skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.  

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Dyfrig Siencyn ar gyfer eitem 12 gan fod aelod o’r teulu agos yn berchen ail gartref neu eiddo gwag

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 26 IONAWR 2021 pdf eicon PDF 286 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021 fel rhai cywir.

 

6.

CYNLLUN BRYS AR GYFER BYSIAU pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 yn unol â’r adroddiad.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno a chwblhau Cytundeb Partneriaeth Rhanbarthol Gwirfoddol ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith yn y Gogledd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 yn unol â’r adroddiad.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno a chwblhau Cytundeb Partneriaeth Rhanbarthol Gwirfoddol ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith yn y Gogledd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad sef fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 Llywodraeth Cymru yn unol â’r adroddiad.

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Amgylchedd fod dau gynllun wedi bod cyn y  cynllun hwn yn cefnogi cludiant cyhoeddus drwy sicrhau cefnogaeth ariannol ddigonol drwy’r cyfnod argyfwng. Amlygwyd fod y cynllun yn bartneriaeth rhwng Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr. Nodwyd fod y cynllun yn sicrhau fod cefnogaeth ariannol ddigonol a’r gweithredwyr ac amlygwyd yr amcanion oedd i’w gweld yn yr adroddiad. Pwysleisiwyd ei fod yn gynllun dros dro a fydd yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2022 a'i fod yn rhoi mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru o ran blaenoriaethu gwasanaethau ac i ddylanwadu ar bris tocynnau. Amlygwyd fod y cynllun yn bellgyrhaeddol.

 

Mynegwyd ei bod yn gyfnod o lawer o newid gyda’r ail ddylunio ar draws y wlad ac amlygwyd pwysigrwydd i fod yn rhan o’r cynllun er mwyn  dylanwadu i sicrhau gwasanaethau penodol yn y gwasanaethau gwledig sydd i’w gweld dros y sir a fydd i’w weld yn fwy o sialens yng Ngwynedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Holwyd os oedd ymrwymo i’r cynllun dros dro yn ymrwymo'r Cyngor i’r cynllun ymhellach. Nodwyd fod nifer o ffrydiau gwaith ac y buasai ymuno yn sicrhau fod ffrydiau yn symud yn ei blaen, gan amlygu fod cyd gyswllt a dim ond drwy ymrwymo y bydd modd dylanwadu.

¾     Mynegwyd fod yr argymhelliad yn nodi ymuno er mwyn dylanwadu, holwyd beth oedd yr oblygiadau am beidio ymuno. Mynegwyd nad oedd yn cwbl amlwg ar hyn o bryd ond nodwyd mai'r cwmnïau fuasai ar ardrawiad mwyaf ond pwysleisiwyd yr angen i gael dylanwadu.

¾     Nodwyd fod rôl gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prif ffrydiau ond amlygwyd yr angen am y rôl yn lleol i edrych ar ôl trigolion Gwynedd. Ymhelaethwyd yn ogystal fod llawer  o arbenigedd yn lleol. Mynegwyd ei bod yn galonogol fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn y gwaith a wnaed gennym ar werth cymdeithasol wrth flaenoriaethu cludiant. Esboniwyd yr angen am fwy o reolaeth ac yr arbenigedd lleol.

¾     Amlygwyd rhai pryderon am roi mwy o rym i Trafnidiaeth Cymru ym maes bysus ac y gallai hynny fod yn llesteirio democratiaeth lleol unwaith eto os nad oeddem yn ofalus..

¾     Pwysleisiwyd fod yr Aelod Cabinet yn rhan o Is Grŵp Drafnidiaeth Gogledd Cymru a bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn brysur ofnadwy yn y maes. Mynegwyd er bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i hyn gael ei weld dros Gymru gyfan ond nid oes capasiti ganddynt i edrych ar Gymru gyfan ac felly mae disgwyliad am gefnogaeth yn lleol.

 

Awdur: Dafydd Wyn Williams

7.

