Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

ADRODDIAD CHWE MIS CWYNION A GWELLA GWASANAETH pdf eicon PDF 582 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn adrodd ar y drefn gwynion o fewn y Cyngor. Eglurwyd fod gan y Cyngor drefn bendant a ddiweddarwyd yn Ebrill 2021. Nodwyd pan ddiwygiwyd y drefn fod addasiadau wedi ei gwneud ac fod y drefn bellach yn eistedd o dan yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad yn adrodd ar y cwynion ffurfiol mae’r Cyngor wedi ei dderbyn ynghyd a’r cwynion sydd wedi cyrraedd yr Ombwdsmon. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn defnyddio cwynion i wella gwasanaethau ac i weld y tueddiadau ar draws adrannau. Amlygwyd fod nifer y cwynion wedi codi, ond fod hyn i’w weld ar draws Llywodraeth Leol. Er fod y niferoedd wedi codi, nodwyd fod y cwynion a oedd wedi cyrraedd yr Ombwdsmon wedi parhau yr un nifer.

 

Eglurwyd fod yr Ombwdsmon wedi nodi fod ffigyrau cwynion a gyflwynwyd gan y Cyngor yn ymddangos yn realistig, fod y drefn yn gweithio ac fod y Cyngor yn amlwg yn barod i ddysgu gwersi o’r cwynion. Pwysleisiwyd fod lle i wella ac fod angen sicrhau fod y meddylfryd fod cwynion yn beth positif ac yn ffordd i wella gwasanaeth yn ganolog i waith y gwasanaeth. Eglurwyd fod hyfforddiant yn cael ei greu ar ofal cwsmer ar hyn o bryd ar y cyd gyda’r Ombwdsmon ac y bydd ar gynnal ym mis Hydref. 

 

Tynnwyd sylw yn ogystal i’r wal lwyddiannau sydd yn amlygu diolchiadau gan y cyhoedd ac yn arddangos gwasanaethau ar eu gorau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Ychwanegodd y Pennaeth Adran fod yr adroddiad yn amlygu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ond fod angen parhau i adeiladau ar y cynnydd hwn.

¾    Nodwyd fod ystadegau’r Ombwdsmon yn cynnwys cwynion swyddogol ac answyddogol ac felly eu bod yn credu fod y nifer cwynion yn realistig. Mynegwyd drwy gyflwyno’r ffigyrau yn llawn fod y Cyngor yn gwbl agored. 

¾    Mynegwyd fod yr adran wedi nodi 41 cwyn yn ystod pum mis cyntaf eleni, ac fod y nifer yn ymddangos yn isel a holwyd os yw’r Cyngor yn dal pob cwyn. Eglurwyd fod y Cyngor yn awyddus i dderbyn cwynion ac eu bod yn ceisio bod yn agored drwy dderbyn cwynion drwy amrywiol ffyrdd, ac felly yn cyrraedd nifer uchel o unigolion.

¾    Amlygwyd pryderon nad yw’r Cyngor yn dal pob cwyn a holwyd os oedd cwynion Cynghorwyr yn cael ei cynnwys yn y niferoedd yma. Nodwyd fod angen i’r  Aelodau Cabinet gael eu tynnu i mewn i gwynion fel eu bod yn ymwybodol ohonynt yn gynt yn y broses yn ogystal.

¾    Pwysleisiwyd fod Llythyr yr Ombwdsmon yn nodi fod y flwyddyn hon wedi bod yn un cwbl wahanol ac felly fod angen cymryd hyn i ystyriaeth pan yn trafod yr eitem hon.

 

 

Awdur: Geraint Owen

6.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT: SAFLE TREFTADAETH Y BYD TIRWEDD LLECHI GOGLEDD-ORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 100 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Canllaw Cynllunio Atodol drafft: Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a dirprwywyd yr hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd i wneud unrhyw addasiadau ansylweddol y galli fod yn ofynnol i CCA drafft.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Griffith.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd y Canllaw Cynllunio Atodol drafft: Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a dirprwywyd yr hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd i wneud unrhyw addasiadau ansylweddol y galli fod yn ofynnol i CCA drafft. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y penderfyniad.

