skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Kim Jones, Edgar Owen, Beca Roberts ac Einir Wyn Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 344 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Mai, 2022 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

·         Y Cynghorydd Edgar Owen a’r teulu ar golli ei fam yng nghyfraith.

·         Y Cynghorydd Kim Jones a’r teulu ar farwolaeth ei thaid.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn a’i wraig ar eu priodas, a hefyd ar enedigaeth efeilliaid - dau hogyn bach.

 

Dymunwyd yn dda i Morwena Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol, oedd yn bresennol yn ei chyfarfod olaf o’r Cyngor.  Nododd y Prif Weithredwr fod Morwena wedi rhoi bron i 20 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor, yn ei rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol / Cyfarwyddwr Corfforaethol, ac fel Pennaeth Adran cyn hynny, ac y bu’n gweithredu hefyd fel Dirprwy Brif Weithredwr dros y 3-4 blynedd ddiwethaf.  Diolchodd iddi ar lefel bersonol am y cymorth a’r gefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd ar ran ei chyd-weithwyr yn y Cyngor.  Yna rhoddodd yr Arweinydd air o ddiolch i Morwena, ar ran yr holl aelodau, am ei gwasanaeth gwych ar hyd y blynyddoedd, a dymunwyd iddi bob hapusrwydd ar ei hymddeoliad.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried bod y Cyngor yn prynu tai sydd ar y farchnad gydag arian cyhoeddus, pa system sydd gennych yn ei le i sicrhau nad yw’r Cyngor yn gordalu am y tai?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Yn ychwanegol i’r ateb ysgrifenedig, hoffwn ddweud fy mod wedi prynu fy nhŷ cyntaf tua 5 mlynedd yn ôl, a gallaf dystiolaethu i’r ffaith mai prynu tŷ ydi'r trydydd profiad mwyaf anodd ar ôl colli rhywun agos a mynd trwy ysgariad.  Nid ydych chi’n gwybod be’ dydych chi ddim yn gwybod, nid ydych chi’n gallu ymddiried mewn unrhyw un, ac mae prisiau tai yn codi bob dydd.  Nid ydych chi’n gwybod pwy sy’n cystadlu yn eich erbyn, ac roedd yn flwyddyn hunllefus i mi a’r teulu.

 

Un o’r 33 o gynlluniau sydd gennym yn y Cynllun Gweithredu Tai ydi ein bod ni, fel Cyngor, yn prynu tai er mwyn helpu i gartrefu pobl leol yn eu cymunedau.  Wrth gwrs, mae’r broses lle mae’r Cyngor yn prynu tai hyd yn oed yn fwy cymhleth na hynny.  Rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn prynu tai mae rhywun lleol am geisio eu prynu.  Rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn gwneud camgymeriadau a’i fod yn costio gormod.  Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn prynu tai lle mae angen.  Mae’n gymhleth iawn a rŵan, wrth gwrs, yn wahanol i 4-5 mlynedd yn ôl, rydym ni’n cystadlu yn erbyn cronfeydd gwrych sydd nawr yn y farchnad prynu tai.  Nid oedd Airbnb yn gymaint o beth, a rŵan mae pobl yn symud yma ar ôl y ‘Zoom Boom a Chofid a Brexit.  Ond y gwahaniaeth rhyngom ni a thrigolion ydi ein bod ni’n gwybod beth ydi’r unknowns’.  Mae gan ein Hadran ni'r profiad o weithredu yn y sector yma.  Mae gennym y cymwysterau.  Nid ydw i’n siŵr faint o syrfewyr sydd yn yr Adran, neu yn y Cyngor, ond mae hyd yn oed ein Prif Weithredwr yn syrfëwr, ac rydym ni’n adnabod pawb sy’n gweithio yn y sector.  Mae gennym y sgiliau a’r profiad a’r wybodaeth, ond yn bwysicach na hynny yn fy marn i, mae gennym ni hefyd yr awydd.  Mae pobl yn tueddu i feddwl bod ein staff yn byw mewn twr ifori neu’n gweithredu yn ôl yr egwyddor ‘computer says no, ond gallaf dawelu eich meddyliau - nid yw hynny’n wir.  Rwy’n gobeithio bod y mwyafrif ohonoch yma yn gwybod sut rydw i’n teimlo am y sefyllfa tai a pha mor bendant ydwyf i wneud rhywbeth am y peth.  Rydw i eisiau i chi wybod bod y staff i gyd yn yr Adran Tai ac Eiddo hefyd yn teimlo'r un fath â mi am y pwnc.  Maen nhw’n dilyn Ffordd Gwynedd go iawn a gobeithio y byddwch  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2021/22 pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22, a’i fabwysiadu.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 fel darlun clir, cytbwys a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, cyfeiriodd yr Arweinydd at lwyddiannau megis datblygu Cynllun Adfywio, adeiladu Ysgol y Garnedd newydd a mabwysiadu Cynllun Newid Hinsawdd.  Cyfeiriodd hefyd at lefydd i wella, megis y methiant i gyfarch y cwestiwn addysg ôl-16 yn Arfon, ond roedd yn hyderu’n fawr y byddai hynny’n flaenoriaeth yn y blynyddoedd nesaf yng Nghynllun newydd y Cyngor.  Nododd hefyd y bu oedi yn Nalgylch Cricieth ar ddatblygiad ysgol newydd oherwydd gorfod cynnal archwiliad archeolegol.

