Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 RHAGFYR pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2021 fel rhai cywir.

6.

DATHLU DYDD GWYL DEWI pdf eicon PDF 452 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a.    Dynodwyd dydd Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod o wyliau ychwanegol i staff y Cyngor sy’n gweithio ar delerau gwaith gweithwyr llywodraeth leol, ar gyfer dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol i’w ariannu yn unol a paragraff 2.10 o’r adroddiad.

b.    Awdurdodwyd swyddogion i ymchwilio i opsiynau posib i wneud trefnant o’r fath yn un parhaol ac i’r perwyl hwnnw cynnal trafodaethau pellach gyda’r undebau llafur cydnabyddedig a parhau i lobio am gefnogaeth Llywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru sefydlu gwyliau banc i Gymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Dynodwyd dydd Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod o wyliau ychwanegol i staff y Cyngor sy’n gweithio ar delerau gwaith gweithwyr llywodraeth leol, ar gyfer dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol i’w ariannu yn unol a paragraff 2.10 o’r adroddiad.
  2. Awdurdodwyd swyddogion i ymchwilio i opsiynau posib i wneud trefnant o’r fath yn un parhaol ac i’r perwyl hwnnw cynnal trafodaethau pellach gyda’r undebau llafur cydnabyddedig a parhau i lobio am gefnogaeth Llywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru sefydlu gwyliau banc i Gymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor Llawn ar y 7 Hydref wedi penderfynu gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i’w gweithlu ynghyd a galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli y grym i Lywodraeth Cymru i fedru creu gwyliau banc i Gymru fel y drefn sydd i’w gweld eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pwysleisiwyd fod y penderfyniad a wnaethpwyd yn y Cyngor Llawn yn un unfrydol a trawsbleidiol a oedd yn dangos awydd clir i weithredu.

 

Eglurwyd nad oedd y mater yn un hawdd a fod cost ynghlwm a’r penderfyniad ond diolchwyd i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Pennaeth Cyllid am wneud y gwaith ymarferol i wneud hyn yn bosib.

 

Mynegwyd fod y llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth San Steffan yn ymateb i’r lythyr y Cyngor yn warthus ac yn arddangos anealltwriaeth lwyr o ddatganoli a Chymru. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet yn deall fod rhai unigolion yn anghytuno gyda’r penderfyniad oherwydd y gost i Gyngor Gwynedd, ond ei fod yn rhoi’r cyfle i ddangos gwerthfawrogiad i staff y cyngor am eu gwaith yn ystod y cyfnod y pandemig. Ychwanegwyd fod cefnogaeth wedi ei dderbyn gan unigolion ar draws y wlad ac fod angen ei weld fel cyfle i ddefnyddio yr ŵyl banc i roi hwb i’r economi. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru i ddilyn Cyngor Gwynedd ac i alw am yr hawliau i’w galluogi i sicrhau fod Dydd Gŵyl Dewi yn troi yn Ŵyl Banc Cenedlaethol.

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod yr adroddiad yn egluro fod modd i’r Cyngor allu ystyried gwneud y penderfyniad i roi diwrnod ychwanegol o Wyliau Banc i rhan helaeth o weithlu’r Cyngor, ond gan fod amodau gwaith Athrawon yn cael ei penderfynu yn genedlaethol nad oes modd eu cynnwys yn y penderfyniad hwn. O ganlyniad nodwyd fod y penderfyniad yn berthnasol i holl staff y Cyngor gan eithrio Athrawon.

 

Yn dilyn y penderfyniad bydd 1 Mawrth yn cael ei gyfri fel Gŵyl Banc arferol, gan nodi y bydd lleoliadau megis llyfrgelloedd ar gau ond y bydd gwasanaethau gofal yn parhau. Eglurwyd y bydd y staff fydd yn gweithio yn cael diwrnod o wyliau ychwanegol neu addasiad cyflog, ac fod y £200,000 yn cynnwys ystyriaeth o’r holl ffactorau. Eglurwyd o ran ail ran y penderfyniad fod hyn yn rhoi hawl i Swyddogion barhau gyda’r trafodaethau a undebau i drafod y syniad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Geraint Owen

7.

CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADRORDDIAD DIWEDD TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 87 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·         Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

·         Nodwyd fod effaith ariannol Covid yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.

·         Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen arbedion.

·         Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni.

·         Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾    Tanwariant o (£20k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

¾    Tanwariant net o (£1,846k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng Covid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas  

 

PENDERFYNWYD

 

  • Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
  • Nodwyd fod effaith ariannol Cofid yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.
  • Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen arbedion.
  • Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni.
  • Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾     Tanwariant o (£20k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

¾     Tanwariant net o (£1,846k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng cofid.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor a’r rhagolygon tuag at diwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd fod adroddiadau blaenorol wedi amlygu fod effaith ariannol y pandemig wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor gyda cyfuniad o gostau ychwanegol ynghyd  â cholledion incwm werth dros £20miliwn yn 2020/21 ac yn £10miliwn hyn yn hyn eleni. Ychwanegwyd fod ceisiadau i ad-hawlio yn cael ei wneud yn fisol o gronfa caledi Llywodraeth Cymru.

 

Mynegwyd yn dilyn llunio rhaglen ddiwygiedig  o arbedion ar gyfer 2021/22 drwy ddileu, llithro ac ail broffilio cynlluniau arbedion nodwyd fod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai meysydd, gyda oediad o ganlyniad i’r pandemig yn ffactor amlwg. Tynnwyd sylw at y prif feysydd ble mae gwahaniaethau sylweddol.

 

Mynegwyd fod yr adran yn rhagweld gorwariant o bron i £1miliwn yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni gyda methiant cyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor amlwg. Nodwyd mai y prif feysydd gorwariant yw gwasanaeth pobl hŷn, anableddau dysgu a gofal cymunedol. Pwysleisiwyd fod effaith  pandemig wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr adran gyda gwerth dros £3miliwn wedi ei hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at gostau ychwanegol yn y cyfnod.

 

Esboniwyd o ganlyniad i’r Cyngor yn dyrannu £1.8miliwn ychwanegol i’r Adran Blant a Cefnogi Teuluoedd yn y gyllideb 2021/22 i gwrdd â phwysau cynyddol, ynghyd â dileu gwerth £1.1 miliwn o gynlluniau arbedion, fod rhagolygon ariannol yr adran yn addawol iawn. Tynnwyd sylw at broblemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd yn parhau. Eglurwyd fod yr adran yn wynebu costau ychwanegol yn ymwneud a’r pandemig ond fod yr adran yn ffyddiog y bydd y Llywodraeth yn parhau i ddigolledu’r adran am weddill y flwyddyn.

 

Yn Gorfforaethol, nodwyd fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol ac hefyd yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cymru. O ganlyniad i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Ffion Madog Evans

8.

RHAGLEN GYFALAF 2021/22 - ADRODDIAD DIWEDD TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 216 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2021) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·         lleihad o £15,000 mewn defnydd o fenthyca,

·         cynnydd o £3,134,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,

·         cynnydd o £104,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,

·         cynnydd o £75,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,

·         lleihad o £1,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a

·         cynnydd o £363,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2021) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·         lleihad o £15,000 mewn defnydd o fenthyca,

·         cynnydd o £3,134,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,

·         cynnydd o £104,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,

·         cynnydd o £75,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,

·         lleihad o £1,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a

·         cynnydd o £363,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  prif ddiben yr adroddiad oedd i gyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a cymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi dadansoddiad fesul adran o’r rhaglen gyfalaf o £127.7 am gyfnod o dair blynedd.

 

Mynegwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi oddeutu £52.1 miliwn eleni, gyda £27.4miliwn wedi’i ariannu drwy grantiau penodol. Eglurwyd fod effaith y pandemig yn parhau ar y rhaglen gyfalaf ac mai dim ond 37% o gyllideb eleni sydd wedi ei wario hyd ddiwedd Tachwedd, o’i gymharu a 51% ddwy flynedd yn ôl. Nodwyd fod £22.1miliwn o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2021/22 i 2022/23 a 2023/24 gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys £6.2miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai, £5.8miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd a £5.4miliwn Cynlluniau Ysgolion Ganrif 21.

