6 Cais Rhif C22/0727/14/DT 9 Ffordd Menai, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LF PDF 301 KB
Estyniad deulawr i'r
cefn ac ochr yr annedd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu – amodau
Nodyn Gwybodaeth:
Dwr Cymru
Rhywogaethau gwarchodedig
Cofnod:
Estyniad
deulawr i'r cefn ac ochr yr annedd.
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi
estyniad deulawr ar ddrychiad cefn tŷ deulawr. Byddai’r estyniad yn
cynnwys ystafell wely a baddon ar lefel daear a chegin gyda balconi blaen ar
lefel llawr cyntaf. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod tad yr ymgeisydd
yn Gynghorydd Lleol.
Lleolir y tŷ ar safle
wedi ei gloddio i mewn i lethr o fewn ystâd breswyl a ffin datblygu'r dref gyda
gardd flaen yn llawer is na’r ardd gefn. Byddai'r estyniad yn llenwi cornel wag
yng nghefn y tŷ gyda grisiau allanol ar hyd ochr deheuol yr estyniad yn
ffurfio mynediad o’r ardd flaen i’r cefn; lleolir y grisiau hyn ar hyd terfyn yr eiddo gyda chymydog. Mae’n debygol mai rhan llawr cyntaf cefn yr
estyniad yn unig fyddai yn weladwy o’r ffordd yr ystâd i’r dwyrain, a chip olwg
yn unig o ddrychiad blaen yr estyniad o’r ffordd sirol i’r gorllewin.
Ystyriwyd bod dyluniad ac
edrychiad y bwriad yn dderbyniol ac yng nghyd-destun mwynderau gweledol,
ychydig iawn o’r estyniad fyddai yn weladwy o fannau cyhoeddus. Y bwriad felly
yn cydymffurfio a pholisi PCYFF 2 a 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Yng nghyd-destun materion
trafnidiaeth a mynediad amlygwyd bod sylwadau wedi eu derbyn gan yr Uned
Trafnidiaeth yn datgan dim gwrthwynebiad mewn egwyddor ond o’r cynlluniau a
ddarparwyd y byddai’n ymddangos y gall y bwriad gynnwys strwythur cynnal
sefydlogrwydd y briffordd gyfochrog. Ategwyd nad oedd yn glir o’r cynllun os
oedd y strwythur yn bodoli neu’n rhan o’r cais ac felly bwriad gwneud cais i’r ymgeisydd ddarparu rhagor o fanylion er
eglurhad. Nodwyd y bydd angen gosod amod i orfodi cyflwyno manylion y wal
gynnal cyn dechrau gwaith ar y safle.
Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol
oherwydd na fyddai’n cael effaith ar y strydlun, mwynderau trigolion cyfagos na
diogelwch ffyrdd.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad
PENDERFYNWYD: Caniatáu – amodau
1. 5 Mlynedd i ddechrau
gwaith.
2. Unol a chynlluniau.
3. Gosod gwydr afloyw
1.8m mewn uchder ar hyd ochr
deheuol y balconi bwriededig.
4. Cyflwyno manylion yn dangos y wal
gynnal cyn dechrau gwaith ar y safle.
5. Gorffen gwaith ar y wal gynnal
cyn dechrau gwaith ar yr estyniad.
6. Gorffeniad i gydweddu
gyda’r tŷ presennol.
Nodyn Gwybodaeth:
Dwr Cymru
Rhywogaethau gwarchodedig