 

Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at y crynodeb o waith dydd i ddydd y gwasanaethau ar ddiwedd yr adroddiad, gan ddiolch i swyddogion y Gwasanaeth Cynllunio am eu gwaith gwych yn paratoi ymchwil a datrysiadau yn y maes ail-gartrefi.  Nododd hefyd, gan fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn dod i ben, bod angen ail edrych ar y trefniadau cydweithio, ac eglurodd, yn sgil trafodaethau rhwng swyddogion cynllunio Gwynedd a Môn, y daethpwyd i’r casgliad y dylid argymell bwrw ymlaen gyda phroses i ddirwyn y trefniant presennol i ben, a hynny o ganlyniad i’r newidiadau i’r cyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ers sefydlu’r trefniant cydweithio yn 2001.  Eglurodd ymhellach y byddai’r ddau gyngor yn parhau i gydweithio’n agos gyda threfniadau monitro’r hen Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd eraill fyddai’n amlygu eu hunain.  Byddai’r mater yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn ar 19 Gorffennaf, a phetai’r ddau gorff yn cydsynio, byddai’r ddwy sir yn llunio eu Cynllun Datblygu Lleol newydd ar wahân.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Gan gyfeirio at uchafbwyntiau’r flwyddyn ar dudalen 16 o’r rhaglen, holwyd sut roedd perfformiad y Cyngor o ran ailgylchu, ailddefnyddio neu gompostio gwastraff cartrefi yn cymharu â’r targed, ac yn arbennig targed tirlenwi Llywodraeth Cymru.  Mewn ymateb, nodwyd bod perfformiad Gwynedd dros 64% ar hyn o bryd, o gymharu â’r targed statudol o 70% erbyn Mawrth 2025.  Gwelwyd llithriad, o bosib’, dros y cyfnod Cofid yn y gwastraff gweddilliol sy’n cael ei gynhyrchu, ac roedd angen atgoffa’r trigolion am y gwasanaeth casglu bwyd ac ailgylchu.  Ymhellach na hynny, byddai’n rhaid edrych ar raglen waith i symud yr agenda er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed statudol.  O safbwynt tirlenwi, eglurwyd nad oedd unrhyw wastraff yn mynd i dirlenwi bellach a bod yr holl wastraff gweddilliol yn cael ei losgi ym Mharc Adfer, y Fflint fel rhan o bartneriaeth ar y cyd rhwng cynghorau’r Gogledd.

