Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Hybrid

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Dyfrig Siencyn a Ioan Thomas.

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y 14 AC 28 MEHEFIN 2022 pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 14 a 28 Mehefin 2022 fel rhai cywir.

 

6.

PROSIECTAU GRANT CYFALAF ADDYSG CYFRWNG CYMRAEG, LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 253 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i symud ymlaen i gyflwyno achosion busnes llawn gerbron Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau’r cyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer cyflawni dibenion y prosiectau isod:

a)    Prosiect 1 – Buddsoddi dros £1.1m i gynyddu capasiti a gwella amgylchedd dysgu Canolfannau Iaith Gwynedd - Yr ail wedd.

b)     Prosiect 2 – Buddsoddi dros £1.5m cyfalaf a £0.3m refeniw i gynyddu capasiti 3 ysgol (Llanllechid, Bro Lleu a Chwilog) er mwyn cefnogi cymunedau Cymraeg o arwyddocâd ieithyddol (h.y. cymunedau gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg) i ffynnu.

 

Cytunwyd i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, gan adrodd yn ôl i Gabinet yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i symud ymlaen i gyflwyno achosion busnes llawn gerbron Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau’r cyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer cyflawni dibenion y prosiectau isod: 

a)    Prosiect 1 – Buddsoddi dros £1.1m i gynyddu capasiti a gwella amgylchedd dysgu Canolfannau Iaith Gwynedd - Yr ail wedd. 

b)    Prosiect 2 – Buddsoddi dros £1.5m cyfalaf a £0.3m refeniw i gynyddu capasiti 3 ysgol (Llanllechid, Bro Lleu a Chwilog) er mwyn cefnogi cymunedau Cymraeg o arwyddocâd ieithyddol (h.y. cymunedau gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg) i ffynnu.  

 

Cytunwyd i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, gan adrodd yn ôl i Gabinet yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cais sydd yma i gyflwyno dwy achos busnes llawn ger bron Llywodraeth Cymru. Nodwyd mai’r cyntaf oedd buddsoddiad i gynyddu capasiti a gwella amgylchedd dysgu Canolfannau Iaith Gwynedd, ac yr ail gais yn un cyfalaf a refeniw er mwyn cynyddu capasiti tair ysgol o fewn y sir er mwyn cefnogi cymunedau gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg. Esboniwyd gan fod y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog dros 25% bydd angen cynnal ymgynghoriad statudol yn unol a gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol (Cymru) 2013.

 

Mynegwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig i Cynghorau ymgeisio am y grant er mwyn hwyluso twf addysg Gymraeg o fewn Cymru ac i hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn ysgolion. Eglurwyd o ran y Canolfannau Iaith fod y buddsoddiad er mwyn cynyddu capasiti a gwella amgylchedd dysgu drwy sicrhau lleoliadau strategol. Amlygwyd o ran Ysgol Maesincla fod angen ymestyn y ganolfan bresennol, yn Nolgellau i ail-leoli’r ganolfan i  Ysgol Bro Idris ac o ran Ysgol Bro Cybi i ail leoli’r Ganolfan i safle Ysgol y Cymerau.  Pwysleisiwyd fod llawer o waith cyffroes yn digwydd o fewn y canolfannau a bydd y cynlluniau yn adeiladu ar y sail gadarn sydd i’w gweld eisoes. 

 

Nodwyd fod tair ysgol wedi ei amlygu ar gyfer cynyddu capasiti – Ysgol Llanllechid, Ysgol Bro Lleu ac Ysgol Chwilog ac fod hyn oherwydd fod y cymunedau gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg ac fod cynlluniau ar y gweill i godi mwy o dai yn yr ardaloedd. Mynegwyd fod y cynllun hwn yn dangos ymrwymiad i addysg Gymraeg ac i blant y Sir, ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu a sicrhau Cymreictod plant y Sir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Croesawyd yr achosion busnes a nodwyd yr angen ar gyfer y buddsoddiad hwn.

¾     Nodwyd cefnogaeth i’r cynlluniau ac gan fynegi eu bod yn edrych ymlaen i weld y cynlluniau yn cael eu gwireddu.

