skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cyng. Catrin Wager ar eitem 8, mynegwyd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddi adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 TACHWEDD pdf eicon PDF 401 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021 fel rhai cywir.

6.

TIM CYMUNEDAU GLAN A THACLUS pdf eicon PDF 130 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd sefydlu Tîm Cymunedau Glan a Thaclus i ymgymryd â man waith cynnal ac i ategu gweithgareddau cynnal rheolaidd.

 

Cymeradwywyd dyraniad o £1,523,730 o’r Gronfa Trawsffurfio er mwyn ariannu’r tîm a’u costau cysylltiedig ar sail un-tro am gyfnod o dair blynedd i gychwyn cyn gynted a phosib.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Catrin Wager

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd sefydlu Tîm Cymunedau Glan a Thaclus i ymgymryd â man waith cynnal ac i ategu gweithgareddau cynnal rheolaidd.  

 

Cymeradwywyd dyraniad o £1,523,730 o’r Gronfa Trawsffurfio er mwyn ariannu’r tîm a’u costau cysylltiedig ar sail un-tro am gyfnod o dair blynedd i gychwyn cyn gynted a phosib.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod glendid stryd wedi bod yn gwyn gyson mae Cynghorwyr wedi bod yn delio ac ef. Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn gofyn am gefnogaeth sylweddol i wella glendid stryd, gan nodi nad yw trigolion eisiau gweld biniau wedi gorlenwi, chwyn ac ysbwriel. Nodwyd mai dyma’r union reswm pam y bu i lendid gael ei nodi fel un o flaenoriaethau’r Cyngor.

 

Mynegwyd fod y cam cyntaf o ymgysylltu gyda ardaloedd wedi ei wneud ac amlygwyd y sylwadau oedd wedi ei godi ar draws y sir. Eglurwyd fod yr adran yn gwneud gwaith o’r math hwn yn barod ond fod y gwasanaeth wedi ei dorri fel arbediad dros y blynyddoedd. Ond eglurwyd rhwng toriadau a addasiadau i’r adran o ganlyniad i’r pandemig fod angen ei flaenoriaethu.

 

Nodwyd fod yr arian ar gyfer creu 5 tîm a fydd yn dod i mewn i ardal i wneud gwaith cynnal a chadw, ac i roi sglein dwy chwynnu, codi man ysbwriel, glanhau a pheintio. Eglurwyd y bydd y timau yma yn ymatebol, adweithiol ac yn gallu wynebu pethau yn dymhorol. Mynegwyd y bydd cyfathrebu yn hanfodol i sicrhau fod Cynghorwyr a Cynghorau Cymuned yn ymwybodol pryd fydd y tîm yn eu hardal.

 

Pwysleisiwyd fod tystiolaeth yn amlygu pwysigrwydd y cynllun hwn a sydd yn symud i ddatblygu a buddsoddi mewn gwelliannau i gymunedau Gwynedd,

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Croesawyd yr adroddiad gan nodi mae glendid stryd yw y mater sy’n codi yn fwyaf cyson i Gynghorwyr.

¾    Mynegwyd cefnogaeth gan nodi os bydd cymunedau yn lân a thaclus fod pobl am ddangos mwy o barch i’r cymunedau yn drigolion ac yn dwristiaid.

¾    Nodwyd fod gan y trigolion a’r cyhoedd cyfrifoldeb i gadw eu cymunedau yn daclus hefyd, ond fod angen sicrhau cyfathrebu gyda Cynghorau Tref yno gystal.

¾   Nodwyd yr angen i gael cyd-weithrediad cymunedau yn ogystal ac i wneud gwaith paratoi o flaen llaw.

Awdur: Steffan Jones

7.

