skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr:- Menna Baines, Beca Brown, Dylan Bullard, Annwen Daniels, Simon Glyn, R.Medwyn Hughes, Keith Jones, Cai Larsen, Jason Parry ac Elfed Roberts.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 512 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2021 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2021 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 7 – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2022/23 ac eitem 8 – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2022/23.

 

(1)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen - Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2022/23 am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Stephen Churchman oherwydd ei fod yn derbyn budd-dal Treth Cyngor.

·         Y Cynghorydd Gareth A.Roberts oherwydd bod aelod agos o’r teulu wedi derbyn disgownt Treth Cyngor.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(2)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2022/23 am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Gareth A.Roberts oherwydd bod ganddo eiddo sy’n wag ac yn cael ei ailadeiladu.

·         Y Cynghorydd Dewi Roberts oherwydd bod gan aelod o’i deulu ail gartref.

·         Y Cynghorydd Angela Russell oherwydd ei bod yn berchen ar ail gartref.

·         Y Cynghorydd Aled Jones oherwydd bod teulu agos iddo yn berchnogion ail gartref a chartrefi gwyliau.

·         Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams oherwydd bod gan gysylltiadau agos iddo dai gwag ac ail gartrefi.

·         Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn oherwydd bod gan berthynas agos iddo ail gartref.

·         Y Cynghorydd Elwyn Edwards oherwydd ei fod yn rhan berchennog mewn dwy fflat uwchben Awen Meirion, Stryd Fawr, Y Bala.

·         Y Cynghorydd Peredur Jenkins oherwydd ei fod yn berchen ar ail gartref.

·         Y Cynghorydd Linda Morgan oherwydd bod gan aelod o’r teulu ail gartref.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(3)       Datganodd Dewi Morgan (Pennaeth Cynorthwyol Refeniw a Risg) fuddiant personol yn eitem 12 ar y rhaglen – Penodi Swyddog Adran 151 Newydd, gan fod y penderfyniad yn cadarnhau ei benodiad, fel darpar ddeilydd swydd Pennaeth Cyllid y Cyngor, yn Swyddog Adran 151 newydd ar gyfer yr Awdurdod oddi ar y 1af Ionawr 2022, a hynny yn unol â gofynion Adran 151, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd, mai gyda thristwch, y clywyd am farwolaeth Mrs Patricia G.Larsen, Penisarwaun, cyn-gadeirydd y Cyngor hwn, ac un a roddodd oes o wasanaeth i’w chymuned yn lleol.  Rhoddodd deyrnged iddi, gan fynegi cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’r Cynghorydd Cai Larsen, a gweddill y teulu yn eu profedigaeth.

 

Nodwyd hefyd y bu farw’r cyn-Gynghorydd Wyn Myles Meredith, Dolgellau, yn ddiweddar.  Rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Peredur Jenkins a mynegwyd cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i deulu.

 

Nodwyd hefyd y bu farw Cefin Edwards, aelod o staff Ymgynghoriaeth Gwynedd, yn ddiweddar iawn.  Rhoddwyd teyrnged iddo gan y Prif Weithredwr a mynegwyd cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i deulu.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Wrth longyfarch Dewi Morgan, oedd wedi’i benodi’n Bennaeth Cyllid, dymunwyd yn dda, gyda diolch, i Dafydd Edwards, oedd yn mynychu ei gyfarfod diwethaf o’r Cyngor hwn yn y rôl honno.  Diolchodd y Prif Weithredwr hefyd i Dafydd Edwards am ei wasanaeth ar hyd y blynyddoedd, ac am ei gefnogaeth iddo ef yn bersonol.

 

Nodwyd y bu sawl aelod a staff yn wael yn ddiweddar, a dymunwyd gwellhad buan i bob un ohonynt.

