skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml Leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Y Cynghorwyr Glyn Daniels, Annwen Hughes, Elwyn Jones, June Jones,  Kim Jones, Beth Lawton, Linda Morgan, Arwyn Herald Roberts, Meryl Roberts, Einir Wyn Williams a Sasha Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Elwyn Jones, ar golli ei wraig. Anfonwyd cofion at y Cadeirydd a’r teulu yn eu colled.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Llongyfarchwyd pawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru yn ddiweddar ynghyd a phawb o Wynedd a fu’n cystadlu yng ngemau’r Gymanwlad ym Mirmingham dros yr Haf.

 

Llongyfarchwyd pawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.  Daeth y prif wobrau i gyd i Wynedd, neu i rai wedi eu magu yng Ngwynedd, yn arbennig Esyllt Maelor, Morfa Nefyn, gwraig a mam dau Gynghorydd yng Ngwynedd, ar ennill y Goron.

 

Llongyfarchwyd disgyblion y Sir ar eu canlyniadau Lefel A a TGAU.

 

Gwahoddwyd y Swyddog Monitro i egluro natur cyfarfod arbennig. Nododd bod Cadeirydd y Cyngor wedi derbyn cais wedi ei lofnodi gan bum Aelod o’r Cyngor yn galw am gyfarfod arbennig. Ategodd fod  natur a sgôp y cyfarfod wedi cael ei osod yn y cais cyfarfod a dyma fyddai yn cynrychioli y busnes i’w drafod gan gynnwys yr hyn y gellir yn briodol ei gynnig.  Atgoffwyd yr Aelodau eu bod, fel corff, yn cynrychioli’r Awdurdod Addysg Statudol ac fel aelodau yn cyfarfod yn y rôl honno; ac fel aelodau etholedig bod eu cyflwyniadau a’u datganiadau yn y cyfarfod yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ac i Safon Gwynedd.

 

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

5.

Y COD ADDYSG CYDBERTHYNAS A RHYWIOLDEB pdf eicon PDF 79 KB

1.       Yn unol ag adran 4.12.1 (d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd cais i’r Cadeirydd gan y pum aelod a nodir, yn galw am gyfarfod o’r Cyngor i ystyried y mater oedd wedi ei gynnwys yn y cais.

 

2.    Pecyn Gwybodaeth

a)    1. Cais am Gyfarfod Arbennig

2. Atodiad i’w cais – copi Gorchymyn Uchel Lys

 

b)    1. Adroddiad yr Adran Addysg

2. Atodiad - Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Gwrthod y cynnig i gyfeirio'r materion, fel a nodwyd yn y cais am Gyfarfod Arbennig o’r Cyngor Llawn, ar gyfer ystyriaeth frys gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gyda'r hawl i alw arbenigwyr allanol i mewn i’r Pwyllgor hwnnw

 

Cofnod:

Ar gais y Cadeirydd, derbyniwyd ac eiliwyd cynnig gan y Cynghorydd Louise Hughes i gyfeirio'r materion sydd yn ymwneud a chyflwyno’r Cwricwlwm Addysg Cydberthynas  a  Rhywioldeb yng Nghymru o fis Medi 2022, ar gyfer ystyriaeth frys gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gyda'r hawl i alw arbenigwyr allanol i mewn i’r Pwyllgor hwnnw.

 

Gwahoddwyd y Cyng. Louise Hughes i ymhelaethu ar y cynnig. Nododd y sylwadau canlynol:

·         Diolch am dderbyn cais cyfarfod arbennig ac i bawb am fynychu.

·         Ei bod wedi galw cyfarfod oherwydd bod effaith cyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn amlygu pryder a phoen meddwl iddi ynghyd ac anwybodaeth lawn o’r pwnc. Pwysig felly rhannu gwybodaeth a chynnal trafodaeth agored (gan dderbyn bydd gwahaniaeth barn)

·         Bod cyflwyno Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn statudol ac eisoes wedi ei gyflwyno yn Yr Alban a Lloegr – i’w gyflwyno yng Nghymru 01/09/22

·         Bydd yr addysg yn cael ei gynnwys ar draws y cwricwlwm ac nid fel pwnc unigol – hyn yn peri pryder

·         Bod achos Adolygiad Barnwrol ynglŷn â chyflwyniad y pwnc wedi ei dderbyn gan yr Uchel Lys

·         A yw cyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn diogelu ein plant? Yn eu gwarchod rhag pwy ac o beth?

·         Bod cynnwys y cwricwlwm wedi ei selio ar waith Alfred Kinsey sydd yn dyddio’n ôl i’r 1940au - ymddygiad gwahanol yn y cyfnod yma

·         Ei bod yn annog cyd Aelodau i ddarllen dogfennaeth Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) 

·         Bod yr addysg yn yr Alban eisoes yn cynnig cyfarwyddiadau eglur i blant 9-12 oed ar sut i gael rhyw

·         Bod gemau adnabod a sut i enwi  rhannau o’r corff yn Loegr ac yn yr Alban ar gyfer plant 7-9 oed yn cael eu cynnwys yn y cyfarwyddiadau a bod yr addysg i ddechrau gyda phlant 3 oed.

·         Yn ôl ymchwil, ni ddylai plant gael cynnig unrhywbeth nad ydynt yn gallu ei brosesu - rhaid ystyried bod aeddfedrwydd yn sail i wneud  penderfyniadau

·         Fel Cynghorwyr, rheini a llywodraethwyr dylai’r mater gael ei graffu – yn croesawu trafodaeth

 

Gwahoddwyd eilydd i’r cynnig, y Cyng. Gruffydd Williams i gyflwyno sylwadau

·         Nad oedd yn ymwybodol bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal

·         Bod angen sicrhau tryloywder. Angen rhannu gwybodaeth am derminoleg a themâu'r cwricwlwm

·         A fydd deunyddiau, hyfforddiant, adnoddau ar gael?

·         Angen sicrhau diogelwch plant drwy sicrhau bod mwy o gymorth ar gael cyn gweithredu. Cymryd mai athrawon a chymorthyddion yw’r ‘ymarferion’?

·         Angen canllawiau mwy penodol – a oes asesiad addasrwydd oed a datblygiad wedi ei gwblhau? A oes tystiolaeth wedi ei gyflwyno?

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Beca Brown i agor yr ymateb fel yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am faterion addysg. Nododd y sylwadau isod:

 

·         Bod y deunydd sydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol a trwy ddrysau pobol yn ddiweddar, gan griw sy’n lobïo yn erbyn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn ddeunydd cwbl anghywir a gwallus

·         Nad oedd eisiau enwi’r grŵp lobïo na rhoi platfform na chyhoeddusrwydd i bobl sy’n gweithredu mewn ffordd anghyfrifol, ac sydd mewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.