skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys. 

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

CANLLAW CYNLLUN ATODOL: SAFLE TREFTADAETH Y BYD TIREDD LLECHI GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 94 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cymeradwywyd y newidiadau sydd wedi eu cynnwys yn yr Adroddiad Ymgynghori

2.    Mabwysiadwyd yn ffurfiol Canllaw Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru i’w ddefnyddio fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth wneud penderfyniad o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd.

3.    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol, Adran Amgylchedd wneud unrhyw addasiadau ansylweddol, y gall fod eu hangen i’r CCA drafft cyn iddo gael ei gyhoeddi ar y wefan.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Cymeradwywyd y newidiadau sydd wedi eu cynnwys yn yr Adroddiad Ymgynghori
  2. Mabwysiadwyd yn ffurfiol Canllaw Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru i’w ddefnyddio fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth wneud penderfyniad o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd.
  3. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol, Adran Amgylchedd wneud unrhyw addasiadau ansylweddol, y gall fod eu hangen i’r CCA drafft cyn iddo gael ei gyhoeddi ar y wefan.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yr angen i fabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol gan ei fod yn rhoi cig ar asgwrn polisïau cynllunio elfennol y Cyngor. Eglurwyd yr angen i’w fabwysiadu gan y Cabinet yn hytrach na Phwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn gan ei fod am ardaloedd penodol o fewn Gwynedd. Eglurwyd fod y ddogfen yn un hynod fanwl a fydd yn cael ei ddefnyddio fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth wneud penderfyniadau cynllunio o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd. Mynegwyd fod man gywiriadau angen eu gwneud i’r ddogfen a gofynnwyd i ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i wneud unrhyw addasiadau gramadegol sydd i’w gweld yn y ddogfen.

 

Ychwanegol y Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd fod y ddogfen yn cael ei chyflwyno i Barc Cenedlaethol Eryri y diwrnod canlynol i gael ei fabwysiadu ganddynt yn ogystal.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at sylwadau manwl iawn a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Ffestiniog a diolchwyd iddynt am gymryd eu hamser i gynnig sylwadau mor drylwyr.

 

Awdur: Gareth Jones

6.

STRWYTHUR UWCH REOLAETHOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 419 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i:

 

1.    Ddirwyn i ben yr arbrawf o weithredu gydag un Cyfarwyddwr yn unig a symud ymlaen y drefn benodi arferol.

2.    Diddymu swydd Pennaeth Ymgygnhoriaeth Gwynedd ar ymddeoliad y Pennaeth presennol a chyfuno’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd fel un adran newydd.

3.    Trosglwyddo’r unedau Gwastraff ac Ailgylchu o’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol i’r Adran Amgylchedd a symud un swydd Pennaeth Cynorthwyol / Uwch Reolwr yn yr un modd.

4.    Ail Danio rhaglen Cefnogi Pobl drwy leoli’r Pennaeth Cynorthwyol perthnasol yn rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth, am gyfnod o ddwy flynedd yn y lle cyntaf.

5.    Cadarnhau ail leoli elfennau o’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnaf a’r Gwasanaeth Ieuenctid o’r Adran Blant a Theuluoedd i’r Adran Addysg i’w weithredu gan y Prif Weithredwr.

6.    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol addasu Cynllun Dirprwyo’r Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau wrth iddynt ddod yn weithredol.

7.    Nodi y bydd y newidiadau uchod yn cyflawni arbediad refeniw blynyddol net o oddeutu £81,000 a fydd yn eistedd o fewn y Tîm Arweinyddiaeth am tro nes y bydd galw amdano.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i:

 