·         Gan gyfeirio at y sylw at dudalen 19 o’r rhaglen bod yr argyfwng costau byw “wedi gorfodi’r Cyngor i ddargyfeirio adnoddau ac addasu gan ymrwymo i waith a phrosiectau newydd”, holwyd a oedd ein cyllideb yn ddigon cadarn i wynebu’r heriau hyn, neu a fyddai’n rhaid ail-edrych ar y mater.  Holwyd hefyd,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2021/22 pdf eicon PDF 188 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr i Manon Elwyn Hughes (Uwch Swyddog Gweithredol) am ei chymorth yn rhoi’r adroddiad blynyddol at ei gilydd.  Fel rhan o’i chyflwyniad, amlygodd y Cyfarwyddwr rai o’r gwersi a ddysgwyd, gan amlinellu’r blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod.  Eglurodd hefyd sut y bu i’r Gwasanaeth asesu anghenion pobl, a’u cynnwys yn ganolog wrth siapio’r gwasanaethau a’r ddarpariaeth gofal.  Nododd fod perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd yn dda ar y cyfan eto eleni, a bod barn Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyd-fynd â hynny.  Ychwanegodd fod y 2 flynedd ddiwethaf wedi gosod heriau anhygoel ar y Gwasanaeth, ac roedd yn amlwg o’r perfformiad bod rheolwyr a staff wedi gwneud ymdrech arwrol i allu dygymod gyda’r gofynion a fu arnynt yn ystod y cyfnod. 

 

Ar ddiwedd ei chyfnod yn y swydd, nododd y Cyfarwyddwr y bu’n fraint bod yn Gyfarwyddwr ac yn Bennaeth Adran cyn hynny, a diolchodd i bawb y bu’n cydweithio â hwy dros y blynyddoedd.  Diolchodd i’r aelodau, yr aelodau craffu a’r aelodau cabinet yn y maes gofal dros y 10 mlynedd ddiwethaf.  Nododd hefyd iddi gael cefnogaeth wych gan dri Phrif Weithredwr yn ystod ei chyfnod yn y swydd, sef Harry Thomas, Dilwyn Williams a’r Prif Weithredwr presennol, Dafydd Gibbard.  Manteisiodd hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r Penaethiaid Adran, Marian Parry Hughes (Pennaeth Plant a Theuluoedd) ac Aled Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant) a’r diweddar Gwenan Parry am eu gwaith yn y maes gofal, ac hefyd i Catrin Thomas (Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd) a Carys Fon Williams (Pennaeth Tai ac Eiddo) am eu gwaith ar y rhaglen Cefnogi Pobl Gwynedd.  Diolchodd hefyd i’r holl staff mewnol, allanol, trydydd sector, gofalwyr di-dâl a rhieni maeth fu’n rhan o’i siwrne dros y 10 mlynedd ddiwethaf, a dymunodd yn dda i’r Cyfarwyddwr newydd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd bod angen cynnwys mwy o wybodaeth dan fesur perfformiad rhif 20 ar dudalen 196 o’r rhaglen (Canran y plant a ddychwelodd adref o ofal yn ystod y flwyddyn) er mwyn gwneud yn glir i bobl y tu allan i’r system gofal, aelodau newydd, ayyb, bod strategaethau mewn lle i sicrhau bod y plant hyn yn ddiogel.  Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r geiriad yn cael ei adolygu, a gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â’r Cyfarwyddwr os oeddent o’r farn bod unrhyw beth arall yn yr adroddiad yn annelwig. 

·         Gan gyfeirio at y Cynllun Awtistiaeth (tudalen 169 o’r rhaglen), nodwyd y deellid yn flaenorol bod y Cynllun yn cychwyn gyda phlant ac yn symud ymlaen i bobl, ond bod sôn am blant a phobl yn yr un paragraff yma.  Mewn ymateb, nodwyd balchder bod y Cynllun yn ei le a’i fod wedi deillio o ddysgu o brofiadau unigolion sydd ag awtistiaeth, a nodwyd y mawr obeithid y byddai hynny’n parhau.  Cytunid bod yna waith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH

Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth.

 

[Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.]

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am 2022/23.

 

Cofnod:

Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer 2022/23.

 

Diolchodd cyn-gadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth, y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith a staff y Gwasanaeth Democratiaeth am eu holl gefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am 2022/23.

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2021/22 pdf eicon PDF 623 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ei adroddiad blynyddol ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yng nghyswllt cefnogaeth i aelodau.  Diolchodd y Pennaeth i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yn ystod cyfnod yr adroddiad, y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion o fewn y gwasanaeth sy’n rhoi’r gefnogaeth o ddydd i ddydd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Holwyd a fyddai’n bosib’ trefnu hyfforddiant i’r aelodau ar sut i ddefnyddio’r Fewnrwyd Aelodau.  Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai hynny’n bosib’, a nodwyd bod swyddogion TG ar gael i ddarparu cymorth o ddydd i ddydd i’r aelodau hefyd.