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn nodi eleni fod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus i gael dynodiad Tirwedd Llechi Gogledd Cymru gan UNESCO o fewn y sir. Mynegwyd fod yr ardal penodol wedi ei rhannu yn chwe cyfadran ac fod y chwe adran yn unigryw ac fod hyn wedi ei amlygu yn y Canllaw Cynllunio Atodol. Eglurwyd fod y Canllaw wedi ei baratoi ar y cyd gyda Parc Cenedlaethol Eryri, gan fod rhai ceisiadau cynllunio yn cael ei penderfynu unai gan y Cyngor neu gan y Parc. Nodwyd fod y Canllaw yn rhoi gwybodaeth manwl am yr ardaloedd ac yn rhoi arweiniad pellach ar sut y gellid sicrhau gwarchod a gwella nodweddion y safle.

 

Eglurwyd fod y canllaw wedi ei dorri yn 4 adran ac amlygwyd y pedair adran. Pwysleisiwyd fod yr adran wedi gweithio yn agos gyda’r Parc Cenedlaethol ac fod trafodaethau wedi bod gyda rhan ddeiliaid allweddol. Nodwyd gan fod y Canllaw ar y cyd rhwng y Parc a’r Gyngor fod angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Amlygwyd y bydd y sylwadau fydd yn cael ei nodi yn y cyfnod ymgynghori yn cael ei adrodd i’r Cabinet ac y bydd addasiadau yn cael ei wneud iddynt.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod llawer o waith wedi ei wneud i ddatblygu’r Canllaw Cynllunio Atodol ac wedi ei ddatblygu yn unol a’r dystiolaeth. Amlygwyd cefnogaeth i fynd i ymgynghoriad ond holwyd am yr addasiadau ansylweddol all godi ac eu haddasu fel y nodir yn yr argymhelliad, Nodwyd fod rhain yn newidiadau ansylweddol megis sillafu a pwysleisiwyd os y bydd newid sylweddol yn cael ei amlygu y bydd yn dod yn ôl i’r Cabinet.

¾     Mynegwyd fod y canllaw yn nodi rôl i warchod treftadaeth yr ardaloedd ynghyd a nodweddion penodol a holwyd os oes modd mynd cam ymhellach. Eglurwyd fod y Canllaw hwn yn un rhan o’r Cynllun Rheoli ac ei fod ei cynnwys polisïau penodol sydd i’w gweld o fewn y Cynllun Datblygu Lleol, ond eglurwyd fod yr Adran Economi yn brysur greu canllawiau sydd yn amlygu arferion da ac y nodweddion arbennig sydd i’w gweld yn yr ardaloedd a fydd i’w defnyddio pan unigolion yn addasu tai a gerddi o fewn yr ardal Tirwedd Llechi.

¾     Nodwyd fod y canllawiau yn amlygu beth sydd i’w gweld yn y Polisi Cynllunio ar y Cyd ac felly amlinelliad sydd i’w gweld o fewn y cynllun atodol ac o ganlyniad ddim yn ychwanegu rhwystrau i ddatblygwyr ond i amlygu beth sydd yn bwysig. Nodwyd yr angen i daro balans rhwng hwyluso datblygiadau a gwarchod y nodweddion arbennig o fewn yr ardaloedd.

 

Awdur: Gareth Jones

7.

CYLLIDEB REFENIW 2021/22 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2021 pdf eicon PDF 96 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran /

gwasanaeth.

 

Nodwyd fod effaith ariannol Covid yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau

ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor

wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn

ymateb i’r argyfwng.

 

Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn

parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen

arbedion.

 

Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r

Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni, tra fod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr

Adran Plant a Theuluoedd.

