skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/11/2022 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 7)

7 Cais Rhif C21/0575/00/LL Aukland House, 17 Rhodfa'r Môr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1NA pdf eicon PDF 438 KB

Trosi a newid defnydd un annedd i fod yn 6 fflat 1 ystafell wely

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rob Triggs

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.    Unrhyw addasiadau i wynebau allanol yr adeilad i gael eu gorffen i gydweddu.

4.    Amod i gytuno cynllun tai fforddiadwy.

5.    Y fflatiau a ganiateir drwy hyn i fod ar gyfer dosbarth defnydd C3 yn unig o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru) 2022 ac nid ar gyfer defnydd C5 na C6.

6.    Cyflwyno a chytuno manylion lle ar gyfer storio biniau gwastraff / ailgylchu.

7.    Oriau gwaith.

 

Nodiadau - Dŵr Cymru, Deddf Wal Gydrannol

 

Cofnod:

 

Trosi a newid defnydd un annedd i fod yn 6 fflat 1 ystafell wely

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd yn ymwneud a throsi a newid defnydd un annedd yn 6 fflat 1 ystafell wely.  Byddai 1 fflat ar yr islawr, 2 ar lefel llawr daear ac  1 fflat ar lefel y llawr cyntaf, ail a trydydd.  Yn allanol byddai’r newid yn cynnwys cyfnewid 1 ffenestr am ddrws ac adeiladu ffrâm ddur cerdded yn y cefn ar lefel llawr daear. Saif y safle o fewn ffin ddatblygu Abermaw gyda’r eiddo yn ffurfio rhan o res o dai. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y cais yn ymwneud â 5 neu fwy o dai.

 

Adroddwyd bod Abermaw, yn y CDLl, wedi ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Lleol o dan Bolisi TAI 2 sy’n cefnogi datblygiadau tai fyddai’n cwrdd â strategaeth y Cynllun  wedi ei seilio ar ddarpariaeth dangosol y Polisi. O’r wybodaeth a dderbyniwyd gan Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Abermaw dros gyfnod y Cynllun oedd 91 uned gyda 50 uned wedi eu cwblhau rhwng  2011 a 2021, ynghyd a 36 unedau gyda chaniatâd cynllunio presennol. Byddai’r bwriad yn creu 6 uned byw ychwanegol fyddai’n golygu bod Abermaw wedi cyrraedd y lefel twf dangosol gyda’r datblygiad yma ac felly'r bwriad yn dderbyniol yn nhermau Polisi TAI 2 CDLl.

 

Cyfeiriwyd at Polisi TAI 9 sy’n caniatáu rhannu eiddo presennol yn fflatiau hunangynhaliol cyhyd â'u bod yn cydymffurfio â 4 maen prawf y polisi. Tynnwyd sylw penodol at faen prawf (4) sy’n nodi na ddylai’r cynnig waethygu problemau parcio yn yr ardal leol. Adroddwyd, er nad oedd llefydd parcio o fewn cwrtil yr eiddo, bod yr eiddo presennol yn un 9 ystafell wely a byddai’r bwriad yn darparu cyfanswm o 6 ystafell wely. Ategwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn ystyried, oherwydd gostyngiad mewn nifer ystafelloedd gwely a ddarperir, yn golygu llai o alw am lefydd parcio yn lleol ac y byddai’r effaith yn un gadarnhaol ar y ddarpariaeth barcio leol. Y bwriad felly yn dderbyniol o ran maen prawf (4) Polisi TAI 9 CDLL.

 

Nodwyd bod sylwadau gan drydydd parti wedi ei derbyn yn amlygu pryder y byddai’r fflatiau yn cael eu defnyddio fel fflatiau gwyliau a’r effaith byddai hynny yn cael ar y dref o ystyried y posibilrwydd y byddai’n mynd yn debyg i ardaloedd eraill o fewn Gwynedd ac ymhellach draw.  Mewn ymateb, amlygwyd, bod Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru) 2022 a ddaeth i rym 20/10/22 wedi gwneud newidiadau o ran dosbarthiadau defnydd unedau preswyl gyda dosbarth defnydd C3 bellach wedi ei nodi fel tai annedd a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfa. Ychwanegwyd dau ddosbarth defnydd - C5 yn dai annedd a ddefnyddir mewn modd gwahanol i brif neu unig breswylfa  a dosbarth C6 ar gyfer gosod tymor byr o ddim mwy na 31 diwrnod ar gyfer pob cyfnod o feddiant.  Ystyriwyd y byddai’n briodol felly gosod amod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7