ACHOS BUSNES HUNANIAITH pdf eicon PDF 521 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo ymrwymiad £203,880 o’r Gronfa Trawsffurfio er mwyn ariannu swydd ychwanegol am gyfnod 4 blynedd i reoli’r gwasanaeth a gwella sefyllfa Hunaniaith fel uned o fewn y Cyngor am y tro, gan ganolbwyntio ar ddenu grantiau newydd a chodi incwm, gwella’r cyswllt cymunedol, denu mwy o aelodau cymunedol i’r Grŵp Strategol a gweithio tuag at fod yn endid annibynnol. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo ymrwymiad £203,880 o’r Gronfa Trawsffurfio er mwyn ariannu swydd ychwanegol am gyfnod 4 blynedd i reoli’r gwasanaeth a gwella sefyllfa Hunaniaith fel uned o fewn y Cyngor am y tro, gan ganolbwyntio ar ddenu grantiau newydd a chodi incwm, gwella’r cyswllt cymunedol, denu mwy o aelodau cymunedol i’r Grŵp Strategol a gweithio tuag at fod yn endid annibynnol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn un technegol sydd yn gosod seiliau achos busnes i wireddu deheuad a gweledigaeth i Hunaniaith i fod yn gorff annibynnol i’r dyfodol. Amlygwyd pwysigrwydd fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio fel iaith gymunedol.

 

Eglurwyd fod creu yr achos busnes hwn yn gam ymlaen yn y daith, a drwy benodi Prif Swyddog i arwain y gwaith hwn bydd yn gyfle i ddenu grantiau ynghyd a sefydlu y corff i fod yn endid annibynnol. Diolchwyd i swyddogion am eu gwaith i geisio gwireddu’r weledigaeth.

 

Nododd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod yr adroddiad yn gydnabyddiaeth o waith sydd wedi ei wneud yn dilyn penderfyniad y Cabinet ac ei fod yn fodd ymarferol o sefydlu Hunaniaith fel endid annibynnol gan roi amser i sicrhau ffynonellau ariannu tymor hir sefydlog.

 

Eglurodd yr Uwch Ymarferydd Craffu a Iaith fod Cadeirydd Hunaniaith yn gefnogol i’r adroddiad ac yn parhau i gredu y byddai Hunaniaith yn well fel endid annibynnol ond fod yn rhaid gwneud y gwaith gam wrth gam ac ei fod y penderfyniad hwn yn rhan o’r daith.

 

Ychwanegodd yr Uwch Ymarferydd Prosiectau ar hyn o bryd nad oes sicrwydd grantiau fel endid annibynnol ac felly o ganlyniad ei bod yn well syniad i gael Prif Swyddog i ddatblygu ac i sicrhau sefydlogrwydd grantiau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd cefnogaeth i’r adroddiad gan bwysleisio ei bod yn gyfle i Hunaniaith wneud gwaith paratoi ac i osod y ffordd ymlaen gan chwilio am grantiau i gyflawni y weledigaeth honno. Mynegwyd na ddylid cael ei arwain gan grantiau.

¾    Nodwyd mai cadernid Gwynedd yw ei hiaith ac eglurwyd mai dyna pam o bosib nad yw Hunaniaith yn endid unigol. Ond pwysleisiwyd fod yr iaith dan warchae yma yng Ngwynedd fel Cymru gyfan ac felly fod y penodi Prif Swyddog yn arwain y gwaith ac yn sicrhau fod mwy o waith yn cael ei wneud yn y cymunedau.

Awdur: Geraint Owen

8.

CYNLLUN AWTISTIAETH pdf eicon PDF 259 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan a'r Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun Awtistiaeth 2021-23.

 

Cytunwyd i ragfarnu’r broses ‘bidiau’ blynyddol a chaniatáu ‘bid’ am £48,000 o gyllideb refeniw parhaol er mwyn ariannu swydd Cydlynydd Awtistiaeth a 2 swydd Gwaith Cymdeithasol ar gost flynyddol o £144,000 gyda’r Cyngor yn cyfrannu traean o’r gost.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd y Cynllun Awtistiaeth 2021-23. 