  1. Ddirwyn i ben yr arbrawf o weithredu gydag un Cyfarwyddwr yn unig a symud ymlaen y drefn benodi arferol.
  2. Diddymu swydd Pennaeth Ymgygnhoriaeth Gwynedd ar ymddeoliad y Pennaeth presennol a chyfuno’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd fel un adran newydd.
  3. Trosglwyddo’r unedau Gwastraff ac Ailgylchu o’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol i’r Adran Amgylchedd a symud un swydd Pennaeth Cynorthwyol / Uwch Reolwr yn yr un modd.
  4. Ail Danio rhaglen Cefnogi Pobl drwy leoli’r Pennaeth Cynorthwyol perthnasol yn rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth, am gyfnod o ddwy flynedd yn y lle cyntaf.
  5. Cadarnhau ail leoli elfennau o’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnaf a’r Gwasanaeth Ieuenctid o’r Adran Blant a Theuluoedd i’r Adran Addysg i’w weithredu gan y Prif Weithredwr.
  6. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol addasu Cynllun Dirprwyo’r Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau wrth iddynt ddod yn weithredol.
  7. Nodi y bydd y newidiadau uchod yn cyflawni arbediad refeniw blynyddol net o oddeutu £81,000 a fydd yn eistedd o fewn y Tîm Arweinyddiaeth am tro nes y bydd galw amdano.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor bellach yn addasu yn ôl ar ôl cyfnod y pandemig ac ei bod yn amser da i ail edrych ac addasu trefniadau mewnol y Cyngor. Eglurwyd fod angen llenwi swyddi gwag o ran Cyfarwyddwyr Corfforaethol ac i symud Ymgynghoriaeth Gwynedd i fewn i’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd er mwyn i’r adran Briffyrdd allu ymdopi a’r pwysau ychwanegol y bydd yr adran Wastraff yn cael eu symud i’r Adran Amgylchedd.

 

Mynegwyd fod y addasiadau yma yn cael eu gwneud yn llefydd cywir ac yn sicrhau arbediad o £81,000 y flwyddyn i’r Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Dangoswyd cefnogaeth i gynlluniau’r Prif Weithredwr o ran addasu trefniadau mewnol y Cyngor gan amlygu fod rhestr hir o gynlluniau mae’r Cyngor eisiau ei cyflawni a y bydd yn gymorth i weithio tuag at weithredu’r cynlluniau.

¾     Mynegwyd ei bod yn gyfnod da i wneud newidiadau ac eu bod yn gwneud synnwyr. Nodwyd yr angen i wneud yr addasiadau yn llyfn er mwyn cael cyn lleied o effaith ar wasanaethau a sydd yn bosib ac i greu unedau cyn trosglwyddiad yn benodol yn y Gwasanaeth Gwastraff.

¾     Pwysleisiwyd yr angen i amlygu’r addasiadau i’r holl Gynghorwyr a’r cyhoedd fel eu bod yn ymwybodol gan fod dryswch yn aml am pa feysydd sydd yn yr Adran Amgylchedd ac yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol.

¾     Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol presennol am ei gwaith arbennig dros y blynyddoedd ac ei bod yn fodel rôl i ferched.

¾     Amlygwyd y cynlluniau cyffroes sydd i’w gweld yn rhestr blaenoriaethau’r Cyngor ac amlygwyd yr angen i weithio y draws adrannol i sicrhau fod yn y cynlluniau yn cael eu gweithredu.

 

 

Awdur: Dafydd Gibbard

7.

FFIOEDD PRESWYL A NYRSIO 2022-23 pdf eicon PDF 180 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i godi ffioedd safonol preswyl a nyrsio Gwynedd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23, yn unol a opsiwn isod a’u gweithredu yn unol ag amodau a thelerau’r Cyngor.

 

 

£ yr wythnos 

Preswyl 

£645 

Preswyl EMI 

£780 

Nyrsio 

£800* 

Nyrsio EMI 

£900* 

*ddim yn cynnwys cyfraniad y Bwrdd Iechyd at gostau nyrsio

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i godi ffioedd safonol preswyl a nyrsio Gwynedd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23, yn unol a opsiwn isod a’u gweithredu yn unol ag amodau a thelerau’r Cyngor.

 

 

£ yr wythnos 

Preswyl 

£645 

Preswyl EMI 

£780 

Nyrsio 

£800* 

Nyrsio EMI 

£900* 

*ddim yn cynnwys cyfraniad y Bwrdd Iechyd at gostau nyrsio

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu fod angen codi ffioedd safonol preswyl a nyrsio Gwynedd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23. Nodwyd cywiriad i’r adroddiad gan nodi yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Mawrth eleni, bu i’r Cabinet gytuno ar ffioedd safonol ar gyfer cartrefi annibynnol preswyl a nyrsio ar gyfer 2022/23. Eglurwyd fod angen gosod y ffi cyn Ebrill er mwyn caniatáu ar gyfer gweithredu. Yn y Cabinet hwnnw gofynnwyd am adroddiad pellach er mwyn ystyried posibilrwydd o ffi uwch ar gyfer lefel saff, yn ogystal â chostau chwyddiant blynyddol. Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn ffrwyth llafur y gwaith sydd wedi ei wneud gan yr adran i edrych ar y mater ymhellach.