ADOLYGIAD PARCIO pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd yr addasiadau i’r Strategaeth Barcio drwy newid trefniadau rheoli parcio a gweithredu’r strwythur ffioedd parcio yng Ngwynedd fel bod modd ei weithredu o’r 1 Ebrill 2021. Cytunwyd addasiad hwyr ychwanegol i’r adroddiad, yn cysoni oriau gorfodi Meysydd Parcio Band 1 i fod yn weithredol rhwng yr oriau 10am a 4:30pm, ac i gadw’r lefel incwm dan adolygiad yn ystod 2021/22, gyda golwg ar gynorthwyo’r Adran Amgylchedd pe bai’r gwir incwm o ffioedd parcio yn is na’r targed yn y gyllideb oherwydd yr addasiad hwyr yma. Awdurdodwyd y Pennaeth Amgylchedd i gymryd y camau statudol angenrheidiol i roi’r gyfundrefn ffioedd diwygiedig ar waith erbyn 1 Ebrill 2021.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith.

 

PENDERFYNIAD

 

  • Mabwysiadwyd yr addasiadau i’r Strategaeth Barcio drwy newid trefniadau rheoli parcio a gweithredu’r strwythur ffioedd parcio yng Ngwynedd fel bod modd ei weithredu o’r 1 Ebrill 2021. Cytunwyd addasiad hwyr ychwanegol i’r adroddiad, yn cysoni oriau gorfodi Meysydd Parcio Band 1 i fod yn weithredol rhwng yr oriau 10am a 4:30pm, ac i gadw’r lefel incwm dan adolygiad yn ystod 2021/22, gyda golwg ar gynorthwyo’r Adran Amgylchedd pe bai’r gwir incwm o ffioedd parcio yn is na’r targed yn y gyllideb oherwydd yr addasiad hwyr yma.

 

  • Awdurdodwyd y Pennaeth Amgylchedd i gymryd y camau statudol angenrheidiol i roi’r gyfundrefn ffioedd diwygiedig ar waith erbyn 1 Ebrill 2021.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn eitem sydd wedi cael ei drafod ers amser ond o ganlyniad i’r pandemig ei fod wedi ei ddal yn ôl. Mynegwyd nad yw polisïau Cyngor  heb newid ers rhai blynyddoedd a bod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi wedi gwneud penderfyniad i greu tasglu i edrych ar drefniadau’r sir. Amlygwyd mai ffrwyth gwaith y tasglu hwn yw’r adroddiad.

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Amgylchedd fod y strategaeth bresennol wedi ei fabwysiadau yn ôl yn 2015. Esboniwyd fod nifer o bethau newid ers hynny megis cynnydd mewn cerbydau trydan, llai o ddefnydd o arian parod ynghyd a chynnydd mewn nifer ddigwyddiadau awyr agored. Tynnwyd sylw yn ogystal at y cynnydd a welwyd yn ystod yr haf y llynedd mewn nifer o “motor homes”. Pwysleisiwyd fod y rhain wedi amlygu mwy o heriau o ran parcio.

 

Mynegwyd fod y Cabinet a’r Cyngor Llawn wedi cytuno i gynyddu incwm yn maes fel rhan o’r cynllun arbedion. Amlygwyd gyda chynnydd mewn chwyddiant ynghyd a’r targed arbedion y bydd angen cynnydd incwm o tua £400k. Esboniwyd mai briff grŵp tasg oedd ceisio cyfarch y cynnydd mewn incwm ond cadw’r effaith ar drigolion lleol i isafswm. Pwysleisiwyd fod y gwaith a wnaethpwyd gan y Grŵp Tasg wedi bod yn hynod drylwyr.

 

Amlygwyd fod y grŵp tasg wedi amlygu fod y drefn bandio meysydd parcio yn rhy gymhleth a'i fod wedi ei symleiddio o fod yn 5 band i 3.  Nodwyd y buasai’r grŵp tasg wedi gallu codi pris 10% ar draws yr holl leoliad ond fod y grŵp tasg wedi penderfynu edrych ar y maes yn wahanol ac amlinellwyd y prif newidiadau.  Nodwyd yr angen i  sicrhau fod pris parcio arhosiad byr yn y prif ganolfannau yn aros yr un fath, ond fod yr oriau rheolaeth yn cael ei addasu ym Mangor i 9am tan 5pm. Mynegwyd fod pris arhosiad hir yn cael ei gynyddu yn benodol mewn ffioedd meysydd parcio yn band 2 a bod cynnydd mewn tocynnau tymor yn cydfynd gyda chwyddiant.

 

Amlygwyd yr opsiynau am barcio dros gyfnod y Nadolig ac yr awydd i gadw trefniadau parcio am ddim er mwyn cefnogi busnesau. Nodwyd y bu ystyriaeth i breswylwyr ac unigolion a Thocyn Parcio Glas a bod penderfyniad i’w gadw fel ac y mae  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Dafydd Wyn Williams

8.

CYNLLUN PRYNU TAI I'W GOSOD I DRIGOLION GWYNEDD pdf eicon PDF 511 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos.

 

Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen penderfyniadau ychwanegol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos.

 

Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen penderfyniadau ychwanegol. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Gwynedd yng nghanol argyfwng tai ar hyn o bryd. Mynegwyd fod y Cyngor wedi bod yn ceisio trio codi ymwybyddiaeth am y broblem a gofyn i’r ddwy Lywodraeth weithredu. Nodwyd fod yr adran yn ymgeisio i ddod o hyd i atebion o fewn eu gallu ac i weithredu. Amlygwyd fod y cynllun hwn yn rhan o’r Cynllun Gweithredu Tai a'i fod yn enghraifft o beth mae’r adran yn ceisio ei wneud i gynorthwyo trigolion. Mynegwyd pleser o gyflwyno'r cynllun gan ei fod yn bositif ac arloesol ac yn dod o hyd i ffyrdd i gartrefu trigolion.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Tai ac Eiddo fod y cynllun yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai.  Amlygwyd pwrpas y cynllun o brynu cant o dai i’w uwchraddio a’i gosod i’w trigolion. Nodwyd fod y buddsoddiad i’r Cynllun Gweithredu Tai oddeutu £77m a nodwyd y cyfuniad o ffynonellau ariannu. Mynegwyd fod y Cabinet wedi amlygu eu huchelgais ar gyfer y cynllun drwy nodi eu hawydd i  gynllun benthyca ar gyfer y cynllun hwn yn unol â chynllun busnes cadarn. Nodwyd fod yr adroddiad yn nodi’r costau a'i ddull ariannu ac yn dangos ei fod yn  gynllun hyfyw. Esboniwyd fod risgiau yn cael eu hamlygu ond y bydd achos busnes i bob pryniant unigol yn lleihau’r risgiau, ac os bydd risgiau yn rhy uchel ni fydd y pryniant unigol yn cael ei wneud. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Diolchwyd am yr adroddiad a amlygwyd balchder o droi’r cloc yn ôl a’r Cyngor yn buddsoddi unwaith eto ar dai i bobl Gwynedd. Holwyd os oes gwahaniaeth rhwng tai ar y farchnad agored a cyn dai cymdeithasol. Mynegwyd ei bod yn anodd prynu cyn dai cymdeithasol ac felly angen bod yn weithredol i gael tai cymdeithasol yn ôl o fewn y Cyngor.

¾     Croesawyd y cynllun gan holi os y bydd modd teilwra y cynllun ar gyfer teuluoedd penodol . Nodwyd fod angen am dai rhent o fewn y sir ac fod angen rhoi amrediad o dai  gyfarch rhai sydd angen cymorth ond bydd yn rhaiod blaenoriaethu yn amlwg.

¾     Holwyd os y bydd y cynllun yn llwyddiant os y bydd modd ehangu a prynu mwy na 100 o dai. Mynegwyd fod modd ehangu y cynllun os yn gweithio yn rhwydd ac y byddant yn dod yn ôl at y Cabinet i nodi os bydd achos dros newid i nifer y tai.

¾     Pwysleisiwyd fod elfen o risg i’r cynllun, ond  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd Gibbard

9.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23 - ADOLYGIAD 2021-22 pdf eicon PDF 333 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 Adolygiad 2021/22 yn amodol ar addasiadau i eiriad Blaenoriaeth 4 a Blaenoriaeth 7, ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 Adolygiad 2021/22 yn amodol ar addasiadau i eiriad Blaenoriaeth 4 a Blaenoriaeth 7, ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cynllun yn cael ei gyflwyno yn nodi gwaith y Cyngor dros y flwyddyn diwethaf. Nodwyd fod sesiynau wedi ei cynnal gyda’r holl aelodau sydd wedi dangos cefnogaeth i’r blaenoriaethau gwella.  Mynegwyd fod y sesiynau gyda’r holl aelodau wedi amlygu fod edrychiad cymunedau yn holl bwysig eleni i drigolion.

 

Pwysleisiwyd fod elfennau positif wedi codi o ganlyniad i covid-19 sef awydd trigolion i gynorthwyo eu gilydd ac i wirfoddoli. Nodwyd angen gan aelodau i gadw’r momentwm o gynorthwyo a gwirfoddol i’r dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Pwysleisiwyd fod edrych ar eich milltir sgwâr yn hynod bwysig ac fod y cynllun Cymunedau Glan a Thaclus yn un o flaenoriaethau yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd gobeithio y bydd y cynllun yn cyfarch anghenion yr aelodau ac yn gweithio gyda’r cymunedau.

¾     Amlygwyd o ran blaenoriaeth 4.5 Busnesau yn Ffynnu fod problemau erchyll yn codi ond nid o ganlyniad i Covid-19 yn unig ond am y modd y mae’r Llywodraeth yn delio gyda Brecsit yn ogystal.

¾     Nodwyd fod y sesiynau gyda’r aelodau wedi bod yn galonogol, gyda materion a godwyd yn cael ei gweld o fewn cynlluniau megis Cynllun Adfywio Ardal.

¾     Tynnwyd sylw at addasiadau i’w nodi yn blaenoriaeth 4.4  Trosglwyddiad unedau gwyliau o’r Dreth Gyngor i Drethi Busnes er mwyn ychwanegu geiriad yn ymwneud a’r gwaith cynllunio sydd yn digwydd yn y maes. Yn ogystal Blaenoriaeth 7.4 – Cyflawni Arbedion er mwyn amlygu fod y rhaglen arbedion wedi’i adolygu a’r angen i gyflawni’r trefn ddiwygiedig.

Awdur: Dewi Wyn Jones

10.

STRATEGAETH GYFALAF Y CYNGOR pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i:

  • ariannu’r bwlch cyllido ar gyfer Canolfan Dolfeurig (£600,000)
  • ariannu’r bwlch cyllido ar gyfer safle cyn Dŷ’r Ysgol, Llanrug (£150,000), gan ad-ennill rhan helaeth o’r buddsoddiad gwreiddiol drwy werthu’r tŷ a rhan o’r tir ar gyfer gwireddu cynlluniau tai fforddiadwy i drigolion lleol a gwneud gwelliannau i’r ysgol gynradd
  • ddarparu £2m pellach er mwyn cychwyn ar y gwaith o adeiladu unedau diwydiannol yn y sir
  • aros i weld beth fydd canlyniad trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am y Prom Abermaw cyn ystyried unrhyw ddyraniadau pellach yn y Cynllun Asedau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i:

