Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Nia Jeffreys a Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol). 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 9 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2021 fel rhai cywir

6.

TREFNIADAU CWYNION A GWELLA GWASANAETH Y CYNGOR pdf eicon PDF 429 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys, Cyng. Dilwyn Morgan a'r Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

     I.        Mabwysiadwyd trefn gwynion newydd i'r Cyngor yn unol ag Atodiad 1.

    II.        Dynodwyd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fel y Swyddog Cyfrifol.

  III.        Derbyniwyd yr adroddiadau blynyddol a Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig 

 

PENDERFYNIAD

 

     I.Mabwysiadwyd trefn gwynion newydd i'r Cyngor yn unol ag Atodiad 1. 

    II.Dynodwyd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fel y Swyddog Cyfrifol.  

  III.Derbyniwyd yr adroddiadau blynyddol a Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod nifer o elfennau i’r adroddiad. Amlygwyd elfen cwynion yr Adran Oedolion gan nodi ei fod yn safonol i gyflwyno adroddiad cwynion yn flynyddol. Mynegwyd fod dau gam ar gyfer cwynion sef datrysiad lleol ac yna ymchwiliad llawn. Pwysleisiwyd fod yr adran yn dysgu gwersi yn dilyn pob cwyn ac yn eu defnyddio ar gyfer gwella gwasanaeth. Ychwanegwyd er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar gwynion ei fod hefyd yn cydnabod y gwaith da sydd yn cael ei wneud o fewn yr adran yn ogystal gydag adran benodol yn yr adroddiad yn amlygu'r sylwadau da  sydd wedi ei derbyn.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod argymhelliad cyntaf yr adroddiad yn gofyn i’r  Cabinet i fabwysiadu trefn gwynion newydd, gan bwysleisio fod y drefn hon yn benodol ar gyfer cwynion corfforaethol. Mynegwyd fod Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019 wedi cyflwyno sail statudol i drefniadau cwynion y Cyngor.  Ychwanegwyd fod y model yn adlewyrchu’r drefn a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2014, ac felly mai dim ond man newidiadau fydd angen ei gwneud. Ategwyd yn ogystal y bydd y Swyddog Monitro yn camu yn ôl ac y bydd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn cael ei ddynodi fel y Swyddog Cyfrifol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Nodwyd yr angen am amserlen gweithredu.

¾    Mynegwyd fod yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd wedi blaenoriaethu cwynion. Ychwanegwyd eu bod wedi rhoi pwyslais ar roi gwybodaeth am gwyno i drigolion ac yn cynnig gwasanaeth gafael llaw ar gyfer trigolion sydd yn cwyno er mwyn rhoi cefnogaeth lwyr i’r unigolion. Amlygwyd fod nifer y cwynion yng ngham 1 wedi codi ond mae hyn o ganlyniad i’r adran yn nodi pob ymholiad maent yn ei dderbyn. Ymhelaethwyd fod yr adran yn cael adroddiad cynhwysfawr chwarterol ac yn dadansoddi’r cwynion er mwyn gwella’r gwasanaeth.

¾    Nododd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod gostyngiadau wedi bod mewn cwynion ond bellach fod mesur mewn lle i fesur sawl  diwrnod mae’n ei gymryd i ddelio gyda chŵyn. Esboniwyd bellach ei bod oddeutu 7 diwrnod i ddelio gyda chŵyn.

¾    O ran y sylw ar gymal 7.3 yr adroddiad ar gwynion yn y maes Oedolion gofynnwyd pam bod gohirio gweithredu wedi bod ar argymhellion yr Ombwdsmon pan mai ymddiheuro ac atgoffa staff am bwysigrwydd asesiadau oedd y prif argymhellion oedd yn disgyn ar y Cyngor. Nododd y swyddog nad oedd yr ateb ganddi ac y byddai’n ymchwilio gan hysbysu’r Prif Weithredwr o’r rhesymau.

¾    Pwysleisiwyd fod natur rhai gwasanaethau yn golygu eu bod yn derbyn mwy o gwynion ond fod gwersi yn cael  ei dysgu gan bob cwyn.

¾    Mynegwyd fod yr ystadegau a sylwadau positif yn galonogol a diolchwyd i staff am eu gwaith.

Awdur: Morwena Edwards, Iwan Evans a Geraint Owen

7.

EGWYDDORION ECONOMI YMWELD CYNALIADWY GWYNEDD pdf eicon PDF 468 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar Egwyddorion Economi Cynaliadwy Gwynedd ar sail drafft er mwyn cychwyn ar y broses ymgynghori gyda trigolion a busnesau Gwynedd.

 

Cytunwyd i barhau trafodaethau ar strwythur i weithredu'r egwyddorion i'r dyfodol gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ac unrhyw bartner perthnasol arall.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas. 

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd ar Egwyddorion Economi Cynaliadwy Gwynedd ar sail drafft er mwyn cychwyn ar y broses ymgynghori gyda trigolion a busnesau Gwynedd.  

 

Cytunwyd i barhau trafodaethau ar strwythur i weithredu'r egwyddorion i'r dyfodol gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ac unrhyw bartner perthnasol arall.  

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad gan bwysleisio fod yr egwyddorion ar sail drafft er mwyn cychwyn ymgynghori gyda thrigolion a busnesau. Ategwyd fod cyfnod Covid-19 wedi atgyfnerthu’r angen i greu egwyddorion yn y maes Twristiaeth. Nodwyd y brif egwyddor oedd creu Economi Ymweld er budd a lles pobl Gwynedd. Esboniwyd y trafodaethau sydd wedi eu cynnal er mwyn creu'r egwyddorion drafft a oedd yn cynnwys gweithdai gydag aelodau, trafodaethau gyda Chroeso Cymru a’r sector twristiaeth. Ychwanegwyd y bydd trafodaethau pellach yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Mynegwyd fod y cam hwn yn gam pwysig i greu perthynas newydd o fewn y maes.

¾    Nodwyd fod y gwaith hwn yn holl bwysig gan fod y maes mor bwysig i’r ardal.

¾    Esboniwyd fod yr egwyddorion yn rhai da a clir ond ei fod yn holl bwysig fod cymunedau nid yn unig busnesau yn rhan o’r drafodaeth. Ychwanegwyd yr angen i’r trafodaethau gyda chymunedau gael ei chynnal ar sail yr 13 ardal sydd wedi eu hamlygu gan fod gofynion pob ardal am fod yn gwbl wahanol. Pwysleisiwyd yr angen i’r trafodaethau gael ei cynnal ar y cyd rhwng cymunedau a’r busnesau fel bod y deialog yn cael ei greu yn ogystal ac  rhannu profiadau.

¾    Mynegwyd y bydd Uwch Gynhadledd yn cael ei gynnal yn yr Hydref a fydd yn cynnwys busnesau a chymunedau ble fydd modd cyflwyno’r egwyddorion ar ei ffurf olaf ac i greu camau gweithredu.

¾    Nodwyd cefnogaeth i’r egwyddorion gan fod angen sicrhau fod budd i’r cymunedau drwy dwristiaeth.

¾    Pwysleisiwyd y bydd pob ardal yn rhan o’r drafodaeth, ac nid y cymunedau ble mae nifer uchel o dwristiaeth.

Awdur: Roland Evans