 

Tynnwyd sylw at y rhestr grantiau ychwanegol a lwyddodd y Cyngor ei ddenu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys £2.3miliwn Grant Cynnal a Chadw Ysgolion, £1.4milwi i Atal Llifogydd a £0.4miliwn Grant Cronfa Symbyliad Economaidd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd am yr adroddiad a holwyd pam fod  lleihad yng ngwariant y rhaglen gyfalaf yn ystod 2023/34. Mynegwyd fod hyn o ganlyniad i ansicrwydd maint y grantiau yn ystod y flwyddyn hon.

¾    Amlygwyd fod addysg a tai yn cael blaenoriaethu pan yn buddsoddi.

Awdur: Ffion Madog Evans

9.

TROSOLWG ARBEDION - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 592 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22 a blynyddoedd blaenorol.

 

Nodwyd fod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.

 

Wrth baratoi cyllideb 2022/23, yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 3 o ran cynlluniau arbedion 2022/23: - cydnabod fod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £489,750 gan eu dileu o’r gyllideb, sef

·         Adolygiad Dechrau i'r Diwedd (Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd) gwerth £279,750

·         Trosglwyddo meysydd chwarae i eraill (Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol) gwerth £210,000

¾    symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1,290,250 i 2023/24 a blynyddoedd dilynol

¾    nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y cynlluniau gweddilliol i’w tynnu o gyllideb 2022/23, fel a nodir yn Atodiad 3.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas   

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22 a blynyddoedd blaenorol.

 

Nodwyd fod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.

 

Wrth baratoi cyllideb 2022/23, yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 3 o ran cynlluniau arbedion 2022/23: - cydnabod fod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £489,750 gan eu dileu o’r gyllideb, sef

·         Adolygiad Dechrau i'r Diwedd (Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd) gwerth £279,750

·         Trosglwyddo meysydd chwarae i eraill (Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol) gwerth £210,000

¾    symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1,290,250 i 2023/24 a blynyddoedd dilynol

nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y cynlluniau gweddilliol i’w tynnu o gyllideb 2022/23, fel a nodir yn Atodiad 3.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd ers 2015/16 fod gwerth £35miliwn o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu ar gyfer cyfnod 2015/16 – 2021/22. Nodwyd bellach, fod dros £32.8 miliwn o’r arbedion yma wedi eu gwireddu sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.

 

Mynegwyd ers Ebrill 2020 fod adrannau’r Cyngor wedi bod yn canolbwyntio ar ymateb i’r pandemig ac o ganlyniad fod llithriad wedi bod yn gwireddu’r rhaglen arbedion. Wrth edrych ar gynlluniau arbedion am y cyfnod 2015/16 i 2020/21 amlygir fod 96% o’r arbedion wedi ei gwireddu. Ategwyd mai’r prif gynlluniau i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Amlygwyd fod 45% o arbedion 2021/22 wedi eu gwireddu ond eto mai’r adrannau gyda gwerth uchaf o gynlluniau eto i’w cyflawni yw’r Adran Briffyrdd ynghyd â’r Adran Oedolion. Pwysleisiwyd fod gwireddu gwerth £32.8miliwn o arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol, ac amlygwyd risgiau i gyflawni gwerth £0.8miliwn o gynlluniau.

 

Eglurwyd yn dilyn adolygiad diweddar gan y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Swyddogion Cyllid o’r cynlluniau arbedion ar gyfer 2022/23 rhaid cydnabod fod y sefyllfa wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni dau gynllun arbedion gwerth £489,750. Tynnwyd sylw at y ddau gynllun  ‘Adolygiad Dechrau i’r Diwedd’ yn yr adran Blant a Teuluoedd a cynllun ‘Trosglwyddo Meysydd Chwarae i eraill’ gan yr adran Briffyrdd a gofynnwyd i’r Cabinet i ddileu’r ddau gynllun o’r gyllideb.

 

Gofynnwyd yn ogystal i ail broffilio cynlluniau arbedion o fewn yr Adran Economi a Chymuned ac yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant o 2022/23 i 2023/24 o ganlyniad i ardrawiad y pandemig ar yr adrannau yma. Yn dilyn dileu a llithro arbedion, nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y cynlluniau sy’n weddill yn 2022/23.

