Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad

 

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.  

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8fed o Fawrth  2022 fel rhai cywir.

6.

PENODI UWCH GRWNER ARDAL GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 278 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi manylion swydd a phersonol ynghyd a threfn benodi ar gyfer swydd Uwch Grwner a threfnu i hysbysebu

 

b)   Sefydlu Panel  yn cynnwys y Prif Weithredwr, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Adran i’w ddynodi gan y Prif Weithredwr er  mwyn  tynnu rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr, ac i benodi Uwch Grwneriaid yn ôl yr angen

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

a)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi manylion swydd a phersonol ynghyd a threfn benodi ar gyfer swydd Uwch Grwner a threfnu i hysbysebu

 

b)    Sefydlu Panel  yn cynnwys y Prif Weithredwr, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Adran i’w ddynodi gan y Prif Weithredwr er  mwyn  tynnu rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr, ac i benodi Uwch Grwneriaid yn ôl yr angen

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu trefniadau ar gyfer penodi Uwch Grwner parhaol ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru.

 

Yn dilyn ymddeoliad Mr Dewi Pritchard Jones (cyn Uwch Grwner) ym mis Tachwedd 2020, rhoddwyd trefniadau interim ar waith wrth ystyried priodoldeb uno ardal Crwner Gogledd Orllewin Cymru gydag ardaloedd eraill y rhanbarth. Yn dilyn trafodaethau rhwng Adran Llysoedd a Thribiwnlysoedd  Llywodraeth y DU a  Chynghorau Gwynedd a Dinbych (sef yr awdurdod perthnasol ar gyfer Ardal Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanolog), penderfynodd  y Prif Grwner na fyddai bellach yn chwilio am uno'r ardaloedd Crwner yma ac y dylid penodi Uwch Grwner parhaol ar gyfer Ardal Gogledd Orllewin Cymru (Gwynedd a Môn)

 

Tynnwyd sylw at y drefn ffurfiol o benodi Uwch Grwner gan Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009, a gan Ganllawiau’r Prif Grwner sydd yn nodi y dylai pob penodiad gael ei gymeradwyo gan y Prif Grwner a’r Arglwydd Ganghellor gyda’r angen hefyd i’r Prif Grwner gymeradwyo’r broses benodi.

 

Adroddwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod perthnasol ar gyfer Ardal Gogledd Orllewin Cymru, sydd yn golygu bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i gwrdd â’r costau sy’n gysylltiedig â rhedeg y gwasanaeth. Amlygwyd bod angen i’r  awdurdod perthnasol (Gwynedd) ffurfio Panel fydd yn derbyn cyngor gan Reolwr Priodoldeb ac Etholiadau a chynrychiolydd y Prif Grwner, i dynnu rhestr fer, i gynnal y cyfweliadau ac i benderfynu ar y penodiad. Mater i’r awdurdod yw cyfansoddiad y panel, ond gall y Prif Grwner neu gynrychiolydd fynychu’r cyfweliadau. Nodwyd, gydag Ardal y Crwner yn cynnwys mwy nag un awdurdod bydd rhaid i’r awdurdod perthnasol ymgynghori gyda’r awdurdod arall cyn penodi Uwch Grwner. Yn yr achos yma, bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cael eu cynnwys yn y broses fel sy’n briodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·      Croesawu cadw Gwynedd a Môn fel un ardal

·      Bod angen i’r drefn ddechrau cyn gynted â phosib

·      Yr Iaith Gymraeg yw prif iaith Cyngor Gwynedd a Môn – hyn yn allweddol bwysig yng nghyd-destun cyfathrebu

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnwys Conwy yn yr Ardal, nodwyd bod Cymru a Lloegr wedi eu rhannu yn ardaloedd crwnerol ac mai dwy ardal yn unig sydd ar gyfer Gogledd Cymru - nid oes bwriad newid hyn. Mewn ymateb i’r sylw am ddefnydd o’r Iaith Cymraeg, nodwyd bod hyn yn ofyn hanfodol yn yr hysbyseb swydd.

