9 LLYFRGELLOEDD LLAWN BYWYD - CYNLLUN LLYFRGELLOEDD GWYNEDD 2023-2028 PDF 173 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Cynllun Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd –
Llyfrgelloedd Llawn Bywyd 2023-2028.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd Cynllun Gwasanaeth Llyfrgell
Gwynedd – Llyfrgelloedd Llawn Bywyd 2023-2028.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn
bleser ei gyflwyno ac argymhellwyd i bawb ddarllen y strategaeth glir sydd yn
dangos gwaith a rolau'r Llyfrgelloedd. Ategwyd bod y Llyfrgelloedd yn chwarae
rhan bwysig ym mywydau plant y Sir ac adlewyrchwyd ar y ddarpariaeth i blant.
Ychwanegwyd, yn dilyn ymweliad diweddar i Lyfrgell Porthmadog, bod
darpariaethau ehangach yn bodoli oddi fewn i’r Llyfrgelloedd fel gemau a
darpariaethau Technolegol a’i bod yn braf gweld y Cynllun yn ei wirionedd.
Cyfeiriwyd at yr ystadegau yn y Cynllun
Llyfrgell 2023-28 gan adrodd bod bron i 30,000 o bobl yn aelodau o Lyfrgelloedd
Gwynedd. Dosbarthwyd dros 1,500 o becynnau nwyddau mislif ail-ddefnyddiadwy am ddim drwy’r llyfrgelloedd; credwyd bod hyn
yn dangos y gwahaniaeth o ran llesiant i fywydau pobl Gwynedd sy’n cael ei
gyflawni gan y Llyfrgelloedd.
Adroddwyd ar y sylwadau gafodd eu derbyn
gan ddefnyddwyr gwasanaeth sydd wedi eu cynnwys ar dudalennau 5 a 6 o’r Cynllun
Llyfrgell 2023-28, sydd yn dangos pwysigrwydd y gwasanaeth i bobl Gwynedd.
Nodwyd bod y Llyfrgelloedd yn esblygu ac yn newid drwy fenthyg nwyddau ac yn
darparu cyngor i drigolion y Sir. Mynegwyd balchder yn y strategaeth sydd yn
sicrhau bod y gwasanaeth yn datblygu ac yn darparu er lles pobl Gwynedd.
Ychwanegodd y Pennaeth Economi a Chymuned ei bod yn
ofynnol ar y Cyngor o dan Safonau Llyfrgell Gyhoeddus Cymru i fod yn cyhoeddi
Cynllun ar gyfer Llyfrgelloedd. Adroddwyd bod strategaeth Mwy na Llyfrau yn
arfer bodoli ond bod y Cynllun hwn yn mynd gam ymhellach ac yn torri’r myth o
Lyfrgelloedd fel llefydd distaw. Nodwyd bod y Cynllun yn dangos bod
Llyfrgelloedd yn lefydd llawn bywyd ac yn amlygu’r datblygiadau diweddar a’r
amrywiaeth o fewn y Llyfrgelloedd. Pwysleisiwyd bod darllen yn parhau i fod yn
bwysig yn y Cynllun yn ogystal â materion iechyd a lles, yr Iaith Gymraeg,
derbyn gwybodaeth a’r elfen ddigidol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Credwyd bod llawer yn gweld y Llyfrgelloedd fel man cysurus a chynnes i
fynd yn ystod y cyfnodau o dywydd oer yn ogystal â lle i gymdeithasu a darllen.
¾ Croesawyd yr adroddiad. Gwnaethpwyd sylw bod y gair “Llyfrgell” bellach
ddim yn cyfleu’r ddarpariaeth, y bwrlwm na’r brwdfrydedd sy’n bodoli o’u
cwmpas.
¾ Holiwyd os yw’r Llyfrgelloedd yng Ngwynedd yn darparu adnoddau PECS, adnodd
gweledol ar gyfer plant awtistig neu sydd efo anghenion dysgu ychwanegol.
¾ Cadarnhawyd bod
gwasanaeth argraffu ar gael yn y Llyfrgelloedd ond byddai’n rhaid gwirio
ynghylch yr adnoddau PECS ac y byddai’r Adran yn adrodd yn ôl i’r Aelod
Cabinet.
¾ Broliwyd gwaith y
Pennaeth Economi a Chymuned a’r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd gan nodi eu
bod yn esiampl o weithredu egwyddorion Ffordd Gwynedd ac wedi gwthio’r
gwasanaeth Llyfrgelloedd yn ei flaen. Dymunwyd eu llongyfarch ar y gwaith.
Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned a Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd