skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dilwyn Williams, y Prif Weithredwr.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Ioan Thomas a’r Cyng. Cemlyn Williams ar gyfer eitem 6 gan eu bod yn aelodau o Gyngor Tref Caernarfon. 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 284 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 fel rhai cywir.

 

6.

TROSGLWYDDIAD LES A RHEOLAETH O SAFLE COED HELEN, CAERNARFON pdf eicon PDF 211 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Prydlesu a throsglwyddo rheolaeth Parc Coed Helen, Caernarfon i Gyngor Tref Caernarfon.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Prydlesu a throsglwyddo rheolaeth Parc Coed Helen, Caernarfon i Gyngor Tref Caernarfon.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Mynegwyd yn ôl yn Rhagfyr 2014 fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen arbedion dros £1miliwn i’r adran Hamdden. Ychwanegwyd fod yr adran wedi llwyddo i wireddu'r arbedion, ac fel rhan o’r arbedion sefydlwyd Cwmni Byw’n Iach i gymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaeth hamdden.

 

Amlygwyd fod y cwmni yn rhedeg 12 o Ganolfan Hamdden y Cyngor yn ogystal â pum adnodd cymunedol. Nodwyd fod Parc Coed Helen yn un o’r adnoddau cymunedol, sydd yn cael ei defnyddio gan glybiau lleol o fewn y cymunedau. Ychwanegwyd y bu i’r adnoddau gael eu trosglwyddo i’r Cwmni dros dro gan amlygu ar y pryd nad oedd y trefniant hwn yr un mwyaf effeithiol ar gyfer y safleoedd. Mynegwyd fod yr adran Economi a Chymuned wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda nifer o grwpiau ac endidau yn y cymunedau i weld  os byddai diddordeb a threfniadau mwy effeithiol i reoli’r adnoddau. Ategwyd fod trafodaethau cadarnhaol wedi eu cynnal gyda Chyngor Tref Caernarfon gan nodi fod y Cyngor Tref wedi penderfynu cymryd trosglwyddiad o’r Parc ar les 99 mlynedd. Pwysleisiwyd fod y Cyngor Tref yn hapus i gynnal a chadw’r gwasanaethau presennol yn ogystal â chwilio am gyfleodd i wella’r cyfleusterau i’r dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Mynegwyd gan fod y tir hwn yn dir cyhoeddus agored fod hysbysiad y bwriad yn angenrheidiol yn gyfreithiol. Pwysleisiwyd fod hyn wedi ei wneud a ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad.

¾     Amlygwyd fod gwrthwynebiad gan un o’r Aelodau Lleol a holwyd beth oedd y pryderon oedd wedi ei amlygu ganddo. Mynegwyd ei fod wedi codi nifer o faterion megis trefniadau ar gyfer yr Ofalwraig, materion parcio yn ogystal â capasiti Cyngor Tref. Mynegwyd fod y Cyngor wedi egluro’r sefyllfa ond nodwyd fod yw’r Aelod Lleol yn parhau i wrthwynebu’r trosglwyddiad.

¾     Nodwyd fod y parc yn un sydd yn agos at galon nifer o bobl a bod sicrhau ei ddyfodol yn gwbl angenrheidiol. Mynegwyd fod y Cyngor Tref o bosib yn gorff gwell i reoli’r adnodd. Amlygwyd dealltwriaeth dros bryderon am yr ofalwraig.

¾     Mynegwyd yr angen i edrych ar drosglwyddo ar gyfer yr holl adnoddau cymunedol, gan y bydd modd iddynt dderbyn mwy o fuddsoddiad drwy gyrff megis Cynghorau Tref.

 

Awdur: Sioned Williams

7.

ADRODDIAD CYNNYDD PANEL STRATEGOL DIOGELU 2018-2020 pdf eicon PDF 108 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi ddiweddariad ar waith y Panel Strategol Diogel. Pwysleisiwyd fod diogelu yn flaenoriaeth i bawb o fewn y sir a'i fod wedi ei amlygu yn ystod y cyfnod covid-19.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad yn crynhoi gwaith y panel, gyda chyfeiriadau at adroddiadau archwiliwr allanol ac Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol am y cyfnod o ddwy flynedd. Mynegwyd er bod yr adroddiad wedi llithro ond nad yw hyn adlewyrchiad o waith y panel yn ystod y cyfnod.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ymddiheuro fod yr adroddiad yn hwyr yn cyrraedd, ond mynegwyd fod yr adroddiad yn un cynhwysfawr. Mynegwyd fod oedi byr iawn cyn cyfarfod ar ddechrau’r pandemig ond amlygwyd y bu i’r panel gyfarfod drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, a bod hyn wedi amlygu fod diogelu yn flaenoriaeth o fewn y Cyngor. Diolchwyd am ymrwymiad pawb i’r maes.