 

Cytunwyd i ragfarnu’r broses ‘bidiau’ blynyddol a chaniatáu ‘bid’ am £48,000 o gyllideb refeniw parhaol er mwyn ariannu swydd Cydlynydd Awtistiaeth a 2 swydd Gwaith Cymdeithasol ar gost flynyddol o £144,000 gyda’r Cyngor yn cyfrannu traean o’r gost.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cynllun Awtistiaeth yma yn un o brosiectau Cynllun y Cyngor ynghyd a bod yn un o gynlluniau gwella’r adran. Nodwyd fod hwn yn brosiect partneriaeth rhwng y Cyngor,  Gwasanaeth Iechyd a Chyngor Mon. Pwysleisiwyd er y heriau sydd wedi wynebu y tri partner yn ystod y pandemig fod cyflwyno’r adroddiad hwn yn dangos ei bwysigrwydd.

 

Mynegwyd fod y daith wedi bod yn hir, er na ddaw hi byth i ben gan ei bod yn strategaeth fyw a fydd yn ymateb ac yn addasu yn gyson. Nodwyd fod y Cynllun wedi bod o flaen y Pwyllgor Craffu Gofal a oedd yn hynod gefnogol ac wedi ymrwymo i roi mewnbwn i’r adolygu cyson.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Gweithredol fod y cynllun hwn yn flaenoriaeth a cydnabuwyd fod y gwaith wedi ei ddylanwadau gan gwyn a wnaethpwyd am yr adran a anfonwyd ymlaen at yr Ombwdsmon. Eglurwyd fod yr adran wedi penodi ymgynghorydd allanol i edrych ar yr adroddiadau gan yr Ombwdsmon ac i edrych ar y gwaith ac fod y mewnbwn yma wedi bod yn allweddol i ddatblygu’r cynllun. Tynnwyd sylw at y Cod Ymarfer a gyflwynwyd ym mis Medi gan nodi fod y cynllun yn cyd-fynd a’r Cod Ymarfer hwn.

 

Pwysleisiwyd mai dechrau’r daith yw’r cynllun hwn ac y bydd yn gyfle i adnabod bylchau ac i symud ymlaen yn fwy cadarn. Nodwyd y bydd angen gwneud gwaith proffilio sydd yn anodd gan fod gwybodaeth yn cael ei gadw ar draws y bartneriaeth. Eglurwyd y bydd Bwrdd Awtistiaeth yn cael ei greu er mwyn adolygu’r gwaith i’r dyfodol.

 

Eglurwyd fod gweithrediadau wedi ei selio ar 3 cam penodol sef sefydlu’r Bwrdd, i benodi mwy o staff er mwyn asesu ynghynt ynghyd a chynnig hyfforddiant ar draws gwasanaethau, ac i fagu perthynas gyda Gwasanaethau Awtistiaeth yn rhanbarthol a chenedlaethol i adolygu’r gwaith i’r dyfodol. Pwysleisiwyd mai dechrau’r daith yw’r ddogfen hon ac y bydd yn parhau i ddatblygu. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾      Croesawyd yr adroddiad gan amlygu ei bod y cynllun hon yn draws-adrannol gan weithio yn agos gyda’r adran Addysg.

 

 

Awdur: Aled Gibbard

9.

NEWID TREFNIADAU CYMERADWYO SYMIAU HYD AT £100,000 O'R GRONFA TRAWSFFURFIO pdf eicon PDF 90 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er mwyn hwyluso trefniadau mwy ystwyth ar gyfer gwario, penderfynwyd i ddirprwyo grym i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Pennaeth Cyllid, i ymrwymo symiau hyd at £100,000 o’r Gronfa Trawsffurfio a/neu’r Gronfa Trefniadau Adfer yn sgil Covid-19.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas  

 

PENDERFYNIAD

 

Er mwyn hwyluso trefniadau mwy ystwyth ar gyfer gwario, penderfynwyd i ddirprwyo grym i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Pennaeth Cyllid, i ymrwymo symiau hyd at £100,000 o’r Gronfa Trawsffurfio a/neu’r Gronfa Trefniadau Adfer yn sgil Covid-19.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Gronfa Trawsffurfio yn cael ei defnyddio i gyllido blaenoriaethau’r Cyngor sydd wedi’i cynnwys yng Nghynllun y Cyngor. Eglurwyd fod y gronfa yn cefnogi gwaith trawsffurfio ac o natur un tro.

