Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/06/2022 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 8)

8 CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno a nodi’r Datganiad o’r Cyfrifon Drafft

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2021/22

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2022. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon.

 

Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r gronfa wrth drosglwyddo marchnadoedd datblygol i Partneriaeth Pensiwn Cymru, gosod targed sero net a monitro effaith digwyddiadau megis y rhyfel Wcráin. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y gronfa gan nodi bod y ffigyrau yn eithaf cyson. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli o’r flwyddyn flaenorol a hynny oherwydd bod ffioedd Partners bellach wedi sefydlogi.

 

Gyda chynnydd yng ngwerth farchnad y gronfa o £247 miliwn, daeth gwerth y gronfa i £2.7biliwn.

 

Cymerodd Cyfarwyddwr y Gronfa y cyfle i ddiolch i’r Tîm Buddsoddi am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) wedi ei gwblhau o few yr amserlen. Nododd fod y Pennaeth Cyllid eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft ac mai ymarfer da oedd rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi cyfle i holi / cyflwyno sylwadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag eglurhad dros ystyr ‘buddion heb eu hawlio’, nodwyd bod y term yn cyfeirio at sefyllfaoedd e.e, lle mae ad-daliad wedi rhewi, methiant i adnabod lleoliad unigolyn neu yn syml fuddion heb eu hawlio gan gyfranwyr.

 

Mewn ymateb i sylw am leihad yn y gwerthiannau yn ystod y flwyddyn, nodwyd bod y lleihad yn cyfeirio at y gweithgareddau ac nid lleihad yn y gwerth. Ategwyd bod y gweithgaredd o drosglwyddo buddsoddiadau wedi creu effaith (83% o fuddsoddiadau wedi trosglwyddo i Gronfa Pensiwn Cymru erbyn hyn).

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lleihad yn enillion net ar fuddsoddiadau

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lleihad yn enillion net ar fuddsoddiadau (£249.18m ar y 31ain o Fawrth 2022 o gymharu â £596.28m ar y 31ain o Fawrth 2021), nodwyd bod buddsoddiadau ecwiti marchnadoedd stoc wedi bod yn llewyrchus ers cwymp y pandemig yma Mawrth 2020, ond erbyn hyn wedi sefydlogi - serch hynny, eglurwyd bod £249.18m o enillion yn amlygu blwyddyn dda.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfraniadau cyfranwyr yn gyfartal i bawb beth bynnag yw cyfraniad y cyflogwr, nodwyd bod y cyfraniadau yn amrywio gyda newidiadau yn cael eu cyflwyno gyda’r prisiad bob tair blynedd.

 

PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2021/22