skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Menna Baines, Aeron M. Jones, Dafydd Owen, W.Roy Owen a Hefin Underwood.

 

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 473 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2020 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2020 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 8 – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2021/22 ac eitem 9 – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2021/22.

 

(1)     Datganodd y Cynghorydd Stephen Churchman fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2021/22 – oherwydd ei fod yn hawlio gostyngiad Treth Cyngor ar ei gartref, ac felly’n elwa o’r cynllun.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(2)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2021/22:-

 

·         Y Cynghorydd Peredur Jenkins oherwydd ei fod yn rhentu dau eiddo.

·         Y Cynghorydd Aled Wyn Jones oherwydd bod gan berthynas iddo ail-gartref yng Ngwynedd.

·         Y Cynghorydd Linda Morgan oherwydd bod ganddi deulu sy’n berchen ar ail gartrefi.

·         Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts oherwydd bod ganddo gyswllt â rhywun fydd yn cael ei effeithio gan y Premiwm.

·         Y Cynghorydd Angela Russell oherwydd ei bod yn berchen ar ail gartref ac yn gweithio i bobl tai haf.

·         Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn oherwydd bod ganddo gysylltiad agos â pherson sy’n talu’r Premiwm.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Gareth Thomas ar golli ei fam yn ddiweddar.

·         Teulu’r cyn-gynghorydd Morgan Vaughan. Cyflwynwyd teyrnged gan y Cynghorydd Anne Lloyd Jones.

·         Teulu’r Cynghorydd Charles Wyn Jones. Cyflwynwyd teyrnged gan y Cynghorydd Selwyn Griffiths.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Dymunwyd yn dda i’r canlynol:-

 

·         Mr Dewi Pritchard Jones ar ei ymddeoliad fel Crwner ddiwedd Tachwedd, a diolchwyd iddo am ei waith ar hyd y blynyddoedd.

·         Elfyn Evans o Ddolgellau, a gynt o Ddinas Mawddwy, yn rownd derfynol Pencampwriaeth Rali’r Byd.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

 

·         Y Tîm Ynni yn yr Adran Tai ac Eiddo ar ennill gwobr Brydeinig (Energy Management Awards – Public Sector Team of the Year) – gwobr haeddiannol iawn o ystyried, nid yn unig eu llwyddiant wrth leihau allyriadau carbon, ond hefyd eu gwaith arbennig o dda yn y maes caffael ynni.

·         Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ar ennill Gwobr Aelod Seneddol y Flwyddyn gan yr elusen amrywiaeth a chynhwysiant, Sefydliad Patchwork.  Nodwyd bod Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi ei chydnabod am ei gwaith rhanbarthol yn hyrwyddo hawliau merched ifanc, gan ennill gwobr ‘Aelod Seneddol Plaid Arall y Flwyddyn.’

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig gan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

8.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2021/22 pdf eicon PDF 275 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.1         Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2021 fel ag yr oedd yn ystod 2020/21.  Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

a)    Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

b)   Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.

c)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

1.2         Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2021/22, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Gyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill, 2021.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2021 fel ag yr oedd yn ystod 2020/21.  Felly, bydd yr amodau canlynol (i – iii isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

 

(i)      Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

(ii)     Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sydd yn y Cynllun Rhagnodedig.

(iii)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

 

(b)     Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2021/22, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

9.

TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A/NEU GODI PREMIWM 2021/22 pdf eicon PDF 346 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn gohirio penderfyniad ynglŷn â chaniatáu disgowntiau a chodi premiwm, gan ofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu y lefel i hyd at 100%. Gofynnir i'r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol, a dod ag argymhelliad pellach i'r Cyngor ym mis Mawrth 2021 yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2021/22 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi premiwm o 50% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Gan gyfeirio’n benodol at ail-gartrefi, nododd yr Aelod Cabinet:-

 

·         Bod y ddarpariaeth a’r amlder o gartrefi gwyliau wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â’r effeithiau cysylltiedig, yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

·         Bod poblogrwydd Gwynedd fel cyrchfan wyliau a’r defnydd o lety gwyliau fel buddsoddiad ariannol yn ffactorau, a gwelwyd twf sylweddol yn ddiweddar yn y niferoedd o unedau preswyl sy’n cael eu defnyddio fel llety gwyliau ar draws y sir gyfan.

·         Y bwriedid cyflwyno papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 10 Rhagfyr, gydag argymhellion penodol i’w trafod yn y Cabinet ar 15 Rhagfyr.

·         Er y cydnabyddid na fyddai modd gweithredu ar yr argymhellion hynny’n syth oherwydd yr angen am ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, roedd graddfa’r Premiwm ar eiddo yn fater roedd gan y Cyngor llawn fodd i weithredu arno.