 

 

Awdur: Gwern ap Rhisiart / Rhys Glyn

7.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DG pdf eicon PDF 141 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatawyd i’r Cyngor ymgymryd â’r rôl ‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG i berwyl cyflwyno’r ‘Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol’ sy’n ofynnol gan Lywodraeth y DG ar ran chwe sir Gogledd Cymru.

 

Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – gytuno gyda siroedd eraill y Gogledd ar drefniadau gweinyddu a gweithredu priodol fydd yn gwarchod buddiannau’r Cyngor.

 

Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned – mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr – gytuno ar gynnwys y ‘Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol’.

 

Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sioned Williams. 

 

PENDERFYNIAD

 

Caniatawyd i’r Cyngor ymgymryd â’r rôl ‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG i berwyl cyflwyno’r ‘Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol’ sy’n ofynnol gan Lywodraeth y DG ar ran chwe sir Gogledd Cymru.  

 

Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – gytuno gyda siroedd eraill y Gogledd ar drefniadau gweinyddu a gweithredu priodol fydd yn gwarchod buddiannau’r Cyngor.  

 

Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned – mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr – gytuno ar gynnwys y ‘Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol’. 

 

Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y gronfa hwn wedi ei lansio yn ôl ym mis Ebrill eleni, ac fod gofyn i’r rhanbarth fod yn cyflwyno ar y cyd, ac yna fod yr arian yn cael ei ddyrannu i bob sir. Mynegwyd fod  dyraniad Gwynedd ar gyfer y cyfnod hyd at Mis Mawrth 2025 yw £24.4miliwn. Eglurwyd er mwyn cael mynediad i’r arian rhaid gwneud Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol. Nodwyd fod yr arian hwn yn gronfa sydd yn rhan o becyn o gronfeydd sydd wedi ei lansio yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mynegwyd fod prosbectws wedi ei gynnwys sy’n amlygu fod beth sydd yn gymwys yn eang tu hwnt. Pwysleisiwyd mai beth sydd yn cael ei drafod heddiw yw’r camau sydd angen eu gwneud i dynnu’r arian i lawr i’r sir.

 

Mynegwyd fod yr adran wedi ceisio cysylltu a rhan ddeiliaid ar draws y sir. Esboniwyd fod y partneriaid yn ymwybodol mai’r trefniadau i dynnu’r arian i’r rhanbarth yw’r penderfyniad hwn gan y bydd gwahoddiad i bartneriaid cynnig prosiectau o gwmpas mis Hydref.

 

Eglurwyd y bydd angen un corff arweiniol ar ran y rhanbarth, a nodwyd fod Gwynedd wedi ei gynnig i ymgymryd a’r rôl a chyflwyno’r cais ar ran y Gogledd. Nodwyd drwy wneud hyn mai Gwynedd fydd yn gyfrifol am y gyllideb i holl siroedd y Gogledd. Pwysleisiwyd fod trafodaethau yn parhau o ran model y bartneriaeth hon ynghyd a trefniadau gweinyddu a gweithredu priodol.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod gwaith wedi dechrau o ran yr elfen gyfreithiol. Pwysleisiwyd nad yw’r model o’r Cyngor yn arwain ar brosiectau yn un anghyffredin ond fod gwaith yn parhau i edrych ar fodel a fydd yn gweithio i’r cynllun hwn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Mynegwyd balchder fod Gwynedd yn arwain ar gymaint o gynlluniau rhanbarthol.

¾   Nodwyd fod y cynllun hwn yn un cymhleth, ac fod cwestiynau yn codi o ran y cynllun gyda’r newid mewn arweinyddiaeth o fewn y blaid Geidwadol. Amlygwyd yn ogystal fod Llywodraeth Cymru wedi datgan gwrthwynebiad i’r cynllun hwn.

¾   Eglurwyd yr angen i Gyngor Gwynedd fod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn ceisio cael yr arian i sicrhau y gorau i drigolion Gwynedd.

¾   Tynnwyd sylw ar bwynt 3.8 yn yr adroddiad a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Sioned Williams

8.