 

Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u

egluro yn Atodiad 2).

• Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾    Tanwariant o (£285k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

¾    Tanwariant net o (£1,957k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa  Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol  sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng Covid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac  ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran /  

gwasanaeth. 

 

Nodwyd fod effaith ariannol Covid yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau  ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn 

ymateb i’r argyfwng. 

 

Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn  parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen  

arbedion. 

 

Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r  Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni, tra fod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr Adran Plant a Theuluoedd.  

 

Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u  egluro yn Atodiad 2). 

• Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:  

¾      Tanwariant o (£285k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. 

¾      Tanwariant net o (£1,957k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa  Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol  sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng Covid. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw Cyngor ynghyd a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Amlygwyd fod effaith ariannol sylweddol wedi bod i’r Cyngor o ganlyniad i Covid 19 gyda cyfuniad o gostau ychwanegol ynghyd â cholledion incwm. Eglurwyd fod y Cyngor yn gwneud ceisiadau i ad-hawlio costau yn fisol o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru.

 

Mynegwyd yn ôl ym mis Ionawr fod camau wedi ei gwneud i lunio rhaglen ddiwygiedig o arbedion ar gyfer 2021/22, ond eglurwyd fod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai meysydd, gyda oediad o ganlyniad i’r argyfwng yn ffactor amlwg.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion gan nodi fod yr adran yn rhagweld gorwariant o £1.4miliwn yn yr Adran Oedolion, gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor amlwg o’r gorwariant. Mynegwyd fod covid wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr adran ac fod gwerth £1.3miliwn eisoes wedi ei hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau ychwanegol am y cyfnod.

 

Eglurwyd yn dilyn penderfyniad y Cyngor i ddyrannu £1.8miliwn o arian ychwanegol i’r Adran Plant yng nghylch cyllidebu 2021/22 ynghyd â dileu gwerth £1.1miliwn o gynlluniau arbedion amlygwyd fod y rhagolygon ar hyn o bryd yn addawol iawn i’r adran. Mynegwyd fod problemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn parhau yn yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd fod trafferthion gwireddu arbedion mewn nifer o feysydd gwerth £673k ac fod yr adran wedi wynebu costau ychwanegol yn ymateb a covid, ond fod Llywodraeth Cymru eisoes oedi digolledu a fod disgwyliad y byddant yn parhau i ddigolledu am weddill y flwyddyn.

 

Yn Gorfforaethol nodwyd fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynhyrchu treth ychwanegol ac yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor. Nodwyd y penderfyniad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾     Eglurodd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Ffion Madog Evans

8.

RHAGLEN GYFALAF 2021/22 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2021 pdf eicon PDF 216 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2021) o’r

rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·         defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o £25,837,000 o 2020/21,

·         cynnydd o £61,000 mewn defnydd o fenthyca,

·         cynnydd o £9,959,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,

·         cynnydd o £69,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,

·         cynnydd o £1,482,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,

·         cynnydd o £21,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a

·         cynnydd o £807,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2021) o’r  

rhaglen gyfalaf. 

 

Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: 

·         defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o    £25,837,000 o 2020/21, 

·         cynnydd o £61,000 mewn defnydd o fenthyca, 

·         cynnydd o £9,959,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, 

·         cynnydd o £69,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf, 

·         cynnydd o £1,482,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw, 

·         cynnydd o £21,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a 

·         cynnydd o £807,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a gofyn am gymeradwyaeth i’r ffynonellau ariannu perthnasol. Eglurwyd fod dadansoddiad i’w gweld yn yr adroddiad o’r rhaglen gyfalaf o £124.0 miliwn am y dair blynedd nesaf.

 

Eglurwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £71.6 miliwn eleni gyda £26.1 miliwn wedi ei ariannu drwy grantiau penodol. Mynegwyd fod argyfwng Covid yn parhau ar y rhaglen Gyfalaf gyda dim ond 16% o’r gyllideb wedi ei wario hyd at ddiwedd Awst, o’i gymharu a 13% dros yr un cyfnod y llynedd a 19% ddwy flynedd yn ôl.

