Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/07/2022 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 15)

15 CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION: FFRAMWAITH AR GYFER GWERTHUSO, GWELLA AC ATEBOLRWYDD pdf eicon PDF 568 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Penderfyniad:

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a nodwyd y prif faterion isod:

 

-      Esboniwyd fod y canllawiau hyn wedi cael eu cyhoeddi yn dilyn diddymu’r system o gategoreiddio ysgolion. Mae’n system anstatudol ar hyn o bryd ond mae disgwyl iddo fod yn statudol erbyn Medi 2024. Serch hyn, mae disgwyliad ar ysgolion i geisio mabwysiadau’r canllawiau mor fuan â phosibl.

-      Nodwyd mai prif agweddau’r canllawiau ydi:

o   Rhaid i gyrff llywodraethu sicrhau bod copi cryno o'u cynllun datblygu ysgol ar gael trwy’r Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol. Er mwyn helpu i gynyddu hyder yn yr ysgol a’i chynllun datblygu a’r ymrwymiad iddynt, dylai’r ysgol gyhoeddi’r copi cryno ar ei gwefan. Dylid ysgrifennu’r crynodeb mewn iaith sy’n hawdd i rieni, gofalwyr a dysgwyr ei deall. .

o   Rhaid hefyd rhoi trosolwg tudalen o hyd ar gasgliadau/canfyddiadau hunanwerthuso’r ysgol, gan gyfleu prif gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu,. Mae disgwyliad iddo gynnwys blaenoriaethau gwella lefel uchel; camau gweithredu a gynlluniwyd er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau hynny; a cherrig milltir perthnasol.

o   Mae angen i’r corff llywodraethu ddangos holl gymorth allanol mae’r ysgol wedi ei dderbyn yn y flwyddyn ariannol honno (gan gynnwys cefnogaeth GwE).

o   Bydd y cyrff llywodraeth yn adrodd ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r flwyddyn flaenorol.

o   Rhaid i GwE a’r Awdurdod Lleol gynnal deialog proffesiynol gyda’r corff llywodraethu er mwyn trafod prosesau hunan werthuso, cryfderau’r ysgol ac unrhyw fater arall sydd angen i’r corff llywodraethol fod yn ymwybodol ohonno a’i fonitro.

o   Rhaid i’r corff llywodraethol dderbyn adroddiad ar sut bydd cefnogaeth yn cael ei gynnal.

 

Mewn ymateb i sylwadau, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:

-      Ei fod yn cydnabod fod y canllawiau hyn wedi cael eu cyflwyno ar amser heriol iawn gan fod ysgolion dal yn ymdopi gyda materion Covid-19 yn ogystal â phrysurdeb diwedd flwyddyn academaidd. Er bod ysgolion yn pryderu na fyddai’n bosibl cyflawni’r canllawiau hyn erbyn diwedd y flwyddyn academaidd, mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn ffyddiog byddai’r ysgolion yn gallu gweithredu ar y canllawiau yn fuan yn nhymor yr Hydref er mwyn sichrau erbyn diwedd y flwyddyn academaidd nesaf, bydd yr ysgolion wedi ymrwymo â’r canllawiau yn effeithlon ac yn llwyddiannus.

-      Byddai hyn yn rhoi amser i ysgolion ddod i arfer â’r canllawiau hyn cyn iddynt fod yn statudol ac hefyd yn rhoi amser i werthuso’r gwaith er mwyn gallu ceisio datrys y problemau sy’n codi o’r canllawiau cyn iddynt gael eu gwneud yn statudol ym mis Medi 2024.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.