 

Tynnwyd sylw ar effaith y pandemig ar ddiogelu gan amlygu fod y nifer y cyfeiriadau wedi lleihau  am gyfnod ond fod y niferoedd yn cynyddu fel oedd elfennau o’r pandemig yn addasu. Mynegwyd ei bod yn galonogol fod y tueddiadau yma yn gyson gyda'r darlun a welwyd ar draws Cymru, a bod trafodaethau cenedlaethol a rhanbarthol yn parhau i edrych ar y tueddiadau yma.

 

Nodwyd o ran y rhaglen waith fod cynnydd wedi ei wneud. Tynnwyd sylw at y gwaith da o godi ymwybyddiaeth sydd yn cael ei wneud yn barhaus, ond mynegwyd fod data hyfforddiant yn parhau i fod yn bryder gan nad yw’r ffigyrau nifer o staff y cyngor yn mynychu hyfforddiant yn 100%. Ychwanegwyd fod y panel yn edrych ar y ffordd orau o rannu’r wybodaeth gyda staff. Amlygwyd y gwaith sydd yn cael ei wneud mewn partneriaeth yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  Mynegwyd bellach fod y panel yn fewnol wedi cyfuno diogelwch cymunedol o fewn y Panel Diogelu.

 

Tynnwyd sylw ar y cynnydd mewn nifer o rieni yn penderfynu addysgu eu plant o’r cartref gan amlygu nad oes canllawiau diogelwch ar yn lle ar gyfer y plant yma. Amlygwyd yr angen i edych ymhellach i mewn i’r mater.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd o ran nifer  plant yn cael eu haddysgu o’r cartref a’r rhesymeg dros y cynnydd. Mynegwyd angen gofyn i’r Pennaeth Addysg am y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniadau ond nodwyd fod gweithdrefnau yn eu lle er mwyn gwneud cyswllt gyda’r unigolion sydd yn dewis addysgu o’r cartref.

¾     Mynegwyd fod cyfradd trais yn y cartref yn isel yn benodol ar ôl y cyfnod clo. Amlygwyd pryder am y maes a bod swyddogion arbennig o fewn y maes yn gweithio yn agos gyda phenaethiaid i geisio gwneud popeth mor syml â phosib i’r unigolion sydd wir angen cymorth. Ychwanegwyd fod disgwyliad i’r niferoedd godi yn dilyn y pandemig ac y bydd angen creu asesiad anghenion poblogaeth yn dilyn y cyfnod.

¾    Diolchwyd i’r staff am  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Morwena Edwards

8.

YMATEB I'R YMGYNGHORIAD AR Y PAPUR GWYN: AIL-GYDBWYSO GOFAL A CYMORTH pdf eicon PDF 233 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig a'r Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr ymateb drafft i’r Ymgynghoriad gan nodi angen am addasiadau i ymateb cwestiwn 3 er mwyn cryfhau’r ymateb.

 

Cefnogwyd penderfyniad y Cyngor i anghytuno gyda’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr ymateb drafft i’r Ymgynghoriad gan nodi angen am addasiadau i ymateb cwestiwn 3 er mwyn cryfhau’r ymateb.

 

Cefnogwyd penderfyniad y Cyngor i anghytuno gyda’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn yn edrych ar Ail Gydbwyso Gofal a Chymorth. Nodwyd fod y Papur Gwyn yn amlygu gweledigaeth y Llywodraeth a oedd yn cynnwys symud oddi wrth gymhlethdodau, symud oddi wrth brisiau ac yn nes at werth cymdeithasol ac i symud o ffocws sefydliadol i ffocysu ar gydweithio effeithiol. Mynegwyd cefnogaeth i’r weledigaeth sydd yn cyd-fynd a’r weledigaeth sydd o fewn y Cyngor.

