skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr:- Elwyn Jones, Dilwyn Lloyd, Eirwyn Williams a Gareth Williams.

 

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 382 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 7 - Adolygiad Blynyddol – Polisi Tâl y Cyngor 2022/23, ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol, gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.

 

Roedd o’r farn bod gan y swyddogion fuddiant o sylwedd, ac ynghyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Y Pennaeth Cyllid Statudol a’r Pennaeth Tai ac Eiddo, gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem, gan nad oeddent angen bod yn bresennol i gynghori.  Arhosodd y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i mewn yn y cyfarfod i gynghori.

 

Gan gyfeirio at eitem 12 – Adroddiad Adolygu – Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, nododd y Swyddog Monitro fod ambell aelod o’r Cyngor ymhlith y sawl oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad, ond oherwydd natur yr adroddiad, a chan gymryd na fyddai trafodaeth benodol ar fanylion y cynllun, na chredai bod angen i unrhyw un ddatgan buddiant.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theulu cyn-gadeirydd y Cyngor hwn, Evie Morgan Jones, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Annwen Hughes.

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol hefyd:-

 

·         Y Cynghorydd Menna Baines a’r teulu ar golli tad Menna.

·         Y Cynghorydd Eirwyn Williams a’r teulu ar golli mam Eirwyn yn gant oed.

·         Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts a’r teulu ar golli mam Liz.

·         Teulu Aled Roberts, y Comisiynydd Iaith, a fu farw’n ddiweddar. 

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Rhoddwyd datganiad gan yr Arweinydd ar ran y Cyngor ar y sefyllfa yn Wcráin.  Nododd:-

 

·         Y dymunai ddatgan cefnogaeth y Cyngor i bobl Wcráin a’u hawl sylfaenol i benderfynu eu tynged eu hunain, heb gael eu gormesu drwy drais gan wladwriaeth unbeniaethol.

·         Y byddai Cyngor Gwynedd yn barod i wneud ei ran i groesawu unrhyw ffoaduriaid a chynnig lloches iddynt yn ddiamod.

·         Ei fod yn flin nad yw Llywodraeth San Steffan yn derbyn ffoaduriaid yn ddiamod fel mae gwleydd eraill Ewrop wedi gwneud, a bod eu hagwedd yn ddidrugaredd a chreulon.

·         Iddo fod mewn cyfarfod y diwrnod cynt rhwng arweinyddion cynghorau Cymru a Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o fudiadau gwirfoddol, a bod o gwaith o gydlynu a pharatoi yn mynd rhagddo.

·         Bod pobl Gwynedd yn awyddus i helpu ymhob ffordd bosib’, ac y byddai’r Cyngor yn gwneud ei orau i roi arweiniad a chymorth ble gallai. 

·         Y byddai cysylltiadau a argymhellir gan y Llywodraeth o ran cynorthwyo a gwneud cyfraniadau yn cael eu rhannu gyda’r aelodau maes o law.

 

Nododd yr Arweinydd ymhellach iddo dderbyn cwestiwn ynglŷn ag unrhyw gysylltiad masnachol gyda chwmnïau o Rwsia, ac yn benodol ynglŷn â buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Gwynedd.  Eglurodd fod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn buddsoddi trwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, a bod datganiad a baratowyd gan y bartneriaeth honno yn nodi:-

 

“Mae cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag 1%.  Er hynny, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

 

O ystyried yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn posibl.”

 

Nododd yr Arweinydd ymhellach mai’r drasiedi fawr yn yr achos yma oedd bod perthynas agos a chyfeillgar yn bodoli rhwng pobl Wcráin a phobl Rwsia, a’i bod yn bwysig sylweddoli fod pobl Rwsia yn dioddef hefyd, ac nad eu rhyfel hwy oedd hwn.  Ychwanegodd yr edmygid dewrder y sawl sy’n barod i fynegi eu gwrthwynebiad i’r rhyfel yma yn wyneb erledigaeth lem, a mawr obeithid y byddai’r trafodaethau’n parhau, ac y deuai heddwch maes o law.

 

Nododd y Cadeirydd, ar drothwy etholiadau lleol 2022, bod 22 arweinydd cynghorau Cymru wedi cymeradwyo datganiad ynglŷn â chynnal yr ymgyrch etholiadol, oedd yn galw ar bleidiau ac ymgeiswyr i ymrwymo i ymgyrchu mewn modd sydd yn deg a pharchus.  Eglurwyd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

“Pa bryd mae’r Cyngor hwn yn rhagweld fydd staff yn ôl wrth eu desgiau?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Diolch i holl staff y Cyngor am eu gwaith yn ystod yr argyfwng.  Mae’r cwestiwn yn gofyn pryd fydd y staff yn ôl wrth eu desgiau.  Wrth gwrs, mae holl staff y Cyngor wedi parhau i weithio er lles pobl Gwynedd, er bod y ddesg weithiau mewn atig neu ar y bwrdd gegin.  Mae’r ffordd mae’r staff wedi addasu ar fyr rybudd wedi bod yn anhygoel, ac rydw i’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw.  Mae yna lawer o waith wedi mynd i mewn i hyn, ac rydw i wedi cael y cyfle i adrodd i’r Cabinet, ac mae adroddiad wedi mynd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, ond rydw i’n falch heddiw o’r cyfle i ail-adrodd i’r Cyngor llawn. 