Awdur: Iwan G Evans

7.

STRATEGAETH DIM DRWS ANGHYWIR pdf eicon PDF 373 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y strategaeth ‘Dim Drws Anghywir’ fel y cyfeiriad strategol ar gyfer datblygiadau ar gyfer y dyfodol ym maes plant a phobl ifanc ynghyd â chefnogaeth i’w weithredu yn lleol yng Ngwynedd fel rhan o gynllun rhanbarthol ehangach.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn y strategaeth ‘Dim Drws Anghywir’ fel y cyfeiriad strategol ar gyfer datblygiadau ar gyfer y dyfodol ym maes plant a phobl ifanc ynghyd â chefnogaeth i’w weithredu yn lleol yng Ngwynedd fel rhan o gynllun rhanbarthol ehangach.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y strategaeth yn ymateb i adroddiad gan Comisiynydd Plant Cymru (Mehefin 2020) yn galw i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi plant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth. Mynegwyd fod prosesau a sustemau presennol yn llawer rhy gymhleth gyda thystiolaeth bod plant a phobl ifanc yn syrthio rhwng stolion gwahanol, yn aros ar restrau aros am gyfnodau hirfaith ac yna yn cael gwybod eu bod ar y rhestr anghywir neu’n cnocio’r drws anghywir. Ystyriwyd bod y strategaeth ranbarthol yma yn cynnig datrysiad i wella gwasanaethau i’r plant a’r bobl ifanc rheiny drwy sicrhau fod gwasanaethau yn creu timau o amgylch y teulu i gyfarfod a’u hanghenion yn hytrach na disgwyl i deuluoedd ffitio i’r hyn sydd ar gael.

 

Datblygwyd y strategaeth yn ystod Haf 2021 yn dilyn adolygiad o’r sefyllfa gyfredol yng Ngogledd Cymru, gan gwmni allanol a gomisiynwyd gan Benaethiaid Plant y chwe awdurdod ac arweinwyr iechyd. Cwblhawyd y gwaith drwy ddefnyddio methodoleg Ymchwiliad Gwerthfawrogol a oedd yn cynnwys gweithio gyda rheolwyr gweithredol ar draws y rhanbarth; ymchwilio i arfer da yng Nghymru a thu hwnt; cynnal cyfres o weithdai aml asiantaethol ar draws y rhanbarth, cynnal sesiynau cyfranogi gyda phlant a phobl ifanc oedd wedi cael cyswllt gydag un neu fwy o asiantaethau, ac yna datblygu’r strategaeth drwy ddull byw gan ddefnyddio adborth gan uwch reolwyr ar y cynnwys. Ategwyd nad oedd modd cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion yn y gweithdai oherwydd y pwysau gwaith ar adrannau addysg dros y cyfnod, ond gan eu bod yn bartner creiddiol i lwyddiant y gwaith bod trafodaethau lleol wedi sicrhau eu bod yn rhan allweddol o’r datblygiad ar gyfer y dyfodol yn lleol.

 

Mynegwyd bod y strategaeth yn cynnig adolygiad a newid radical yn y trefniadau cyfredol ac yn cynnig model uchelgeisiol o gydweithio gyda’r nod o wella canlyniadau iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc hyd at 25 oed - byddai’n adeiladu ar gryfderau’r sustem gyfredol ac yn cael ei llunio i ymateb i ofynion lleol. Gyda chydnabyddiaeth fod iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc angen cefnogaeth o fewn  fframwaith cymhleth o wasanaethau ac ymyraethau niferus, nodwyd bod gan y strategaeth oblygiadau ar gyfer pob asiantaeth a phartner sydd yn cyfrannu tuag at ganlyniadau iechyd a llesiant plant a phobl ifanc er mwyn eu cefnogi i gael y gorau allan o fywyd. Nodwyd y byddai rhaid i bob asiantaeth ddadansoddi eu sustemau, eu strategaethau a’u polisïau i gyd-fynd a’r strategaeth.