·         Y bu gohebiaeth gyson a chyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol rhwng Cyngor Gwynedd, gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, i drafod ein pryderon ynglŷn â gallu perchnogion ail-gartrefi i ddefnyddio Adran 66 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 er mwyn trosglwyddo eu heiddo o fod yn eiddo domestig, sy’n talu Treth Cyngor, i fod yn unedau hunan-ddarparu, sy’n destun ardrethi annomestig.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd:-

 

·         Bod yr argymhelliad yn cynnig cadw at y sefyllfa bresennol o godi premiwm o 50% ar ail gartrefi a thai gweigion, ond y daeth yn amlwg o drafodaethau gydag aelodau, cynigion yn y Cyngor a galwadau cyhoeddus yn ein cymunedau, bod angen ail-ystyried y Premiwm, gyda’r bwriad o’i gynyddu.

·         Bod y sefyllfa’n argyfyngus yn y sir, gyda tai o’r stoc yn cael eu colli i fod yn ail-gartrefi a phobl leol yn methu fforddio prynu tai yn eu cymunedau.

·         Bod y Cabinet a’r aelodau wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i newid y ddeddf a rhoi’r hawliau i ni reoli ail-gartrefi.  Roedd y Llywodraeth wedi dweud nad oedd gennym dystiolaeth i gyfiawnhau hynny, ond roedd y dystiolaeth wedi’i chyhoeddi bellach, a byddai’n cael ei thrafod yn fuan.

·         Yn ogystal â thrafod y papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau, byddai’r Cabinet ar 15 Rhagfyr yn trafod y Cynllun Gweithredu Tai, sef cynllun uchelgeisiol a chyffrous oedd yn buddsoddi oddeutu £77m mewn darparu tai ar gyfer pobl ifanc y sir.

·         O fod yn ymwybodol o’r teimladau cryf ar y mater hwn, yr hoffai gynnig gwelliant i ddileu’r geiriau “ac yn codi premiwm o 50% ar ail gartrefi dosbarth B” yn ail bwynt bwled yr argymhelliad, gan osod y geiriau “ond yn gohirio penderfyniad ynglŷn â gosod y Premiwm a gofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu y lefel i 100%.  Gofynnir i’r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYTUNDEB TERFYNOL AR GYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 530 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(a)     Cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy'n gosod y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

(b)     Cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, ac yn benodol yn mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer Craffu sydd wedi’u nodi yn Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 3” ohono fel sail ar gyfer cwblhau’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau’r DU a Chymru.  

(c)     Yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i weithredu fel yr Awdurdod Lletya a Chorff Atebol, ac yn llofnodi’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid, drwy law y Prif Swyddog Cyllid.

(ch)   Cymeradwyo'r dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca sydd ei angen mewn egwyddor i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, ac yn cynnwys darpariaeth o fewn Cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu fel sydd wedi’i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 – 5.7 o’r adroddiad).

(d)     Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau’r cytundeb.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn cyflwyno’r pecyn o ddogfennau allweddol oedd eu hangen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Nododd:-

 

·         Y byddai mabwysiadu’r argymhellion yn caniatáu arwyddo’r Cytundeb Terfynol gyda’r ddwy Lywodraeth ar 17 Rhagfyr.

·         Y bu’n daith hir o dair blynedd o safbwynt y Cynllun Twf ei hun, ond bod sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi digwydd bron i wyth mlynedd yn ôl, pan ddaeth awdurdodau’r Gogledd, y prifysgolion, y colegau a’r sector breifat at ei gilydd i gyfarch materion datblygu’r economi ar lefel ranbarthol.

·         O gydweithio, bod y bartneriaeth yn cael ei chydnabod yn eang fel un gadarn, ac yn esiampl o ymarfer da.

·         Bod y chwe awdurdod sy’n bartneriaid ar y Bwrdd o sawl lliw gwleidyddol a chefndir economaidd gwahanol iawn, ond bod y chwe Arweinydd yn gytûn mai lles pobl y Gogledd sy’n bwysig.

·         Y dymunai ddiolch i aelodau’r bartneriaeth, gan gynnwys y prifysgolion a’r colegau a’r sector breifat, sydd wedi bod yn rhan fawr o’r drafodaeth ac o ddatblygu’r cynlluniau.

·         Yr hoffai ddiolch hefyd i’r tîm o swyddogion dan arweiniad Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, a nododd fod y ffaith bod yna gystal tîm o swyddogion yn y Gogledd yn gweithredu yn y maes datblygu’r economi yn rhoi hyder iddo y bydd modd cyfarch y problemau mawr fydd yn ein hwynebu i’r dyfodol.

·         Fel swyddogion statudol yr awdurdod lletya, bu Dafydd Edwards, Pennaeth Cyllid, ac Iwan Evans, Swyddog Monitro yn allweddol yn arwain timau o swyddogion ar draws y Gogledd wrth gyflawni’r gwaith cyllidol a chyfreithiol a llywodraethiant, ac y dymunai ddiolch iddynt hwythau hefyd am eu cyfraniad arbennig i waith y Bwrdd.

·         Bod sefyllfa’r economi yn y Gogledd wedi newid ers i brosiectau’r cynllun gael eu datblygu’n wreiddiol.  Roedd Covid wedi cael effaith andwyol iawn, ac roedd dyfodol ansicr i’r economi hefyd yn sgil beth bynnag fyddai’n deillio o Brexit.  

·         Bod y Bwrdd Uchelgais yn fwy na’r Cynllun Twf, a bwriedid edrych ar ffrydiau eraill o fuddsoddiadau ariannol o sawl cyfeiriad. 

·         Ei fod yn siomedig bod Llywodraeth San Steffan wedi darparu llai o arian na’r cyfanswm a ofynnwyd amdano ar y cychwyn, ond byddai arwyddo’r Cytundeb Terfynol cyn y Nadolig yn rhyddhau ffrwd o’r £240m, gyda £16m yn cael ei dderbyn bob blwyddyn dros y pymtheng mlynedd nesaf ar gyfer gweithredu prosiectau’r Cynllun Twf dros y 5-6 mlynedd nesaf.

 

Croesawyd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Sioned Williams (Pennaeth Economi a Chymuned) i’r cyfarfod, a gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Portffolio i roi cyflwyniad sleidiau.  Yn ystod y cyflwyniad, manylwyd ar:-

 

·         Bortffolio y Cynllun Twf - nod, maint y buddsoddiad ar gyfer y cynllun yn ei gyfanrwydd ac amcanion gwariant.

·         Trosolwg o’r rhaglenni

·         Rhestr o Brosiectau’r Cynllun Twf.

·         Buddion rhanbarthol

Gwahoddwyd y Pennaeth Economi a Chymuned i gyflwyno sleid ar y buddion penodol i Wynedd, sef:-

 

·         Gwell cysylltiad digidol ar gyfer busnesau, trigolion ac ymwelwyr.

·         Mynediad at gyfleusterau, offer, cefnogaeth ac ymchwil arbenigol ar gyfer busnesau bwyd a diod Gwynedd drwy fuddsoddiad ar safle Glynllifon.

·         Mynediad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2019/20 pdf eicon PDF 205 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Dr Einir Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad blynyddol y pwyllgor am 2019/20.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, tynnwyd sylw’n benodol at y ffaith bod y pwyllgor wedi adrodd ers sawl blwyddyn nad oedd achosion yn dod ger eu bron, ac felly yn dod i’r casgliad fod safonau Gwynedd yn uchel iawn.  Ond, yn flynyddol yng nghyfarfod llawn y Cyngor, roedd aelodau yn nodi fod achosion yn cael eu hanfon at yr Ombwdsmon, ond bod y broses yn hirwyntog a’r trothwy ar gyfer ymchwiliad yn uchel, gan ei fod yn penderfynu yn amlach na pheidio nad oedd achos i’w ateb.  Roedd hyn yn siom i bobl oedd yn credu bod ganddynt gŵyn ddilys.

 

Eglurwyd nad oedd y Pwyllgor Safonau yn cael manylion yr achosion oedd yn mynd gerbron yr Ombwdsmon, oherwydd, petai achos i’w ateb, byddai’n cael ei anfon yn ôl at y pwyllgor, a byddai gwybod manylion yr achos ymlaen llaw yn rhagfarnu’r pwyllgor.  Fodd bynnag, dymunid sicrhau’r Aelodau a’r trigolion fod cynnal safonau o’r pwys mwyaf, a bod rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad eu hunain.

 

Diolchodd Dr Einir Young i’r Swyddog Monitro a’r Uwch Gyfreithiwr Corfforaethol am eu harweiniad cyfreithiol a’u cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Sylwyd nad oedd yr Ombwdsmon wedi ymdrin ag unrhyw achos eto eleni, a mynegwyd pryder bod pobl yn teimlo bellach nad oes pwrpas mynd â’u cŵyn at yr Ombwdsmon.  Nid oedd modd i neb, heblaw cadeirydd neu glerc cyngor cymuned, droi at Unllais am gymorth, a holwyd i ble roedd pobl i fod i fynd i gael chwarae teg.

·         Cyfeiriwyd at achos lle bu i gynghorwyr ymddiswyddo o ganlyniad i benderfyniad yr Ombwdsmon i beidio ymchwilio i’w cŵyn eu bod yn cael eu bwlio.

·         Nodwyd ei bod yn hawdd cyhuddo cynghorwyr o fwlio, ac unwaith mae’r bys wedi’i bwyntio, rhaid i’r unigolion hynny weithio’n galed iawn i amddiffyn eu hunain.  Nid yw cyhuddiad o fwlio yn golygu o reidrwydd bod bwlio’n digwydd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nodwyd bod rhaid gweithio o fewn y drefn sy’n bodoli.  Roedd yna dros 700 o aelodau cynghorau cymuned a thref yng Ngwynedd a tua 63 o gynghorau, ac roedd yna brinder capasiti o fewn y cynghorau hynny i ymdrin eu hunain â materion sydd ddim yn cyrraedd y trothwy, yn enwedig yn y cynghorau llai.  Nid oedd ateb syml i’r broblem, oni bai bod pot o adnoddau ychwanegol ar gael i hwyluso proses wahanol.

 

Diolchwyd i’r Dr Einir Young am ei chyflwyniad.

 

12.

RHYBUDD O GYNNIG

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Penderfyna’r Cyngor:

 

(a)     Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddi i liniaru unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed a achosir gan arddangosfeydd tân gwyllt.

(b)     Ysgrifennu at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth i osod uchafswm lefel sŵn o 90dB ar gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat.

(c)     Gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen waith i adolygu pa gamau all y Cyngor gymeryd i hyrwyddo neu annog :

 

    • fod  pob arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus o fewn ffiniau’r sir yn cael ei hysbysebu  ymlaen llaw, o fewn ei gyffiniau  gan roi cyfle i bobl gymryd rhagofalon dros eu hanifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed.
    • ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed – gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau.
    • cyflenwyr lleol tanau gwyllt i werthu tân gwyllt llai swnllyd ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus.
    • pobl i gyfyngu defnyddio tân gwyllt i gyfnod agos at ddyddiadau arbennig.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a)     Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddi i liniaru unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed a achosir gan arddangosfeydd tân gwyllt.

(b)     Ysgrifennu at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth i osod uchafswm lefel sŵn o 90dB ar gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat.

(c)     Gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen waith i adolygu pa gamau all y Cyngor gymeryd i hyrwyddo neu annog :

 

    • fod  pob arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus o fewn ffiniau’r sir yn cael ei hysbysebu  ymlaen llaw, o fewn ei gyffiniau  gan roi cyfle i bobl gymryd rhagofalon dros eu hanifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed.
    • ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwedgan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau.
    • cyflenwyr lleol tanau gwyllt i werthu tân gwyllt llai swnllyd ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus.
    • pobl i gyfyngu defnyddio tân gwyllt i gyfnod agos at ddyddiadau arbennig.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Paul Rowlinson o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Penderfyna’r Cyngor:

 

(a)      Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddi i liniaru unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed a achosir gan arddangosfeydd tân gwyllt.

(b)      Ysgrifennu at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth i osod uchafswm lefel sŵn o 90dB ar gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat.

(c)      Gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen waith i adolygu pa gamau all y Cyngor gymeryd i hyrwyddo neu annog:

 

·         Fod pob arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus o fewn ffiniau’r sir yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw, o fewn ei gyffiniau gan roi cyfle i bobl gymryd rhagofalon dros eu hanifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed.

·         Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed – gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau.

·         Cyflenwyr lleol tanau gwyllt i werthu tân gwyllt llai swnllyd ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus.

·         Pobl i gyfyngu defnyddio tân gwyllt i gyfnod agos at ddyddiadau arbennig.”

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifMynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan sawl aelod, ond nodwyd bod raid cofio hefyd bod tân gwyllt yn rhan annatod o ddathliadau crefyddol, megis Diwali, Gŵyl y Goleuni.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

(a)      Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddi i liniaru unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed a achosir gan arddangosfeydd tân gwyllt.

(b)     Ysgrifennu at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth i osod uchafswm lefel sŵn o 90dB ar gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat.

(c)      Gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen waith i adolygu pa gamau all y Cyngor gymeryd i hyrwyddo neu annog:

 

·         Fod pob arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus o fewn ffiniau’r sir yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw, o fewn ei gyffiniau gan roi cyfle i bobl gymryd rhagofalon dros eu hanifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed.

·         Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed – gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau.

·         Cyflenwyr lleol tanau gwyllt i werthu tân gwyllt llai swnllyd ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus.

·         Pobl i gyfyngu defnyddio tân gwyllt i gyfnod agos at ddyddiadau arbennig.