 

Mynegwyd yn ôl yn 2013, yn wyneb cyfnod ariannol heriol penderfynwyd newid trefn cymeradwyo gwariant o’r Gronfa Trawsffurfio, gyda pob ymrwymiad o’r Gronfa yn derbyn cymeradwyaeth y Cabinet. Bellach, nodwyd, o ystyried maint y gronfa awgrymir y dylid sefydlu trefn ddiwygiedig oherwydd yr angen i symud ymlaen i gyflawni blaenoriaethau heb unrhyw oediad gan gyfarch anghenion gwario sydyn.

 

Neilltuwyd dros £4miliwn yn y Gronfa Trawsffurfio yn ystod 2021/22, sydd yn golygu fod balans y gronfa yn £12.5miliwn ar 31 Mawrth 2021. Eglurwyd fod Cronfa Trefniadau Adfer yn sgil Covid-19 wedi ei sefydlu wrth gau cyfrifon, a neilltuwyd £2.5miliwn i’r gronfa i gynorthwyo’r Cyngor i adfer yn dilyn yr argyfwng.

 

Eglurwyd fod gwariant cyson wedi bod yn cael ei wneud yn flynyddol o’r Gronfa Trawsffurfio yn unol a blaenoriaethau’r Cyngor. Rhwng 2016/17 a 2020/21 nodwyd fod gwariant o dros £7miliwn. Mynegwyd fod gwerth £5.4 miliwn o ymrwymiadau cyfredol yn erbyn y Gronfa Trawsffurfio sydd yn cynnwys ymrwymiadau o dros £5miliwn cyn blwyddyn ariannol 2021/22. Golyga hyn fod yna adnoddau o £7.2miliwn ar gael i bwrpas blaenoriaethau Cynllun y Cyngor.

 

Nodwyd o ran ymrwymiadau o’r Gronfa Trefniadau Adfer yn Sgîl Covid19 fod ymrwymiadau o £430,000 sy’n cynnwys £130,000 ar gyfer uwchraddio technoleg i alluogi mynychu cyfarfodydd o bell. Pwysleisiwyd y bydd cymeradwyaeth y Cabinet yn parhau yn ofynnol ar gyfer blaenoriaethau sydd uwchlaw y trothwy o £100,000.

 

 

Awdur: Dafydd Edwards a Ffion Madog Evans

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 315 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan  

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan a nodi fod yr adran yn cynnal cyfarfodydd herio perfformiad misol cadarnhaol sydd yn esblygu yn gyson. Amlygwyd pryderon am gapasiti’r adran i allu mewnbynnu gwybodaeth yn fisol ond eglurwyd mai y cam nesaf fydd i’r rheolwyr berchnogi’r adroddiadau misol. Diolchwyd yn ogystal i’r aelodau o’r Pwyllgor Craffu Gofal sydd yn mynychu’r cyfarfodydd herio perfformiad.

 

Nodwyd fod cynlluniau blaenoriaeth yr adran sydd i’w gweld yng Nghynllun y Cyngor yn parhau i symud ymlaen gan amlygu Strategaeth cadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd. Fodd bynnag, pwysleisiwyd fod heria staffio i’w gweld ar draws yr adran ac wedi ei amlygu yn y gofrestr risg. Nodwyd er mwyn mynd i’r afael ar her fod gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd gyda’r adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Eglurwyd nad yw’r elfen am Strategaeth Awtistiaeth yn darllen yn hawdd ond fod y cynllun wedi symud ymlaen ar ôl ysgrifennu’r adroddiad ac bellach wedi ei drafod yn y cyfarfod hwn. Mynegwyd er fod capasiti y gweithlu yn un o brif bryderon yr adran fod yr adran ar y cyfan yn perfformio yn dda iawn.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cynorthwyol er y darlun o heriau staffio fod yr adran wedi parhau i lwyddo i gynnal a diogelu plant gan sicrhau pan yn gallu eu bod yn aros adref gyda’i teuluoedd.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod pryder am y maes yn benodol o ran pwysau ar staff. Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled ac eu gallu i barhau i weithredu drwy’r cyfnod anodd hwn. Amlygwyd fod perfformiad da gan y staff sydd dan bwysau cyson. Amlygwyd perthynas dda sydd gan yr adran a Prifysgol Bangor ar Cwrs MA mewn Gwasanaeth Cymdeithasol gan egluro sydd y cydweithio hwn yn parhau i sicrhau fod y Cyngor yn denu niferoedd da o weithwyr cymdeithasol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾     Llongyfarchwyd yr adran am eu gwaith i sicrhau lefel y gwasanaeth ond holwyd am ba mor hir y bydd modd i’r adran barhau gyda prinder staff. Nodwyd nad yw’r ateb yn hawdd ond fod y Cyngor dros y blynyddoedd wedi bod yn hynod dda am recriwtio i’r maes. Er hyn mynegwyd fod nifer o staff yn gweld y swydd yn gynyddol heriol ac fod angen sicrhau nad yw staff yn cael gormod o bwysau. Eglurwyd fod angen yn genedlaethol i’r sector gael gwell proffil a cydnabyddiaeth am y gwaith maent yn ei wneud.