 

Mae yna gryn dipyn o sôn a sylw wedi’i roi i “fyd gwaith y dyfodol” ar lefel Cymru gyfan dros y flwyddyn ddiwethaf gyda Llywodraeth Cymru yn datgan nod o alluogi 30% o weithlu’r wlad i fedru gweithio yn agos at, neu o’u cartrefi.

 

Nid yw Cyngor Gwynedd yn wahanol i nifer o sefydliadau eraill yn ei gynllunio ar gyfer hyn.  Mae yna “Grŵp Swyddfeydd” wedi’i sefydlu ers yn gynnar yn 2021, sy’n cydlynu’r gwaith paratoi yn lleol, gyda’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr, y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a swyddogion adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, technoleg gwybodaeth ac eiddo yn rhan o’r Grŵp hwnnw.

 

Mae’r weledigaeth ar gyfer gweithio i’r dyfodol o fewn y Cyngor wedi’i chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Chwefror a bu i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu’r cynnwys cyn hynny.  Mae’r weledigaeth honno yn ffrwyth llafur y Grŵp Swyddfeydd, ond hefyd yn seiliedig ar ymgynghoriad efo gwahanol garfannau o staff y Cyngor yn ogystal â chynrychiolwyr yr undebau llafur yn lleol.

 

Nôd y weledigaeth yw bod y Cyngor yn darparu’r gwasanaethau gorau bosib’ ar gyfer pobl Gwynedd, tra hefyd yn arddangos y Cyngor fel lle da i weithio, a thrwy hynny gadw a denu staff o safon.

 

Gyda’r datganiadau mwyaf diweddar gan Lywodraeth Cymru, a’r tebygolrwydd o lacio pellach ar y cyfyngiadau yn y dyfodol agos, mae’r amser i weithredu’r weledigaeth yn prysur agosáu ac mae’r Prif Weithredwr wedi rhannu amlinelliad o gynllun gweithredu efo staff, sef cynllun sy’n edrych i gael ei weithredu yn raddol, mewn tri cham, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, sef:-

 

·               Caniatáu i’r holl weithwyr hynny sydd yn gorfod, neu’n dymuno, gweithio yn eu canolfannau gwaith gydol yr amser, wneud hynny oddi ar y 7fed o Fawrth,

·               Cadarnhau trefniadau ar gyfer y gweithwyr hynny fydd yn gweithio o adra yn bennaf gyda golwg i gwblhau'r cam yma cyn gwyliau’r Pasg.

·               Cytuno’n derfynol efo pob unigolyn, sydd wedi nodi dymuniad i weithio’n rhannol o adra ac yn rhannol o’r swyddfa, ar y trefniadau gwaith ar gyfer y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2022/23 pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion, y Cynghorydd Mair Rowlands, adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2022/23.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Nododd aelod na ddeallai pam nad oedd Cyngor Gwynedd yn gwneud gofalwyr yn achos arbennig, gan ein bod yn colli staff o’r Adran Gofal.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod Llywodraeth Cymru wedi gosod allan ddyhead i weld gweithwyr gofal yn cael taliad sy’n cyfateb â’r cyflog byw.  Byddai hynny’n digwydd yma yng Ngwynedd, a byddai uwchlaw lefel y cyflog byw petai’r cynnydd a ddisgwylir i’r cyflogau cenedlaethol ym mis Ebrill yn cael ei wireddu.

·         Bod y rhan helaethaf o ofalwyr y Cyngor yn dilyn y cytundeb hir-ddisgwyliedig a gafwyd ddechrau’r wythnos hon ynglŷn â’r codiad cyflog cenedlaethol.  Roedd y rhan helaethaf o’r gofalwyr ar gyflog o £9.99 yr awr, wedi’i ôl-ddyddio i 1 Ebrill, 2021.  Byddai trafodaethau yn cychwyn eto yn ystod mis Ebrill / Mai yn genedlaethol ar godiad cyflog 2022/23, ac roedd yna debygolrwydd cryf y byddai’r codiad cyflog y flwyddyn nesaf yn ganran uwch na’r hyn a ddyfarnwyd ar gyfer y flwyddyn sydd newydd fynd heibio.  Golygai hynny y byddai’r gofalwyr yn sicr ar gyflog rhwng £10 a £10.50 yr awr, wedi ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill, 2022.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2022/23.

 

