Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 30/09/2022 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 8)

8 STRATEGAETH YNNI RHANBARTHOL - CYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 437 KB

Henry Aron, Rheolwr y Rhaglen Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru a Rhys Horan, Arweinydd Strategol, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i geisio cymeradwyaeth y Bwrdd i'r Cynllun Gweithredu drafft i Strategaeth Ynni Gogledd Cymru a'u hargymhellion ynghylch cymeradwyaeth awdurdod lleol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun Gweithredu drafft.

 

Cymeradwywyd trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Ynni Rhanbarthol.

 

Cymeradwywyd i'r Cynllun Gweithredu gael ei ystyried gan bob Awdurdod Lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rhys Horan, Arweinydd Strategol (Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru)

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Cynllun Gweithredu drafft.

 

Cymeradwywyd trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Ynni Rhanbarthol.

 

Cymeradwywyd i'r Cynllun Gweithredu gael ei ystyried gan bob Awdurdod Lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd Strategaeth Ynni Gogledd Cymru gan y Bwrdd Uchelgais a Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021. Mynegwyd mai datblygu’r Cynllun Gweithredu yw’r cam nesaf yn y broses cynllunio ynni rhanbarthol a’i nod o drosi blaenoriaethau yn gamau ac ymrwymiadau strategol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn gam pwysig ymlaen o ran Ynni Rhanbarthol. Eglurwyd fod y Strategaeth Ynni Rhanbarthol wedi ei dderbyn gan y Bwrdd llynedd ac eu bod heddiw yn cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Drafft. Pwysleisiwyd fod Gogledd Cymru yn arwain y ffordd o ran gwaith yn y maes hwn. 

 

Nodwyd fod y strategaeth a dderbyniwyd llynedd yn amlygu’r prif flaenoriaethau fel mae’r Cynllun Gweithredu. Esboniwyd fod trafodaethau a gynhaliwyd wedi amlygu’r angen i ystyried y sector diwydiannol ac felly maent wedi eu cynnwys. Mynegwyd fod y Cynllun Gweithredu yn amlygu sut mae modd symud y blaenoriaethau o fewn y strategaeth i gamau penodol.

 

Eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu yn rhan o’r llun cyfan, gan bwysleisio ei fod yn cyfleu targedau ynni sydd yn cyd-fynd a pholisïau cenedlaethol. Pwysleisiwyd yn dilyn hyn bydd cynlluniau lleol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf cyn eu cyflwyno i’r awdurdodau lleol. Nodwyd fod y gwaith o greu’r ddogfen wedi cael ei oruchwylio gan grŵp tasg a gorffen ble gwelwyd cefnogaeth amlwg gan ran ddeiliad.

 

Pwysleisiwyd fod y ddogfen yn amlygu pwy sydd yn gymwys i symud y cynllun yn ei flaen ynghyd a’r amserlen a’r elfen gyllidol. Esboniwyd fod nifer o’r camau wedi eu hariannu yn barod neu ddim yn rhagweld yr angen am arian ychwanegol. O ran Llywodraethant mynegwyd fod y grŵp Tasg a Gorffen bellach wedi cyflawni eu tasg a bydd yn cael ei addasu i fod yn Grŵp Prosiect i oruchwylio’r gwaith ac i gytuno ar drefniadau i adrodd ar gynnydd. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu tair swydd  newydd i gefnogi gyda’r gwaith ac i gynorthwyo gyda adrodd ar gynnydd.

 

Amlygwyd mai taith yw datblygu’r system ynni, ac fod y cynllun hwn yn rhan o’r daith.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd o ran y dair swydd newydd os y bydd gofynion ariannol ar y Bwrdd. Nodwyd fod y dair swydd newydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a pwysleisiwyd ar hyn o bryd nad oes dim ymrwymiad ariannol i’r Bwrdd.

¾     Cytunwyd y bydd yr adroddiad yma yn mynd i’r Bwrdd Cyflawni Busnes. 

¾     Mynegwyd fod y Cynllun lefel uchel ar hyn o bryd sydd yn rhoi trefn yn ei le. Nodwyd y bydd cynlluniau mwy gweithredol yn cael ei rhannu nes ymlaen.