 

Nododd y Prif Weithredwr fod y niferoedd achosion Covid yng Ngwynedd yn uwch nag erioed, er bod arwyddion ein bod ar frig y don erbyn hyn, ac y byddem yn gweld gostyngiad yn fuan.  Hyd oni fyddai’r sefyllfa wedi sefydlogi, roedd pwysau ar unedau penodol o fewn y Cyngor, gyda nifer o staff yn absennol o’u gwaith, ac roedd trefniadau parhad gwasanaeth mewn lle bellach mewn sawl uned ar draws y Cyngor.  Er bod trefniadau rheoli argyfwng y Cyngor yn gwbl gadarn ar hyn o bryd, roedd yn anochel y byddai yna effaith ar wasanaethau yn y tymor byr, a gofynnwyd i’r aelodau gynorthwyo drwy raeadru’r neges yma yn eu cymunedau.  Mawr obeithid, fodd bynnag, na welid unrhyw effaith ar wasanaethau rheng flaen, a nodwyd y byddai’r aelodau yn cael eu diweddaru yn rheolaidd ar y sefyllfa.

 

Nodwyd bod Tim ac Inger Hancock, a ddaeth ymlaen i ddarparu gofal maeth i saith o frodyr a chwiorydd, wedi cael eu hanrhydeddu â gwobr ‘Cyfraniad Eithriadol i Ofal Maeth’ gan Wobrau Rhagoriaeth mewn Maethu’r DU.  Nodwyd bod y Cyngor yn eu llongyfarch yn wresog ar eu cydnabyddiaeth yn y gwobrau a'u cyfraniad eithriadol i faethu yng Ngwynedd.  Nodwyd hefyd y dymunid cymryd y cyfle hwn i ddiolch i bob un o’n gofalwyr maeth sy’n gofalu am ein plant, gan nodi bod y Cyngor yn gwerthfawrogi eu gwaith caled a’u hymrwymiad yn fawr iawn.

 

Nodwyd y cyflwynwyd Gwobr Wirfoddol y Frenhines, i Ymatebwyr Cyntaf Cymuned Y Bermo gan yr Arglwydd Raglaw, Edmund Bailey yn ddiweddar.  Dyma’r wobr uchaf i grŵp gwirfoddol yn y Deyrnas Unedig ac fe'i rhoddir i grwpiau gwirfoddol eithriadol sy'n cael effaith gadarnhaol ar fywydau eraill.  Danfonodd y criw ymroddedig hwn o wirfoddolwyr nwyddau i aelodau hunan-ynysig bregus o gymunedau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gareth A.Roberts

 

“Mae llawer o bobl oedrannus a gwael yn ei chael yn anodd edrych ar ôl eu hunain ac mae gennym brinder cartrefi gofal a gweithwyr gofal.

 

Os yw aelod o’r teulu yn dymuno symud i mewn i ofalu am berthynas sy’n oedrannus neu’n wael, nid oes raid iddynt dalu Treth Cyngor ar eu cartref eu hunain, ond bydd y person y maent yn gofalu amdano/amdani yn derbyn 50% o ddisgownt Treth Cyngor yn unig.

 

A wnaiff y Cyngor ganiatáu i’r person sy’n darparu’r gofal a’r person sy’n derbyn y gofal ill dau dderbyn disgownt Treth Cyngor llawn o 100%?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

“Mae yna eithriad statudol yn bodoli sy’n golygu nad yw Treth Cyngor yn daladwy ar eiddo sydd wedi ei adael yn wag gan rywun a symudodd oddi yno i roi gofal personol i rywun arall.  Mae yna 10 eiddo yn derbyn yr eithriad yma yng Ngwynedd, gyda threthdalwyr 5 ohonynt yn rhoi gofal i rywun sy’n byw mewn eiddo arall o fewn Gwynedd, a’r 5 arall yn rhoi gofal i rywun sy’n byw y tu allan i’r sir.

 

Byddai costau unrhyw ostyngiadau dewisol ychwanegol yn cael eu hariannu’n llwyr allan o goffrau’r Cyngor.  Petaem ond yn sôn am 5 eiddo, oddeutu £10,000 fyddai cost cynnig eithriad dewisol ychwanegol.