 

Pwysleisiwyd mai’r brif broblem o edrych ar y dogfennau oedd sut fydd y Llywodraeth yn cyflawni hyn. Ymhelaethwyd drwy nodi fod y Papur Gwyn yn pwysleisio'r elfen symleiddio, ond yn cymhlethu’r trefniadau drwy nodi prosesau comisiynu safonol, creu Byrddau a Swyddfa Genedlaethol ac i sefydlu’r Byrddau Partneriaeth Ranbarthol yn endidau corfforaethol cyfreithiol. Amlygwyd ymdeimlad fod y bwriad uchod yn groes i’r weledigaeth a bod hyn wedi ei amlygu yn ymateb y Cyngor. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar yr olwg gyntaf ei fod yn cyd-fynd a gweledigaeth y Cyngor ac yn ymateb da gan y Llywodraeth. Er hyn, nodwyd wrth edrych yn fanylach ei fod yn groes i’r weledigaeth sydd yn cael ei nodi. Amlygwyd fod y maes yn cael ei gymhlethu drwy ychwanegu mwy o haenau ac yn benodol mewn rhanbarthau mawr megis Gogledd Cymru. Ategwyd y byddai hyn yn symud y penderfyniadau pellgyrhaeddol ymhellach oddi wrth yr unigolyn. Pwysleisiwyd fod prynu cymorth unigolion yn rhan fawr o’r ddogfen ac yn mynd yn erbyn egwyddorion Gwynedd o fynd ar sail yr unigolyn yn hytrach na bwydlen o gefnogaeth.

 

Nodwyd fod y ddogfen yn amlygu angen am delerau ac amodau gwell ar gyfer staff gofal ond nad yw’n nodi beth yw’r datrysiad. Amlygwyd fod sôn am gronfeydd cronnus rhanbarthol ond nodwyd na fyddai hyn yn rhoi datrysiad. Mynegwyd nad oes dim sôn am y ddogfen bellgyrhaeddol Cymru Iachach, sy’n nodi’n glir fod angen gweledigaeth ranbarthol ond darpariaeth leol. O ran yr ymatebiad nodwyd fod ymatebion i’w gweld yn yr atodiadau ond amlygwyd yr angen i anfon llythyr yn ogystal yn amlygu beth mae’r Cyngor yn ei wneud i gyd-fynd a’r weledigaeth sydd yn cael ei amlygu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd dealltwriaeth o anfon llythyr gyda’r ymatebion ond mynegwyd y posibilrwydd y byddant yn edrych ar yr ymatebion yn unig. Pwysleisiwyd yr angen i amlygu yn glir y gwrthwynebiad o greu endid corfforaethol cyfreithiol rhanbarthol.

¾    Pwysleisiwyd pryder am rhanbartholi gan ei bydd yn tynnu ymhellach oddi wrth y trigolion. 

¾    Mynegwyd fod risgiau o greu cronfeydd a bod angen amlygu'r rhain yn yr ymateb i gryfhau'r gwrthwynebiad am greu corff rhanbarthol.

¾    Pwysleisiwyd fod y weledigaeth yn cyd-fynd a deheuad y Cyngor. Nodwyd nad oes dim sôn am ymarferon da sydd i’w gweld ar draws Cymru, a dim sôn yn ogystal am sylwadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Morwena Edwards

9.

FFIOEDD PRESWYL A NYRSIO 2021-22 pdf eicon PDF 353 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y ffioedd preswyl a nyrsio isod i’w cytuno gyda darparwyr annibynnol ar gyfer 2021/22

 

Categori

Ffi

Preswyl

£586.32

Preswyl dementia – dibyniaeth uchel

£650.79

Nyrsio

£683.90

Nyrsio dementia – dibyniaeth uchel

£722.33

 

Cofnod:

Cymeradwywyd y ffioedd preswyl a nyrsio isod i’w cytuno gyda darparwyr annibynnol ar gyfer 2021/22

 

Categori

Ffi

Preswyl

£586.32

Preswyl dementia – dibyniaeth uchel

£650.79

Nyrsio

£683.90

Nyrsio dementia – dibyniaeth uchel

£722.33

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gais bid ar gyfer codi ffioedd. Tynnwyd sylw at yr opsiwn ffafredig.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Busnes yr Adran Oedolion cyn cyfnod y pandemig fod angen rhoi sylw i ffioedd oherwydd bod nifer o ddarparwyr yn gwrthod y ffioedd ac yn codi ffioedd eu hunain. Cydnabuwyd yr angen i adolygu’r ffioedd gan ychwanegu fod darn o waith wedi ei gomisiynu i edrych ar y mater ymhellach.