AIL WEDD Y RHAGLEN ARFOR pdf eicon PDF 121 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd ail wedd y Rhaglen fel a’i hamlinellir yn yr adroddiad gan awdurdodi’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr - gytuno ar gynnwys y rhaglen yn derfynol.

 

Cytunwyd i’r Cyngor arwain ar ail wedd y Rhaglen ARFOR ar ran Cynghorau Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr o ran rheoli cytundeb ariannol Llywodraeth Cymru, gwireddu’r cynlluniau ar y cyd o fewn y Rhaglen a chydlynu/gweinyddu’r Rhaglen yn ei gyfanrwydd.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - gyda’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol - adolygu a diweddaru’r trefniadau llywodraethu rhwng y pedair sir gan gyflwyno adroddiad pellach petai angen.

 

Ar sail derbyn cytundeb mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru i ail wedd y Rhaglen, caniatáu symud ymlaen i benodi Rheolwr Rhanbarthol ARFOR.

 

Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sioned Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd ail wedd y Rhaglen fel a’i hamlinellir yn yr adroddiad gan awdurdodi’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr - gytuno ar gynnwys y rhaglen yn derfynol.  

 

Cytunwyd i’r Cyngor arwain ar ail wedd y Rhaglen ARFOR ar ran Cynghorau Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr o ran rheoli cytundeb ariannol Llywodraeth Cymru, gwireddu’r cynlluniau ar y cyd o fewn y Rhaglen a chydlynu/gweinyddu’r Rhaglen yn ei gyfanrwydd.  

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - gyda’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol - adolygu a diweddaru’r trefniadau llywodraethu rhwng y pedair sir gan gyflwyno adroddiad pellach petai angen.  

 

Ar sail derbyn cytundeb mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru i ail wedd y Rhaglen, caniatáu symud ymlaen i benodi Rheolwr Rhanbarthol ARFOR.  

 

Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cynllun hwn yn gynllun cyffroes i barhau i gydweithio gyda chynghorau lawr ochor Orllewinol Cymru. Nodwyd fod y cydweithio hwn wedi codi o redeg y cynllun ers dwy flynedd. Eglurwyd ddwy flynedd yn ôl fod swm o £2 filiwn wedi ei fuddsoddi mewn cyfres o brosiectau gyda’r nod o gydweithio gyda busnesau i annog cyfleoedd gwaith i gadw’r iaith a teuluoedd o fewn cymunedau.

 

Eglurwyd o’r cynllun peilot fod gwaith da wedi ei wneud a swyddi wedi eu creu mewn cymunedau gweledig tu hwnt. Pwysleisiwyd fod hyn yn sail i gynllun newydd sydd wedi ei gytuno yn rhan o gytundeb wleidyddol i ariannu ail wedd y cynllun gyda swm o £11miliwn dros gyfnod o dair blynedd. Esboniwyd y bydd hyn yn gyfle i adeiladu ar y perthynas sydd wedi ei greu a siroedd eraill, i ddysgu o gynlluniau ac i ganolbwyntio ar gynlluniau a oedd yn wir yn gwneud gwahaniaeth. Amlygwyd fod cais wedi dod i’r Cyngor fod yn parhau i fod yn gorff arweiniol ar gyfer y cynllun.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Nodwyd fod Gwynedd yn arwain ar nifer o gynlluniau yn dangos cryfder adrannau’r Cyngor.

 

Awdur: Sioned Williams

9.

Y GRONFA FFYNIANT BRO pdf eicon PDF 380 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Cefnogwyd y bwriad o dargedu Cronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cynlluniau Bywiogi Bangor, Llewyrch o’r Llechi, a Coridor Gwyrdd Ardudwy; 

b)    Awdurdodwyd i’r Pennaeth Cyllid ar y cyd a Phennaeth Economi a Chymuned a Phennaeth Amgylchedd i gytuno ar fanylion y ceisiadau, i arwyddo ceisiadau ac i arwyddo llythyrau cynnig, os yn llwyddiannus, ar gyfer cynlluniau Ffyniant Bro Gwynedd;

c)    Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Amgylchedd a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo ceisiadau a llythyrau cynnig wrth dargedu pecynnau cyllidol llawn ar gyfer gwireddu y cynlluniau hyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sioned Williams

