Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Craig ab Iago a
Dafydd Wyn Williams (Pennaeth yr Adran
Amgylchedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion
brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 TACHWEDD 2021 PDF 160 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2021 fel rhai cywir. |
|
RHAGLEN CEFNOGI POBL PDF 151 KB Cyflwynwyd gan: Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd adnoddau un tro am ddwy flynedd,sef £193,217 yn
2022/23 a £155,990 yn 2023/24 o’r Gronfa Adfer COVID tuag at y Rhaglen Cefnogi
Pobl Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Cymeradwywyd adnoddau un tro am
ddwy flynedd, sef £193,217 yn 2022/23 a £155,990 yn 2023/24 o’r
Gronfa Adfer COVID tuag at y Rhaglen Cefnogi Pobl. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai cais am arian un tro oedd yr adroddiad er mwyn cefnogi’r
rhaglen trawsadrannol Cefnogi Pobl. Mynegwyd fod y ddwy flynedd diwethaf o
argyfwng Covid-19 wedi bod yn anodd ac wedi amlygu pa mor fregus yw rhai o
drigolion Gwynedd. Eglurwyd dros y
ddwy flynedd diwethaf fod y cynllun wedi delio a materion yn ymwneud a tlodi
tanwydd a digartrefedd, ond bellach fod angen ffurfioli’r gwaith sydd yn cael
ei wneud. Mynegwyd fod rhaglen yn ei le a tynnwyd sylw at y cynlluniau fyddai’n
cael eu blaenoriaethu megis tlodi bwyd, tlodi tanwydd a chynhwysiad digidol. Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith sydd wedi ei wneud
yn draws adrannol a gyda partneriaid. Diolchwyd am y cyd-weithio sydd wedi
arwain at greu cynllun a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn y tymor byr i drigolion
Gwynedd. Nodwyd y bydd yn cynllun yn gwneud popeth o fewn gallu’r Cyngor i
gefnogi trigolion tra’n gweithio ar gynlluniau tymor hir. Nododd y Pennaeth
Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd fod yr adroddiad yn crynhoi beth oedd modd ei
gynnal dros gyfnod yr argyfwng. Mynegwyd gyda cyfnod adfer yn dilyn y pandemig a cynnydd yn y galw fod gofyn am fuddsoddiad i
sicrhau cefnogaeth i bawb. Diolchwyd yn ogystal i’r ymdrechion cymunedol ynghyd
a gwaith y trydydd sector dros y ddwy flynedd diwethaf. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Cefnogwyd yr adroddiad gan nodi diolch i’r partneriaid ac yr adrannau am
gydweithio ar y cynllun hwn. Mynegwyd fod tlodi yn rhoi effaith andwyol ar
blant a nodwyd yr angen i gefnogi teuluoedd fydd yn dod mewn i’r system
budd-daliadau am y tro cyntaf. ¾ Mynegwyd fod y sefyllfa yn un anghyffredin, ar un llaw yn ymfalchïo yn y
ffaith fod y Cyngor yn gallu cefnogi y trigolion ond ar y llaw arall yn cywilyddu o fyw mewn gwlad sydd a Llywodraeth sydd yn
gwthio trigolion i fynd i fanciau bwyd er mwyn cynnal eu teuluoedd. ¾ Amlygwyd y prosiectau tlodi bwyd gan holi os oes cyfleodd o ran mynd i’r
afael a gwastraff bwyd ynghyd a tyfu bwyd yn gymunedol. Cynigwyd i ail enwi yr
elfen hwn o’r cynllun o dlodi bwyd i wytnwch bwyd neu Sicrhau Bwyd i Bawb. ¾ Amlygwyd nad yw tlodi yn broblem diweddar yng Ngwynedd ac ei fod yn wedi
bod yn broblem ers nifer o flynyddoedd. Mynegwyd fod yr arian ar gyfer cyfnod o
ddwy flynedd a mynegwyd na fydd tlodi wedi diflannu ymhen diwedd y cyfnod.
