9 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - EGWYDDORION CAFFAEL PDF 469 KB
Adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Mabwysiadu'r egwyddorion caffael arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf Gogledd
Cymru.
2. Nodi y bydd gofyn i arianwyr y prosiectau ddangos sut y byddant yn cyflawni yn erbyn yr egwyddorion hyn fel rhan o achos busnes y prosiectau.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).
PENDERFYNWYD
(1) Mabwysiadu’r egwyddorion caffael
arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.
(2) Nodi y bydd gofyn i arianwyr y prosiectau
ddangos sut y byddant yn cyflawni yn erbyn yr egwyddorion hyn fel rhan o achos
busnes y prosiectau.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Darparu fframwaith
clir i brosiectau gyflawni yn erbyn dyheadau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn cyflwyno cyfres o egwyddorion caffael ar gyfer Cynllun Twf
Gogledd Cymru.
Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd y cefnogid yr egwyddorion, ond wrth eu
rhoi ar waith, y dymunid gweld ychydig mwy o amlygrwydd yn cael ei roi i’r
egwyddorion hynny sy’n dod â budd i Ogledd Cymru, megis newid hinsawdd ac
ecolegol, cefnogi’r gadwyn gyflenwi leol, gwerth cymdeithasol, sgiliau, swyddi
a chyfleoedd, ac ati.
·
Mynegwyd gobaith y byddai’r egwyddorion yn cael
eu gweithredu’n egnïol, ac yn cael eu hyrwyddo hefyd.