  • ariannu’r bwlch cyllido ar gyfer Canolfan Dolfeurig (£600,000)
  • ariannu’r bwlch cyllido ar gyfer safle cyn Dŷ’r Ysgol, Llanrug (£150,000), gan ad-ennill rhan helaeth o’r buddsoddiad gwreiddiol drwy werthu’r tŷ a rhan o’r tir ar gyfer gwireddu cynlluniau tai fforddiadwy i drigolion lleol a gwneud gwelliannau i’r ysgol gynradd
  • ddarparu £2m pellach er mwyn cychwyn ar y gwaith o adeiladu unedau diwydiannol yn y sir
  • aros i weld beth fydd canlyniad trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am y Prom Abermaw cyn ystyried unrhyw ddyraniadau pellach yn y Cynllun Asedau.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bu i’r Cyngor llawn fabwysiadu Cynllun Asedau ar gyfer cyfnod o 10 mlynedd yn ôl ym Mawrth 2019. Amlygwyd fod y cynllun yn rhagdybio’r adnoddau y buasai gan y Cyngor ar gyfer y 10 mlynedd ac yn blaenoriaethu’r holl gynlluniau a gyflwynwyd gan yr Adrannau. Pwysleisiwyd fod y Cynllun yn un byw a hyblyg ac bod y sefyllfa adnoddau wedi newid rhyw ychydig ers i’r cynllun gael ei gymeradwyo.

 

Mynegwyd pan y bu i’r Cynllun gael ei baratoi roedd ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd y byddai yna gynlluniau ychwanegol yn dod i’r amlwg a cytunwyd i roi £0.5m y flwyddyn o’r neilltu er mwyn cyfarch y gofynion ar gyfer cynlluniau bychan yn bennaf. Ategwyd fod cynlluniau sylweddol angen ystyriaeth ar gyfer 2021/22. Tynnwyd sylw at Ganolfan Dolfeurig yn Nolgellau gan esbonio pan ystyriwyd y cynllun yn gyntaf gofynnwyd am £1.2m, ond yn dilyn gwneud gwaith pellach fod y costau yn nes at £1.8m.

 

Amlygwyd y galw am unedau diwydiannol ar draws sir dros y blynyddoedd diwethaf, ac er fod y Cynllun Twf Gogledd Cymru yn sicrhau safleoedd strategol nodwyd yr angen am unedau llai i gyfarch y galw yn lleol. Ar sail fod uned yn costio oddeutu £200,000 yr un heb gost am dir, gofynnwyd am gefnogaeth y Cabinet i ychwanegu arian i’w sicrhau.

 

Mynegwyd yn wreiddiol fod y Cyngor wedi rhagweld y buasai angen gwario £1.6m ar adfer promenâd yn Abermaw yn dilyn difrod. Ychwanegwyd yn dilyn gwneud gwaith llawer mwy manwl amlygwyd fod y gost o adfer yn debygol o fod rhwng £16m a 22.5m, a olygai y bydd angen i’r Cyngor ddarganfod £3.75m fel cyfraniad er mwyn cyflawni’r gwaith.

 

Bu i’r Cabinet yn Hydref 2017 gytuno i brynu darn o dir ger ysgol gynradd Llanrug rhag ofn y byddai ei angen at ddibenion addysgol i’r dyfodol. Nodwyd erbyn hyn mai dim ond elfen o’r tir fyddai ei angen a byddai modd ad-ennill elfen o’r gost drwy werthu’r tir a darnau o’r tir ar gyfer tai fforddiadwy ond amlygwyd y byddai bwlch tebygol angen ei ariannu.

 

Esboniwyd ers cymeradwyo’r cynllun fod y Cyngor wedi derbyn amrywiol grantiau fel bod modd eu defnyddio yn hytrach na’ defnyddio adnoddau o’r Cynllun Asedau, ac ynghyd a setliad cyfalaf uwch na’r hyn y rhagdybiwyd mae dros £5.5m ar gael i’r Cabinet i ystyried sut i’w ddefnyddio.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Rhoddwyd cefnogaeth i Ganolfan Dolfeurig, gan fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Dilwyn Williams

11.