Pwysleisiwyd yr angen i gyfarch yr angen sydd ei angen i drigolion ac amlygwyd
partneriaid posib y gellid gweithio a hwy. ¾ Tynnwyd sylw at Hyrddwr Budd-dal Ysgolion a holwyd pan mai am flwyddyn fydd yn cael ei ariannu. Nodwyd fod trafodaethau wedi ei cynnal gyda’r Adran Addysg a nodwyd fod Penaethiaid wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Morwena Edwards a Catrin Thomas |
|
SEFYLDU CYD-BWYLLGOR CORFFORDIG RHANBARTH GOGLEDD CYMRU PDF 138 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd mewn egwyddor i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru trwy gytundeb dirprwyo i Gyd-Bwyllgor
Corfforaethol Gogledd Cymru yn amodol ar; a) bod
y fframwaith statudol mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu yn caniatáu
dirprwyo'r swyddogaethau gweithredol perthnasol i Gyd-Bwyllgor Corfforaethol, b)
bod Cyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru yn
cytuno i sefydlu Is-Bwyllgor, ag aelodaeth i'w gytuno gyda'r Cynghorau, i
gyflawni swyddogaethau'r Bwrdd
Uchelgais Economaidd. Cynigwyd y trosglwyddiad hwn
er mwyn cyflawni model llywodraethu symlach, gan
osgoi dyblygu. Cyflwynir adroddiad manwl pellach ar y fframwaith ar gyfer
gweithredu i gyfarfod dilynol o'r Cabinet. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfrig
Siencyn PENDERFYNWYD Cytunwyd mewn egwyddor i drosglwyddo
swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru trwy gytundeb dirprwyo i
Gyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru yn amodol ar;
Cynigwyd y trosglwyddiad hwn er mwyn
cyflawni model llywodraethu symlach, gan osgoi
dyblygu. Cyflwynir adroddiad manwl pellach ar y fframwaith ar gyfer gweithredu
i gyfarfod dilynol o'r Cabinet. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd bellach wedi ei sefydlu dan
ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mynegwyd ei bod yn orfodol bellach i chwe sir
y Gogledd ei sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i drafod materion cynllunio a
thrafnidiaeth ac ei bod yn ddewisol i drafod llesiant Economaidd. Eglurwyd fod
yr adroddiad hwn yn gofyn i drosglwyddo Swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais
Economaidd trwy Gyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru. Tywysodd y Pennaeth Cyllid, a gomisiynwyd i
gydlynu’r gwaith o sefydlu’r Cyd-Bwyllgor, trwy’r cyflwyniad gan amlygu’r prif
bwyntiau. Pwysleisiodd bellach fod y
ddeddfwriaeth yn ei le, ac o’i ganlyniad
fod angen gwneud y trefniadau priodol i gynnal cyfarfod cyntaf y Cyd-Bwyllgor
cyn diwedd mis Ionawr fel bod modd mabwysiadu’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Er
hyn, mynegwyd na fydd y swyddogaethau cychwynnol y Cyd-Bwyllgor ddim yn cychwyn
tan diwedd Mehefin 2022. Eglurwyd fod dyletswydd cyfreithiol i ddelio
gyda materion cynllunio ynghyd a trafnidiaeth, ac mai grym dewisol yw i ddelio
a llesiant economaidd sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddelio drwy’r Bwrdd
Uchelgais. Mynegwyd fod y gofyniad cyfreithiol a dyletswyddau yn ddi-oed ac mae
brys i symud ymlaen. Pwysleisiwyd fod llawer o waith da wedi ei wneud yn
rhanbarthol ac fod y gwaith o sefydlu egwyddorion wedi ei wneud yn barod.
