6 YSGOL LLANAELHAEARN PDF 771 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd i gadarnhau’n derfynol i gau Ysgol
Llanaelhaearn ar 31 Awst 2-2- a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Bro
Plennydd, Y Ffôr o 1af Medi 2020, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.
Cofnod:
Cyflwynwyd
gan Cyng. Cemlyn Williams
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd i
gadarnhau’n derfynol i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2-2- a chynnig lle
i’r disgyblion yn Ysgol Bro Plennydd, Y Ffôr o 1af Medi 2020, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth
Ysgolion 11/2018.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet ar 5 Tachwedd wedi penderfynu ar gynnal
cyfnod ymgynghori statudol yn unol a Deddf Safonau a Threfniadau Ysgolion ar y
cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn. Mynegwyd fod y cyfnod statudol bellach wedi
dod i ben a nad oedd dim gwrthwynebiad i’r cynnig. Ychwanegwyd drwy nodi fod yr
adran o ganlyniad yn credu mai cau yr ysgol yw’r opsiwn priodol. Diolchwyd i’r
gymuned, llywodraethwyr a rhieni am y trafodaethau aeddfed a phriodol gan
bwysleisio ei bod wedi bod yn drafodaeth anodd ar adegau.
Nododd
yr Aelod Lleol ei bod yn drist iawn fod yr ysgol yn cau er ei hanes hir a
disglair. Mynegodd os yw pobl am gadw eu hysgolion lleol ar agor fod angen
iddynt eu defnyddio, diolchwyd i’r staff am eu holl waith.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd i’r Aelod Lleol am ei gyfraniad gwrthrychol yn ystod y trafodaethau ac am gyfraniad i’r trafodaethau. the discussions.
Awdur: Gwern ap Rhisiart