14 Cais Rhif C21/0368/42/DT Tyn y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6LN PDF 303 KB
Estyniad ochr
unllawr
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gruffydd Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Gwrthod y
cais yn groes i’r argymhelliad
Cofnod:
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y
cais yn gais llawn i adeiladu estyniad unllawr yn mesur 4.5 medr x
3.6 medr fyddai’n cynnwys ystafell gardd ar fwthyn unllawr wedi ei leoli ar
lethrau Mynydd Nefyn. Nodwyd bod y tai preswyl agosaf dros 40 medr i’r gogledd
a gogledd ddwyrain o’r estyniad bwriededig a bod y cais wedi ei gyflwyno i
Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.
Eglurwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y caniateir
cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol,
os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys, bod y cynnig
·
yn
ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y
gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r
drychiadau
·
parchu
cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol;
·
defnyddio
deunyddiau sy’n briodol i’r hyn sydd o’u hamgylch ac yn ymgorffori tirlunio
meddal;
·
gwella
rhwydwaith cludiant a chyfathrebu diogel ac integredig;
·
cyfyngu
rhediad dwr a pherygl risg llifogydd ac atal llygredd;
·
cyflawni
dyluniad cynhwysol
·
galluogi
mynediad i bawb
·
helpu creu
amgylcheddau iach a bywiog gan ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol.
Amlygwyd
bod yr estyniad yn cynnwys ystafell gardd gyda ffenestri gwydr sylweddol o
faint a graddfa dderbyniol ac addas ar gyfer y lleoliad. Er bod
y safle yn uchel ar lethrau Mynydd Nefyn gyda golygfeydd dros yr arfordir, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad
yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fwynderau a chymeriad yr AHNE cyfagos
oherwydd natur y tirwedd lleol a llys tyfiant o fewn yr ardal leol. Mewn ymateb i wrthwynebiad a dderbyniwyd yn
honni effaith y bwriad ar y bwthyn ynghyd a’r AHNE nodwyd, er bod bwriad
adeiladu’r estyniad o ddeunydd a dyluniad cyfoes, ni fyddai lleoliad yr
estyniad ar dalcen y bwthyn ynghyd a’i faint yn amharu yn sylweddol ar
edrychiad a chymeriad yr eiddo na’r AHNE.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Cais
ydoedd am ystafell ardd fach ar ochr ffrynt Orllewinol y bwthyn.
·
Pwrpas yr
estyniad fyddai darparu lle byw ychwanegol a chael mwy o olau i mewn i'r eiddo.
·
Gan ei fod yn fwthyn bach Cymreig
mae'n eithaf tywyll gyda ffenestri bach iawn yn wynebu'r Gogledd.
·
Trwy agor
pen y talcen a gosod gwydr, y gobaith yw
cael mwy o oleuni i mewn i’r eiddo a chaniatáu iddynt wneud y gorau o'r
golygfeydd hyfryd ar draws Bae Nefyn a Phorthdinllaen.
·
Byddai'r
estyniad ar y talcen yn cael ei adeiladu o wydr yn bennaf, ond defnyddio teils
llechi Cymreig ar y to i gyd-fynd â'r teils presennol gan gadw cymeriad yr
adeiladwaith gwreiddiol.
·
Bod y
cynnig yn unol â chymeriad yr ardal ac yn gynnig cymharol gymedrol o'i gymharu
â llawer o estyniadau tebyg
c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Atgoffwyd
yr Aelodau o ofynion statudol gwarchod yr AHNE
·
Bod
bythynnod traddodiadol ar hyd y mynydd
·
Dim angen
gor-ddatblygiadau ar lechweddau’r Mynydd
· Bod tri llwybr cyhoeddus yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14