 

 

Awdur: Dewi Morgan

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas   

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan fod perfformiad yr adran yn gyffredinol dda er gwaethaf yr heriau sydd yn eu wynebu. Amlygwyd o ran cynllun Trosglwyddiad Unedau Gwyliau o’r Dreth Gyngor i Drethi Busnes, ei bod yn ymddangos fod Llywodraeth Cymru yn dechrau deall maint y broblem. Ategwyd fod yr adran wedi cydlynu ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drethiant lleol.

 

O ran cynllun Cyflawni Arbedion, mynegwyd fod yr adroddiad blaenorol wedi amlygu fod £34.8miliwn o arbedion wedi ei cyflawni sydd yn tanlinellu perfformiad da yr holl adrannau ar draws y Cyngor. O ran perfformiad yr adran ar y cyfan amlygwyd fod Datganiad o’r Cyfrifon yn dilyn yr archwiliad, ynghyd ag adroddiad yr archwiliwr allan wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu , ac unwaith eto cyhoeddwyd barn diamod ar y Datganiad o Gyfrifon. Llwyddwyd yn ogystal i gwblhau adroddiad blynyddol y Gronfa Bensiwn cyn y dyddiad statudol o 1af o Ragfyr.

 

Amlygwyd fod nifer o ceisiadau taliad cefnogi hunan ynysu yn parhau i gynyddu, gan nodi fod hyn yn faich ychwanegol ar y Gwasanaeth Budd-daliadau. Eglurwyd o ganlyniad i hyn fod cynnydd yn nifer y dyddiad a gymryd ar gyfartaledd i brosesu cais budd-dal newydd.  Nodwyd fod gwytnwch systemau mewnol technoleg gwybodaeth y Cyngor yn parhau’n iach, ac fod gwaith sylweddol wedi ei wneud i gryfhau gallu’r adran i amddiffyn ymosodiadau seibr. Er hyn, nodwyd pryder am systemau cenedlaethol sy’n cael eu gwesteia tu allan i’r Cyngor sydd ddim yn cyrraedd y safon disgwyliedig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Holwyd gyda’r adran yn gweinyddu grantiau’r Llywodraeth amlygwyd nad oes cyfeiriad at hyn yn yr adroddiad, ar pwysau ychwanegol fydd ar yr adran. Eglurwyd y bydd y cynllun grantiau newydd ychydig yn wahanol gan fod angen tystiolaeth gan y busnesau i ddangos eu bod yn parhau i fod yn gwmni gweithredol sydd yn masnachu. Ategwyd fod unedau gwyliau wedi ei heithrio o’r cynllun grantiau yma gan nad oedd y cyfyngiadau yn eu heffeithio.

 

Awdur: Dewi Morgan

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 384 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams   

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod perfformiad yr adran yn parhau i fod yn dda. Diolchwyd i staff yr adran am y gwaith arwrol maent wedi ei wneud dros y pandemig yn cefnogi ysgolion. Ategwyd fod cydnabyddiaeth am waith yr adran wedi ei amlygu gan benaethiaid y sir yn ogystal ac Estyn. Mynegwyd fod y berthynas rhwng yr adran ar ysgolion yn sicr wedi cryfhau yn ystod y cyfnod anodd.

 

Tynnwyd sylw at Strategaeth Addysg Ddigidol, gan ddiolch i’r Cabinet am eu cefnogaeth i’r gwaith arloesol sydd yn symud yn ei flaen. Nodwyd fod y cyfnod pandemig wedi dal dau gynllun yn ei ôl sef Cynllun Ôl 16 a Cyd-Weithio Rhwng Ysgolion Uwchradd Meirionydd. Eglurwyd y bydd y gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu pan yn dod allan o gyfnod y pandemig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd i’r adran a’r Ysgolion am ei gwaith arbennig dros gyfnod y pandemig.

¾    Tynnwyd sylw ar Ysgol y Garnedd gan nodi fod y cynllun hwn yn adlewyrchu uchelgais y Cyngor o beth mae’r adran eisiau ei ddarparu i blant Gwynedd.

¾    Diolchwyd i’r adran am roi arweiniad i’r ysgolion ac i sicrhau diogelwch plant a pobl ifanc. 

 

Awdur: Garem Jackson