8.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD - 2018-23 - ADOLYGIAD 2022/23 pdf eicon PDF 327 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2022/23 er mwyn ei weithredu yn ystod 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23: Adolygiad 2022/23 er mwyn ei weithredu yn ystod 2022/23.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes a’i dîm am eu gwaith arwrol wrth baratoi’r cynllun.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Croesawyd bwriad y Llywodraeth i ddarparu cinio am ddim i bob disgybl cynradd, ond holwyd a oedd yna gostau ychwanegol ynghlwm â hynny y byddai’n rhaid i’r Cyngor eu hysgwyddo.  Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y cynllun mor syml ag yr oedd yn ymddangos, ond hyd yma, bod yna ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth Cymru i gyfarch y gost ychwanegol.  Roedd trafodaethau’n digwydd rhwng pob cyngor a’r Llywodraeth er mwyn sefydlu faint yn union fyddai’r costau hynny.  Eglurwyd bod y gost o ddarparu, neu dalu, am y cinio yn un elfen, a bod y gost o ddarparu adeiladau, gofod o fewn yr adeiladau hynny a gwasanaethau cefnogol, ayb, yn elfen ychwanegol nad oedd, o bosib’, wedi’i llawn gostio ar hyn o bryd.  Byddai mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r aelodau wrth i’r manylder ddatblygu, ond roedd y swyddogion yn eithaf ffyddiog ynglŷn â’r sefyllfa ar hyn o bryd.  Nododd yr Arweinydd y byddai yntau’n pwyso’n arw ar y Llywodraeth i ariannu hyn yn llawn.  Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn ag effaith y cynllun ar gyllidebau ysgolion, nodwyd bod pawb yn sylweddoli bod y cynllun yn cael effaith sylweddol ar rai ysgolion, yn enwedig ysgolion mawr, ond cadarnhawyd bod hyn yn rhan o’r trafodaethau gyda’r Llywodraeth.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r cyfeiriad dan Flaenoriaeth Gwella 6 at roi blaenoriaeth i ardal Dolgellau a Meirionnydd yn ehangach wrth adnabod cyfleon am ddarpariaethau gofal, a phwysleisiwyd y dylai’r flaenoriaeth uchaf gael ei rhoi i ddarparu cartref gofal nyrsio ar safle Penrhos, gan nad oedd yna unrhyw welyau nyrsio ar ôl ym Mhen Llŷn bellach.  Mewn ymateb, pwysleisiwyd nad oedd cystadleuaeth rhwng Meirionnydd a Phen Llŷn.  Roedd yna gyfle gwych ym Mhenrhos i greu adnodd arbennig iawn fyddai’n cyfuno’r holl wasanaethau gofal a nyrsio ar un safle, a chadarnhawyd y byddai’r Cyngor yn parhau i bwyso a chydweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd a’r gymdeithas dai i wireddu’r uchelgais yma.

·         Gan gyfeirio at y bid (dan eitem 9 ar y rhaglen) i ddileu’r ffi o £300 am docyn teithio ôl-16, nodwyd bod rhieni yn Nwyfor a Meirionnydd (yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig) fu’n talu’r ffi yma dros y 10 mlynedd diwethaf wedi dioddef anghysondeb ac annhegwch enbyd, ac awgrymwyd bod y Cyngor wedi darganfod yr arian ychwanegol fel abwyd i rieni yn Arfon anfon eu plant i’r colegau.  Mewn ymateb, nodwyd petai’r Cyngor yn cymeradwyo’r bid, y byddai diddymu’r tâl yn cynorthwyo teuluoedd mewn cyfnod lle mae costau byw’n cynyddu’n sylweddol, ac hefyd yn gwella mynediad pobl ifanc i gyrsiau a gwell llwybrau gyrfaoedd.  Eglurwyd hefyd y gwnaethpwyd y penderfyniad i godi ffi am docyn teithio ôl-16 flynyddoedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYLLIDEB 2022/23 pdf eicon PDF 259 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.  Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-

(a)  Sefydlu cyllideb o £295,232,820 ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213,210,400 a £82,022,420 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%.

(b)  Sefydlu rhaglen gyfalaf o £59,074,980 yn 2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

2.  Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 9 Tachwedd 2021, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 53,715.10 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned

 

Aberdaron

     571.25

 

Llanddeiniolen

  1,840.10

Aberdyfi

   1,095.65

Llandderfel

     501.76

Abergwyngregyn

     124.71

Llanegryn

     164.55

Abermaw (Barmouth)

   1,210.43

Llanelltyd

     308.89

Arthog

     654.41

Llanengan

  2,289.52

Y Bala

     781.39

Llanfair

     335.58

Bangor

   3,974.34

Llanfihangel y Pennant

     232.58

Beddgelert

     323.40

Llanfrothen

     233.04

Betws Garmon

     138.27

Llangelynnin

     433.07

Bethesda

   1,701.20

Llangywer

     145.28

Bontnewydd

     436.43

Llanllechid

     348.06

Botwnnog

     460.05

Llanllyfni

  1,425.75

Brithdir a Llanfachreth

     457.62

Llannor

     906.33

Bryncrug

     340.19

Llanrug

  1,137.62

Buan

     227.96

Llanuwchllyn

     316.77

Caernarfon

   3,640.35

Llanwnda

     807.58

Clynnog Fawr

     470.35

Llanycil

     205.27

Corris

     305.84

Llanystumdwy

     885.48

Criccieth

     972.85

Maentwrog

     303.24

Dolbenmaen

     624.58

Mawddwy

     362.81

Dolgellau

   1,275.63

Nefyn

  1,535.07

Dyffryn Ardudwy

     817.14

Pennal

     231.82

Y Felinheli

   1,165.68

Penrhyndeudraeth

     792.98

Ffestiniog

   1,786.14

Pentir

  1,272.62

Y Ganllwyd

       88.69

Pistyll

     264.01

Harlech

     821.55

Porthmadog

  2,160.67

Llanaelhaearn

     466.26

Pwllheli

  1,779.02

Llanbedr

     351.64

Talsarnau

     343.74

Llanbedrog

     780.02

Trawsfynydd

     506.49

Llanberis

     788.78

Tudweiliog

     478.76

Llandwrog

   1,051.46

Tywyn

  1,691.37

Llandygai

   1,001.64

 

Waunfawr

     569.37

 

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

                       

(a)   

£443,927,600

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)   

£146,536,120

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)   

£297,391,480

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

(ch)

£212,714,737

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.  ...  view the full Penderfyniad text for item 9.