 

Nodwyd bod y strategaeth yn cyd-fynd gydag egwyddorion Ffordd Gwynedd ac yn gorwedd o fewn trefniadau’r Adran Plant a Theuluoedd yng Ngwynedd ar gyfer datblygu'r ffordd y mae’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Marian Parry Hughes

8.

TREFNIADAU CYDWEITHIO CENEDLAETHOL AR GYFER GWASANAETHAU MABWYSIADU A MAETHU (AWDURDODAU LLEOL) CYMRU pdf eicon PDF 841 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Mabwysiadu trefniadau ar gyfer datblygu y trefniadau llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Cymru wrth iddo gymryd cyfrifoldeb am Faethu Cymru

 

b)   Cytuno bod yr awdurdod yn llofnodi’r Cytundeb y Cydbwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru a sefydlu'r Cyd Bwyllgor Cenedlaethol

 

c)    Penodi'r Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd i gynrychioli'r Awdurdod ar y Cyd Bwyllgor

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dilwyn Morgan 

 

Amlygodd, wrth sefydlu Maethu Cymru, bod yr Iaith Gymraeg yn derbyn statws eilaidd heb unrhyw gyfeiriad at y Gymraeg yn y brandio nac mewn dogfennaeth berthnasol. Yn dilyn pwysau a pherswâd Morwenna Edwards a Marian Parry Hughes, sicrhawyd bod yr iaith yn cael lle teilwng yn y trefniadau - diolchwyd i’r ddwy am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD

 

a)    Mabwysiadu trefniadau ar gyfer datblygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Cymru wrth iddo gymryd cyfrifoldeb am Faethu Cymru.

b)    Cytuno bod yr awdurdod yn llofnodi’r Cytundeb y Cydbwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru a sefydlu'r Cyd Bwyllgor Cenedlaethol

c)    Penodi'r Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd i gynrychioli'r Awdurdod ar y Cyd Bwyllgor

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad yn nodi’r angen, yn unol â chyfarwyddyd gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), i roi sail ffurfiol i’r cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol Cymru er mwyn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gymryd cyfrifoldeb dros Maethu Cymru a gweithredu'n effeithiol ar ran pob un o'r 22 awdurdod.

 

Yn unol â dymuniad CLlLC a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CCGCC) byddai hyn yn digwydd drwy gydbwyllgor Cenedlaethol. Nodwyd bod y gwaith o sefydlu Cydbwyllgor Cenedlaethol, wedi parhau ac yn barod i'w weithredu - bydd y Cydbwyllgor arfaethedig a'r cytundeb sy'n sail iddo wedi'u hymestyn i gynnwys Maethu Cymru yn yr un modd â'r capasiti a'r swyddogaethau ar gyfer galluogi a chydweithio’n genedlaethol drwy Dîm Canolog cyfunol. O ganlyniad, bydd y Cydbwyllgor cenedlaethol, ar ran y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, yn arfer ei bwerau i ddarparu'r trefniadau cydweithredol ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ac ar gyfer Maethu Cymru. Bydd yn cynnwys aelodau'r Cyngor ac yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.

 

Amlygwyd bod cyfreithwyr CLlLC wedi drafftio Cytundeb cyfreithiol ar gyfer y Cydbwyllgor i'w lofnodi gan bob un o'r 22 awdurdod lleol ac y byddai cytuno ar y cynigion a llofnodi Cytundeb y Cydbwyllgor yn ffurfioli cydweithrediad Cyngor Gwynedd yn y trefniadau llywodraethu. Ategwyd y byddai rolau a chyfrifoldebau ar gyfer cynnal a chyflawni swyddogaethau cenedlaethol sy'n cefnogi ac yn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau mabwysiadu a maethu hefyd yn cael eu ffurfioli drwy fabwysiadu’r drefn.

