skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/11/2022 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol (eitem 6)

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau :

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd a thystysgrif diogelu gyrwyr tacsi. Amlygwyd nad oedd wedi datgan bod ganddo gollfarnau blaenorol ar ei ffurflen gais. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y ddedfryd, pam nad oedd wedi datgan bod ganddo gollfarnau blaenorol ar ei ffurflen gais a’i amgylchiadau personol. Eglurodd mai 1 mis yn y carchar a wnaeth ac wedyn gwisgo tag gan mai ei ffrind oedd wedi bygwth tyst drwy ddefnyddio ei ffôn. Amlygodd hefyd mai un collfarn / digwyddiad oedd ganddo ac nid collfarnau / digwyddiadau fel y nodwyd yn yr adroddiad. Ymddiheurodd am beidio â datgelu'r drosedd ar ei ffurflen gais gan egluro nad oedd yn dda iawn am lenwi ffurflenni.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Awst 2008 dyfarnwyd yr ymgeisydd yn euog o fygwth tyst neu reithiwr gyda’r bwriad o rwystro, gwyrdroi neu ymyrryd a chyfiawnder yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 A.51 (1) lle derbyniodd garchar am 6 mis.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Mae cymal 2.3 o'r polisi yn nodi y gellir ystyried unrhyw gollfarnau troseddol, neu faterion eraill sy'n ymwneud ag addasrwydd a phriodoldeb yr ymgeisydd. Yn hyn o beth, mae'r drosedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6