 

Nodwyd fod £9.1m o wariant arfaethedig wedi’i ail broffilio o 2021/22 i 2022/23 a 2023/24 ac amlygwyd y prif gynlluniau a oedd yn cynnwys Ysgolion Ganrif 21, Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol a Cynlluniau Rheoli Carbon y Cyngor. Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi eu denu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys grant o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, Grant Targedu Buddsoddiad i gynllun Nyth ym Mangor a Grantiau Llywodraeth Cymru i’r Maes Gofal Plant.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu cynlluniau cyffroes megis  Economi Gylchol sydd yn nifer o grantiau. Amlygwyd balchder yn gweld cynllun Nyth sydd wedi derbyn grantiau ac yn mynd i gynnig cyfleodd cyffroes a creadigol ym Mangor.

¾    Croesawyd yr arian ar gyfer unedau diwydiannol gan fod llawer o alw am yr unedau.

¾    Amlygwyd pryder am costau nwyddau adeiladu ynghyd a sgiliau yn y maes adeiladu. Holwyd os oes unrhyw bryder am wario y buddsoddiadau o ganlyniad i’r pryderon yma. Nodwyd fod tendrau yn dod yn ôl yn llawer uwch, ond eglurwyd fod y rhagolygon yn amlygu eu bod dros dro ac felly fod rhai meysydd yn dal yn ôl ar gynlluniau ac yn blaenoriaethu yn ôl yr angen. 

¾    Mynegwyd fod angen llongyfarch y Cyngor am y gwariant cyfalaf yn sefydlu asedau i’r Cyngor. Pwysleisiwyd fod cynlluniau yn y Cynllun Gweithredu Tai yn wariant aruthrol dros y tair blynedd nesaf.

¾     It was stated that the Council should be congratulated for the capital expenditure to establish assets for the Council.  It was emphasised that the schemes in the Housing Action Plans would be a huge expenditure over the next three years.

Awdur: Ffion Madog Evans

9.

TROSOLWG ARBEDION 2021/22 pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau

arbedion 2021/22, 2020/21 a blynyddoedd blaenorol.

 

Cytunwyd i gynnal adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd heb eu gwireddu ynghyd a chynlluniau y flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu cyflawni neu os oes angen chwilio am gynlluniau amgen.

 

 Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn

ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio

perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau  arbedion 2021/22, 2020/21 a blynyddoedd blaenorol. 

 

Cytunwyd i gynnal adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd heb eu gwireddu ynghyd a chynlluniau y flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu cyflawni neu os oes angen chwilio am gynlluniau amgen.  

 

 Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y  Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn  ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio  perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro ei fod yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd ers 2015/16 fod gwerth £35m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu rhwng 2015/16 – 2021/22. Nodwyd bellach fod dros £32.7miliwn o arbedion wedi ei gwireddu sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.

 

Mynegwyd ym mis Ionawr eleni, adolygwyd y cynlluniau arbedion i asesu pa gynlluniau hanesyddol oedd bellach yn anghyraeddadwy, a lluniwyd rhaglen diwygiedig ar gyfer 2021/22 yn dilyn cymryd camau i ddileu, llithro a ail broffilio’r cynlluniau arbedion.

