5 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2019/20 PDF 180 KB
Cyflwyno adroddiad
yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol)
(ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno
i’r Cyngor llawn ar 3 Rhagfyr, yn ddarostyngedig i ychwanegu:-
·
paragraff yn nodi bod rôl gan bob cyngor, a phob
aelod o bob cyngor, i arddel a hyrwyddo safon uchel o ymddygiad yn llygaid y
cyhoedd, ac i herio ymddygiad amhriodol, boed yr Ombwdsmon yn ymwneud â’r mater
ai peidio.
·
cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog
Monitro.
Cofnod:
Cyflwynwyd – drafft o
adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2019/20. Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y
pwyllgor i’r ddogfen.
Gofynnwyd i’r aelodau
wirio eu bywgraffiadau a chysylltu â’r Uwch Gyfreithiwr –
Corfforaethol gydag unrhyw gywiriadau / diweddariadau.
Nododd y Cynghorydd
Beth Lawton fod angen dileu’r cyfeiriad ati fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi, a nodi ei bod bellach yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu
Gofal.
Eglurwyd y bwriedid
ail-afael yn rhaglen waith y pwyllgor yn sgil argyfwng y pandemig, gan gyflwyno
rhaglen waith ddiwygiedig i’r aelodau ym mis Chwefror, pan fydd y sefyllfa o
ran adnoddau, ac ati, yn gliriach.
Holwyd a ddylid
cynnwys cyfeiriad yn yr adroddiad blynyddol at fater a godwyd yn y Cyngor llawn
ar fwy nag un achlysur ynglŷn â’r
prawf budd cyhoeddus. Mewn ymateb,
eglurwyd bod yr hyfforddiant i gynghorau cymuned yn pwysleisio’r neges bod
cynghorau yn mabwysiadu eu cod eu hunain, a waeth beth yw’r sefyllfa o ran
ymchwiliad, bod hyrwyddo ymddygiad priodol yn rhan o strwythur pob corff a
chyfarfod. Cytunodd yr aelodau bod angen
cyfleu neges bellach nad rhywbeth i’w ddatrys gan yr Ombwdsmon oedd ymddygiad
bob tro, a bod cyfrifoldeb ar yr unigolyn a’r corff, a gofynnwyd i’r Uwch
Gyfreithiwr - Corfforaethol gynnwys paragraff i’r perwyl hynny yn yr adroddiad
blynyddol.
Cymeradwyo’r
adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 3 Rhagfyr, yn
ddarostyngedig i ychwanegu:-
·
paragraff yn nodi bod rôl gan bob cyngor, a phob
aelod o bob cyngor, i arddel a hyrwyddo safon uchel o ymddygiad yn llygaid y
cyhoedd, ac i herio ymddygiad amhriodol, boed yr Ombwdsmon yn ymwneud â’r mater
ai peidio.
·
cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog
Monitro.