skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr:- Alan Jones Evans, Annwen Hughes, Peredur Jenkins, Eric Merfyn Jones, Linda A.W.Jones, Dilwyn Lloyd, Dafydd Owen, Jason Parry, Gareth A.Roberts a Mair Rowlands.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Peredur Jenkins a’r teulu ar golli ei wraig yn ddiweddar.

·         Teulu Gerald Williams, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd – a gadwodd gartref Hedd Wyn dros y blynyddoedd.

·         Teulu Sian Rhys Elis, Gweithiwr Cymdeithasol yn yr Adran Blant.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Estynnwyd dymuniadau gorau am wellhad buan i’r Cynghorwyr Louise Hughes, Alan Jones-Evans a Beth Lawton.

 

Llongyfarchwyd Tim Pêl-droed Cymru ar eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth yr Euros, a dymunwyd pob lwc i Dîm Denmarc am weddill y gystadleuaeth.

 

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

5.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD pdf eicon PDF 413 KB

(a)     Nodi, yn unol ag adran 4.12.1 (d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd llythyr gan y Cynghorydd Gruffydd Williams, wedi ei arwyddo gan bum aelod arall, yn galw am gyfarfod o’r Cyngor i drafod yr isod yng nghyd-destun yr argyfwng tai sy’n bodoli o fewn y sir:- 

 

“Bod y Cyngor hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017) gyda golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg.  Byddai’n ddymunol rhoi blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad Dr. Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisiau Newydd yng Nghymru” a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn y Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r fath yn cyfarch y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.”

 

(b)     Pecyn Gwybodaeth

 

(i)      Adroddiad yn amlinellu’r broses statudol ar gyfer adolygu Cynllun Datblygu Lleol.

 

(ii)      Adroddiad Dr. Simon Brooks – “Ail Gartrefi – Datblygu Polisiau Newydd yng Nghymru”.

 

(iii)     Ymateb i’r adroddiad yn (ii) uchod – adroddiad i’r Cabinet ar 15 Mehefin, 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017) gyda golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg.  Byddai’n ddymunol rhoi blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad Dr Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn y Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r fath  yn cyfarch y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

 

Felly, yn wyneb yr argyfwng tai a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bod rhaid symud ar frys i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol; bod y broses yma’n cymryd sylw llawn o farn aelodau a’r gymuned, a bod y Cyngor yn symud ymlaen cyn gynted ag y bo’r modd i baratoi’r Adroddiad Adolygu, a chyflwyno Cytundeb Cyflawni gerbron y Cyngor.  Hefyd, bod y Cyngor yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i bwyso am gael hawl gweithredu ar amserlen fyrrach.

 

Cofnod:

Nodwyd, yn unol ag Adran 4.12.1(d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd llythyr gan y Cynghorydd Gruffydd Williams, wedi ei arwyddo gan bum aelod arall, yn galw am y cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor i drafod adolygu a diweddaru’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg yng nghyd-destun yr argyfwng tai sy’n bodoli o fewn y sir.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Gruffydd Williams i esbonio’r mater gerbron.  Nododd:-

 

·         Y dymunai ddiolch i bawb fu’n rhan o hwyluso’r cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor.

·         Bod y rheswm dros alw’r cyfarfod yn amlygu ei hun yn ddyddiol yn y papurau a chyfryngau o bob math, yn ogystal â bod yn destun sgyrsiau ledled y sir y dyddiau hyn, sef yr argyfwng cartrefi i bobl leol yn ein cymunedau.

·         Bod yna ddigon o dai yn y sir, ond bod y prisiau y tu hwnt i gyrraedd pobl leol, a bod hynny, yn ei dro, yn amddifadu’r bobl hynny o’u hawl sylfaenol i fyw yn eu cynefin.

·         Nad oedd neb, ddim hyd yn oed y Cyngor hwn, wedi mynd i’r afael o ddifri â’r argyfwng.  Cafwyd adroddiadau cydnabyddedig dros y blynyddoedd yn cynnig datrysiad i’r broblem, ond ni ddigwyddodd unrhyw beth, a phryderid na fyddai unrhyw beth yn dod o adroddiadau ac argymhellion diweddar chwaith, oni fo’r Cyngor hwn yn mynnu newid.

·         Pan fabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd bedair blynedd yn ôl ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd, lleisiwyd pryderon am effaith y Cynllun ar ein cymunedau lle mae’r iaith Gymraeg yn dal yn iaith hyfyw.  Yn anffodus, roedd y diffygion amlygwyd yr adeg hynny wedi dod yn fwy amlwg, os nad wedi’u gwireddu’n gyfan gwbl erbyn hyn.

·         Er y byddai’r gwaith o adolygu’r polisïau yn cychwyn mis nesaf fel sy’n ofynnol yn ôl y drefn, byddai’n sioc i lawer ddeall pa mor hirfaith yw’r amserlen ar gyfer cynnal adolygiad o’r fath.

·         Yn ystod cyfarfod mabwysiadu’r Cynllun yn 2017, cafwyd addewidion gan yr Aelod Cabinet ar y pryd y byddai modd lleihau unrhyw niwed i’r Gymraeg drwy gryfhau’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar yr Iaith Gymraeg, ac y byddai’r Cabinet yn sefydlu pwyllgor craffu arbennig i fynd i’r afael â’r mater.  Ar ôl 15 cyfarfod a rhagor gyda’r swyddogion, cadarnhawyd y pryderon bod y Canllawiau Atodol yn ddibwrpas, oni bai eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer ceisiadau ar hap. 

·         Y bu i’r Aelod Cabinet hefyd roi addewid yn y cyfarfod hwnnw y byddai’r Cynllun yn cael ei fonitro’n flynyddol, ac y byddai’n bosib’ newid y polisïau o fewn 4 blynedd, pe gwelid nad oeddent yn gweithio.  Ond cafodd y Cyngor ei gamarwain yn 2017, gan y byddai yna gyfnod ychwanegol o 3.5 mlynedd cyn y byddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwireddu.

·         Mai dogfen farw yw’r Cynllun, a bydd yr iaith Gymraeg wedi marw hefyd, oni fo’r Cyngor hwn yn gwneud penderfyniadau radical a phellgyrhaeddol.

·         Mai argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor yn Rhagfyr 2020 oedd i gadw’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi yn 50%, ond drwy bwysau gan aelodau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.