skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Prif Weithredwr, Dafydd Gibbard 

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.  

3.

MATERION BRYS pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cynyddu cyllideb ar gyfer datblygu Ysgol Treferthyr newydd i £8,145,206.

 

Caniatawyd trosglwyddo £3,261,880 o gyllideb gweddill amlen Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) er mwyn cyfarch cynnydd sylweddol yng nghostau'r prosiect, gan dderbyn y bydd yn arwain at lai o gyllideb ar gael i wireddu prosiectau eraill o fewn Band B Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaladwy Gwynedd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown. 

 

PENDERFYNIAD 

 

Cymeradwywyd cynyddu cyllideb ar gyfer datblygu Ysgol Treferthyr newydd i £8,145,206. 

 

Caniatawyd trosglwyddo £3,261,880 o gyllideb gweddill amlen Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) er mwyn cyfarch cynnydd sylweddol yng nghostau'r prosiect, gan dderbyn y bydd yn arwain at lai o gyllideb ar gael i wireddu prosiectau eraill o fewn Band B Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Gwynedd. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r camau sydd wedi eu cwblhau hyd yma ar y daith o adeiladu Ysgol newydd yng Nghriccieth ond bod cynnydd sylweddol wedi bod yng nghostau adeiladu’r Ysgol. Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y ffyrdd i gyfarch y diffyg ariannol ac i godi rhagor o gyllideb. Amlygwyd y camau sydd wedi digwydd ers mis Mai 2021. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru bryd hynny wedi cymeradwyo ariannu cyllideb lawn o £4.9 miliwn ar gyfer adeiladu’r Ysgol ac yn cyfrannu 65% tuag at y gost gyda’r Cyngor yn cyfrannu 35%. Adroddwyd bod y cynnydd sylweddol i gostau adeiladu sydd wedi digwydd dros yr 18 mis diwethaf wedi arwain at gynnydd yn y gost i ychydig dros £8 miliwn oherwydd ffactorau fel costau cynyddol mewn deunyddiau, ynni a chwyddiant. 

 

Adroddwyd ar y cais sydd wedi ei wneud i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu cyllideb ariannu’r Ysgol a gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnydd hwn a throsglwyddo’r gyllideb o gynllun band B er mwyn cyfarch y cynnydd sylweddol yng nghostau’r prosiect. Ychwanegwyd mai sgil effaith trosglwyddo’r gyllideb fydd effaith ar weddill cyllideb band B a llai o gyllideb i wireddu’r prosiectau yno. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Amlygwyd bod safle presennol yr Ysgol yn anaddas. Nodwyd bod y datrysiad yn ymddangos yn syml ond bod oblygiadau i’w hystyried.  

·                  Mynegwyd cefnogaeth i’r cais gan nodi bod opsiynau eraill yn brin.  

·                  Holwyd beth yn union yw sgil effeithiau band B.  

·                  Mewn ymateb nodwyd mai £1.1 miliwn fydd yr effaith sef 35% o’r cynnydd o £3.2 miliwn gan bod y gweddill eisoes wedi ei adnabod. Bydd y swm yma yn cael ei ddargyfeirio o gynlluniau eraill megis y gyllideb Ôl-16; bydd y gyllideb yma yn gostwng er mwyn cyfarch yr arian ychwanegol ar gyfer y cynllun hwn.  

·                  Croesawyd y cais er lles plant Criccieth a credwyd y bydd y gymuned yn falch iawn o’r Ysgol newydd. Gwnaethpwyd sylw bod wir angen buddsoddiad yn Ysgol Eifionydd a bod angen i’r Cyngor bwyso ar Lywodraeth Cymru er mwyn gwella’r adnoddau yn yr Ysgol hon.   

·                  Mewn ymateb nodwyd bod Ysgol Eifionydd yn rhan o’r Cynllun Cyflwr ac Addasrwydd i fod yn uwchraddio a gwella amodau a chyfleusterau ac nid yw’r swm yn un sylweddol. 

