrdd yn gyfrifol am unrhyw ddŵr wyneb o'r ffordd sy'n mynd i'r safle'n sgil y datblygiad.

 

  1. NODYN: Cyfarwyddir yr ymgeisydd i ysgrifennu i'r Awdurdod Priffyrdd  i gael hawl o dan Adran 278 o'r Ddeddf Priffyrdd, 1980, i gario allan unrhyw waith sydd yn golygu newidiadau i'r ffordd bresennol er mwyn creu mynedfa i'r safle.

 

  1. NODYN: Ni ddylai dwr wyneb o gwrtil y safle arllwys i'r briffordd. Rhaid cwblhau draeniad y briffordd ar y fynedfa ac ar hyd y ffryntiad i gwrdd â gofynion yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn cychwyn ar unrhyw waith ar weddill y datblygiad.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 22/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 22/05/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/05/2023 - Pwyllgor Cynllunio

Dogfennau Cefnogol: