skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn a Beca Brown.

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Nia Jeffreys am eitem 7 ond nid oedd yn rhagfarnu a nid oedd angen iddi adael y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys. 

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 MEDI 2022 pdf eicon PDF 263 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nodwyd fod y cofnodion wedi ei nodi yn yr rhaglen i’w ddilyn ac felly byddant yn cael ei derbyn yn y cyfarfod nesaf.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANARTH A LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON pdf eicon PDF 445 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones  

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn adroddiad blynyddol ar gwynion a gwella gwasanaeth. Eglurwyd fod trefniadau wedi bod mewn lle ar gyfer adrodd ar waith y gwasanaeth pob 6 mis, ond fod amgylchiadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi amrywio’r amseru. Nodwyd fod trefniadau yn ei lle bellach i’r gwasanaeth fynd yn ôl i adrodd pob 6 mis.

 

Mynegwyd fod y polisi Gwella Gwasanaeth wedi diweddaru yn ôl ym mis Ebrill 2021, ac eu bod yn cyd-fynd a cynlluniau Llywodraeth Cymru a chanllawiau yr Ombwdsmon. Amlygwyd pan y diweddarwyd y polisi fod y gwasanaeth wedi symud i Wasanaeth Dysgu a Datblygu o fewn yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. Esboniwyd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o waith y tîm ac amlygwyd fod nifer y cwynion wedi codi yn sylweddol eleni o gymharu a’r llynedd, ond fod hyn i’w weld ar draws Llywodraeth Leol a ddim yn anghyffredin i Wynedd. Tynnwyd sylw fod nifer y cwynion sy’n cyrraedd yr Ombwdsmon wedi cynyddu yn ogystal.

 

Mynegwyd fod ffigyrau a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon wedi cael eu hamlygu fel rhai realistig ac fod trefn cwynion Gwynedd yn gweithio ac yn dysgu gwersi o bob cwyn. Nodwyd fod y Gwasanaeth yn parhau i weithio gyda adrannau er mwyn newid meddylfryd. Eglurwyd fod mwyafrif o adrannau yn barod ac yn hapus i dderbyn cwynion ond fod newid diwylliant ar draws y Cyngor am gymryd amser. Amlygwyd fod hyfforddiant yn y maes Gofal Cwsmer wedi ei gynnal gyda’r Ombwdsmon a fod hyfforddiant ar ymateb i ohebiaeth ar y ffordd.

 

Tynnwyd sylw at y Wal Lwyddiannau a diolchwyd am y sylwadau sydd yn aml yn codi morâl staff.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Amlygwyd fod nifer y cwynion i’r adran Oedolion wedi cynyddu yn sylweddol ond fod yr adroddiad yn nodi fod yr adran yn deilio a hwy o fewn 7 diwrnod a diolchwyd i’r staff am ymateb o fewn yr amserlen.

¾    Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd balchder fod y Cyngor yn gwneud defnydd o gwynion i wella gwasanaeth.

¾    Nodwyd fod tabl o fewn yr adroddiad yn adlewyrchu fod nifer o gwynion am ddiffyg ymateb a gweithredu ac fod rhai adrannau wedi cael dros 10 cwyn o fewn y categori yma. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud gyda’r adrannau yma ac amlygwyd yn yr Adran Tai ac Eiddo fod 10 cwyn wedi ei cyflwyno yn 2021/22  am y diffyg ymateb ac fod 6 mis cyntaf eleni yn amlygu 1 cwyn am yr un rhesymau. Amlygir fod y gwaith sydd yn cael ei wneud yn cefndir yn dwyn ffrwyth ac fod ystadegau eleni yn ffafriol tu hwnt.

 

Awdur: Geraint Owen

7.

CYNLLUN CYMORTH COSTAU BYW DEWISOL pdf eicon PDF 468 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cynllun Costau Byw Dewisol.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd y Cynllun Costau Byw Dewisol.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad hwn yw i dderbyn cymeradwyaeth i Gynllun Dewisol y Cyngor i gynorthwyo gyda costau byw. Eglurwyd fod hwn yn gynllun a ddatblygwyd ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Trethi a’r Tîm Cefnogi Teuluoedd.