 

Eglurwyd fod adrannau wedi bod yn canolbwyntio ar ymateb i argyfwng covid ers Ebrill 2020 ac fod yr effaith wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion. Mynegwyd o gynlluniau arbedion 2021/22 fod 42% eisoes wedi ei gwireddu gyda 22% bellach ar drac i gyflawni’n amserol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Pwysleisiwyd ei bod anorfod fod gwireddu gwerth £32.7m o arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol. Mynegwyd fod oediad wedi bod ar rai cynlluniau arbedion gwerth £1m ond eu bod yn symud yn eu blaen ond fod angen trafod risgiau i gyflawni gwerth £0.9m o gynlluniau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾     Mynegwyd fod effaith covid wedi bod yn yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ond fod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar gynlluniau i’r dyfodol. Ychwanegwyd fod yr adran yn parhau i dalu am yr offer Cylch Cyfyng ond bydd arbedion unwaith fydd y gost wedi ei dalu. Eglurwyd yn ogystal fod astudiaeth allanol yn cael ei wneud gyda cau Canolfan Ailgylchu Cilgwyn ac fod nifer o gynlluniau posib i’r safle.

¾      Nodwyd yr angen i gynnal adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd heb eu gwireddu ynghyd a chynlluniau y flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu cyflawni neu os oes angen chwilio am gynlluniau amgen.  

 

Awdur: Dafydd L Edwards

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 338 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran wedi gorfod addasu eu ffordd o weithio dros y flwyddyn diwethaf a diolchwyd i’r staff am eu hyblygrwydd dros y cyfnod argyfwng covid. Tynnwyd sylw at rai meysydd penodol megis Creu Swyddi Gwerth Uchel fod cwmni Egnïo wedi ei sefydlu bellach yn Nghrawsfynydd i sicrhau datblygiadau pellach ar y safle i’r dyfodol. Eglurwyd fod penderfyniad y Llywodraeth i adolygu cynlluniau ffyrdd wedi creu ansicrwydd o ran safle Llanbedr ond fod buddsoddiad y perchnogion y parhau yn galonogol.

 

Eglurwyd o ran Cynllun Rhoi Treftadaeth Llechi Gwynedd ar Waith fod yr adran wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau Dynodiad Treftadaeth Byd i Dirlun Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Eglurwyd fod angen bellach i symud i’r roi cynlluniau ar waith.

 

Tynnwyd sylw at brosiect Llunio Cynllun Adfywio ar gyfer ein Hardaloedd gan nodi fod gwaith ymgysylltu ac ymgynghori gyda cymunedau yn ganol i’r rhaglen ac y bydd ymgysylltu manwl yn cael ei wneud ystod mis Tachwedd.

 

O ran perfformiad yr adran mynegwyd fod y Gwasanaeth Morwrol wedi bod y hynod brysur o ganlyniad i nifer uchel o ymwelwyr wedi ymweld dros gyfnod yr haf. Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled. Eglurwyd ei bod wedi bod yn gyfnod gwbl heriol i’r adran ddigwyddiadau ond fod yr adran wedi parhau i gynnig cefnogaeth i drefnwyr. Eglurwyd fod y gwasanaeth wedi mabwysiadu trefniadau i ymgynghori gydag Aelodau Lleol a Chynghorau Cymuned cyn cefnogi unrhyw ddigwyddiadau ar diroedd y Cyngor.

 

Amlygwyd fod yr adran yn rhagweld y bydd tanwariant o £203k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd oherwydd bod yr Adran yn rhagori ar y lefelau incwm eleni yn benodol yn y meysydd traethau ac angorfeydd Hafan. Mynegwyd y bydd angen trafod cyllideb 2022/23 yn wyneb y cynnydd yn yr incwm a’r galw am gyllideb uwch i gwrdd a’r galw yn sgil Covid wedi i grantiau’r Llywodraeth ddod i ben. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾     Nodwyd fod y gwasanaeth Gymorth i Fusnes wedi bod yn gweithio yn ddiwyd drwy’r cyfnod ac fod llawer o staff wedi trosglwyddo i wneud y gwaith hwn. Eglurwyd fod gwaith sylweddol wedi ei wneud i sicrhau cyfathrebu cyson rhwng y Cyngor a’r busnesau. Nodwyd yr angen i ystyried sut mae’r Cyngor yn cefnogi busnesau i sicrhau swyddi o safon uchel.