Amlygwyd yr angen i osgoi dyblygu trafodaeth, cadw costau i lawr tra yn ceisio
sicrhau fod penderfyniadau yn cael ei gwneud mor agos i’r bobl a sy’n briodol
bosib. Amlygwyd swyddogaethau cychwynnol y
Cyd-Bwyllgor a oedd yn cynnwys paratoi a diwygio Cynllun Datblygu Strategol
ynghyd a datblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Pwysleisiwyd fod y Bwrdd
Uchelgais wedi bod yn gwneud gwaith da ac y bydd eu trosglwyddo i’r
Cyd-Bwyllgor yn sicrhau na fydd dyblygu ac yn symleiddio’r trefniadau. Mynegwyd
y bydd angen gwneud gwaith ar feysydd penodol cyn gwneud y penderfyniad yn
llawn. O ran llywodraethu, mynegwyd mae yr Is-Bwyllgorau fydd yn gwneud y gwaith trwm o ran y Cyd-Bwyllgor Corfforedig a bydd angen Is-bwyllgor Archwilio ynghyd a Phwyllgor Safonau. Eglurwyd y bydd modd dirprwyo aelodaeth y Is fyrddau a fydd yn rhannu’r baich rhwng Aelodau Cabinet ynghyd a cyfethol aelodau o ddiddordeb i’r maes i’r is-fyrddau. Nodwyd y bydd angen penodi Swyddogion Statudol, ac y bydd modd menthyg y swyddogion gan awdurdod leol i wneud y gwaith. Mynegwyd y bydd posibilrwydd mai Gwynedd fydd yn arwain ar y gwaith gan fod y Swyddogion Statudol wedi ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dafydd Gibbard, Dafydd Edwards ac Iwan Evans |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Catrin Wager. PENDERFYNWYD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad
yn edrych ar ddwy adran a dechreuwyd gyda’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol.
Tynnwyd sylw at gynllun Cymunedau Glan a Thaclus gan amlygu fod y cynllun hwn
yn un o flaenoriaethau y Cyngor. Pwysleisiwyd fod angen gweithio gyda cymunedau
i sicrhau fod ardaloedd yn edrych yn lan ac yn daclus. Ategwyd yn ystod
cyfarfod blaenorol y Cabinet eu bod wedi buddsoddi yn y timau i arwain y gwaith
hwn. Nodwyd fod y gwaith o ddad-garboneiddio
y fflyd yn parhau ac y bydd dau gerbyd casglu biniau trydan yn cyrraedd cyn
diwedd y flwyddyn. Ychwanegwyd fod grant o £300,000 wedi ei dderbyn er mwyn
buddsoddi mewn pwyntiau gwefru cerbydau mawr o fewn lleoliadau’r Cyngor. Amlygwyd cynllun Caerau Chwarae gan bwysleisio fod
gan Gaeau Chwarae rôl bwysig o fewn y gymdeithas. Eglurwyd y bydd yr adran yn
ail afael ar cynllun o gysylltu a chynghorau Cymuned neu grwpiau cymunedol i
roi’r cyfle iddynt edrych ar ôl a rhedeg caerau chwarae plant. Nodwyd fod yr
adran am gyflwyno bid i’r gronfa drawsffurfio i adeiladu ar y gwaith a
wnaethpwyd hyd Fawrth 2020. O ran perfformiad yr Adran Briffyrdd amlygwyd fod
lleihad wedi bod yn y gyfradd ailgylchu ar draws y sir. Mynegwyd yr angen i
atgoffa unigolion ailgylchu, a nodwyd y bydd y gwasanaeth yn parhau dros gyfnod
y Nadolig. Nodwyd fod gorwario i’w gweld yn y maes Gwastraff ac fod hynny o
ganlyniad i ansicrwydd grantiau, eglurwyd fod yr adran wedi comisiynu adolygiadau
gan WRAP i edrych yn fanwl ar y gwasanaeth a gobeithir adrodd i’r Cabinet yn
fuan. Nodwyd mai prif flaenoriaeth adran Ymgynghoriaeth Gwynedd yw Rheoli Risgiau Llifogydd er mwyn
cadw trigolion Gwynedd yn saff. Tynnwyd sylw at gynllun Wnion sydd i’w gweld yn
ardal Meirionnydd ble mae’r adran yn cydweithio gyda’r Parc Cenedlaethol Eryri
a ffermydd cyfagos i weld sut y bydd