 

Mynegwyd fod y Cynllun Dewisol yn ddilyniant i’r Cynllun Craidd, ble mae’r Cyngor eisoes wedi dosbarthu £150 yr un i oddeutu 40,000 o aelwydydd o fewn Gwynedd. Nodwyd fod angen i’r aelwydydd fod yn byw mewn eiddo Bando Treth Cyngor A i D er mwyn derbyn y cymorth drwy’r Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor. Pwysleisiwyd fod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus ac mai’r Cyngor oedd yr Awdurdod cyflymaf drwy Gymru i gyflawni’r gwaith yma.

 

Esboniwyd fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £25m i ddarparu cymorth dewisol at ddibenion eraill sy’n ymwneud â chostau byw, ac eglurwyd fod y cynllun hwn yn amlygu bwriad y Cyngor ar sut i ddefnyddio cyfran Cyngor Gwynedd o’r arian. Yn gyntaf, nodwyd y bydd taliad o £150 i aelwydydd nad oedd yn gymwys i dderbyn taliad dan y cynllun gwreiddiol a’i bod yn derbyn eithriad Treth Cyngor. Amlygwyd nad oedd eiddo a oedd yn derbyn eithriad o’u Treth Cyngor ar 15 Chwefror yn gymwys i dderbyn taliad, ac ar ben hynny bydd y cynnig yn rhoi taliad i aelwydydd lle mae incwm yr aelwyd wedi ei gyfyngu gan mai un person sydd yn byw yno.

 

Pwysleisiwyd fod ail ran y cymorth arfaethedig yn rhoi cyfraniad ariannol tuag at y Rhwydwaith Hybiau Cefnogi Pobl. Credir fod rhoi cyfraniad i’r rhwydwaith yn ffordd effeithiol iawn o sicrhau cefnogaeth i aelwydydd y mae cangen cymorth arnynt gyda’u costau byw. Mynegwyd fod yr aelod cabinet yn credu fod y cynllun hwn yn ffordd effeithiol ac effeithlon o wneud defnydd o’r grant ychwanegol hwn, gan dargedu’r arian tuag at aelwydydd mwyaf anghenus y sir. Nodwyd er fod yr arian hwn i’w groesawu ei fod ymhell o fod yn ddigonol i ddiwallu anghenion teuluoedd mwyaf bregus y sir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd am yr adroddiad a’r gwaith sydd yn cael ei wneud o fewn y maes. Holwyd fod cynlluniau ar gyfer cefnogi pobl mewn dalgylchoedd penodol ond er enghraifft ym Mangor mae Maesgeirchen yn cael ei nodi ond dim gweddill Bangor. Holwyd os bydd gwaith yn cael ei wneud tu hwnt i’r ardaloedd. Mynegwyd y bydd hybiau yn cael ei sefydlu mewn lleoliadau difreintiedig ond y bydd lleoliadau lloeren yn cael eu hagor tu hwnt i’r prif hybiau. Eglurwyd y bydd rhwydwaith cefnogi a digwyddiadau i’w gweld tu hwnt i’r prif hybiau yn ogystal.

¾    O ran y gefnogaeth i Gynlluniau Bwyd gofynnwyd am fwy o fanylion. Eglurwyd fod sawl cefnogaeth ar gyfer cynlluniau bwyd, nodwyd fod grantiau ar gael i Banciau Bwyd, Grwpiau Rhannu Bwyd ynghyd â grwpiau sy’n creu Pryd ar Glyd neu Glybiau Cinio Cymunedol.

¾    Mynegwyd ei bod yn wych fod y Cyngor yn gallu cynorthwyo i drefnu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Bleddyn Jones a Catrin Thomas

8.

CYLLIDEB REFENIW 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 pdf eicon PDF 145 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

 

Nodwyd bod effaith ariannol Covid ar rai meysydd yn parhau yn 2022/23, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colled incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion.

 

Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Economi a Chymuned, Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo eleni. Manylir ar y rhesymau penodol sydd yn effeithio’r adrannau yn rhan 5 o’r adroddiad, ond mae effaith y cynnydd mewn chwyddiant a phrisiau trydan yn benodol yn ffactor amlwg.

 

O ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd bwriad y Prif Weithredwr i alw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn mynd i wraidd y gorwariant, i sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio dod a'r sefyllfa o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.

 

Er ei bod hi'n gynamserol i drosglwyddo arian o gronfeydd nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, argymhellir mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol bryd hynny fydd defnyddio:

¾    yn gyntaf, Balansau Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion

¾    yn ail, defnyddio £4.5 miliwn o'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor

¾    yn olaf, y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.  

 

Nodwyd bod effaith ariannol Covid ar rai meysydd yn parhau yn 2022/23, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colled incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion.  

 

Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Economi a Chymuned, Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo eleni. Manylir ar y rhesymau penodol sydd yn effeithio’r adrannau yn rhan 5 o’r adroddiad, ond mae effaith y cynnydd mewn chwyddiant a phrisiau trydan yn benodol yn ffactor amlwg.  

 

O ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd bwriad y Prif Weithredwr i alw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn mynd i wraidd y gorwariant, i sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio dod a'r sefyllfa o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.  

 

Er ei bod hi'n gynamserol i drosglwyddo arian o gronfeydd nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, argymhellir mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol bryd hynny fydd defnyddio:  

·         yn gyntaf, Balansau Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion  

·         yn ail, defnyddio £4.5 miliwn o'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor  

·         yn olaf, y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  fod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o’r gyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer 2022/23, ynghyd a’r rhagolygon tuag at diwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwnyo i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a oedd yn gefnogol iawn i’r argymhelliad.

 

Nodwyd fod rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Tai ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Manylwyd mai effaith cynnydd mewn chwyddiant, yn arbennig felly costau trydan sydd uwchlaw ‘r gyllideb sydd i’w weld amlycaf yn yr adran Addysg, Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Economi a Chymuned. Nodwyd fod gweddill adrannau’r Cyngor yn gweithredu o fewn eu cyllideb.

 

Mynegwyd nad yw effaith Covid i’w gweld mor sylweddol a beth a welwyd dros y ddwy flynedd diwethaf, ond fod costau ychwanegol, colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn parhau mewn rhai meysydd. Amlygwyd fod oedi mewn gwireddu arbedion i’w gweld yn amlwg gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyda cynlluniau gwerth £930k, tra bod £553k gan yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Amlygwyd y prif faterion oedd yn wynebu yr adrannau a oedd yn gorwario yn unigol fel a ganlyn:

 

Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

Mynegwyd fod gorwariant o £1.9m yn cael ei ragweld ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Ffion Madog Evans

9.

ADRODDIAD TROSOLWG ARBEDION - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 pdf eicon PDF 586 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2022/23, 2021/22 a blynyddoedd blaenorol.

 

 Nodwyd bod effaith Covid-19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ymateb i’r argyfwng dros y cyfnod cychwynnol o’r argyfwng.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2022/23, 2021/22 a blynyddoedd blaenorol.  

 

Nodwyd bod effaith Covid-19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ymateb i’r argyfwng dros y cyfnod cychwynnol o’r argyfwng.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  fod yr adroddiad yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd fel yr adroddiad blaenorol fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a oedd yn awyddus i argymell i’r Cabinet fod angen herio manwl ar gynlluniau sydd ddim yn cael ei gwireddu ac fod angen sicrhau adolygiad rheolaidd o’r cynlluniau sydd yn llithro a chyfeirio’r cynlluniau ar raglenni gwaith y Pwyllgorau Craffu perthnasol.

 

Mynegwyd ers 2015/16 fod gwerth £35.4m o arbedion wedi ei cymeradwyo i’w gwireddu ar gyfer y cyfnod 2015/16 i 2022/23. Pwysleisiwyd bellach fod cyfanswm o £33.4m o’r arbedion wedi ei gwireddu sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod. Esboniwyd ar gyfer cyfnod o 2015/16 hyd at 2020/21 fod 97% o’r cynlluniau arbedion wedi eu gwireddu, gyda cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol eto i’w cyflawni.