¾     Diolchwyd i’r adran am eu gwaith ac mynegwyd llongyfarchiadau iddynt am y gwaith i gael dynodiad UNESCO am safle Treftadaeth y Byd sydd am gynorthwyo i drawsnewid ardaloedd.

 

Awdur: Sioned Williams

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL pdf eicon PDF 427 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad, a chefnogi’r cynllun arbediad amgen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad, a chefnogi’r cynllun arbediad amgen. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet am dynnu sylw at rai gynlluniau penodol. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud ar prosiect Cadw’r Budd yn Lleol gan nodi fod yr adran wedi bod yn treialu asesu tendrau ar sail gwerth cymdeithasol ac effaith Lleol. Mynegwyd fod y peilot wedi galluogi’r adran i ddeall sut mae trefniadau yn gweithio yn ymarferol a’r cyfleon a risgiau sydd yn gysylltiedig.

 

Eglurwyd fod y cynllun Merched mewn Arweinyddiaeth yn parhau i geisio denu mwy o ferched i ymgeisio a cyrraedd swyddi uwch o fewn y Cyngor rwy adolygu’r amodau a’r amgylchedd gwaith. Amlygwyd fod cynnydd wedi bod yn y prosiect Sicrhau Tegwch i Bawb. Nodwyd fod llawer i’w gyflawni ond nodwyd fod ymwybyddiaeth ac angerdd i weld gwahaniaeth.

 

O ran cynllunio’r gweithlu i’r dyfodol amlygwyd fod buddsoddiad wedi ei wneud i barhau a’r gwaith y rhaglen o ddenu a datblygu talent drwy gynllun Prentisiaethau a Cynllun Arweinwyr ac Arbenigwyr Yfory. Eglurwyd fod angen gwneud gwaith ychwanegol i geisio cadw staff o fewn y Cyngor ac i sicrhau parhad gwasanaeth.

 

Tynnwyd sylw at waith dydd i ddydd yr adran gan amlygu fod yr adran Cefnogaeth Gorfforaethol wedi cadw’r wobr Lefel Aur o’r Safon Iechyd Corfforaethol. Amlygwyd y bydd addasiadau yn cael ei wneud i Ganolfan Galw Gwynedd ym Mhenrhyndeudraeth fel bod modd darparu gwasanaeth cyswllt cwsmer cynhwysfawr wyneb i wyneb newydd yn yr ardal. Amlygwyd y  gwaith arbennig mae’r Gwasanaeth Cofrestru wedi ei wneud i ddygymod yn arbennig o dda o dan amgylchiadau anodd tu hwnt.

 

Mynegwyd o ran arbedion fod yr adran ers 2015 wedi adnabod £2.5miliwn o arbedion sydd cyfystyr a chwarter cyllideb yr adran tan yn cynnal ac yn ymestyn y gwasanaeth. Mynegwyd o ran arbedion i’w gwireddu gan yr adran fod cynlluniau amgen wedi ei hadnabod.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd balchder fod Swyddog Prosiect wedi ei benodi ar gyfer y Cynllun Enwau Llefydd a nodwyd yr angen i weithio a sefydliadau eraill yn ogystal megis y Swyddfa Bost fel bod gwedd fwy Cymreig yn cael ei ddefnyddio mewn gweithgareddau bob dydd.

¾     Mynegwyd fod y cynllun Cadw’r Budd yn Lleol yn un cyffroes yn un pellgyrhaeddol.

¾     Mynegwyd o ran recriwtio a cadw y gweithlu fod angen amlygu problemau sydd i’w gweld i benodi staff yn y maes gofal ynghyd a cadw staff proffesiynol mewn meysydd eraill. Amlygwyd cynlluniau sydd i’w gweld o fewn y Cyngor gan gynnwys y cynllun Datblygu Potensial sydd i’w gweld yn datblygu swyddogion i arbenigeddau er mwyn cadw unigolion o fewn y Cyngor. 

 

Awdur: Geraint Owen