 

Tynnwyd sylw at yr adroddiad Effaith Cydraddoldeb gan amlygu fod sicrhau’r ffioedd yn caniatáu i’r Cyngor fod yn hyfyw ac yn talu staff yn deg.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Busnes fod y Cabinet wedi gofyn i’r adran edrych ymhellach ar ffioedd ac fod dau opsiwn i’w weld yn yr adroddiad. Eglurwyd fod pwysau cynyddol i’w gweld yn benodol ar ofal preswyl nyrsio a dementia yn y sir ac fod angen mwy o sylw ar yr agweddau yma. Eglurwyd fod angen cynnydd uwch i’r pris yn y meysydd yma er mwy cryfhau’r ddarpariaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod prinder llefydd yn y maes nyrsio a dementia ar draws y sir ac fod angen talu mwy am hynny. Eglurwyd fod trafodaeth yn cael ei gynnal i gydweithio ar Bwrdd Iechyd a Cymdeithas Tai Clwyd Alyn i gynnal ystod o ofal yn y maes.

¾     Diolchwyd i staff gofal  yn breifat ac yn y Cyngor am eu gwaith yn ystod y cyfnod y pandemig a nodwyd yr angen i sicrhau cyflog byw i’n gofalwyr.

¾     Dangoswyd cefnogaeth i’r opsiwn b yn yr adroddiad er mwyn sicrhau fod y maes yn cael ei ariannu yn deg ac amlygwyd fod chwyddiant ar hyn o bryd yn ychwanegu at yr her.

 

Awdur: Alun Gwilym Williams

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 431 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  mai hon oedd adroddiad cyntaf yr Aelod Cabinet yn y maes hwn, a mynegwyd ei fod yn adroddiad pwysig sydd yn feincnod o ble mae’r adran arni ac yn amlygu pa waith sydd angen ei wneud.

 

Eglurwyd nad oes cyfarfod herio perfformiad wedi ei gynnal eto ond fod nifer o’r materion wedi bod yn destun trafodaeth gyda’r adran dros yr wythnosau diwethaf. Amlygwyd fod yr ail ran yr adroddiad yn amlygu cynnydd sydd wedi ei wneud yn y cynlluniau sydd gan yr adran yng Nghynllun y Cyngor. Nodwyd fod llawer o waith wedi ei wneud ar y cynlluniau ac fod cyfeiriadau at ble mae angen ei wella. Mynegwyd fod y gwaith o ail ddylunio’r Gwasanaeth Gofal yn mynd rhagddi ac fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd o ran tendrau i ddatblygu gwasanaeth gofal newydd.

 

Pwysleisiwyd fod problem recriwtio a gweithlu i’w gweld yn amlwg drwy’r adroddiad a pwysleisiwyd nad yw’r broblem hon yn un unigryw ac ei bod yn cael ei gweld yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Nodwyd fod yr adran yn edrych ar ddatblygu ffyrdd arloesol  o ddenu gweithwyr i’r sector ac i ddeall y rhwystrau. Eglurwyd y bydd adroddiad pellach ar y mater yn dod o flaen y Cabinet maes o law.

 

O ran perfformiad yr adran, nodwyd yn dilyn trafodaeth a’r Pennaeth fod angen gwneud gwaith pellach i edrych yn benodol ar pwrpasau a mesuryddion gwasanaethau er mwyn blaenoriaethu’r gwaith er mwyn symud ymlaen. Diolchwyd i’r Cyng. Dafydd Meurig am y gefnogaeth ac ei waith fel yr Aelod Cabinet a oedd yn dal y portffolio ynghynt.