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Cefnogwyd y bwriad o dargedu Cronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cynlluniau Bywiogi Bangor, Llewyrch o’r Llechi, a Coridor Gwyrdd Ardudwy;   

b)    Awdurdodwyd i’r Pennaeth Cyllid ar y cyd a Phennaeth Economi a Chymuned a Phennaeth Amgylchedd i gytuno ar fanylion y ceisiadau, i arwyddo ceisiadau ac i arwyddo llythyrau cynnig, os yn llwyddiannus, ar gyfer cynlluniau Ffyniant Bro Gwynedd;  

c)    Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Amgylchedd a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo ceisiadau a llythyrau cynnig wrth dargedu pecynnau cyllidol llawn ar gyfer gwireddu y cynlluniau hyn

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y gronfa hon yn un o gronfeydd Llywodraeth y DU a lansiwyd yn nol ym mis Ebrill. Nodwyd llynedd fod y Cyngor wedi cyflwyno ceisiadau ond fod y Cyngor wedi ei nodi yn band blaenoriaeth 3 – sef yr isaf o’r holl fandiau. Eglurwyd bellach fod y dyraniad wedi newid yn dilyn achos gan y Cyngor yn amlygu sefyllfa Gwynedd a bellach fod y Cyngor yn ardal blaenoriaeth 1. Mynegwyd fod hyn wedi bod yn sbardun i fod yn ail edrych ar y sefyllfa ac fod tri achos wedi cael eu hadnabod i’w cyflwyno.

 

Y prosiect cyntaf oedd Cynllun Bywiogi Bangor sydd yn glwstwr o brosiectau i annog pobl i ganol Bangor. Eglurwyd fod hwb iechyd yn ganolbwynt i’r cynllun wedi ei blethu gyda cynlluniau eraill megis sefydlu Ysgol Feddygol yng nghanol y ddinas. Mynegwyd fod y buddsoddiad oddeutu £40miliwn ac fod y cais am yr uchafswm posib sef £20miliwn.

 

Yr ail gynllun yw Coridor Gwyrdd Ardudwy, cynllun yw hwn ble mae’r Pennaeth Amgylchedd wedi edrych a sylwadau a dderbyniwyd am gynllun ffordd osgoi Llanbedr ac edrych ar sut mae modd i ymgorffori elfennau o’r teithiau llesiant i’r cynllun. Mynegwyd drwy wneud hyn roedd cyfle i adeiladau ar gynllun isadeiledd y ffordd ac i ychwanegu llwybr teithio llesol sydd yn gyfle i wella a annog dulliau amgen o deithio. Eglurwyd fod y pecyn cais hwn oddeutu £40miliwn.

 

Eglurwyd fod y trydydd cynllun Llewyrch o’r Llechi yn adeiladu ar glustnodi dynodiad safle Treftadaeth y Byd. Mynegwyd fod y cyfyngiad o 3 cod post ar gyfer cynlluniau ac o ganlyniad nid oes modd i’r cynllun fod ar draws ardal y llechi. Ond drwy ganolbwyntio ar y dair ardal (Llanberis, Blaenau Ffestiniog a Bethesda) bydd modd edrych ar gronfeydd eraill i wireddu cynlluniau yn y cymunedau sydd ddim yn rhan o’r cais hwn. Eglurwyd fod y pecyn oddeutu £27miliwn er mwyn i’r cymunedau fod yn manteisio ar y dynodiad safle a datblygu cynlluniau penodol a gwahanol o fewn eu hardaloedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Nodwyd rhyfeddod fod yr adran  yn ymgeisio am symiau mor sylweddol a holwyd os oes gan yr adran y capasiti i redeg yr holl gynlluniau. Nodwyd fod ymgeisio am cymaint o grantiau yn amlygu gwaith da yr adran a nodwyd yr angen i adolygu o ran staff yr adran. Llongyfarchwyd yr Aelodau Cabinet a staff am eu parodrwydd ac i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Sioned Williams

10.