modd atal llifogydd drwy ddulliau rheoli naturiol a drwy wneud hyn hybu
bioamrywiaeth. Amlygwyd pryder gyllidol o fewn yr adran Ymgynghoriaeth gan fod y ffigwr incwm wedi ei leihau wedi i
Lywodraeth Cymru dynnu yn ôl o gynllun Ffordd Osgoi Llanbedr. Er hyn, mynegwyd
fod y staff yn brysur ymgeisio i adfer yr incwm drwy gynlluniau amgen. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Croesawyd yr adroddiad gan holi gyda chynllun
Wnion yn ardal Dolgellau a holwyd os y bydd trafodaethau yn cael eu cynnal
gyda’r Aelodau Lleol. Nodwyd y bydd trafodaethau lleol yn cael eu trefnu ym mis
Ionawr. ¾ Tynnwyd sylw at y cyfraddau ailgylchu gan amlygu fod tueddiad i fwy o ailgylchu ddigwydd dros gyfnod yr haf nac yn y gaeaf. Eglurwyd fod y sefyllfa yn dymhorol yn hanesyddol ac fod twristiaeth yn rhoi effaith ar lif gwastraff gweddilliol sy’n cael ei gasglu. Amlygwyd fod y cyfnod o flaen yr adran yn un heriol ac y bydd angen cynllun penodol i symud ymlaen i fod yn ailgylchu 70% o wastraff ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Steffan Jones a Huw Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN AMGYLCHEDD PDF 243 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma’r ail adroddiad gan yr adran o dan y drefn newydd. Eglurwyd fod yr adroddiad yn ôl ym mis Medi fod sefyllfa’r adran yn go ddu yn benodol yn Gwasanaeth y Cyhoedd. Mynegwyd fod y sefyllfa ar draws yr adran wedi gwella ac fod nifer o geisiadau am arian wedi ei gwneud er mwyn gwella’r sefyllfa’r adran. Nodwyd fod y broblem o benodi staff i Wasanaeth y Cyhoedd wedi ei amlygu yn genedlaethol ac fod yr adran yn edrych as sut i ddelio gyda hyn. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd o fod yn rhan o’r Cyfarfod Herio Perfformiad fod yr adroddiad yn adlewyrchiad teg o berfformiad yr adran. Nodwyd fod yr adran yn un sydd wedi bod dan lawer o bwysau o ganlyniad i’r pandemig, ond fod nifer o wasanaethau wedi gwella dros y misoedd diwethaf. ¾ Eglurwyd fod diffyg manylion am sefyllfa arbedion yr adran ond fod yr adran wedi bod dan bwysau cynyddol. ¾ O ran y gwasanaeth Olrhain a Diogelu, holwyd os oes problem penodi wedi bod gan fod staff yn cael ei penodi drwy sir arall. Nodwyd fod y staff wedi bod yn gweithio yn hynod galed dros y flwyddyn diwethaf, ond fod agwedd y cyhoedd iddynt wedi newid dros y misoedd diwethaf. Er hyn, gyda newidiadau i’r ffordd mae’r tîm yn gweithio mae wedi ei gwneud hyn haws iddynt dderbyn gwybodaeth gan unigolion. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 277 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r
cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y
Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. Cyn cau’r cyfarfod
bu i’r Cadeirydd nodi ei ddiolch a’i werthfawrogiad i Gareth Williams sydd wedi
bod yn ohebydd democratiaeth dros y blynyddoedd diwethaf a sydd yn gadael y
swydd ddiwedd yr wythnos. Mynegwyd fod
Llywodraeth Cymru wedi dechrau rhyddhau gwybodaeth am y setliad, eglurwyd fod y
setliad yn well na beth sydd wedi ei weld dros y degawd diwethaf. Nodwyd fod
hyn yn amlygu gwerthfawrogiad Llywodraeth Ganol o’r gwaith bu i Lywodraeth Leol
ei wneud dros gyfnod y pandemig. |