 

Fodd bynnag, mae 400 eiddo pellach yn derbyn disgownt o 25% neu 50% oherwydd bod o leiaf un o’r trigolion yn derbyn gofal, ond lle nad oes eiddo wedi cael ei adael yn wag gan y gofalwr.  Noder mai rhoi gostyngiad pellach ar Dreth Cyngor i’r rhai sy’n derbyn gofal sydd dan sylw yn y cwestiwn.

 

Ni allwn weld sut gall y Cyngor wneud penderfyniad teg, sy’n amddiffynadwy yn gyfreithiol, i roi gostyngiad Treth Cyngor ychwanegol i 5 eiddo heb ei roi i hyd at 400 eiddo arall hefyd.  Byddai hynny yn costio oddeutu £500,000 y flwyddyn i’r Cyngor, ac yn golygu blaenoriaethu adnoddau’r Cyngor, a chanlyniad anorfod hynny fyddai cyflwyno arbedion a thoriadau mewn llefydd eraill.

 

Os yw person sy’n derbyn gofal yn talu Treth Cyngor (neu ran o Dreth Cyngor os ydynt yn derbyn gostyngiad), mae gwerth y swm sydd yn cael ei dalu yn cael ei gynnwys yn eu hasesiad ariannol i gynyddu faint o incwm maent yn cael ei gadw pob wythnos cyn gorfod dechrau talu am eu gofal.  Mae pawb yn cael cadw digon o arian i dalu am eu Treth Cyngor cyn dechrau talu am eu gofal.

 

Wrth ystyried yr holl ffactorau sy’n ymwneud â materion trethiannol a chyfrifo cost gofal, ni allaf weld sut y byddai’r cynnig yn y cwestiwn yn fforddiadwy nac yn cynyddu tegwch y drefn ar draws y sir.  Er hynny, bydd yr Adran Gyllid yn parhau i ystyried pa ostyngiadau dewisol fyddai’n briodol, os o gwbl, ac yn cadw’r achosion sydd yn y cwestiwn dan ystyriaeth fel rhan o hynny.”

 

(2)     Cwestiwn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2022/23 pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·                Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2022 fel ag yr oedd yn ystod 2021/22.  Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

a)    Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

b)    Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.

c)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

·                Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2022/23, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Gyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill, 2022.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod gwahanol fathau o gymorth ar gael ar gyfer pobl ar gyflogau bychain, ond gan fod hynny’n amrywio yn ôl amgylchiadau’r unigolyn, ei bod yn amhosib’ rhoi ateb cyffredinol.  Fodd bynnag, anogwyd unrhyw un sy’n cael trafferth i gysylltu â’r Adran i weld beth sy’n bosib’.  Nodwyd hefyd bod trafodaethau ar y gweill er mwyn gweld oes modd gweithredu yn fwy trawsadrannol i gynnig cymorth.

 

PENDERFYNWYD

·                Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2022 fel ag yr oedd yn ystod 2021/22.  Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

 

a)        Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

b)        Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.

c)        Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

·                Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2022/23, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

8.

TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A/NEU GODI PREMIWM 2022/23 pdf eicon PDF 261 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn gwneud dim newid i’r cynllun ar gyfer 2022/23.  Hynny yw, ar gyfer 2022/23, bod Cyngor Gwynedd yn:

·         Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·         Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·         Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2022/23 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi Premiwm o 100% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd bod amgylchiadau unigolion a theuluoedd sy’n berchen ar eiddo gwag hirdymor yn amrywio yn fawr, a holwyd pa gefnogaeth y gellid ei rhoi i’r unigolion hynny.  Mewn ymateb, nodwyd yr argymhellid parhau i godi Premiwm ar eiddo gwag hirdymor oherwydd y gallai eiddo o’r fath achosi problemau cymdeithasol mewn rhai llefydd, ond y gellid cyflwyno polisi dan adran arall o’r ddeddf sy’n rhoi disgresiwn i’r Cyngor leihau’r Premiwm taladwy mewn rhai achosion, megis lle mae eiddo wedi ei etifeddu gan deulu, a bod yna waith o ran dod â’r tŷ yn ôl i drefn fel rhan o’r stad.