·                  Credwyd er gwaetha’r cynnydd yng nghostau adeiladu’r Ysgol bod y Cyngor yn cael Ysgol gwerth am arian yng Nghriccieth. Edrychwyd ymlaen at weld y prosiect yn cael ei gwblhau a credwyd y bydd y buddsoddiad yn llesol i addysg plant dalgylch Criccieth am flynyddoedd lawer. 

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 HYDREF 2022 pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2022 fel rhai cywir.  

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 178 KB

Cyflwynwyd gan: Cllr. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig.      

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r hyn sydd wedi digwydd hyd yma yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor presennol. Adroddwyd ar y sefyllfa ail gartrefi a llety gwyliau byr dymor yn y Sir gan nodi fod yr Adran yn arwain ar y gwaith o baratoi Cyfarwyddyd Erthygl 4 fydd yn rhoi hawl i awdurdodau cynllunio reoli ail gartrefi. Nodwyd fod y gwaith yma yn parhau gyda’r bwriad o ddod ag adroddiad ger bron y Cabinet yn y flwyddyn newydd.  

 

Soniwyd am rai heriau oedd yn wynebu’r Adran sy’n cynnwys y gwasanaeth cynllunio a’r heriau staffio oedd yn bodoli, yn benodol o fewn y gwasanaeth gorfodaeth cynllunio. Adroddwyd bod 740 o geisiadau yn agored ddiwedd Mehefin sydd bellach wedi lleihau i 586 o geisiadau erbyn diwedd mis Hydref. Canmolwyd y gwaith aruthrol sydd wedi ei gyflawni gan gydnabod bod heriau yn parhau i fodoli ond bod yr Adran yn gwneud eu gorau i gwrdd â’r galw ar y gwasanaeth. 

 

Yn yr un modd adroddwyd ar y gwaith i glirio’r ôl-groniad yn y maes Pridiannau Tir ac i leihau’r cyfartaledd amser i brosesu’r ceisiadau hynny. Nodwyd bod staff dros dro wedi eu penodi a bod y gwasanaeth yn y broses o drosglwyddo i system gyfrifiadurol newydd yn y gobaith y gwnaiff hyn gyflymu’r broses unwaith bydd y system mewn lle.  

 

I gloi adroddwyd ar lwyddiannau o fewn yr Adran oedd yn cynnwys 90% o waith o fewn y maes Gwaith Stryd yn cael ei gyflawni gan gontractwyr o fewn yr amserlen wreiddiol  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Nodwyd bod y gwaith sy’n cael ei gwblhau gan yr Adran yn enfawr a’u bod yn  chwarae rhan flaenllaw ym mlaenoriaethau Cynllun y Cyngor. Credwyd eu bod yn haeddu canmoliaeth am yr hyn a gyflawnir. 

·                Mynegwyd balchder bod amser prosesu ceisiadau Pridiannau Tir yn lleihau a chydnabuwyd yr hyn roedd yr Adran yn ei wneud i ymdrin â’r materion. Credwyd ei bod yn amlwg bod yr Adran yn ceisio eu gorau ac yn llwyddo i daclo’r llwyth gwaith ac awgrymwyd i’r Adran rannu eu hymdrechion a’u datrysiadau gan y gall hyn newid canfyddiadau. 

·                Dymunwyd y gorau i’r Adran tra’n cymryd drosodd rhai agweddau o wasanaethau Priffyrdd a Bwrdeistrefol.  

·                Holiwyd am reolaeth cartrefi modur gan gwestiynu os oedd yr amserlen a nodwyd yn yr adroddiad yn realistig o ran capasiti ac amserlen caniatâd cynllunio.  

·                Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod heriau yn bodoli er enghraifft adnabod safleoedd priodol, roedd hyn wedi bod yn her oherwydd cyfyngiadau cynllunio. Nodwyd bod y ceisiadau cynllunio i fod i gael eu cyflwyno ar gyfer y safleoedd cyn y Nadolig sy’n dangos bod yr amserlen wedi llithro. Cadarnhawyd bod trafodaethau yn parhau o ran yr ochr gyllido efo Croeso Cymru, sy’n cael ei arwain gan yr Adran Economi a Chymuned. Gobeithir gallu cael penderfyniadau yn fuan iawn ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dafydd Wyn Williams