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd, yn unol â’r Cyfansoddiad, bod rhaid i’r Pennaeth Cyllid dderbyn rhybudd o unrhyw welliant i’r gyllideb yn ysgrifenedig ymlaen llaw, a bod rhaid i’r gwelliant hwnnw arwain at gyllideb hafal, os am gael ei drafod.  Roedd holl aelodau’r Cyngor wedi’u hatgoffa o hynny yr wythnos cynt, a gan na dderbyniodd y Pennaeth Cyllid unrhyw rhybudd o welliant erbyn yr amser cau dynodedig, ni fyddai modd i’r Cyngor ystyried unrhyw welliant i’r gyllideb.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2022/23;

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 2.95%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Atgoffodd y Pennaeth Cyllid yr aelodau o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 i’r adroddiad, a chadarnhaodd, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r farn bod Cyllideb y Cyngor am 2022/23 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn gyraeddadwy.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Holwyd faint yn llai fyddai’r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi bod pe na fyddai’r Cyngor wedi caniatáu 1 Mawrth fel diwrnod ychwanegol o wyliau i’r staff.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y gwariant ar ganiatáu gwyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi yn wariant o’r flwyddyn ariannol gyfredol, ac fel yr eglurwyd wrth y Cabinet a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, roedd wedi’i ariannu o danwariant mewn cyllidebau penodol corfforaethol.  Eglurwyd mai bid untro oedd yr uchafswm o £200,000 a neilltuwyd ar gyfer hynny, gan na wnaed penderfyniad i ariannu gŵyl banc ar 1 Mawrth yn flynyddol.  Gan hynny, ni fyddai wedi cael effaith o gwbl ar y gyllideb oedd gerbron y Cyngor.

·         Nodwyd y gallai’r Cyngor fod wedi trosglwyddo cost y diwrnod ychwanegol o wyliau staff i’r flwyddyn ariannol nesaf er mwyn lleihau’r cynnydd yn y dreth, a holwyd faint fyddai £200,000 fel canran o’r dreth.  Mewn ymateb, eglurwyd, yn fras, bod cynnydd (neu ostyngiad) o 1% yn y Dreth Gyngor yn gyfystyr â tua £800,000, felly byddai £200,000 tua 0.25%.

·         Nodwyd bod pobl Gwynedd yn flin bod y Cyngor wedi caniatáu diwrnod ychwanegol o wyliau i’r staff, a bod amseriad hyn wedi bod yn warthus.

·         Nodwyd, er y croesawid y ffaith bod arian ar gael i’w wario ar wahanol fidiau eleni, ei bod yn siom o’r mwyaf na chafodd y cynghorwyr cyffredin gyfle i bwyso a mesur y bidiau hynny mewn gweithdai tebyg i’r gweithdai toriadau yn y gorffennol, oherwydd y gallai mewnbwn yr aelodau fod wedi arwain at sefyllfa lle na fyddai’r Cyngor yn edrych ar bleidleisio ar gynnydd treth o 2.95%.  Mewn ymateb, nodwyd bod pob aelod o’r Cyngor wedi cael cyfle i ddod i’r seminarau ar y gyllideb, lle rhannwyd gwybodaeth am y bidiau.

·         Dadleuwyd na fu cyfle i edrych yn iawn ar y bidiau yn y seminarau, ond yn hytrach bod yr aelodau wedi’u tywys drwy’r ffigurau.

·         Nodwyd,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

STRATEGAETH GYFALAF 2022/23 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYCA) pdf eicon PDF 545 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn rhoi trosolwg lefel uchel ar y modd y mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheolaeth trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol.  ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o sut y rheolir risgiau cysylltiedig, a’r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2022/23.

 

11.

ADRODDIAD DRAFFT ASESIAD O ANGHENION POBLOGAETH GOGLEDD CYMRU 2022 pdf eicon PDF 408 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Dafydd Meurig, adroddiad yn rhoi trosolwg, ac yn ceisio cefnogaeth y Cyngor llawn ar gyfer cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022, a luniwyd fel gofyniad dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Tim Prosiectau Oedolion, Iechyd a Llesiant ymhellach ar gynnwys yr adroddiad.

 

Holodd y Cynghorydd Gwynfor Owen a ddylai ddatgan buddiant gan iddo wneud defnydd o Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn ddiweddar, a’i fod hefyd yn ymwneud â materion eraill o fewn y maes.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod yr aelod o fewn ei hawliau gan mai adroddiad o asesiad cyffredinol ar gyfer Gogledd Cymru oedd dan sylw.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd y deellid bod hon yn ddogfen fyw, a holwyd pa mor sydyn y byddai’n gallu cael ei newid.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y ddogfen gerbron yn fersiwn fyddai’n cael ei chymeradwyo gan y Cyngor heddiw, gobeithio, a gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ymhellach ymlaen yn y mis, cyn ei hanfon ymlaen at y Llywodraeth a’i chyhoeddi.  Roedd y swyddogion yn gwneud gwaith mwy manwl ar fanylion ac anghenion Gwynedd, felly gellid addasu unrhyw beth fel rhan o’r gwaith hwnnw.  Byddai’r ddogfen hefyd yn cael ei hadolygu ymhen 5 mlynedd, ond byddai’r swyddogion yn gwneud gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd.  Nodwyd y byddai dogfen Gwynedd yn asesiad ar wahân, nad oedd ynghlwm wrth unrhyw ddyddiad cyhoeddi statudol, a honno fyddai’r gwir ddogfen fyw fyddai ar gael i’w haddasu ac ychwanegu ati o ddydd i ddydd.