 

Tynnwyd sylw at arbedion 2021/22, gan nodi fod 65% o'r cynlluniau bellach wedi ei cyflawni gyda problemau cyflawni i’w gweld gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo. Eglurwyd wrth baratoi cyllideb 2022/23, fod rhaid cydnabod fod y sefyllfa wedi newid cymaint fel nad oedd modd cyflawni’r cynlluniau arbedion oedd wedi eu cynllunio yn wreiddiol a bu i bron i hanner miliwn o gynlluniau gael eu dileu yn llwyr o’r gyllideb. Yn ogystal symudwyd y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1.3m i 2023/24, ac felly £595k oedd gwerth y cynlluniau arbedion gweddillol i’w tynnu o gyllideb 2022/23.

 

O’r cynlluniau hyn ar gyfer eleni nodwyd fod 22% o’r cynlluniau eisoes wedi eu gwireddu gyda 19% bellach r drac i gyflawni’r amserol. Mynegwyd mae’r adrannau a gwerth uchaf o gynlluniau eto i’w cyflawni yw’r adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ac yr Adran Economi a Chymuned.

 

Amlygwyd fod gwireddu gwerth £33.4m ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol tu hwnt, ac fod oedi a risgiau o gyflawni ar rai o’r cynlluniau sydd yn weddill. Pwysleisiwyd yr angen i fod yn adolygu y cynlluniau cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd fod arbedion gwrth £33.4m wedi ei gwireddu ers 2015/16 yn amlygu gwaith sydd wedi ei wneud gan staff i wynebu a gwireddu’r arbedion o fewn y Cyngor. Diolchwyd i staff am eu gwaith.

 

Awdur: Ffion Madog Evans

10.

RHAGLEN GYFALAF 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2022) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

¾    defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o £26,751,000 o 2021/22,

¾    dim newid mewn defnydd o fenthyca,

¾    cynnydd o £7,396,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,

¾    dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,

¾    cynnydd o £2,156,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,

¾    cynnydd o £13,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a

¾    cynnydd o £538,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2022) o’r rhaglen gyfalaf.  

 

Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:  

·         defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o £26,751,000 o 2021/22,  

·         dim newid mewn defnydd o fenthyca,  

·         cynnydd o £7,396,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,  

·         dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,  

·         cynnydd o £2,156,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,  

·         cynnydd o £13,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a  

·         cynnydd o £538,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a chymeradwy’r ffynonellau ariannu perthnasol. Eglurwyd fod yr adroddiad yma hefyd wedi ei chyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac yn gefnogol o’r argymhellion.

 

Amlygwyd y prif gasgliadau sef fod y Cyngor gyda cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £79.8m eleni, gyda £21.1m wedi’i ariannu drwy grantiau penodol. Eglurwyd fod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf gyda dim ond 11% o’r gyllideb wedi ei wario hyd ar ddiwedd Awst eleni, o’i gymharu â 16% dros yr un cyfnod y llynedd a 13% ddwy flynedd yn ôl.

 

Nodwyd fod £12.1m o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a 2024/25, gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys £5.1m Cynlluniau Ysgolion, £3m Cynlluniau Atal Llifogydd a £1.6m Hwb Iechyd a Gofal Penygroes.

 

Ers yr adolygiad diwethaf, mynegwyd fod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu’r grantiau canlynol:

¾    £1.6 miliwn - Grant Cyfalaf Prydau Ysgol am Ddim.

¾    £0.9 miliwn - Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Defnydd Cymunedol Ysgolion.

¾    £0.9 miliwn – Grant Cyfalaf Diogelwch y Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru.

¾    £0.7 miliwn - Grant Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) tuag at gynlluniau gwledig.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn un technegol sydd yn amlygu ychydig o newyddion da. Er hyn, nodwyd fod effaith chwyddiant am effeithio ar allu’r Cyngor i gwblhau cynlluniau sydd yn gweld cynnydd o 30-40% mewn costau. Eglurwyd y bydd angen o bosib blaenoriaethu cynlluniau i’r dyfodol.

 

Awdur: Ffion Madog Evans