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD PRIFFYRDD, BWRDEISTREFOL AC YMGYNGHORIAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 258 KB

Cyflwynwyd gan: Cllr. Berwyn Parry Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones. 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gyfleu gwerthfawrogiad yn y lle cyntaf i’r gweithwyr sydd yn gweithio dan amgylchiadau anodd a phrysur yn graeanu yn sgil y tywydd oer diweddar a diolchwyd am eu gwaith. Adroddwyd bod y gwasanaethau Casglu a Thrin Gwastraff wedi cael eu trosglwyddo i’r Adran Amgylchedd a bod yr Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi symud i fod yn rhan o’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Dymuna’r Aelod Cabinet nodi ei werthfawrogiad o waith holl swyddogion yr Adran gan gydnabod y cyfraniad allweddol a wnaethpwyd ganddynt yn ystod y cyfnod hwn. Amlygwyd y bwriad i newid enw’r Adran yn sgil y symudiadau diweddar. Yr enw a ffafrir yn dilyn ymgynghori â staff yw Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC. 

 

Nodwyd bod cryn dipyn o waith yn wynebu’r Adran dros y misoedd nesaf sy’n cynnwys adolygiad o’r Gwasanaeth Glanhau Stryd a hefyd gwaith manwl yn ymwneud â’r gyllideb. Adroddwyd ar y prosiectau yng Nghynllun presennol y Cyngor sy’n cynnwys y prosiect Cymunedau Glan a Thaclus, Cryfhau Cyfathrebu ac Ymgysylltu a’r prosiect Mapio Gwasanaethau. O dan y prosiect hwn bwriedir gosod gwahanol asedau’r Adran ar fap ble bydd modd i drigolion weld statws yr ased ac adrodd ar unrhyw ddiffygion e.e. lampau stryd neu finiau halen. 

 

Tynnwyd sylw at y Strategaeth Fflyd gan gymryd y cyfle i bwysleisio’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Bwrdd Newid Hinsawdd, sef na ddylai unrhyw Reolwr adnewyddu na gwaredu unrhyw gerbyd heb drafod yn gyntaf efo’r Rheolwr Fflyd. Esboniwyd bod hyn yn hanfodol i lwyddiant y Strategaeth Fflyd. Roedd hyn yn sgil canfyddiad bod gormod o brynu cerbydau wedi digwydd ar sail ad-hoc yn y gorffennol. Credwyd y bydd y cyfarwyddyd hwn yn cael ei rannu ag Adrannau yn fuan. 

 

Amlygwyd prosiectau eraill yr adroddwyd arnynt megis y prosiect Fairbourne cyn symud ymlaen i adrodd ar berfformiad yr Adran gan nodi bodlonrwydd ynglŷn â’r perfformiad. Cyfeiriwyd at y gwaith o amnewid holl oleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED yn ogystal â’r gwaith glanhau strydoedd, cynnal priffyrdd a'r gwasanaeth toiledau cyhoeddus. 

 

I gloi soniwyd am waith Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) sydd yn wasanaeth sy’n dod ag incwm sylweddol i’r Cyngor ac yn ymgymryd â swyddogaethau statudol yn y maes dŵr a rheoli llifogydd cyn cyfeirio at sefyllfa ariannol yr Adran. Mynegwyd bod gorwariant o £600,000 o fewn yr Adran bresennol Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn dilyn trosglwyddo rhai gwasanaethau i’r Adran Amgylchedd ond bod gwaith ar y gweill i ddeall y rhesymau dros y gorwariant ac i roi mesurau mewn lle i unioni'r sefyllfa. Adroddwyd bod YGC yn tanwario bron i £30,000.   

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd newid enw’r Adran. 

·                  Mynegwyd ansicrwydd ynglŷn â pha Adran mae rhai cyfrifoldebau ac agweddau gweithredol y Cyngor yn gorwedd a bod elfen o gymhlethdod yma. 

·                  Ategwyd gwerthfawrogiad i waith yr Adran yn y tywydd oer diweddar gan ychwanegu bod angen i yrwyr neu gerddwyr ystyried os yw eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Steffan Jones