 

Bu i’r Pennaeth Adran ychwanegu o ran recriwtio fod rhaglen amrywiol o weithgareddau a sesiynau recriwtio wedi ei cynnal sydd wedi bod yn hynod llwyddiannus yn rhai ardaloedd a dim diddordeb mewn ardaloedd gwahanol. Eglurwyd y bydd adroddiad pellach ar gwaith yn cael ei rannu dros y misoedd nesaf. Nodwyd o ran cynlluniau Cynllun y Cyngor fod rhain yn raglenni gwaith penodol gyda nifer o ffrydiau gwaith i bob un ohonynt. Eglurwyd mai un o’r tasgau mwyaf sydd gan yr adran yw i newid y diwylliant ar draws y maes gofal nid yn unig yn fewnol ond yn allanol. Mynegwyd mai drwy newid y diwylliant bydd gwahaniaeth mwyaf i’w weld ar draws y gwasanaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd diffyg cynnydd yn y cynllun ar gyfer Canolfan Dolfeurig yn Nolgellau sydd wedi bod ar y gweill dros bum mlynedd a mynegwyd y bydd yr arian sydd ar ei gyfer yn annigonol o bosib bellach.

¾     Eglurwyd yn ôl ym mis Awst 2021, fod yr adran yn rhagweld gorwariant o £1.4miliwn ond o ganlyniad i dderbyn £1.9miliwn o Grant Pwysau Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru bu i’r adran danwario o £68,000. Pwysleisiwyd fod y tanwariant yn gwbl ddibynnol ar grant un tro, ac amlygwyd fod arbedion yn mynd i fod yn gwbl heriol i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Aled Davies

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 318 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Elin Walker Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn ddiweddariad cynnydd ac yn feincnod ar gyfer dechrau ei thaith fel Aelod Cabinet. Diolchwyd i Cyng. Dilwyn Morgan am ei waith fel y deilydd portffolio blaenorol.

 

Mynegwyd fod adroddiad yn amlinellu beth sydd wedi digwydd yn yr adran ac amlygu nifer o gynlluniau cyffroes. Eglurwyd mai un o heriau mawr yr adran yr fod nifer o staff wedi eu dargyfeirio ar gyfer ymateb i argyfwng yn yr Wcrain. Nodwyd o ran prosiectau blaenoriaeth gyd y gwaith o gadw teuluoedd gyda’i gilydd yn parhau.  Mynegwyd o ran y Cynllun Awtistiaeth fod cydlynydd wedi ei benodi dros dro a hyfforddiant i staff wedi ei gynnal.

 

Amlygwyd fod capasiti staff a recriwtio yn her fawr i’r adran ond er hyn ei bod yn hapus gyda’r perfformiad. Eglurwyd fod nifer y ceisiadau am gymorth gan yr adran yn parhau i godi. Nodwyd fod yr adran wedi tan wario £97,000 y flwyddyn ariannol diwethaf o ganlyniad i’r adran yn denu grantiau.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Adran fod cynlluniau yn symud yn eu blaenau ond fod nifer uchel o staff Cefnogi Teuluoedd wedi cael ei dargyfeirio i weithio i gynorthwyo teuluoedd sydd yn cyrraedd o’r Wcrain.  Amlygwyd fod y Strategaeth Cadw Teuluoedd gyda’i gilydd yn parhau i fod yn llwyddiannus gyda nifer uchel o blant yn parhau gyda’i teuluoedd. Nodwyd fod cynnydd yn y galw ynghyd â problem recriwtio a cadw staff, a nodwyd fod niferoedd sydd wedi gofyn yn Ebrill a Mai wedi bod yn uwch nac erioed. Er hyn mae goleuni ar y gorwel gyda’r adran yn llwyddo i benodi 7 gweithiwr cymdeithasol yn syth ar ôl graddio o’r cwrs Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor a Glyndŵr. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd fod y ddwy adran gofal wedi derbyn arian grant munud olaf gan y Llywodraeth a gofynnwyd i Gymdeithasol Llywodraeth Leol i bwyso ar  Lywodraeth Cymru i roi’r arian yn y setliad blynyddol fel bod modd i’r adrannau gynllunio ymlaen llaw.

¾     Nodwyd er fod yr adran wedi tanwario y llynedd, fod y Cabinet dros y ddwy flynedd diwethaf wedi dileu targedau arbedion o £1.1miliwn a £300,000 o fewn yr adran. Er hyn mynegwyd ei bod yn galonogol iawn fod yr adran wedi llwyddo i recriwtio er mwyn ymateb i’r cynnydd cyson yn y galw.

 

Awdur: Marian Parry Hughes