·         Mynegwyd pryder na chafodd yr aelodau ond 5 diwrnod i ddarllen y ddogfen 450 tudalen yma, a holwyd sut bod modd iddynt graffu’r mater a gofyn cwestiynau manwl.  Awgrymwyd hefyd, gan mai unwaith yn unig y gall aelodau siarad ar fater yn y Cyngor llawn, bod materion pwysig yn cael eu gwthio drwodd heb drafodaeth.  Cwestiynwyd hefyd pa mor werthfawr fyddai dogfen o’r maint yma i bobl Gwynedd.  O ran y sylwadau ynglŷn â’r ddogfen ‘fyw’, nodwyd bod yr aelodau wedi clywed o’r blaen am bethau felly, ac wedi darganfod yn nes ymlaen nad oedd modd newid y dogfennau hynny am flynyddoedd.  Pryderid hefyd y bydd y Cyngor newydd yn cael clywed nad oes modd iddynt newid y ddogfen, gan fod y Cyngor blaenorol wedi ei mabwysiadu, a galwyd ar yr Aelod Cabinet a’r swyddogion i fod yn fwy ystyriol o hyn allan.

·         Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu Gofal wedi craffu’r mater hwn, ac wedi cefnogi a chydymdeimlo â’r swyddogion, oedd wedi gorfod paratoi’r dogfennau mewn amser byr iawn.

 

I gloi, nododd yr Aelod Cabinet:-

 

·         Bod y swyddogion wedi cyflawni gwaith arwrol o fewn amserlen hynod o dynn, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth.

·         Y gofynnwyd i’r Llywodraeth ganiatáu ychydig mwy o amser oherwydd y pandemig, ond na roddwyd y caniatâd hwnnw.

 

Nododd y Cadeirydd ei fod yntau o’r farn ei bod yn amhosib’ i’r aelodau graffu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

ADRODDIAD ADOLYGU - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD pdf eicon PDF 298 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu yn Atodiad 1 i’r adroddiad a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, fel y gellir cychwyn ar y broses o baratoi Cynllun Diwygiedig.

 

Cofnod:

Eglurodd y Cadeirydd mai adroddiad ar y cam nesaf o’r broses o adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol oedd gerbron, ac nid cyfle i gael trafodaeth ar bolisïau cynllunio unigol.  Eglurodd, petai’r Cyngor yn cytuno i symud ymlaen i gynnal adolygiad llawn o’r cynllun presennol, yna byddai sawl cyfle i gael mewnbwn i bolisïau unigol a thrafod meysydd penodol yn nes ymlaen. 

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith, adroddiad yn ceisio cytundeb y Cyngor llawn i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu a’i yrru ymlaen i Lywodraeth Cymru, er mwyn gallu symud ymlaen gyda’r gwaith o baratoi Cynllun Diwygiedig.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol - Amgylchedd ymhellach ar gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelod unigol:-

 

·         Nodwyd bod llawer o waith wedi mynd i mewn i’r adroddiad, a diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion fu ynghlwm â hyn.

·         Mynegwyd y farn bod yr ieithwedd a’r fiwrocratiaeth ynghlwm â’r ddogfen yn anhygoel ac yn anghredadwy, a bod yr holl drefn gynllunio mor gymhleth, fel nad ydi’r mwyafrif o bobl, gan gynnwys aelodau etholedig, yn deall yn iawn beth sy’n mynd ymlaen.  Awgrymwyd y gellid defnyddio’r gwaith ymgynghorol diwethaf fel enghraifft o hynny, gan mai 5 aelod yn unig oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad hollbwysig hwn. 

·         Gresynwyd nad oedd y swyddogion o’r farn bod yr un o’r agos at 80 o ddangosyddion sy’n cael eu defnyddio ar gyfer arbed yr iaith Gymraeg yn amlygu bod niwed yn cael ei wneud i’r iaith, a’i bod yn ymddangos, heb Brexit a Covid, na fyddai yna unrhyw newidiadau yn cael eu crybwyll o gwbl.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn a beth yn union sy’n cael ei gyflwyno, a beth yn union fydd yn dod yn ôl wedyn gan Lywodraeth Cymru, ac yn waeth na hynny, pryderid yn fawr mai’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd fydd yn ymdrin ag unrhyw newidiadau. 

·         Nodwyd, yn 2017, y bu i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd roi sêl bendith i ddod â’r cynllun gerbron y Cyngor, a chafodd ei basio yno o drwch blewyn.  Y cwbl y gallai’r aelodau wneud ar y pryd oedd ei ganiatáu neu ei wrthod, ac nid oedd modd gofyn am fwy o amser er mwyn i’r aelodau newydd ar y pryd gael cyfle i drafod y polisïau.

·         Nodwyd ein bod yn gweld, dro ar ôl tro, bod y polisïau cynllunio yn gweithio yn groes i ddymuniad yr aelodau i geisio gwarchod ein cymunedau Cymraeg, a phryderid, pan ddaw’r ymateb gan Lywodraeth Cymru, na fydd yr aelodau newydd yn deall pwysigrwydd nac arwyddocâd hyn.