·         Mewn ymateb i sylw bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn araf yn cyhoeddi canlyniadau’r etholiadau diweddar, nodwyd bod y swyddogion yn ymwybodol bod peth oedi wedi bod gyda rhai canlyniadau, ac yn ymwybodol beth sydd angen ei roi mewn lle er sicrhau bod yr holl ganlyniadau yn ymddangos yn amserol yn y dyfodol.

·         Mynegwyd anfodlonrwydd bod dyddiadau cyfarfodydd wedi newid ers i’r Cyngor fabwysiadu calendr pwyllgorau 2022/23 yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.  Mewn ymateb, ymddiheurwyd am unrhyw anhwylustod roedd hyn wedi’i achosi i’r aelodau, ond eglurwyd bod dyddiad y cyfarfod hwn o’r Cyngor wedi ei symud ymlaen wythnos am resymau yn ymwneud â chynllunio busnes y Cyngor, a bod hynny wedi’i rannu yn y Grŵp Busnes yn syth ar ôl yr etholiadau.

·         Diolchwyd i’r Gwasanaeth Democratiaeth am gynnal cyfundrefn bwyllgorau’r Cyngor yn ystod y cyfnod Cofid tra roedd pawb yn gweithio o gartref.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2021/22 pdf eicon PDF 201 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cynghorydd Beth Lawton, adroddiad blynyddol craffu ar gyfer 2021/22.  Diolchodd i’r cadeiryddion ac is-gadeiryddion craffu a’r holl aelodau craffu am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.  Diolchodd hefyd i swyddogion y Gwasanaeth am gefnogi’r aelodau a llunio’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

12.

ADOLYGU ROL CRAFFU YN SGIL NEWIDIADAU I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO AC ADDASIADAU I'R CYFANSODDIAD YN SGIL PENODI CABINET pdf eicon PDF 425 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth a’r Fforwm Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1. Addasu Adran 13 Rhan 2 y Cyfansoddiad drwy ddileu’r swyddogaethau canlynol o gylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: “adolygu a chraffu ar faterion yn ymwneud â gweithrediad mewnol y Cyngor megis strategaethau corfforaethol, partneriaethau, ymgysylltu , trawsnewid busnes, trefniadau effeithlonrwydd a’r gweithlu a’r swyddogaethau a gyflawnir gan yr Adran Gyllid, yr Adran Gefnogaeth Gorfforaethol a’r Tîm Arweinyddiaeth.”

2. Addasu Rhan 7 o’r Cyfansoddiad yn unol ag Atodiad 1 i’r adroddiad i osod y cyfrifoldebau a nodir gyda’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.

3. Derbyn er gwybodaeth yr addasiadau i Adran 13 – Rhan 2 o’r Cyfansoddiad, Aelodaeth a Chyfrifoldebau Cabinet.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i addasu trefniadau craffu materion corfforaethol, a hefyd yn cyflwyno’r wybodaeth am addasiadau i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD

1.       Addasu Adran 13 Rhan 2 y Cyfansoddiad drwy ddileu’r swyddogaethau canlynol o gylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: “adolygu a chraffu ar faterion yn ymwneud â gweithrediad mewnol y Cyngor megis strategaethau corfforaethol, partneriaethau, ymgysylltu , trawsnewid busnes, trefniadau effeithlonrwydd a’r gweithlu a’r swyddogaethau a gyflawnir gan yr Adran Gyllid, yr Adran Gefnogaeth Gorfforaethol a’r Tîm Arweinyddiaeth.”

2.       Addasu Rhan 7 o’r Cyfansoddiad yn unol ag Atodiad 1 i’r adroddiad i osod y cyfrifoldebau a nodir gyda’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.

3.       Derbyn er gwybodaeth yr addasiadau i Adran 13 – Rhan 2 o’r Cyfansoddiad, Aelodaeth a Chyfrifoldebau Cabinet.

 

13.

