Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/09/2021 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 5)

5 CYLLIDEB GWE 2021-2022 - ADOLYGIAD CHWARTER 1 pdf eicon PDF 404 KB

Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2021/22.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Adroddwyd mai adolygiad cychwynnol yw hwn a rhagwelir tanwariant net o (£48,805) erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2021/22. Ategwyd nad oes materion wedi codi yn ystod y broses monitro chwarter 1 sy’n codi pryder.

 

Adroddiad monitro cyntaf y flwyddyn yw hwn, sy’n edrych ar gwir gostau hyd at ddiwedd Mehefin ynghyd ac amcan gwariant hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan obeithio bydd y sefyllfa yn fwy clir erbyn yr adolygiad chwarter nesaf.

 

Amcangyfrifir cronfa cyffredinol gwerth £612,335 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, sy’n sefyllfa gadarnhaol i fod ynddo.

 

Nodwyd bod diffyg incwm mewnol wedi bod o fewn y maes rhenti, gan nad oes modd ddefnyddio adeiladau GwE i redeg cynlluniau sy’n cael ei talu allan o grantiau. Yn ogystal, nodwyd bod defnydd cludiant wedi ailgychwyn, ond nid yn ôl i lefelau arferol a disgwylir tanwariant oherwydd hyn.