ACHOS DROS NEWID: DARPARU LLEOLIADAU NYSRIO FEL RHAN O BARTNERIAETH SECTOR GYHOEDDUS pdf eicon PDF 335 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr achos dros newid a gofyn i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyno Achos Busnes Amlinellol Strategol erbyn Hydref 2022 ar greu datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle(oedd) yng Ngwynedd, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr achos dros newid a gofyn i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyno Achos Busnes Amlinellol Strategol erbyn Hydref 2022 ar greu datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle(oedd) yng Ngwynedd, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet yn hynod frwdfrydig dros yr eitem hon sydd yn arloesol tu hwnt. Nodwyd fod y Cyngor ar hyn o bryd yn darparu oddeutu 50% o ddarpariaeth gofal preswyl i drigolion y sir, tra fod y sector annibynnol yn cyfrannu’r hanner arall. Eglurwyd ar hyn o bryd fod y ddarpariaeth yn y sector nyrsio yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan y sector annibynnol gan ei bod wedi bod yn anghyfreithiol i’r Cyngor fod yn ei ddarparu. Mynegwyd fod hyn ar newid gyda cyfleoedd bellach yn bosib.

 

Mynegwyd werthfawrogiad i gyfraniad y sector annibynnol i’r maes gofal nyrsio ond nodwyd fod y cyfle i ddarparu mewn partneriaeth fel Cyngor yn rhoi cyfle i wella’r ddarpariaeth i drigolion y sir. Eglurwyd ar hyn o bryd os nad oes lleoliad nyrsio ar gael fod nifer yn gorfod aros am gyfnod hir o amser neu yn gorfod symud tu allan i’w cymunedau.  Pwysleisiwyd fod yr adroddiad hwn yn ddechrau’r daith sydd yn amlinellu’r achos dros newid ynghyd a gosod y risgiau sydd ynghlwm a’r newid hwn. Mynegwyd mai cyfle yw hwn i symud ymlaen i’r cam nesaf, sef i greu achos busnes.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mae un o brif ddyletswyddau ei rôl yw i edrych ar ôl pobl bregus o fewn y sir, ac fod y blynyddoedd diwethaf wedi amlygu fod yr elfen hon o’r ddarpariaeth yn ei gwneud yn amhosib i roi y gofal gorau i drigolion Gwynedd. Mynegwyd ei bod yn falch, yn ei chyfarfod olaf yn y rôl i gyflwyno’r adroddiad hwn sydd yn gyfle i weithio gyda partneriaid a law yn llaw gyda’r sector annibynnol er mwyn sefydlogi’r farchnad. Eglurwyd fod presenoldeb y Cyngor o fewn y ddarpariaeth preswyl a gofal cartref wedi cryfhau’r ddarpariaeth ac felly gobeithio y bydd y cam hwn yn cryfhau’r ddarpariaeth nyrsio o fewn y sir. Diolchwyd i’r bwrdd Iechyd am eu parodrwydd i fod yn trafod y maes hwn mewn cyfnod  mor heriol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd cefnogaeth i’r adroddiad a diolchwyd am y gwaith.

¾     Diolchwyd i Morwena Edwards am ei arweiniad ar y gwaith hwn ac am ei gwaith dros y blynyddoedd diwethaf fel Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

 

Awdur: Morwena Edwards

11.

DYFODOL Y GWASANAETH CYNLLUNIO POLISI AR Y CYD (GWYNEDD A MÔN) pdf eicon PDF 126 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i:

  1. Estyniad i’r cytundeb cydweithio cyfredol ar gyfer darpariaeth y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar Cyd hyd at 31 Mawrth 2023;
  2. Bod y cytundeb cydweithio ac felly y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn dod i ben ar y 31 Mawrth 2023, a bod Gwasanaeth Polisi Cynllunio newydd yn cael ei greu ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd:
  3. Bod y Gwasanaeth Polisi Cynllunio newydd yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd yn unig:
  4. Bod trefniadau ar gyfer cefnogi a gwneud penderfyniadau ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd a materion polisi cynllunio perthnasol yn cael eu creu ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd;
  5. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd gytuno ar drefniadau cydweithio gydag Ynys Mon i sicrhau fod y Cyngor yn parhau i gwrdd a’r gofynion statudol (ac unrhyw waith cysylltiedig), sydd ei angen ar gyfer monitro’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd;
  6. Gan fod hwn yn fater o’r flaenoriaeth uchaf, gofynnir i’r Cabinet ragfarnu’r broses ‘bidiau’ flynyddol a chaniatáu ‘bid’ am £70,000 o gyllideb refeniw parhaol rŵan, er mwyn cyfarch y gost ychwanegol o fod yn sefydlu Gwasanaeth Polisi Cynllunio Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i: 