·         Nodwyd dymuniad i ddiddymu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd fel bod Cyngor Gwynedd yn gweithredu ar ei ben ei hun, ond pryderid na fyddai hynny’n digwydd, er bod yr holl dystiolaeth yn amlygu bod yna wahaniaeth mawr rhwng ein dymuniadau ni yng Ngwynedd a dymuniadau Môn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, nododd yr Aelod Cabinet:-

 

·         Y trefnwyd sesiynau i’r aelodau, lle roedd yr Adran Bolisi Cynllunio yn cyflwyno gwybodaeth ynglŷn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

ARGYMHELLIAD PANEL CYFWELD - PENODI AELODAU LLEYG O'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 101 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Cyfweld.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi Mr Hywel Eifion Jones, Mrs Sharon Warnes, Mr Elwyn Rhys Parry a Mrs Clare Hitchcock fel Aelodau Lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o 5 mlynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Panel Cyfweld, y Cynghorydd John Pughe Roberts, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor llawn dderbyn argymhelliad y panel i benodi Mr Hywel Eifion Jones, Mrs Sharon Warnes, Mr Elwyn Rhys Parry a Mrs Clare Hitchcock fel aelodau lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o 5 mlynedd. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd siomedigaeth bod cyn lleied wedi ymgeisio am y rôl.

·         Awgrymwyd y byddai wedi bod o ddiddordeb i’r Cyngor gael ychydig mwy o wybodaeth gefndirol ynglŷn â’r 4 person yr argymhellid eu penodi.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro y dilynwyd y drefn arferol, a bod angen i’r Cyngor fod yn fodlon bod y panel cyfweld wedi dilyn y meini prawf ar gyfer penodi, ac wedi cyflwyno argymhellion sy’n cyd-fynd â’r meini prawf hynny.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd y Panel Cyfweld fod y panel yn hollol hapus gyda’r 4 person yma.

 

PENDERFYNWYD penodi Mr Hywel Eifion Jones, Mrs Sharon Warnes, Mr Elwyn Rhys Parry a Mrs Clare Hitchcock fel Aelodau Lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o 5 mlynedd.

 

14.

AIL-BENODI AELODAU ANNIBYNNOL I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 182 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Gwynfor Owen fuddiant personol oherwydd ei fod, yn ei fusnes cyfieithu, yn gwneud llawer iawn o waith i Mr Aled Jones.

 

Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn nodi fod tymor aelodaeth Mr Aled Jones, aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, yn dod i ben, ac yn argymell i’r Cyngor ei ail-benodi i wasanaethu am dymor pellach o bedair blynedd.

 

Nodwyd, fel aelod presennol o’r Pwyllgor Safonau, bod gwybodaeth ynglŷn â Mr Aled Jones ar gael yn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Mynegodd aelod ei anfodlonrwydd na chyflwynwyd unrhyw wybodaeth gefndirol ynglŷn â’r person yma, a phwysleisiodd yr angen am ddidwylledd a thryloywder, gan nodi bod angen edrych ar sut mae’r penodiadau hyn yn cael eu gwneud.

 

Nododd y Cadeirydd ei fod ar ddeall bod y person yma wedi bod yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Safonau, ac wedi gwneud gwaith clodwiw yn y gorffennol.

 

PENDERFYNWYD ail-benodi Mr Aled Jones fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i wasanaethu am dymor pellach o 4 blynedd.

 

15.

CALENDR PWYLLGORAU 2022/23 pdf eicon PDF 265 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2022/23.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Holwyd a oedd pwynt derbyn y calendr, gan na fyddai llawer o’r aelodau presennol ar y Cyngor ar ôl mis Mai.  Mewn ymateb, nodwyd, er derbyn y sylw, bod angen trefnu calendr am y flwyddyn a rhoi dyddiadau mewn lle, gan roi’r trefniadau i mewn o ochr y swyddogion hefyd, gyda digon o ragrybudd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymarferoldeb cynnal cyfarfod o’r Cyngor ar 2 Mawrth, 2023 pe caniateid diwrnod ychwanegol o wyliau i’r staff ar 1 Mawrth, cadarnhawyd na fyddai hynny’n creu unrhyw anhawster o gwbl.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2022/23.

 

16.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

16a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Judith Humphreys

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Judith Humphreys yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Fod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a’r sefydliadau perthnasol i ymrwymo i:

 

- broffesiynoli chwaraeon merched fel bod merched yn cael yr un cyfleoedd â thâl â dynion.

- sicrhau bod merched yn cael eu cynrychioli ar fyrddau chwaraeon ar bob lefel.

- sicrhau bod cyfleusterau addas ar gyfer chwaraeon merched yn arbennig o ran pêl droed a rygbi.

-bod chwaraeon merched yn cael sylw cyfartal â dynion ar y cyfryngau ac yn y Wasg.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a’r sefydliadau perthnasol i ymrwymo i:

 

- broffesiynoli chwaraeon merched fel bod merched yn cael yr un cyfleoedd â thâl â dynion.

- sicrhau bod merched yn cael eu cynrychioli ar fyrddau chwaraeon ar bob lefel.

- sicrhau bod cyfleusterau addas ar gyfer chwaraeon merched yn arbennig o ran pêl droed a rygbi.

-bod chwaraeon merched yn cael sylw cyfartal â dynion ar y cyfryngau ac yn y Wasg.

 

Cofnod:

 

(A)      Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Judith Humphreys o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gif

“Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a’r sefydliadau perthnasol i ymrwymo i:

 

- broffesiynoli chwaraeon merched fel bod merched yn cael yr un cyfleoedd â thâl â dynion.

- sicrhau bod merched yn cael eu cynrychioli ar fyrddau chwaraeon ar bob lefel.

- sicrhau bod cyfleusterau addas ar gyfer chwaraeon merched yn arbennig o ran pêl droed a rygbi.

-bod chwaraeon merched yn cael sylw cyfartal â dynion ar y cyfryngau ac yn y Wasg.”

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-

 

·         Bod llai o ferched na bechgyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon, a bod merched yn fwy tebygol o beidio â pharhau â chwaraeon ar ôl dechrau.

·         Yn ôl y “Women’s Sports Foundation” a sefydlwyd gan Bille Jean King, mai’r prif reswm dros gael cyfle cyfartal i ferched mewn chwaraeon yw er mwyn i ferched hefyd dderbyn y buddion pwysig a ddaw drwy gyfranogi mewn chwaraeon - sef y buddion seicolegol, ffisiolegol a chymdeithasol.

·         Bod hwn yn fater sy’n teilyngu sylw difrifol swyddogion iechyd cyhoeddus, arweinwyr chwaraeon, addysgwyr a’n gwleidyddion.

·         Yn hanesyddol, nad oedd gan ferched yr hawl i gyfranogi mewn chwaraeon, ond bod diwylliant chwaraeon yn ein cymdeithas hyd heddiw yn fwy gwrywaidd na benywaidd, gyda mwy o statws yn cael ei roi i chwaraeon dynion, a hynny oherwydd bod chwaraeon gwrywaidd yn derbyn llawer mwy o fuddsoddiad ac yn llawer iawn mwy amlwg a gweledol ar y cyfryngau.

·         Yn ôl y “Women’s and Sports Fitness Foundation”, bod buddsoddiad masnachol, a’r sylw ar y cyfryngau mae chwaraeon merched yn dderbyn, yn cyd-blethu â’i gilydd.

·         Er mwyn cynyddu cyfranogiad merched mewn chwaraeon, bod merched angen gweld modelau rôl ysbrydoledig yn y cyfryngau, a chael yr anogaeth mae dynion yn gael.

·         Er bod S4C i’w ganmol am y sylw maent yn rhoi i chwaraeon merched ar y cyfan, mae merched yn llawer llai gweledol yn y cyfryngau a’r Wasg na dynion.

·         Yn 2018, cyhoeddwyd adroddiad ar ba mor weledol yw chwaraeon merched yn y cyfryngau ar draws gwledydd Ewrop.  Roedd 5 gwlad o dan y chwydd wydr, a dengys canlyniadau’r adroddiad nad oedd cyfran darlledu chwaraeon merched yn codi’n uwch na 10% yn yr un o’r 5 gwlad.  Tua 7% yw canran darlledu chwaraeon merched ym Mhrydain!

·         Hefyd, yn anffodus, pan mae merched yn cael sylw, mae’r ffocws yn gallu bod ar be maen nhw’n wisgo, yn hytrach na’u gorchestion athletaidd.

·         Mai ychydig iawn o fuddsoddiad masnachol sydd mewn chwaraeon merched.  Golyga hyn bod tâl merched yn llai, ynghyd â llai o gyfle i gael hyfforddwyr a chyfleusterau safonol.

·         O ystyried y diffyg sylw, y math o sylw, y diffyg hyrwyddo a buddsoddiad, fawr ryfedd bod gan ferched lai o gymhelliant i gyfranogi.

·         Nad yw’n syndod bod merched yn poeni am gael eu beirniadu, yn poeni nad ydyn nhw ddigon da, a bod llawer o ferched yn tynnu allan o chwaraeon  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16a

17.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Beca Brown

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Beca Brown yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Gyda chostau byw yn cynyddu’n frawychus o gyflym a phobol a theuluoedd yn gorfod dewis yn aml rhwng bwyd neu wres, mae galw mwy nag erioed am wasanaethau banciau a chynlluniau bwyd lleol. Yn ôl FareShare Cymru roedd 4 cynllun bwyd yng ngogledd cymru cyn y pandemig ond mae disgwyl y bydd oddeutu 40 erbyn mis Ebrill eleni.

 

Mae’n rhaid i grwpiau gwirfoddol lleol dalu tâl aelodaeth flynyddol i dderbyn bwyd gan gynlluniau fel FareShare ac yn ystod y cyfnod clo roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu aelodaeth y flwyddyn gyntaf yn unig.

 

Ond, ar ôl y flwyddyn gyntaf mae cynlluniau bwyd lleol yn gorfod canfod yr arian ar gyfer y tâl aelodaeth eu hunain a gall y gost yma fod o gwmpas £3,000 y flwyddyn.

 

Galwn ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu 70% o gost y bwyd (hynny yw, tâl aelodaeth FareShare neu gynlluniau dosbarthu tebyg) am gyfnod o 5 mlynedd er mwyn gwarchod y cynlluniau bwyd lleol yma sydd yn rhoi gwasanaeth allweddol i bobol a theuluoedd mewn cyfnod o galedi mawr.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gyda chostau byw yn cynyddu’n frawychus o gyflym a phobl a theuluoedd yn gorfod dewis yn aml rhwng bwyd neu wres, mae galw mwy nag erioed am wasanaethau banciau a chynlluniau bwyd lleol.  Yn ôl FareShare Cymru roedd 4 cynllun bwyd yng Ngogledd Cymru cyn y pandemig, ond mae disgwyl y bydd oddeutu 40 erbyn mis Ebrill eleni.

