8 CYNGOR GWYNEDD YN AWDURDOD ARWEINIOL AR GYFER LMS CYMRU (SYSTEM RHEOLI LLYFRGELL) PDF 212 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatawyd i Gyngor
Gwynedd weithredu fel yr Awdurdod Arweiniol ar gyfer LMS Cymru sy’n golygu:
·
Bod Uned Caffael
Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r broses gaffael ar gyfer LMS newydd sy’n golygu
caffael system ar fframwaith nid yn unig i Gonsortiwm Llyfrgelloedd gogledd
Cymru ond i Awdurdodau Llyfrgell Cymru sy’n awyddus i fod yn aelodau o
Gonsortiwm LMS Cymru am gyfnod y cytundeb a fydd yn para am 7 mlynedd o
2023/2024.
·
Bod y trefniant
LMS Cymru yn seiliedig ar Gytundeb Consortiwm a fydd yn ymrwymo pob aelod i
dalu eu cyfran lawn o’r costau, ac unrhyw gostau potensial megis costau
diswyddo, am hyd y cytundeb consortiwm newydd.
·
Fel rhan o’r
Cytundeb Consortiwm, i gyflogi Uned Cefnogaeth LMS wedi ei staffio gan 3
swyddog llawn amser (lleoliad niwtral) am hyd y cytundeb.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys
PENDERFYNIAD
Caniatawyd i Gyngor Gwynedd weithredu fel yr
Awdurdod Arweiniol ar gyfer LMS Cymru sy’n golygu:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan ategu bod y Cyngor yn gofyn i gael gweithredu mewn rôl arweiniol
unwaith eto ond y tro hwn ar draws Gymru. Mynegwyd balchder yng ngwaith y
Pennaeth Economi a Chymuned a’r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd a’u bod yn
barod i arwain ar y gwaith LMS Cymru.
Nododd y Pennaeth
Economi a Chymuned bod cydweithio agos wedi bod yn digwydd efo Llyfrgelloedd ar
draws Gogledd Cymru yn ogystal â gwaith o gynllunio system newydd. Cadarnhawyd
y byddai yn fwy effeithiol i bob un Sir weithio oddi ar un system.
Ategwyd bod yr Adran
yn gofyn am yr hawl i roi eu hunain ymlaen yn ffurfiol i fod yn gorff arweiniol
ar gyfer LMS Cymru ac o ganlyniad yn gofyn am drefn ffurfiol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Mynegwyd ei bod yn braf
gweld Cyngor Gwynedd yn arwain unwaith eto gan gadarnhau y bydd y system newydd
yn cael ei gweithredu ar draws Cymru gyfan.
¾
Tybiwyd o ran adnoddau bod
gweddill yr Awdurdodau Lleol ar draws Cymru yn cyfrannu.
¾
Cadarnhawyd bod hyn yn
gywir; er na fydd yn golygu arian ychwanegol i Gyngor Gwynedd ni fydd costau
ychwanegol i’r Cyngor ychwaith. Ychwanegwyd y bydd y drefn newydd yn fwy
effeithiol yn y pen draw i Awdurdodau Lleol.
¾
Diolchwyd am yr adroddiad
gan nodi ei bod yn dda i weld Cyngor Gwynedd yn flaengar ar draws Cymru.
¾
Anfonwyd dymuniadau gorau’r
Cabinet tuag at y Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd.
Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned a Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd