Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/07/2022 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 16)

16 SIARTER ARCHWILIO MEWNOL A CHYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2022-23 pdf eicon PDF 587 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo Siarter Aarchwilio Mewnol a Chynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2022-2023.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Archwilio Cyngor Gwynedd a nodwyd y prif faterion isod:

 

-      Eglurwyd fod cael archwiliad mewnol yn rhoi hyder i’r dinesydd ar faterion llywodraethu. Er mwyn iddo weithio yn effeithiol rhaid creu siarter archwilio mewnol. Bydd yr adroddiad archwilio mewnol yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ond os oes methiannau mawr yn codi cyn hynny bydd rheini yn cael ei amlygu gan yr archwiliwyr i’r Rheolwr Gyfarwyddwr cyn ddiwedd y flwyddyn ariannol.

-      Y prif meysydd bydd yn cael ei archwilio ydi:

o               Hyfforddiant

o               Trefniadau Recriwtio a Dargadw Staff - gyda cynllun olyniaeth gyda gweithiol aml-leoliad

o   Rheoli Absenoldebau - mae 26% o gyflogwyr yn cynnwys covid hir fel prif reswm am absenoldeb hir dymo

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo Siarter Archwilio Mewnol a Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2022-2023.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 1:30yp a daeth i ben am 3.15yp.

 

 

_________________________________

CADEIRYDD