·         Holwyd pa mor agos oeddem at yr amcangyfrif y byddai £3.9m ychwanegol o gynnyrch Premiwm 2021/22 ar gael i’r gronfa, o ystyried bod 2,045 eiddo wedi trosglwyddo o’r rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Ardrethi Annomestig.  Mewn ymateb, eglurwyd, wrth baratoi’r amcangyfrifon yn flynyddol, bod rhaid edrych yn ddarbodus ar faint fydd yn trosglwyddo, gan ragdybio bod y patrwm trosglwyddiadau am barhau heb ymyrraeth ddeddfwriaethol.  Gallai trosglwyddiadau hwyr yn y flwyddyn ariannol yma olygu colled, efallai, fyddai’n cael ei ôl-ddyddio am gyfnod.  Gan hynny, roedd yn amhosib’ dweud pa mor agos oeddem at y £3.9m, ond ar hyn o bryd, gellid bod yn eithaf hyderus y byddem o gwmpas ein lle o ran yr arian sy’n dod i mewn.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y diffiniad o eiddo anaddas i fyw ynddo yn nwylo’r Prisiwr Dosbarth.  Gofynnid i unrhyw un sy’n berchen ar y math yma o eiddo gysylltu â’r Prisiwr, a phetai’r Prisiwr yn dod i’r casgliad ei fod yn anaddas, byddai’n cael ei dynnu allan o’r bandio.  Roedd y Prisiwr wedi tynhau’r diffiniad yn ddiweddar, fel bod rhaid i eiddo fod yn adfail bron cyn cael ei dynnu allan o’r rhestr.  Nodwyd, petai gan aelodau bryderon am eiddo penodol yn eu ward, y gallent drafod gyda’r Adran Gyllid yn y lle cyntaf.

·         Mynegwyd pryder nad oedd perchnogion carafanau yn talu unrhyw Dreth Cyngor, ac eto’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, ac awgrymwyd y dylid ail-edrych ar hyn.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymlynu at y polisi o godi Premiwm ar ail-gartrefi a chadw’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatrys y broblem tai haf.

·         Awgrymwyd nad oedd y cyfnod eithrio estynedig o 12 mis i adnewyddu eiddo gwag hirdymor yn ddigonol gan ei bod yn anodd iawn y dyddiau hyn cael adeiladwr / saer / plymwr / trydanwr i gydweithio a chwblhau’r holl waith mewn cyfnod mor dynn.  Mewn ymateb, nodwyd bod y Cynllun Gweithredu Tai yn gwneud darpariaeth ar gyfer achosion sydd angen mwy o gyfnod na 12 mis.  Roedd cymorth ar gael i bobl leol gael cyfnod pellach o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

DATGANIAD CYNGOR GWYNEDD YNGHYLCH AMRYWIAETH pdf eicon PDF 550 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer cefnogi Datganiad Amrywiaeth Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth, y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu rhaglen waith ar gyfer cefnogi Datganiad Amrywiaeth Cyngor Gwynedd.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol i Gadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am eu gwaith ar y pwnc pwysig yma.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i’r Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol am sicrhau bod y datganiad yn cael ei addasu i gynnwys pobl sy’n adnabod fel LGTBQ+, ac anogwyd unrhyw un o grwpiau â nodweddion gwarchodedig i sefyll etholiad ym mis Mai.

·         Nodwyd ei bod yn hynod bwysig cael amrywiaeth ar y Cyngor, a bod y Cyngor yn adlewyrchu pobl Gwynedd heddiw. 

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd cadw’r mater hwn mewn cof wrth drafod amodau a chydnabyddiaeth i aelodau etholedig, gan fod y materion hyn yn hollbwysig o ran denu pobl i fod yn rhan o’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer cefnogi Datganiad Amrywiaeth Cyngor Gwynedd.

