9. |
CYLLIDEB 2024/25 PDF 258 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd
gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb o
£331,814,710 ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £233,316,780
a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).
(b) Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad.
2. Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen
benderfyniad dyddiedig 23 Chwefror 2024, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a
ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran
33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-
(a) 56,109.27 yw’r swm a gyfrifwyd fel ei Sylfaen Dreth
Cyngor am y flwyddyn yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y
Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd.
(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen Drethiannol Cymuned –
Aberdaron
|
607.86
|
|
Llanddeiniolen
|
1,879.99
|
Aberdyfi
|
1,199.84
|
|
Llandderfel
|
513.67
|
Abergwyngregyn
|
127.25
|
|
Llanegryn
|
170.33
|
Abermaw (Barmouth)
|
1,279.39
|
|
Llanelltyd
|
316.11
|
Arthog
|
686.30
|
|
Llanengan
|
2,611.78
|
Y Bala
|
805.81
|
|
Llanfair
|
365.02
|
Bangor
|
4,216.67
|
|
Llanfihangel y Pennant
|
251.26
|
Beddgelert
|
342.39
|
|
Llanfrothen
|
237.05
|
Betws Garmon
|
146.14
|
|
Llangelynnin
|
469.59
|
Bethesda
|
1,729.69
|
|
Llangywer
|
154.76
|
Bontnewydd
|
470.78
|
|
Llanllechid
|
362.98
|
Botwnnog
|
470.80
|
|
Llanllyfni
|
1,485.90
|
Brithdir a Llanfachreth
|
470.72
|
|
Llannor
|
931.18
|
Bryncrug
|
348.73
|
|
Llanrug
|
1,148.76
|
Buan
|
239.47
|
|
Llanuwchllyn
|
335.02
|
Caernarfon
|
3,689.58
|
|
Llanwnda
|
848.52
|
Clynnog Fawr
|
489.48
|
|
Llanycil
|
211.80
|
Corris
|
323.38
|
|
Llanystumdwy
|
929.25
|
Criccieth
|
1,004.64
|
|
Maentwrog
|
328.15
|
Dolbenmaen
|
656.05
|
|
Mawddwy
|
377.08
|
Dolgellau
|
1,284.66
|
|
Nefyn
|
1,656.10
|
Dyffryn Ardudwy
|
861.12
|
|
Pennal
|
238.42
|
Y Felinheli
|
1,192.74
|
|
Penrhyndeudraeth
|
822.80
|
Ffestiniog
|
1,816.64
|
|
Pentir
|
1,300.06
|
Y Ganllwyd
|
90.89
|
|
Pistyll
|
306.53
|
Harlech
|
852.33
|
|
Porthmadog
|
2,268.75
|
Llanaelhaearn
|
482.64
|
|
Pwllheli
|
1,834.49
|
Llanbedr
|
373.86
|
|
Talsarnau
|
364.36
|
Llanbedrog
|
855.68
|
|
Trawsfynydd
|
517.21
|
Llanberis
|
797.48
|
|
Tudweiliog
|
512.69
|
Llandwrog
|
1,066.90
|
|
Tywyn
|
1,779.66
|
Llandygai
|
1,022.19
|
|
Waunfawr
|
577.90
|
sef y symiau a gyfrifwyd
fel symiau Sylfaen y Dreth Cyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y
rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer
y flwyddyn 2024/25 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
(a)
|
£570,459,760
|
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf
(gwariant gros).
|
(b)
|
£236,024,890
|
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf
(incwm).
|
(c)
|
£334,434,870
|
Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng
cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol
ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn
(cyllideb net).
|
(ch)
|
£232,821,120
|
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif
y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth
Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r
Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.
|
(d)
|
£1,811.00
|
Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y
cyfan wedi ei rannu gan y swm ... view the full Penderfyniad text for item 9.
|
10. |
ADOLYGU TREFNIADAU CRAFFU PDF 263 KB
Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu Opsiwn 1 – sef cadw at y trefniadau pwyllgorau
craffu cyfredol gan gymeradwyo’r camau gweithredu i wella effeithlonrwydd sydd
wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 i’r adroddiad.
|
11. |
PROSES YMGYNGHORI - PLEIDLAIS SENGL DROSGLWYDDADWY AR GYFER ETHOLIADAU CYNGOR GWYNEDD PDF 209 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
- Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r amserlen a’r
broses arfaethedig ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad ar newid i gyfundrefn
Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau i Gyngor Gwynedd o 2027
ymlaen.
- Bod y Cyngor yn dirprwyo paratoi a chynnal yr
ymgynghoriad i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymgynghoriad a’r
Aelod Cabinet dros Gefnogaeth Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol (Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth).
- Bod y ddogfen ymgynghori yn cael ei pharatoi
mewn ymgynghoriad gydag arweinyddion grwpiau gwleidyddol y Cyngor.
|
12. |
STRATEGAETH GYFALAF 2024/25 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYCA) PDF 244 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r
Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2024/25
|
13. |
CYTUNDEB CYFLAWNI - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD PDF 216 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn:-
- Cymeradwyo
fersiwn terfynol o Gytundeb Cyflawni – Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd
(sydd wedi ymgorffori’r diwygiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori
cyhoeddus).
- Cytuno i gyflwyno’r Cytundeb Cyflawni i
Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cymeradwyaeth.
- Dirprwyo hawl
i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl
yr angen.
|
14. |
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2022-23 A CHYFLWYNO ADOLYGIAD O BOLISI DIOGELU CYNGOR GWYNEDD PDF 166 KB
Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
- Derbyn yr
adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y
flwyddyn 2022-23.
