8 Cais Rhif C22/0886/41/LL Cabin Wood, Llanystumdwy, LL52 0SU PDF 327 KB
Addasiadau i fynedfa a
gosod ffens 1.8 medr o uchel
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Rhys Tudur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu gydag amodau
1.
Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r
cais.
2.
Gwaith i’w wneud yn unol gyda’r datganiad
mynediad.
3.
Unrhyw lystyfiant / ffens / wal o fewn
lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr o uchder.
4.
Y gwaith i gael ei gwblhau o fewn 3 mis o
ddyddiad y caniatâd.
Nodyn – Llythyr Dŵr Cymru
10/10/22, trwydded priffyrdd am waith gerllaw’r briffordd
Cofnod:
Addasiadau i fynedfa
a gosod ffens 1.8 medr o uchel
a) Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio bod y cais, un rhannol ôl weithredol, yn ymwneud ag addasu
mynedfa a gosod ffens uchel ar safle yng nghefn gwlad yn union gerllaw ffordd
ddosbarth 3 sydd yn rhedeg o Llanystumdwy i Rhoslan. Nodwyd mai creu mynedfa
i’r goedwig yw’r bwriad fydd yn mesur oddeutu 24.5 medr o led gyda giât yn cael
ei gosod 10 medr yn ôl o’r briffordd. Byddai ffens diogelwch 1.8 medr o uchder
yn cael ei godi rhwng y giât a’r lleiniau gwelededd gyda llystyfiant i’w dorri
ac i’w gynnal a’i gadw, oddi fewn y lleiniau gwelededd, o dan 1 medr mewn
uchder.
Er yn
cydnabod pryder cymdogion, nid oedd y cais yn ymwneud ag unrhyw newid defnydd /
gweithgareddau a fyddai’n cymryd lle oddi fewn i’r goedwig ei hun.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.
Cyfeiriwyd
at sylwadau a dderbyniwyd gan yr Uned Drafnidiaeth. Er nad oedd ganddynt
wrthwynebiad i’r bwriad, cynigwyd gosod amod fel nad yw llain welededd y
mynediad yn cael ei effeithio. Byddai’r amod yn rhoi sicrwydd bod y gwaith
cynnal a chadw i’w gwblhau yn unol â’r cynlluniau a’r datganiad mynediad gydag
unrhyw dyfiant a / neu ffens / wal o fewn y lleiniau gwelededd i fod dim uwch
na 1 medr mewn uchder. Ategwyd y
byddai’n briodol, o dan amgylchiadau’r cais, gosod amod i sicrhau fod y gwaith
i’w gwblhau o fewn amser penodol gan awgrymu bod 3 mis yn rhesymol..
Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
c) Mewn ymateb i wrthwynebiad y Cyngor Cymuned bod y ffens rhy uchel,
nodwyd nad oedd rhesymeg tu ôl i uchder y ffens, ond bod yr uchder yn gymorth i
gadw llystyfiant yn ôl. Ategwyd nad oedd y ffens yn amgylchynu’r safle yn ei
gyfanrwydd ac felly nid oedd i bwrpas cadw da byw. Nid oedd cyfiawnhad felly
dros yr uchder.
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau
1. Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd
gyda’r cais.
2. Gwaith i’w wneud yn unol gyda’r
datganiad mynediad.
3. Unrhyw lystyfiant / ffens / wal o fewn
lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr o uchder.
4. Y gwaith i gael ei gwblhau o fewn 3 mis
o ddyddiad y caniatâd.
Nodyn –
Llythyr Dŵr Cymru 10/10/22, trwydded priffyrdd am waith gerllaw’r
briffordd