1)    Estyniad i’r cytundeb cydweithio cyfredol ar gyfer darpariaeth y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar Cyd hyd at 31 Mawrth 2023;  

2)    Bod y cytundeb cydweithio ac felly y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn dod i ben ar y 31 Mawrth 2023, a bod Gwasanaeth Polisi Cynllunio newydd yn cael ei greu ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd:  

3)    Bod y Gwasanaeth Polisi Cynllunio newydd yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd yn unig:  

4)    Bod trefniadau ar gyfer cefnogi a gwneud penderfyniadau ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd a materion polisi cynllunio perthnasol yn cael eu creu ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd;  

5)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd gytuno ar drefniadau cydweithio gydag Ynys Mon i sicrhau fod y Cyngor yn parhau i gwrdd a’r gofynion statudol (ac unrhyw waith cysylltiedig), sydd ei angen ar gyfer monitro’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd;  

6)    Gan fod hwn yn fater o’r flaenoriaeth uchaf, gofynnir i’r Cabinet ragfarnu’r broses ‘bidiau’ flynyddol a chaniatáu ‘bid’ am £70,000 o gyllideb refeniw parhaol rŵan, er mwyn cyfarch y gost ychwanegol o fod yn sefydlu Gwasanaeth Polisi Cynllunio Gwynedd. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi cefndir yr eitem. Eglurwyd fod cytundeb wedi ei wneud rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Mon i sefydlu Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y cyd yn ôl yn 2011. Nodwyd mai prif dasg y tîm oedd i greu Cynllun Datblygu Lleol. Amlygwyd fod y cynllun mewn bodolaeth ers dros 10 mlynedd bellach ac ei fod yn dod i ben ddiwedd y mis. Esboniwyd fod dau brif opsiwn o ran symud ymlaen, sef i ymestyn y cytundeb neu dod a’r gytundeb i ben. Mynegwyd mae’r prif fantais o gyfuno’r gwaith dros 10 mlynedd yn ôl oedd er mwyn rhannu adnoddau.

 

Amlygwyd fod trafodaethau wedi cael ei cynnal er mwyn creu dwy uned ar wahân, sydd ar hyn o bryd yn cael ei weld fel yr opsiwn ffafriedig. Eglurwyd wrth greu y polisi yn benodol ar gyfer Gwynedd fod modd rhoi perchnogaeth 100% i anghenion Gwynedd ac addasu y Cynllun Datblygu Lleol. Pwysleisiwyd mai dim mater hawdd fydd datglymu’r trefniant gan fod staff a trefn llywodraethu ar y cyd. Ond mynegwyd gofynnir fel rhan o’r penderfyniad i ymestyn y cytundeb presennol at ddiwedd Mawrth 2023 er mwyn gwneud y gwaith fydd angen ei gwneud.

 

Nodwyd fod yr un adroddiad wedi ei chyflwyno yng Nghyngor Mon heddiw ac eu bod wedi datgan awydd i greu uned eu hunain.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd o ran penderfyniad Ynys Mon os yw’r penderfyniad yr un peth, nodwyd er mwyn symud ymlaen fod angen i’r penderfyniad fod yr union yr un peth gan y ddwy Gyngor.

 

Awdur: Gareth Jones

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 269 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma adroddiad perfformiad cyntaf yr Aelod Cabinet yn ôl fel yr arweinydd portffolio yn y maes. Eglurwyd ei fod yn hapus ar y cyfan gyda beth mae wedi ei weld ar yr olwg gyntaf. Tynnwyd sylw at Gynllun Argyfwng Newid Hinsawdd gan nodi fod y cyfarfodydd bellach wedi ail ddechrau ac eu bod yn edrych i droi o gynlluniau i fod yn gweithredu. Nodwyd fod cynnydd wedi ei weld yn nifer o’r blaenoriaethau.