 

Awdur: Marian Parry Hughes

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DIOGELU pdf eicon PDF 101 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth am waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2021-22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan  

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth am waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2021-22.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn cynnwys trosolwg o waith y Panel Strategol Diogelu dros y cyfnod Ionawr 2021 - Mawrth 2022, gan roi darlun clir a theg o’r gwaith a gyflawnwyd ynghyd a chyfeiriadau at adroddiadau neu sylwadau gan archwilwyr allanol ar y gwaith. Nodwyd bod gofyn i’r Cyfarwyddwr Statudol adrodd yn gyson a rheolaidd i Aelodau ar waith y Panel ar ddiogelu, a'u bod yn gallu bodloni eu hunain bod y Panel wedi ymgymryd â’r gwaith sydd ei angen yn drylwyr a chydwybodol.

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai nod y Panel Strategol Diogelu yw sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau addas yn eu lle ar lefel gorfforaethol ar draws y Cyngor er mwyn sicrhau diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion. Ers 2017/18 mae’r Panel hefyd yn gyfrifol am drosolwg o faterion diogelu ehangach ar draws Gwynedd.

 

Tynnwyd sylw at rai o’r rhwystrau gan adrodd bod sicrwydd ymatebion a thystiolaeth fod pob adran yn ymateb ac yn dilyn i fyny ar unrhyw bryderon yn amserol.

 

·         bod yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff cymwysedig. O ganlyniad, comisiynwyd unigolyn i wneud darn o waith yn y maes, a gobeithir cyflawni’r gwaith hwn erbyn Ebrill 2022.

·         bu pryder am y gwasanaeth DoLS (trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid) yn ystod y flwyddyn gan fod 550 ar y rhestr aros ar un pwynt. Fodd bynnag, cafwyd bid llwyddiannus am £100,000 gan y Llywodraeth i gyfarch y rhestr aros (sydd bellach oddeutu 336)

·         dewis rhai rhieni i barhau i addysgu eu plant gartref pan fu i’r ysgolion ail agor. Er bod y niferoedd yn gymharol isel, gwelwyd cynnydd ymysg teuluoedd bregus - mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu’r angen i gofrestru plentyn os ydynt am dderbyn addysg o gartref

·         bod angen gweithredu’n adweithiol a mynd i’r afael â’r diwylliant misogynistaidd ymysg bechgyn er mwyn mynd i wraidd problemau maes aflonyddu rhywiol mewn ysgolion yn sgil dyfodiad gwefan Everyone’s Invited

·         bod data gan yr Heddlu yn dangos cynnydd yn y niferoedd o droseddau domestig yng Ngwynedd yn ystod y ddau chwarter diwethaf – y  mater yn cael blaenoriaeth yng nghyfarfodydd nesaf y Bartneriaeth, er mwyn sicrhau bod digon yn cael ei wneud i gael negeseuon allan i’r cyhoedd

 

Diolchwyd i’r Cyng. Dilwyn Morgan am gadeirio’r panel ac i ymrwymiad swyddogion ac Aelodau i’r gwaith gwych sydd yn cael ei wneud yn y maes diogelu a hynny yn ystod cyfnod heriol - yn bennaf yn sgil Covid-19 a’r heriau sy’n ymwneud â’r feirws. Er gwaethaf hynny, nodwyd bod y Panel Strategol Diogelu wedi parhau i gynnal cyfarfodydd ar-lein a symud yr agenda yn ei flaen. Ategwyd bod bwriad hefyd i adlewyrchu ar drefniadau gweithio'r Panel Strategol a’r Grŵp Gweithredol er mwyn sicrhau gweithredu effeithiol - bydd y gwaith yn cael ei wneud yn gynnar yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Morwena Edwards

10.

EFFAITH COVID 19 AR GYLLIDEB 2022-23 CWMNI BYW'N IACH pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas and Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid i ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i gwmni Byw’n Iach Cyf hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23 gan gadarnhau pe bai’r argyfwng Covid-19 yn parhau fod Cyngor Gwynedd am gefnogi’r cwmni yn ariannol o leiaf hyd at 31/03/2023.

