skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/11/2022 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 8)

8 Cais Rhif C22/0886/41/LL Cabin Wood, Llanystumdwy, LL52 0SU pdf eicon PDF 327 KB

Addasiadau i fynedfa a gosod ffens 1.8 medr o uchel

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

1.            Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

2.            Gwaith i’w wneud yn unol gyda’r datganiad mynediad.

3.    Unrhyw lystyfiant / ffens / wal o fewn lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr o uchder.

4.    Y gwaith i gael ei gwblhau o fewn 3 mis o ddyddiad y caniatâd.

 

Nodyn – Llythyr Dŵr Cymru 10/10/22, trwydded priffyrdd am waith gerllaw’r briffordd

 

Cofnod:

Addasiadau i fynedfa a gosod ffens 1.8 medr o uchel

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais, un rhannol ôl weithredol, yn ymwneud ag addasu mynedfa a gosod ffens uchel ar safle yng nghefn gwlad yn union gerllaw ffordd ddosbarth 3 sydd yn rhedeg o Llanystumdwy i Rhoslan. Nodwyd mai creu mynedfa i’r goedwig yw’r bwriad fydd yn mesur oddeutu 24.5 medr o led gyda giât yn cael ei gosod 10 medr yn ôl o’r briffordd. Byddai ffens diogelwch 1.8 medr o uchder yn cael ei godi rhwng y giât a’r lleiniau gwelededd gyda llystyfiant i’w dorri ac i’w gynnal a’i gadw, oddi fewn y lleiniau gwelededd, o dan 1 medr mewn uchder.

 

Er yn cydnabod pryder cymdogion, nid oedd y cais yn ymwneud ag unrhyw newid defnydd / gweithgareddau a fyddai’n cymryd lle oddi fewn i’r goedwig ei hun. 

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan yr Uned Drafnidiaeth. Er nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad, cynigwyd gosod amod fel nad yw llain welededd y mynediad yn cael ei effeithio. Byddai’r amod yn rhoi sicrwydd bod y gwaith cynnal a chadw i’w gwblhau yn unol â’r cynlluniau a’r datganiad mynediad gydag unrhyw dyfiant a / neu ffens / wal o fewn y lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr mewn uchder.  Ategwyd y byddai’n briodol, o dan amgylchiadau’r cais, gosod amod i sicrhau fod y gwaith i’w gwblhau o fewn amser penodol gan awgrymu bod 3 mis yn rhesymol..

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)     Mewn ymateb i wrthwynebiad y Cyngor Cymuned bod y ffens rhy uchel, nodwyd nad oedd rhesymeg tu ôl i uchder y ffens, ond bod yr uchder yn gymorth i gadw llystyfiant yn ôl. Ategwyd nad oedd y ffens yn amgylchynu’r safle yn ei gyfanrwydd ac felly nid oedd i bwrpas cadw da byw. Nid oedd cyfiawnhad felly dros yr uchder.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.         Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

2.         Gwaith i’w wneud yn unol gyda’r datganiad mynediad.

3.         Unrhyw lystyfiant / ffens / wal o fewn lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr o uchder.

4.         Y gwaith i gael ei gwblhau o fewn 3 mis o ddyddiad y caniatâd.

 

Nodyn – Llythyr Dŵr Cymru 10/10/22, trwydded priffyrdd am waith gerllaw’r briffordd