PANEL CYFWELD AELOD LLEYG I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 181 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Addasu aelodaeth Panel Cyfweld Aelodau Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a’r Aelod Cabinet Cyllid.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid adroddiad yn nodi ei bod yn briodol adolygu aelodaeth Panel Cyfweld Aelodau Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gan fod Cadeirydd y pwyllgor bellach yn aelod lleyg, ac yn argymell addasu’r aelodaeth i gynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a’r Aelod Cabinet Cyllid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd na fyddai Cadeirydd / Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn aelodau o’r Fforwm Craffu gan fod y rôl craffu yn symud oddi wrth y pwyllgor yn sgil newidiadau yn y ddeddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD addasu aelodaeth Panel Cyfweld Aelodau Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a’r Aelod Cabinet Cyllid.

 

14.

PENODI AELODAU I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 247 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1 Penodi’r Cynghorwyr Beth Lawton, Anne Lloyd-Jones a Dewi Owen i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau fel Aelodau Etholedig tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yn dilyn eu penodiad.

2 Penodi’r Cynghorydd Richard Parry Hughes, Cyngor Cymuned Llannor, i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau fel Aelod Pwyllgor Cymunedol tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yn dilyn ei benodiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar y broses o benodi Aelodau Etholedig ac Aelod Pwyllgor Cymunedol o’r Pwyllgor Safonau, gan wahodd y Cyngor i dderbyn argymhelliad y Grŵp Busnes i benodi’r Cynghorwyr Beth Lawton, Anne Lloyd-Jones a Dewi Owen, fel Aelodau Etholedig o’r Pwyllgor, a’r Cynghorydd Richard Parry Hughes, Cyngor Cymuned Llannor, fel Aelod Pwyllgor Cymunedol, tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yn dilyn eu penodiad.

 

PENDERFYNWYD

1.       Penodi’r Cynghorwyr Beth Lawton, Anne Lloyd-Jones a Dewi Owen i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau fel Aelodau Etholedig tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yn dilyn eu penodiad.

2.       Penodi’r Cynghorydd Richard Parry Hughes, Cyngor Cymuned Llannor, i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau fel Aelod Pwyllgor Cymunedol tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yn dilyn ei benodiad.

 

15.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL / PANEL HEDDLU A THROSEDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 500 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.   Mabwysiadu’r dyraniad seddau fel a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad, gan ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail y cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

2.   Enwebu’r Cynghorwyr Edgar Wyn Owen (Grŵp Plaid Cymru) a John Pughe (Grŵp Annibynnol) i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y Cyngor hwn yn unol â’r dyraniad a roddwyd i Wynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad:-

 

·         ar adolygiad o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor yn sgil ffurfio grŵp gwleidyddol newydd, sef Grŵp Llafur/Rhyddfrydol, dan arweiniad y Cynghorydd Stephen Churchman;

·         yn gwahodd y Cyngor i enwebu un aelod o Grŵp Plaid Cymru ac un aelod o’r Grŵp Annibynnol i i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y Cyngor hwn yn unol â’r dyraniad a roddwyd i Wynedd.

 

PENDERFYNWYD

1.         Mabwysiadu’r dyraniad seddau fel a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad, gan ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail y cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

2.         Enwebu’r Cynghorwyr Edgar Wyn Owen (Grŵp Plaid Cymru) a John Pughe (Grŵp Annibynnol) i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y Cyngor hwn yn unol â’r dyraniad a roddwyd i Wynedd.

 

 

16.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

17.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rhys Tudur

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Rhys Tudur yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“O ystyried yr argyfwng a achosir gan ddiffyg rheolaeth ar ail dai, cynigiaf bod y Cyngor Llawn yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar yr ymgynghoriadau canlynol a ddaeth i ben ym mis Chwefror a Mawrth; deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, cynllun tai cymunedau Cymraeg, ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

O ystyried yr argyfwng a achosir gan ddiffyg rheolaeth ar ail dai, bod y Cyngor Llawn yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar yr ymgynghoriadau canlynol a ddaeth i ben ym mis Chwefror a Mawrth; deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, cynllun tai cymunedau Cymraeg, ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir.

 

Cofnod:

 

(A)      Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Rhys Tudur o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“O ystyried yr argyfwng a achosir gan ddiffyg rheolaeth ar ail dai, bod y Cyngor Llawn yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar yr ymgynghoriadau canlynol a ddaeth i ben ym mis Chwefror a Mawrth; deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, cynllun tai cymunedau Cymraeg, ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir.”