 

10.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - TREFNIADAU AR GYFER CYFARFODYDD Y CYNGOR I'R DYFODOL pdf eicon PDF 477 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  • Mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor i’r dyfodol yn unol â’r egwyddorion sydd wedi eu gosod ym mharagraff 9 o’r adroddiad i’r Cyngor, gyda chyfarfodydd y Cyngor Llawn, Pwyllgor Cynllunio a phwyllgorau craffu i gael eu cynnal o leoliad (yn hybrid) gyda’r gweddill yn parhau yn rhithiol.

 

  • Cadarnhau’r cyfrifoldeb i weithredu ar gyfer pennu’r dyddiad cychwyn i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a Chadeirydd y Cyngor, ac o ganlyniad i godi’r cyfyngiadau presennol.

 

Cofnod:

 Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth, y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo trefniadau ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Cyngor er cyfarch gofynion newydd yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

Mynegodd nifer o aelodau eu pryderon ynglŷn â threfniadau rhithiol / hybrid ar y sail:-

 

·         Bod yna broblemau band eang ledled y sir, a holwyd a allai’r Cyngor wneud mwy i helpu gyda hyn, er budd busnesau’r sir a chynghorwyr.  Mewn ymateb, nodwyd bod y Cynllun Twf yn buddsoddi yn isadeiladedd digidol y rhanbarth.

·         Bod yr hen drefniadau (h.y. cyfarfod wyneb yn wyneb yn y Siambr) yn well.

·         Nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at lesiant meddwl ac unigrwydd, ac y byddai’r materion hynny yn gwaethygu wrth i bawb barhau i weithio yn unig o flaen sgrin, heb gael y cyfle i gymdeithasu a sgwrsio gyda chyd-weithwyr a chyd-gynghorwyr.

·         Bod pryder ynglŷn â sut mae aelodau newydd o fis Mai ymlaen am gael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

·         Ei bod yn bwysig cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb fel bod staff yn dod i adnabod staff newydd a chynghorwyr yn dod i adnabod eu cyd-gynghorwyr newydd ar ôl Mai.

 

Mynegwyd gobaith y byddai yna adolygiad parhaus o’r trefniadau.

 

Cefnogwyd y symudiad i gyfarfodydd hybrid gan aelodau eraill ar y sail bod hynny’n rhoi’r dewis i aelodau ddod i’r siambr, neu gymryd rhan yn y trafodaethau o gartref.

 

Gan gyfeirio at yr is-bennawd ‘Rhithiol llwyr’ yn y golofn ‘Math o gyfarfod’ yn Atodiad A i’r adroddiad, mynegwyd pryder bod hynny’n cau’r drws ar gyfarfodydd wyneb yn wyneb am byth, a chynigiwyd gwelliant i dynnu’r is-bennawd, fel bod yr holl gyfarfodydd yn mynd yn hybrid, ac felly’n cadw’r dewis i gynghorwyr fynychu cyfarfodydd mewn lleoliad.

 

Mewn ymateb i’r gwelliant ac i sylwadau’r aelodau, nodwyd:-

 

·         Na fyddai mabwysiadu trefn o gynnal rhai cyfarfodydd yn rhithiol llwyr yn cau’r drws, a’i bod yn hynod bwysig monitro ac adolygu’r trefniadau yn barhaus (o leiaf yn flynyddol, mae’n debyg).

·         Bod cyfeiriad yn yr adroddiad at eithriadau fyddai’n digwydd o dro i dro, megis cyfarfodydd cyntaf yn dilyn etholiadau, fel bod modd i aelodau newydd ymgyfarwyddo â gwaith y Cyngor, ac i aelodau sy’n dychwelyd gael cyfarfod eu cyd-aelodau newydd.

·         Bod y gwelliant i wneud pob cyfarfod yn hybrid yn gweddnewid yr hyn roedd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth wedi ei roi gerbron, ac yn golygu y byddai’n rhaid i bob cyfarfod gael ei gynnal mewn siambr fel man cychwyn.  Pe derbynnid y gwelliant, byddai’n rhaid cyfeirio’r mater yn ôl i’r pwyllgor i ystyried goblygiadau hynny, a chael adroddiad pellach ar y mater.  Nid oedd y Cyngor mewn sefyllfa i wneud penderfyniad yn y fan a’r lle i roi pob cyfarfod o fewn siambr yr eiliad y byddai’r cyfyngiadau yn cael eu codi.