CYLLIDEB 2021-22 pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i argymell i’r Cyngor Llawn ar y 4 Mawrth y dylid:

 

  1. Sefydlu cyllideb o £271,751,360 ar gyfer 2021/22 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £194,793,140 a £76,958,220 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.7%.
  2. Sefydlu rhaglen gyfalaf o £47,085,960 yn 2021/22 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

Nodwyd byddai’r ffigyrau yn argymhelliad 1 uchod yn newid yn unol â’r ffigyrau yn Atodiad 6 o’r adroddiad pe bai’r Cyngor llawn yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor o 50% i 100%.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i argymell i’r Cyngor Llawn ar y 4 Mawrth y dylid:

 

  1. Sefydlu cyllideb o £271,751,360 ar gyfer 2021/22 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £194,793,140 a £76,958,220 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.7%.
  2. Sefydlu rhaglen gyfalaf o £47,085,960 yn 2021/22 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

Nodwyd byddai’r ffigyrau yn argymhelliad 1 uchod yn newid yn unol â’r ffigyrau yn Atodiad 6 o’r adroddiad pe bai’r Cyngor llawn yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor o 50% i 100%.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor eleni wedi derbyn cynnydd grant sydd yn cyfarch chwyddiant ac yn setliad mwy teg na fu mewn blynyddoedd cyn 2020/21. Er hyn, mynegwyd gan fod angen ariannu cynnydd anorfod mewn cost gwasanaethu craidd, rhaid codi’r Dreth 3.7%. Pwysleisiwyd fod codi’r dreth yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn gwasanaethau hanfodol i drigolion Gwynedd gan y bydd yn anymarferol i weithredu cynlluniau arbedion ychwanegol eleni.

 

Tynnwyd sylw fod mwyafrif o aelodau’r Cyngor wedi mynychu cyfres o weithdai ymgynghori, a bu trafodaeth gadarnhaol yn y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Nodwyd erbyn 2021/22 y bydd angen cynyddu gwariant i £10.6m er mwyn sefyll yn llonydd, gan gynnwys £3.6m i gwrdd a phwysau gyllidebau’r gwasanaethau. Esboniwyd i gyfarch y bwlch ariannol, y gellid cynaeafu £725k yn 2021/22 o gynlluniau arbedion cytunedig, ond y bydd angen cynyddu’r Dreth Cyngor 3.7%.

 

Ategwyd fod ffigyrau swyddogol Llywodraeth Cymru yn dangos fod y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o £6.4m erbyn y flwyddyn nesaf sy’n gynnydd o 3.4%. Esboniwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r setliad grant terfynol ar yr 2il Mawrth, ynghyd a chyllideb terfynol Llywodraeth Cymru. Tywyswyd drwy’r gwariant refeniw gan amlygu fod yr amcangyfrif o chwyddiant cyflogau yn £3.5m, er fod dyhead Canghellor Llywodraeth y DU i rewi cyflogau, nodwyd y bydd cynnydd tal o £250 pro rata i staff ar gyflogau £24,000 neu is ynghyd â darpariaeth darbodus i holl staff y Cyngor. Amlygwyd yn ogystal y bydd cynnydd tal o 3.1% i athrawon ysgolion Gwynedd am y cyfnod Ebrill – Awst 2021.

 

Mynegwyd fod chwyddiant arall yn £2.6m yn cynnwys darpariaeth ar gyfer effaith y ‘cyflog byw’, ynghyd a chynnydd chwyddiant ar gyllidebau tanwydd ac ynni  a chynnydd mewn prisiau yn dilyn ail-dendro. Pwysleisiwyd fod pwysau ar wasanaethau ac argymhellwyd cymeradwyo gwerth £3.59m o geisiadau cyflwynwyd gan adrannau am adnoddau parhaol ychwanegol. Nodwyd disgwylir bydd cyfanswm y cymorth gan y Llywodraeth yn sgil argyfwng Covid19 oddeutu £20m erbyn diwedd 2020/21 a bod rhagdybiaeth fod y Llywodraeth am barhau i ddigolledu am gostau ychwanegol a cholledion incwm yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Tynnwyd sylw at benderfyniadau’r Cabinet ar 26 Ionawr 2021 i ohirio neu dileu rhai arbedion hanesyddol nad oedd modd i’w gwireddu, gan amlygu y bydd cyfanswm net o £725k o arbedion i’w defnyddio i leihau bwlch ariannu cyllideb 2020/21.