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Bod y cynigion yn glodwiw, a bod rhaid rhoi clod i’r Llywodraeth amdanynt, ond er i’r ymgynghoriadau ddod i ben ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni, nad oedd dim wedi’i gynnig na’i gyhoeddi yn eu sgil.

·         Na allai’r materion hyn lithro heibio haf arall tan y flwyddyn nesaf, a’i bod yn hollbwysig bod aelodau Gwynedd, fel cynrychiolwyr y sir sydd â’r nifer uchaf o dai haf drwy Gymru gyfan, yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithredu, ac yn eu hatgoffa o’r sefyllfa argyfyngus yn y sir.

·         Y croesawid bod arwyddion o symud ar y pwnc, ond na ellid dibynnu ar arwyddion yn unig, a bod rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar yr ymgynghoriadau hyn heb oedi, er budd ein cymunedau a’n hiaith.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

“O ystyried yr argyfwng a achosir gan ddiffyg rheolaeth ar ail dai, bod y Cyngor Llawn yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar yr ymgynghoriadau canlynol a ddaeth i ben ym mis Chwefror a Mawrth; deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, cynllun tai cymunedau Cymraeg, ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir.”

 

18.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion). Newidiodd hyn ar Nos Sul Mehefin 5ed gyda ein Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau terfynol y Gystadleuaeth yma. 

 

Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm Cenedlaethol ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol. Mae’r Cyngor hefyd yn llongyfarch Cymdeithas Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth Cenedlaethol Cymreig o fewn y tîm i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru, ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed Cymru DIOLCH.

 

Yn ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd pob mantais o’n presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i hyrwyddo Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y llwyfan byd-eang yma.”

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion).  Newidiodd hyn ar Nos Sul Mehefin 5ed gyda ein Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau terfynol y Gystadleuaeth yma. 

 

Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm Cenedlaethol ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol.  Mae’r Cyngor hefyd yn llongyfarch Cymdeithas Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth Cenedlaethol Cymreig o fewn y tîm i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru, ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed Cymru DIOLCH.

 

Yn ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd pob mantais o’n presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i hyrwyddo Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y llwyfan byd-eang yma.

 

Cofnod:

 

(A)      Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gif

“Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion).  Newidiodd hyn ar Nos Sul Mehefin 5ed gydag ein Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau terfynol y Gystadleuaeth yma.

 

Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm Cenedlaethol ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol.  Mae’r Cyngor hefyd yn llongyfarch Cymdeithas Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth Cenedlaethol Cymreig o fewn y tîm i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru, ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed Cymru DIOLCH.

 

Yn ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd pob mantais o’n presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i hyrwyddo Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y llwyfan byd-eang yma.”

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Mai pwrpas y cynnig oedd llongyfarch y tîm ar eu perfformiad, ond yn llawer iawn mwy na hynny, llongyfarch Cymdeithas Pêl Droed Cymru am y ffordd maent wedi magu balchder yn y Tîm Cenedlaethol.

·         Bod y Gymdeithas Pêl Droed wedi arwain y ffordd i feithrin hyn trwy ddod â siaradwyr Cymraeg a di-gymraeg at ei gilydd i ymfalchïo ein bod ni yn wlad gydag iaith a diwylliant unigryw ein hunain.

·         Bod hyn yn wers, nid yn unig i bob cymdeithas chwaraeon arall yn ein gwlad, ond hefyd yn wers i bob sefydliad arall yn ein gwlad.

·         Bod angen i Lywodraeth Cymru fanteisio hyd eithaf eu gallu ar y ffaith y bydd Cymru ar lwyfan byd-eang, a mynd ati i werthu ein gwlad fel gwlad hyderus, agored, fyrlymus, weithgar, gyda’i diwylliant unigryw.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau, a dymunwyd yn dda hefyd i Dîm Pêl-droed Merched Cymru yn eu hymdrech hwythau i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Merched 2023.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

“Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion).  Newidiodd hyn ar Nos Sul Mehefin 5ed gydag ein Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau terfynol y Gystadleuaeth yma.

 

Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm Cenedlaethol ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol.  Mae’r Cyngor hefyd yn llongyfarch Cymdeithas Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth Genedlaethol Gymreig o fewn y tîm i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru, ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18.