 

Mae’n rhaid i grwpiau gwirfoddol lleol dalu tâl aelodaeth flynyddol i dderbyn bwyd gan gynlluniau fel FareShare ac yn ystod y cyfnod clo roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu aelodaeth y flwyddyn gyntaf yn unig.

 

Ond, ar ôl y flwyddyn gyntaf mae cynlluniau bwyd lleol yn gorfod canfod yr arian ar gyfer y tâl aelodaeth eu hunain a gall y gost yma fod o gwmpas £3,000 y flwyddyn.

 

Galwn ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu 70% o gost y bwyd (hynny yw, tâl aelodaeth FareShare neu gynlluniau dosbarthu tebyg) am gyfnod o 5 mlynedd er mwyn gwarchod y cynlluniau bwyd lleol yma sydd yn rhoi gwasanaeth allweddol i bobl a theuluoedd mewn cyfnod o galedi mawr.

 

Cofnod:

 

(A)      Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Beca Brown o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gif

“Gyda chostau byw yn cynyddu’n frawychus o gyflym a phobl a theuluoedd yn gorfod dewis yn aml rhwng bwyd neu wres, mae galw mwy nag erioed am wasanaethau banciau a chynlluniau bwyd lleol.  Yn ôl FareShare Cymru roedd 4 cynllun bwyd yng Ngogledd Cymru cyn y pandemig, ond mae disgwyl y bydd oddeutu 40 erbyn mis Ebrill eleni.

 

Mae’n rhaid i grwpiau gwirfoddol lleol dalu tâl aelodaeth flynyddol i dderbyn bwyd gan gynlluniau fel FareShare ac yn ystod y cyfnod clo roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu aelodaeth y flwyddyn gyntaf yn unig.

 

Ond, ar ôl y flwyddyn gyntaf mae cynlluniau bwyd lleol yn gorfod canfod yr arian ar gyfer y tâl aelodaeth eu hunain a gall y gost yma fod o gwmpas £3,000 y flwyddyn.

 

Galwn ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu 70% o gost y bwyd (hynny yw, tâl aelodaeth FareShare neu gynlluniau dosbarthu tebyg) am gyfnod o 5 mlynedd er mwyn gwarchod y cynlluniau bwyd lleol yma sydd yn rhoi gwasanaeth allweddol i bobl a theuluoedd mewn cyfnod o galedi mawr.”

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig gan nodi:-

 

·           Gan fod FareShare yn dosbarthu bwyd dros ben, a fyddai fel arall yn cael ei daflu, bod y cynllun, nid yn unig yn rhoi cymorth angenrheidiol i bobl sydd mewn angen, ond hefyd yn cyfrannu at leihau gwastraff bwyd.

·           Bod y cynnydd sylweddol yn nifer y cynlluniau bwyd yng Ngogledd Cymru wedi digwydd cyn i’r argyfwng costau byw daro go iawn, a phwy ŵyr faint o gynlluniau bwyd fydd yn codi ar draws y sir a gweddill y wlad ymhen blwyddyn arall.

·           Er y gwerthfawrogir yn fawr yr arian a ddaeth gan Lywodraeth Cymru i ariannu’r flwyddyn gyntaf o aelodaeth y cynllun FareShare, byddai cael sicrwydd bod 70% o’r arian aelodaeth wedi’i dalu gan y Llywodraeth am gyfnod o 5 mlynedd, tra bo pobl yn wynebu’r her ddwbl o ffendio’u traed ar ôl y pandemig a delio gyda’r argyfwng costau byw, yn tynnu’r straen a’r pryder oddi ar gynlluniau bwyd o orfod meddwl lle i ddod o hyd i’r arian.  Byddai hynny, yn ei dro, yn rhoi sicrwydd i’r bobl sy’n derbyn y bwyd na fydd y gwasanaeth hollbwysig yma yn gorffen yn ddisymwth.

 

Oherwydd nam ar y sain yn ystod ei chyflwyniad, gofynnwyd i’r cynigydd anfon copi ysgrifenedig at yr aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau a nododd:-

 

·         Bod cynghorwyr Bangor a gwirfoddolwyr Plaid Cymru Bangor yn cefnogi’r cynllun bwyd a sefydlwyd gan y Cynghorydd Steve Collings, ac mai ef a gyflwynodd y syniad o Fareshare ym Mangor.

·         Bod y cynnig yn un clodwiw sy’n sicrhau bod pobl fregus a phobl mewn angen yn cael y bwyd sydd ei angen arnynt, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghyfartaledd cymdeithasol.  Roedd hefyd o gymorth i arbed y planed ac yn fodd o leihau gwastraff.

·         Ei bod yn bwysig bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17.

18.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 82 KB

(i)            Cyflwyno, er gwybodaeth – Llythyr gan Lywodraeth San Steffan mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 7 Hydref, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chydnabod Dydd Gŵyl Dewi yn ffurfiol fel gŵyl banc yng Nghymru.

(ii)           Cyflwyno, er gwybodaeth – Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gethin Glyn Williams i gyfarfod 2 Rhagfyr, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chreu coetiroedd yng Nghymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth:-

 

(a)     Llythyr gan Lywodraeth San Steffan mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 7 Hydref, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chydnabod Dydd Gŵyl Dewi yn ffurfiol fel gŵyl banc yng Nghymru.

 

(b)     Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ryubdd o gynnig y Cynghorydd Gethin Glyn Williams i gyfarfod 2 Rhagfyr, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chreu coetiroedd yng Nghymru.

 

Atodiadau pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol: