skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Nia Jeffreys.

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod, ac yn benodol Huw Dylan Owen ar ei gyfarfod cyntaf fel Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys. 

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

ADRODDIAD PERFFORMAID YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 469 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn / Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y prif gynlluniau. Nodwyd o ran Uchelgais y Gogledd fod rhai prosiectau bellach ar waith, ond eglurwyd fod un cynllun bellach wedi ei dynnu yn ôl. Mynegwyd fod cynllun Bodelwyddan wedi ei dynnu yn ôl o ganlyniad i newidiadau yn y cynllun datblygu lleol a olygwyd ei fod yn addasu holl ansawdd y prosiect. Eglurwyd fod trefniadau yn ei lle i ystyried cynlluniau i lenwi’r bwlch.

 

Tynnwyd sylw at gais i gyflawni Ffordd Mynediad Llanbedr ac i osgoi y pentref gan nodi fod yr adran yn parhau i ddisgwyl am gyhoeddiad gan y Llywodraeth Prydain i wybod os yw’r cais wedi bod yn llwyddiannus. Cyfeiriwyd at gynllun Arfor gan nodi fod y Llywodraeth a’r Awdurdodiadau bellach wedi cytuno ar y cynlluniau ond eu bod yn parhau i disgwyl am y llythyr ffurfiol er mwyn cychwyn ar y gwaith. Amlygwyd fod yr amserlen yn mynd i fod yn dynn i wario yr arian o fewn y 6 mis nesaf.

 

Bu i’r Pennaeth Adran dynnu sylw yn benodol at berfformiad yr adran, gan adrodd y bydd angen cyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet ar sefyllfa Byw’n Iach. Eglurwyd er yn galonogol fod nifer defnyddwyr yn dychwelyd i’r gwasanaeth yn codi, mae’n parhau i fod yn isel yn dilyn cyfnod y pandemig ac fod yn rhoi pwysau ychwanegol ar eu cyllideb.

 

Ar y llaw arall nodwyd fod Hafan, Pwllheli sy’n rhan o’r Gwasanaeth Morwrol bellach yn llawn ac fod hyn yn rhoi pwysau ar is-adeiledd ac y galw am fuddsoddiad pellach yno. O ran y sefyllfa arbedion nodwyd fod pwysau ar gyllideb yr adran gan fod gwaith uwchraddio Neuadd Dwyfor wedi arafu o ganlyniad i’r pandemig ac felly heb gyrraedd ei darged incwm. Ond eglurwyd fod gwaith cynllunio manwl yn cael ei wneud ac fod yr adran yn gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn haf nesaf. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd fod rhai traethau wedi cael problemau mawr dros yr haf, yn benodol yn Morfa Bychan gyda Cartrefi Modur yn aros dros nos. Holwyd os oes modd sicrhau fod y sefyllfa yn cael ei datrys cyn haf nesaf. Eglurwyd fod llythyr bellach wedi ei baratoi a fydd yn cael ei gyflwyno i’r unigolion a fydd yn gwrthod symud eu cerbydau a / neu cydymffurfio a fydd yn rhoi dirwy o hyd at £1000 iddynt, ac y bydd hyn yn gobeithio yn weithredol o’r Pasg ymlaen. 

¾     Nodwyd fod nifer o gynlluniau yn edrych ar greu gwaith yn yr ardal, ac amlygwyd bellach fod prinder pobl i lenwi’r swyddi. Eglurwyd fod y sefyllfa wedi newid ers pan crëwyd y cynlluniau bum mlynedd yn ôl, ac felly bydd yr heriau newydd yn cael eu hamlygu yn Cynllun y Cyngor nesaf.

¾     Mynegwyd fod cronfeydd Ewropeaidd yn o dod i ben dros y blynyddoedd nesaf, gyda’r mwyafrif o’r gwariant  yn gorfod cael ei gwblhau erbyn 2023. O ganlyniad i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

Awdur: Sioned E Williams

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH GORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL pdf eicon PDF 596 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones  

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gan yr adran Gefnogaeth Corfforaethol 9 blaenoriaeth gwella o fewn Cynllun y Cyngor. Nodwyd fod un ohonynt sef Cynllunio Gweithlu yn her i bawb ond fod gwaith yn cael ei wneud o fewn yr adran i edrych ar hyn. O ran cynllun Cadw’r Budd yn Lleol ei fod yn symud i’r cyfeiriad cywir a mynegwyd fod yr Aelod Cabinet yn edrych ymlaen i barhau gyda’r gwaith da sydd yn cael ei wneud yn y maes cydraddoldeb.

 

Tynnwyd sylw at y maes Cyfreithiol gan nodi fod hyfforddiant i aelodau yn ystod y cyfnod croeso wedi mynd yn arbennig o dda. Amlygwyd yn ogystal fod canran o bobl ifanc 16+ a oedd wedi cofrestru i bleidleisio bellach wedi codi i 70%. Mynegwyd fod hyn o ganlyniad i benodi aelod o staff i annog bobl ifanc ynghyd ag arwain y gwaith.

 

Ar y cyfan nodwyd fod yr aelod Cabinet yn hapus gyda perfformiad yr adran.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y bydd dau o’r blaenoriaethau gwella yn dod i ben yn naturiol eleni sef Hybu Defnydd o’r Cymraeg ac y Defnydd o’r Gymraeg mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. O ran perfformiad yr adran nodwyd fod peth oedi wedi bod o ganlyniad i’r pandemig yn y maes gwyliadwriaeth iechyd, ac fod y tîm iechyd galwedigaethol yn ceisio dal i fyny gyda’r gwaith. Ychwanegwyd fod y gwaith o greu endid annibynnol i Hunaniaith yn parhau ac fod y grŵp arweiniol yn hyderus y bydd modd gwneud datganiad yn yr Eisteddfod yn 2023.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd gyda nifer uchel o ddynion i’w gweld ar y Tîm Rheoli o fewn y Cyngor beth mae’r cynllun Merched mewn Arweinyddiaeth yn ei wneud i hybu merched mewn rolau uwch o fewn y Cyngor. Nodwyd fod Grŵp Gweithredol Merched mewn Arweinyddiaeth yn cyfarfod yn rheolaidd ac fod nifer o gynlluniau megis y rhaglen datblygu potensial a sgyrsiau dros baned i staff a Cynghorwyr. Eglurwyd fod sylfaen bendant wedi ei osod a nodwyd hyder y bydd y cynllun yn llwyddiannus ond fod newid diwylliant am gymryd amser. Ychwanegwyd yn ogystal fod nifer y merched sydd wedi ymgeisio am swyddi uwch wedi codi ond nad oeddent i’w gweld yn y penodiadau eto.

¾     O ran y Gwaith Cynllunio Gweithlu, nodwyd balchder fod y gwaith yn symud yn ei flaen ond ei fod yn her fawr sydd i’w gweld ar draws y Cyngor. Holwyd sut mae’r Cynllun yn mesur y perfformiad. Nodwyd fod y Grŵp Cynllunio Gweithlu yn cyfarfod yn fisol, ac y bydd ystadegau yn cael ei cyflwyno i’r aelodau Cabinet dros yr wythnosau nesaf. cael ystadegau i sicrhau ddim mewn lle gwell na be da ni yn meddwl.

¾     Holwyd sut mae’r cyfleon o fewn y Cyngor, megis Cynllun Yfory a Prentisiaethau yn cael ei gwerthu i bobl ifanc. Nodwyd fod cynllun newydd yn y broses o gael ei ddatblygu ac fod nifer uchel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Geraint Owen

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS DAI A EIDDO pdf eicon PDF 11 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet yn hapus iawn gyda perfformiad yr adran a tynnwyd sylw at rai agweddau. O ran y sefyllfa Digartrefedd nodwyd ei fod yn sefyllfa sy’n gwaethygu yn ddyddiol gyda’r ffigyrau bellach 50% yn uwch nag oedd i’w weld cyn y pandemig. Eglurwyd fod y cynlluniau a grëwyd cyn y pandemig bellach ddim yn ddigon da, ac fod angen creu cynlluniau er mwyn gweithredu ar yr egwyddor o gartrefu unigolion o fewn eu cymunedau. Amlygwyd fod un cynllun yn gofyn i landlordiaid preifat i ddefnyddio eu tai i gartrefu pobl leol yn hytrach nac eu ddefnyddio ar gyfer llety gwyliau.

 

Tynnwyd sylw at gynllun arloesol sydd i’w weld yn y gwasanaeth digartrefedd, gyda cefnogaeth iechyd meddwl arbennig. Eglurwyd fod canran uchel o unigolion di-gartref a problemau iechyd meddwl ac fod yr adran wedi penodi aelod o staff sydd a arbenigedd yn y maes a fydd yn ceisio gweithio gyda unigolion fel bod modd eu cadw pobl yn eu cartrefi ac i’w hatal rhag mynd yn ddigartref.

 

Mynegwyd fod y Cyngor bellach wedi prynu darn o dir ym Morfa Nefyn er mwyn adeiladu tai a fydd yn cartrefu pobl leol yng nghanol y pentref mewn tai fforddiadwy, hawdd i’w cynhesu ac yn amgylcheddol wyrdd. Nodwyd fod y tai yma wedi ei seilio ar syniad o Dŷ Gwynedd, sef creu y math o dŷ mae trigolion Gwynedd ei angen ac nid yn unig yn dŷ ond yn gartref. 

 

Ar y cyfan, nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn hapus a’r perfformiad ond ei bod yn anodd dathlu gan fod y sefyllfa yn parhau heb ei datrys ond fod yr adran yn ceisio eu gorau i gynorthwyo pobl gan greu gobaith mewn sefyllfa anobeithiol.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Adran eu bod yn ymwybodol o heriau sylweddol sydd yn wynebu yr adran yn dilyn y pandemig, brexit, cynnydd mewn costau byw ynghyd â chynnydd mewn digartrefedd. Nodwyd fod yr adran yn awyddus i newid rhai o’i cynlluniau sydd i’w gweld o fewn  Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023/34 a fydd yn cynnwys blaenoriaethau newydd sydd yn fwy penodol i fynd i’r afael ar heriau sy’n wynebu’r adran.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Holwyd am y Cynllun Iechyd Meddwl fydd o fewn y tîm digartrefedd. Eglurwyd fod y cynllun yn un arloesol ac unigryw i Wynedd, eglurwyd fod hwn yn gynllun sydd am sicrhau cefnogaeth i’r digartref gan y Maes Iechyd. Mynegwyd ei fod yn enghraifft glir o sut mae’r adran yn ceisio meddwl yn wahanol ac yn gweithio i ddatrys problemau.

¾    Mynegwyd fod y podiau sydd i’w gweld yng Nghaernarfon ar gyfer y digartref bellach yn ymddangos wedi ei cwblhau ond fod problemau gyda Dŵr Cymru ac fod nifer o gwestiynau wedi codi yn lleol pam nad oes neb yn byw ynddynt. Nodwyd fod problemau wedi bod gyda’r dreiniau ond fod datrysiad bellach ac fod yr adran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Carys Fon Wlliams

8.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.