·         Y deellid yr awydd i ddychwelyd i’r siambr, ond bod yna waith sylweddol i’w wneud i gael y systemau i weithio i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 345 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  • Nodi’r newidiadau gan y Swyddog Monitro i’r Cyfansoddiad yn Atodiad 1 i’r adroddiad

 

  • Cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i osod cyfanswm maint o 12 aelod etholedig a 6 aelod lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu Archwilio ar gyfer Mai 2022.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn manylu ar newidiadau Cyfansoddiadol ynglŷn â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac yn ceisio arweiniad y Cyngor ar faint y pwyllgor i’r dyfodol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r golled i’r Grŵp Annibynnol, oedd â chadeiryddiaeth ac is-gadeiryddiaeth y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar hyn o bryd.  Deellid, fodd bynnag, mai Llywodraeth Cymru oedd yn cyflwyno’r newidiadau hyn.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd y byddai’r 12 aelod etholedig ar y pwyllgor yn cael eu penodi gan y grwpiau, yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol.

·         Awgrymwyd bod y panel penodi aelodau lleyg yn ymddangos yn fychan iawn.

·         Mewn ymateb i sylw, eglurwyd y byddai’r aelodau lleyg yn cael eu penodi cyn i’r darpariaethau newydd ddod i rym ym mis Mai, ac felly y byddai cadeirydd presennol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn gallu eistedd ar y panel.

 

PENDERFYNWYD

·                Nodi’r newidiadau gan y Swyddog Monitro i’r Cyfansoddiad yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

·                Cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i osod cyfanswm maint o 12 aelod etholedig a 6 aelod lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu Archwilio ar gyfer Mai 2022.

 

12.

PENODI SWYDDOG ADRAN 151 NEWYDD pdf eicon PDF 197 KB

Adroddiad i ddilyn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn cadarnhau Dewi Aeron Morgan, darpar ddeilydd swydd Pennaeth Cyllid y Cyngor fel y Swyddog Adran 151 newydd ar gyfer yr Awdurdod oddi ar y 1af o Ionawr 2022, a hynny yn unol â gofynion Adran 151, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gadarnhau Dewi Aeron Morgan, darpar ddeilydd swydd Pennaeth Cyllid y Cyngor fel y Swyddog Adran 151 newydd ar gyfer yr Awdurdod oddi ar y 1af o Ionawr, 2022, a hynny yn unol â gofynion Adran 151, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD Bod y Cyngor yn cadarnhau Dewi Aeron Morgan, darpar ddeilydd swydd Pennaeth Cyllid y Cyngor fel y Swyddog Adran 151 newydd ar gyfer yr Awdurdod oddi ar y 1af o Ionawr 2022, a hynny yn unol â gofynion Adran 151, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

13.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

14.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gethin Glyn Williams

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Dros y canrifoedd, defnyddiwyd tiroedd ac adnoddau Cymru i echdynnu pob math o nwyddau er budd eraill.

 

Y ‘nwyddaudiweddaraf sy’n cael eu cymryd o’n tirwedd yw’r potensial o garbon, gan fod cwmniau buddsoddi o’r tu allan i Gymru yn prynu ffermydd, yn derbyn grantiau mawr GlastirCreu Coetir (GWC) a defnyddio’r tir i greu coedwigoedd i unioni eu hallyriadau carbon.

 

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

·         Newid ar fyrder y cymhwyster i dderbyn eu grant Glastir (GWC) fel mai dim ond ffermwyr gweithredol yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais.

·         Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Gwynedd i reoli prosiectau coedwigo.

 

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn symud i amddiffyn amgylchedd gwledig Cymru, a’i hadnoddau er budd economi Gwyrdd cylchol newydd gan gryfhau diwydiannau, cymunedau a gwasanaethau Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Dros y canrifoedd, defnyddiwyd tiroedd ac adnoddau Cymru i echdynnu pob math o nwyddau er budd eraill.