 

Mynegwyd o ganlyniad i’r panedemig fod y gwaith hwn wedi ei roi i un ochor ac felly ddim yn ddigon aeddfed i’w ddefnyddio ar gyfer edrych ar ffioedd 2021/22. Nodwyd o ganlynid i hyn fod teclyn safonol rhanbarthol wedi ei ddefnyddio ar gyfer gosod y ffioedd am 2021/22. Ychwanegwyd yr angen i addasu'r teclyn hwn a bod trafodaeth ranbarthol yn cael ei gynnal gyda darparwyr.

Amlygwyd yr opsiynau gan bwysleisio fod yr opsiwn ffafredig, Opsiwn A, yn ateb rhai materion sydd yn cael eu hamlygu ynghyd a rhoi costau. Ond ychwanegwyd ei fod yn rhoi cyfle i’r Cyngor barhau gyda’r trafodaethau i dalu costau uwch yn y dyfodol ynghyd ac ail afael yn y gwaith a gomisiynwyd.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn siomedig nad oedd yn rhan o’r drefn bidiau ac yn benderfyniad ar wahân. Ychwanegodd fod agweddau rhanbarthol yn eu dal yn ôl yn hytrach na gweithio yn syml a chlir. Mynegwyd fod yr opsiwn ffafredig yn fforddiadwy o fewn y gyllideb.

 

Awdur: Rhion Glyn

10.

EFFAITH COVID-19 AR GYLLIDEB 2021/22 CWMNI BYW'N IACH pdf eicon PDF 152 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas & Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Awdurdodwyd y Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a Chymuned, i ddarparu llythyr o sicrwydd er mwyn ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i gwmni Byw’n Iach hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2021/22, yn unol â’r ddarpariaeth yn y cytundeb gyda’r cwmni.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a Chymuned, i ddarparu llythyr o sicrwydd er mwyn ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i gwmni Byw’n Iach hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2021/22, yn unol â’r ddarpariaeth yn y cytundeb gyda’r cwmni.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn Mai 2020 cyflwynwyd adroddiad yn nodi bwlch posib yng nghyllideb 2020/21 i Gwmni Byw’n Iach o ganlyniad i Covid-19. Ychwanegwyd yn y cyfarfod fod disgwyliad y byddai Llywodraeth Cymru yn cyllido gwariant ychwanegol a phenderfynwyd y buasai’r Cabinet yn fodlon darparu’r gefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal gwasanaethau cwmni Byw’n Iach yn y man cyntaf hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Mynegwyd fod y Llywodraeth wedi cyfannu yn deg o’r Gronfa Caledi at golledion incwm a bod y Cyngor wedi hawlio arian o gynllun ‘Ffyrlo’ tra bu canolfannau hamdden wedi cau. Nodwyd fod yr adran gyllid yn disgwyl y bydd y Cyngor wedi hawlio cyfanswm o £3m o gymorth ar ran cwmni’r Byw’n Iach.

 

Amlygwyd y bydd sgil effaith argyfwng Covid-19 yn parhau yn 2021/22 gyda phosibilrwydd o ryw fath o gyfyngiadau mewn lle ynghyd a’r her o ail adeiladu hyder cwsmeriaid y cwmni. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn parhau o’r farn mai model cwmni hyd-braich yw’r un mwyaf addas i gwrdd â’r dyheadau yn y maes hamdden ac y bydd perthynas agos yn parhau i sicrhau ei hyfywdra ariannol.

 

Nodwyd yr argymhelliad i ymestyn y cyfnod o sicrwydd i’r flwyddyn ariannol nesaf fel bod modd eu cefnogi yn ariannol o leiaf hyd ar 31 Mawrth 2022. Ychwanegwyd drwy ddefnyddio 2021/22 fel sail ni ragwelir y bydd y gost o gadw‘r cwmni yn hyfyw uwchlaw swm eleni. Yn ogystal, mynegwyd fod rhagdybiaeth cyllidebu resymol y bydd y Llywodraeth yn parhau i ddigolledu’r Cyngor am golledion incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Awdur: Dafydd Edwards