PENODI CYFARWYDDWR RHAGLEN
Penodi
Cyfarwyddwr Rhaglen (ceisiadau a
dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig).
Penderfyniad:
I gynnig y
swydd i Mr Iwan Trefor Jones, gan awdurdodi Prif Weithredwr y Corff Atebol,
mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd i
gadarnhau yr amodau a’r telerau yn unol â chyfarwyddyd y Cyd bwyllgor.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Geraint Owen,
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y Corff Atebol.
PENDERFYNWYD i gynnig y swydd i Mr Iwan
Trefor Jones, gan awdurdodi Prif Weithredwr y Corff Atebol, mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd i gadarnhau yr amodau
a’r telerau yn unol â chyfarwyddyd y Cyd-bwyllgor.
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Gweithredu i benodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar
gyfer y Cynllun Twf.