- Nodi’r Polisi
Diogelu diwygiedig (Atodiad 2 i’r adroddiad) ynghyd â’r Cylch Gorchwyl
diwygiedig ar gyfer y Panel Strategol Diogelu (Atodiad 3).
|
15. |
DIWYGIO CYFANSODDIAD - TREFN DATRYS MEWNOL PDF 233 KB
Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn:-
- Mabwysiadu’r newidiadau i'r Drefn Datrys
Mewnol (Atodiad 1 i’r adroddiad).
- Mabwysiadu’r addasiadau i Adran 7 – Craffu
(Atodiad 2)
- Derbyn yr adroddiad ar yr addasiadau
dirprwyedig (Atodiad 3).
|
16. |
AROLYGON CYMUNEDOL O DAN DDEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH) CYMRU 2013 PDF 175 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynnal arolygon
cymunedol o dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)
Cymru 2013 a’r cylch gwaith.
|
17. |
ADOLYGIAD O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 264 KB
Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
- Mabwysiadu’r dyraniad seddau fel a nodir isod
gan ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud
penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â
dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.
A
|
Plaid Cymru
|
Annibynnol
|
Llafur Rhydd
|
Cyfanswm
|
Pwyllgor Craffu Addysg
ac Economi
|
12
|
6
|
0
|
18
|
Pwyllgor Craffu
Cymunedau
|
12 11
|
5 6
|
1
|
18
|
Pwyllgor Craffu Gofal
|
12 11
|
5 6
|
1
|
18
|
Llywodraethu ac
Archwilio
|
8
|
4
|
0
|
12
|
B
|
Plaid Cymru
|
Annibynnol
|
Llafur Rhydd
|
Cyfanswm
|
Gwasanaethau
Democrataidd
|
10 9
|
4 5
|
1
|
15
|
Cynllunio
|
10 9
|
4 5
|
1
|
15
|
Trwyddedu
Canolog/Cyffredinol
|
10
|
5
|
0
|
15
|
Iaith
|
10
|
5
|
0
|
15
|
Penodi Prif Swyddogion
|
10
|
5
|
0
|
15
|
Apelau Cyflogaeth
|
5
|
2
|
0
|
7
|
Nifer y seddau
|
99
|
45
|
4
|
148
|
C
|
Plaid Cymru
|
Annibynnol
|
Llafur Rhydd
|
Cyfanswm
|
Pensiynau
|
4
|
2
|
1
|
7
|
Cydbwyllgor Ymgynghorol
Lleol
|
7
|
4
|
0
|
11
|
CYSAG
|
5 4
|
2 3
|
0
|
7
|
Cyfanswm y seddau
|
115
|
53
|
5
|
173
|
2.
Enwebu’r Cynghorydd Elwyn Jones (Grŵp
Annibynnol) i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y
Cyngor hwn.
|
18. |
CALENDR PWYLLGORAU 2024/25 PDF 121 KB
Cyflwyno adroddiad
y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer
2024/25.
|
19. |
RHYBUDDION O GYNNIG
Dogfennau ychwanegol:
|
19a |
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig
fel a ganlyn:-
Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym
Mis Medi rybudd o gynnig yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu
rhoi 10% o dir ffermydd drosodd
i goedwigaeth fel rhan o’r
Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-
I alw ar Lywodraeth Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni effaith
cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir
ffermydd Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau
i ofynion statudol a pholisïau megis Parthau Perygl
Nitradau (NVZ).
Dogfennau ychwanegol:
|
19b |
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dewi Jones
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Dewi Jones yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae Cyngor Gwynedd yn datgan cefnogaeth
i'r sector amaeth ac amaethwyr Cymru.
Mae'r Cyngor yn credu bod
amaethwyr Cymru yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i economi ein gwlad, i'r iaith
Gymraeg, ein diwylliant a'n treftadaeth, a bod angen cefnogi'r sector pwysig
hwn.
Galwa'r Cyngor ar Lywodraeth
Cymru i wrando ar farn a phryderon amaethwyr - a'r undebau amaeth - wrth iddynt
ymgynghori ar deddfwriaeth newydd.
Dogfennau ychwanegol:
|
19c |
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Craig ab Iago
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Craig ab Iago yn cynnig
fel a ganlyn:-
Rydym yn galw ar Lywodraeth
Llafur Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu
i fynnu sicrwydd
gan eu cymheiriaid
ym Mhencadlys y Blaid Lafur yn Llundain eu bod, os yn fuddugol yn yr Etholiad Cyffredinol
nesaf, yn rhoi stop yn syth ar bolisïau llymder y Blaid Geidwadol sydd wedi bod mor ddifaol i gymunedau Gwynedd a Chymru dros y 13 mlynedd diwethaf.
Dogfennau ychwanegol:
|
20. |
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL PDF 189 KB
(1) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
rybudd o gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 28 Medi, 2023 o’r
Cyngor ynglŷn â chefnogi’r fferm deuluol
Gymreig a throsi tiroedd amaethyddol yn goedwigoedd.
(2) Llythyr gan
Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd John Pughe Roberts
i gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â mesurau
rheoli TB.
(3) Llythyr gan y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a
Datblygu mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin Hywel i gyfarfod 7
Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza.
(4) Llythyr
gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Ellin Hywel i
gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza.
Dogfennau ychwanegol:
|
|