 

Y ‘nwyddau’ diweddaraf sy’n cael eu cymryd o’n tirwedd yw’r potensial o garbon, gan fod cwmnïau buddsoddi o’r tu allan i Gymru yn prynu ffermydd, yn derbyn grantiau mawr Glastir - Creu Coetir (GWC) a defnyddio’r tir i greu coedwigoedd i unioni eu hallyriadau carbon.

 

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

· Newid ar fyrder y cymhwyster i dderbyn eu grant Glastir (GWC) fel mai dim ond ffermwyr gweithredol yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais.

 

· Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Gwynedd i reoli prosiectau coedwigo.

 

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn symud i amddiffyn amgylchedd gwledig Cymru, a’i hadnoddau er budd economi Gwyrdd cylchol newydd gan gryfhau diwydiannau, cymunedau a gwasanaethau Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gethin Glyn Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gif

Dros y canrifoedd, defnyddiwyd tiroedd ac adnoddau Cymru i echdynnu pob math o nwyddau er budd eraill.  Y ‘nwyddau’ diweddaraf sy’n cael eu cymryd o’n tirwedd yw’r potensial o garbon, gan fod cwmnïau buddsoddi o’r tu allan i Gymru yn prynu ffermydd, yn derbyn grantiau mawr Glastir - Creu Coetir (GWC) a defnyddio’r tir i greu coedwigoedd i unioni eu hallyriadau carbon.

 

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

· Newid ar fyrder y cymhwyster i dderbyn eu grant Glastir (GWC) fel mai dim ond ffermwyr gweithredol yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais.

· Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Gwynedd i reoli prosiectau coedwigo.

 

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn symud i amddiffyn amgylchedd gwledig Cymru, a’i hadnoddau er budd economi Gwyrdd cylchol newydd gan gryfhau diwydiannau, cymunedau a gwasanaethau Cymru.”

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, a mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau a nododd:-

 

·         Nad yw’n glir pwy yw’r cwmnïau buddsoddi sy’n prynu’r ffermydd.

·         Bod rhaid atal yr arfer yma, a sicrhau bod yr adnoddau yn aros yn nwylo pobl Cymru.

·         Nad oedd pobl yn deall pa mor ddibynnol yw ffermwyr ar grantiau fel Glastir, ac y dylid deddfu bod ffermydd i’w rhedeg fel fferm gan bobl leol, yn hytrach na’u defnyddio i blannu coed.

·         Yr honnid bod defnyddio tiroedd fferm yn y modd yma yn unioni allyriadau carbon.  Fodd bynnag, roedd tynnu tir ffermio allan o Gymru yn golygu ein bod yn cynhyrchu llai o fwyd, a chanlyniad anochel hynny oedd gorfod mewnforio bwyd, sy’n ychwanegu at allyriadau carbon.

·         Bod ambell ffermwr ym Mhen Llŷn wedi ymgeisio am grant coedwigaeth y Llywodraeth, ond wedi cael eu gwrthod.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Dros y canrifoedd, defnyddiwyd tiroedd ac adnoddau Cymru i echdynnu pob math o nwyddau er budd eraill.   Y ‘nwyddau’ diweddaraf sy’n cael eu cymryd o’n tirwedd yw’r potensial o garbon, gan fod cwmnïau buddsoddi o’r tu allan i Gymru yn prynu ffermydd, yn derbyn grantiau mawr Glastir - Creu Coetir (GWC) a defnyddio’r tir i greu coedwigoedd i unioni eu hallyriadau carbon.

 

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

· Newid ar fyrder y cymhwyster i dderbyn eu grant Glastir (GWC) fel mai dim ond ffermwyr gweithredol yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais.

· Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Gwynedd i reoli prosiectau coedwigo.

 

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn symud i amddiffyn amgylchedd gwledig Cymru, a’i hadnoddau er budd economi Gwyrdd cylchol newydd gan gryfhau diwydiannau, cymunedau a gwasanaethau Cymru.