 

b)   Bod adolygiad llawn o gynllun busnes y cwmni yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen 6 mis

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng.  Ioan Thomas    

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid i ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i gwmni Byw’n Iach Cyf hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23 gan gadarnhau pe bai’r argyfwng Covid-19 yn parhau fod Cyngor Gwynedd am gefnogi’r cwmni yn ariannol o leiaf hyd at 31/03/2023.

 

b)    Bod adolygiad llawn o gynllun busnes y cwmni yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen 6 mis

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu mai mater technegol cyfrifeg oedd sail yr adroddiad. Eglurwyd, yn unol â gofynion safonau archwilio rhyngwladol mae’n rhaid i archwiliwr allanol fynegi barn annibynnol am allu cwmnïau i  barhau i fasnachu am o leiaf 12 mis. Yng nghyd-destun Byw’n Iach, sydd yn gwmni cyfyngedig, mae’n ofynnol i’r archwilwyr allanol roi sicrwydd busnes hyfyw wrth roi barn ar gyfrifon y cwmni.

 

Adroddwyd, wrth ystyried yr opsiynau, bod cynnal cwmni hyd braich dan reolaeth y Cyngor i redeg cyfleusterau hamdden y Sir yn parhau i fod yr un mwyaf synhwyrol ar hyn o bryd o safbwynt ariannol, a hynny yn bennaf oherwydd manteision ardrethi annomestig. Er hynny, amlygwyd nad oedd dim byd yn y cytundeb gweinyddu rhwng y Cyngor a chwmni Byw’n Iach yn nodi y byddai’r Cyngor yn rhoi indemniad awtomatig i'r cwmni rhag colledion ariannol - ni fyddai hyn yn ddisgwyliedig gan fod disgwyl i'r cwmni gynnal ei hun mewn cyfnod arferol.

 

Nodwyd mai dyma’r trydydd adroddiad o’i math i’w gyflwyno i’r Cabinet ers cychwyn y pandemig ac amlygwyd bod Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru a Chynllun Seibiant Swyddi Llywodraeth San Steffan wedi cefnogi Byw’n Iach yn ariannol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar gyfer 2022/23, bydd angen i Cyngor Gwynedd ysgwyddo’r baich ariannol ein hunain oherwydd bod cynlluniau’r Llywodraeth wedi/yn dod i ben.

 

Mynegwyd bod y Cyngor, wrth gymeradwyo Cyllideb 2022/23, wedi cymeradwyo ychwanegu £1.4m i gronfa i ymdopi â sgil effeithiau’r pandemig (er nodwyd ar y pryd nad oedd disgwyl i hynny fod yn ddigonol ohono’i hun). Ategwyd bod Cronfa Adfer Covid hefyd wedi ei sefydlu wrth gau cyfrifon 2020/21 i’r perwyl hyn ynghyd a  gwneud defnydd o’r Gronfa Strategaeth Ariannol pe byddai angen. Er na ellid rhoi  ffigwr am y gofyn am gymorth, disgwylid iddo fod yn sylweddol is na chyfraniad 2021/22.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn argyhoeddedig, ar hyn o bryd, mai’r argyfwng Covid-19 oedd y rheswm o fod angen cefnogi Byw’n Iach ac wrth i swyddogion Cyllid gydweithio â swyddogion y cwmni ar ragolygon ariannol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, amlygodd bod nifer defnyddwyr gwasanaethau Byw’n Iach yn parhau’n is nag yr oeddynt yn union cyn y pandemig.  Ategwyd, wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, y bydd hyder y cyhoedd, ac felly nifer y defnyddwyr, yn cynyddu’n raddol yn ystod y flwyddyn.  Pwysleisiwyd nad oedd disgwyl y byddai cyflwyno adroddiad fel hyn yn dod yn drefniant blynyddol - byddai hynny  yn codi cwestiynau am hyfywdra hirdymor y cwmni - mewn cyfnod arferol y disgwyliad y byddai archwiliwr y cwmni yn gallu rhoi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Dewi Morgan