¾     Diolchwyd i’r staff am eu gwaith nid yn unig am y gwaith cyflawni ond am adroddiad perfformiad darllenadwy a dealladwy yn ogystal.

 

 

Awdur: Marian Parry Hughes

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 469 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw penodol at y cynlluniau sydd i’w gweld yng Nghynllun y Cyngor. Nodwyd o ran cynllun Darpariaeth gofal addas a chynaliadwy i’r dyfodol eu bod yn hapus gyda’r gwaith sydd wedi ei wneud er fod llithriad wedi bod yn agor rhai adnoddau penodol fel uned dementia yn Llan Ffestiniog. Eglurwyd fod heriau wedi ei wynebu yn Nolgellau o ran dod o hyd i diroedd addas i’w ddatblygu. Er hyn, nodwyd fod y daith yn parhau a mynegwyd fod bid yn dod i mewn i gael staff ychwanegol i fonitro cartrefi gofal ar draws y sir i sicrhau ansawdd a cefnogaeth ddigonol i ddarparwyr.

 

Eglurwyd fod y gwaith o ail ddylunio gwasanaeth gofal ychydig ar ei hol hi o ganlyniad i Covid-19. Nodwyd fod yr adran yn gobeithio mynd i ail dendro ym mis Ionawr gan obeithio cael contractau newydd gyda darparwyr erbyn yr haf.

 

Mynegwyd o ran y cynllun Gweithlu a Recriwtio pwysleisiwyd fod y cynllun yn un anodd i’w daclo. Esboniwyd er fod y tabl perfformiad yn arddangos fel gwyrdd nid dyma’r llun yn llawn. Nodwyd fod yr ymgyrch recriwtio yn parhau ac fod angen ail edrych ar sur i recriwtio pobl yn lleol, gan fod prinder staff wedi arwain at unigolion yn parhau yn yr ysbyty gan nad oes gofal ar gael.

 

O ran perfformiad nodwyd nad yw’r adran wedi llwyddo i gyrraedd sefyllfa ble mae modd cael cyfarfodydd misol, ac amlygwyd heriau ariannol o ran dod o hyd i arbedion.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd am yr adroddiad ac am dynnu sylw at yr elfen o recriwtio staff. Eglurwyd fod y sefyllfa i’w gweld ar draws y sir ac pwysleisiwyd yr angen i edrych ar y mater.

¾    Eglurwyd fod gwaith yn mynd yn ei blaen i adolygu y cynlluniau arbedion ar draws yr holl adrannau gan fod nifer yn cael her i’w gwireddu. Nodwyd fod angen edrych ar yr holl gynlluniau ac i edrych sut i’w cyflawni neu am chwilio am gynlluniau amgen.

¾    Diolchwyd i’r gofalwyr am eu gwaith a nodwyd fod angen i Lywodraeth Cymru a Prydain sicrhau cyllideb fel bod  modd talu gofalwyr yn deg am eu gwaith sydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion.

 

Awdur: Aled Davies