 

Er mwyn sefydlu’r gyllideb nodwyd y bydd angen cyfarch bwlch o £77m drwy godi’r Dreth Cyngor o 3.7%. Pwysleisiwyd fod y dewis  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Dafydd Edwards

12.

PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDYMOR pdf eicon PDF 653 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth fod Cyngor Gwynedd:

  • Yn caniatáu  dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • Yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas  

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor llawn ym mis Mawrth fod Cyngor Gwynedd:

  • Yn caniatáu  dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • Yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr wedi penderfynu gohirio penderfynu ar y Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor. Nodwyd fod y Cyngor wedi gofyn i’r Cabinet gynnal ymgynghoriad ar y priodoldeb o gynyddu'r lefel i hyd ar 100% yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Mynegwyd yn ôl Deddf 1992 fod rhaid gwneud unrhyw benderfyniad ar y Premiwm gan y Cyngor llawn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol berthnasol ac felly nad oedd modd oedi’r penderfyniad. Amlygwyd y cyd-destun gan amlygu rheoliadau’r Dreth Cyngor ble mae ‘ail gartrefi’ wedi’u categoreiddio i ddau ddosbarth (A & B) ac fod dosbarth C yn cyfeirio at eiddo gwag. Adroddwyd ar y niferoedd o fewn Gwynedd – 811 o fewn dosbarth A, 4,718 o fewn Dosbarth B, a 1,130 yn y dosbarth C yn Nhachwedd 2020.

 

Nodwyd wrth roi grym i gynghorau i godi Premiwm o hyd at 100% fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer gweinyddu’r Premiwm. Ategwyd fod y canllaw yn amlinellu’r hyn sydd angen ei ystyried gan y Cyngor pan yn bwriadau cyflwyno’r Premiwm.  Nodwyd wrth gyflwyno’r Premiwm yn ôl yn 2016 rhoddwyd sylw i ddau astudiaeth, dadansoddiad manwl a gynhaliwyd yn 2013, ynghyd â’r Strategaeth Dai 2013-16. Nodwyd fod y Cyngor wedi mabwysiadau Strategaeth Dai newydd, ynghyd â dau adroddiad allweddol Gwaith Ymchwil Tai Gwyliau a’r Cynllun Gweithredu Tai, yn y cyfnod ers hynny.

 

Amlinellwyd yr ymatebion a dderbyniwyd o’r ymgynghoriad, gan nodi fod yr ymgynghoriad wedi ei amlygu ar wefannau cymdeithasol ynghyd ag anfon llythyr at bob perchennog ail gartref ac eiddo gwag hirdymor yn eu hysbysu o’r ymgynghoriad. Derbyniwyd 6,227 o ymatebion i’r holiadur ac oddeutu 100 o lythyrau a negeseuon ar wahân. Mynegwyd o’r ymatebion fod 41% yn nodi nad oeddent yn berchen ail gartref, 53% yn nodi eu bod yn berchen ail gartref.

 

Nodwyd fod bron i 4 o bob 5 o’r ymatebwyr sydd yn berchen ail gartref yn credu eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned yn lleol, tra fod 3 o bob 5 o’r ymatebion sydd dim yn berchen ail gartref yn meddwl eu bod yn cael effaith negyddol ar gymunedau lleol. Amlygwyd fod gwahaniaeth barn glir yn cael ei amlygu gyda’r cwestiwn os yw cynyddu’r lefel yn briodol, gyda 61% o’r rhai oedd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

Awdur: Dewi Morgan