 

O ran perfformiad yr adran mynegwyd ei bod yn galonogol tu hwnt fod cynnydd wedi bod ym mherfformiad y Gwasanaeth Cynllunio gyda cyfartaledd nifer y dyddiau i ddelio gyda ceisiadau cynllunio wedi gostwng o 103 i 78. Er hyn amlygwyd fod gwaith pellach i anelu at yr amserlen statudol o 56 diwrnod gwaith. Amlygwyd her arall gyda niferoedd y ceisiadau gorfodaeth cynllunio ar gynnydd gyda 45 wedi ei dderbyn yn ystod dau fis cyntaf y flwyddyn ariannol hon. Nodwyd fod gwaith yn mynd rhagddo i ddelio a’r ceisiadau.

 

Pwysleisiwyd fod gwaith da yn cael ei wneud gan wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd gyda dros 90% o 2189 o fusnesau Gwynedd wedi cael sgôr hylendid bwyd rhwng 3-5. O ran sefyllfa ariannol yr adran, mynegwyd ei fod yn weddol iach gyda cynlluniau arbedion ar drac i gael eu cwblhau yn amserol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd os y bydd yr adran yn mynd i’r afael ar sicrhau llwybrau teithio llesol ar draws y sir. Eglurwyd fod gwaith yn cael ei wneud ac fod ymgynghoriad ar agor ar hyn o bryd, ac anogwyd i bawb leisio ei farn ynddo. 

¾     Gyda’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y newid mewn cyflymder ceir i lawr i 20 milltir yr awr mewn rhai lleoliadau holwyd os yw’r adran a digon o staff i ddelio ar newid. Pwysleisiwyd pan fydd yn dod i rym y bydd yr amserlen yn heriol a nodwyd fod trafodaeth yn digwydd ar hyn o bryd gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod capasiti fydd ei angen ac yr angen i sicrhau staffio. O ran staffio o fewn yr adran amlygwyd fod angen staff gyda arbenigedd technegol yn yr adran hon sydd yn gallu bod yn heriol gyda’r gofynion ieithyddol.

 

Awdur: Dafydd Wyn Williams

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL A YMGYNGHORIAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 260 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi diolch i’r cyn-ddeilydd portffolio am ei gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Tynnwyd sylw yn gyntaf at waith y adran Briffyrdd gan amlygu bellach fod Tîm Arfon wedi ei penodi ar gyfer cynllun Cymunedau Glan a Thaclus. Eglurwyd fod ychydig o oedi wedi bod yn penodi ar gyfer y 4 tîm arall ond y byddant yn eu lle cyn diwedd yr haf. O ran cynllun Goleuadau Strydoedd i oleuadau LED nodwyd fod ychydig gannoedd ar ôl i’w gnwued ac y bydd y cynllun wedi ei gwblhau cyn diwedd yr Hydref.

 

Diolchwyd i’r gweithwyr am fod allan yn gweithio yn y gwres llethol sydd wedi bod dros y dyddiau diwethaf. Mynegwyd fod gorwariant yn yr adran yn benodol yn y gwasanaeth gwastraff ac eglurwyd fod yr adran wedi penodi arbenigwyr i edrych yn fanwl ar y mater a bydd modd adrodd yn ôl yn ystod yr Hydref.

 

O ran yr adran Ymgynghoriaeth Gwynedd mynegwyd fod hon yn adran sydd yn dod a incwm sylweddol i’r Cyngor. Nodwyd fod rhaglen waith gadarn mewn lle ar gyfer y flwyddyn gyda 11 swydd ychwanegol am gael ei hysbysebu. Mynegwyd y bydd yr adran yn cyrraedd ei tharged incwm eleni.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd sut y bydd modd cysylltu a’r Timau Cymunedau Glan a Thaclus. Eglurwyd y bydd Swyddog Prosiect yn cysylltu ac aelodau er mwyn egluro’r drefn o gael y tîm yn eu hardal.

 

Awdur: Steffan Jones a Huw Williams