skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.  

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.  

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.  

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.   

 

5.

COFNODION CYAFARFODYDD A GYNHALIWYD AR 22 TACHWEDD A 13 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd a 13 Rhagfyr 2022 fel rhai cywir.  

6.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DG - TREFNIADAU LLYWODRAETHU A GWEITHREDU pdf eicon PDF 152 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.1 Cytunwyd bod Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r rôl ‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru ar ran chwe sir y Gogledd.

 

1.2. Cytunwyd i’r trefniadau llywodraethu rhanbarthol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

1.3. Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – i sefydlu cytundeb cyfreithiol rhyng-awdurdod ac amodau ariannu gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor Gwynedd.

 

1.4. Cytunwyd i'r trefniadau llywodraethu lleol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

1.5. Awdurdodwyd sefydlu Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd i gynnwys Arweinydd ac Is Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, ynghyd â´r hawl i benodi dirprwy ar y Panel, i gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian ar sail y meini prawf nodir yn adrannau 3.30 a 3.31 yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Economi a Chymuned.       

 

PENDERFYNIAD 

 

1.   Cytunwyd bod Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r rôl ‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru ar ran chwe sir y Gogledd.  

2.   Cytunwyd i’r trefniadau llywodraethu rhanbarthol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.  

3.   Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – i sefydlu cytundeb cyfreithiol rhyng-awdurdod ac amodau ariannu gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor Gwynedd.  

4.   Cytunwyd i'r trefniadau llywodraethu lleol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.  

5.   Awdurdodwyd sefydlu Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd i gynnwys Arweinydd ac Is Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, ynghyd â´r hawl i benodi dirprwy ar y Panel, i gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian ar sail y meini prawf nodir yn adrannau 3.30 a 3.31 yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi ei gadarnhau a’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2022. Eglurwyd y bydd arian yn cael ei dderbyn i’r rhanbarth fel lwmp swm ac nid i Awdurdodau Lleol yn unigol. O ganlyniad bydd angen corff arweiniol i arwain ar y cynllun yn y rhanbarth.  

 

Nodwyd bod llythyr memorandwm Cyd-ddealltwriaeth eisoes wedi ei dderbyn ac yn cynnig arian hyd at fis Mawrth 2025. Eglurwyd bod cryn dipyn o waith angen ei wneud er mwyn rhoi’r trefniadau yn eu lle. Manylwyd ar rolau Cyngor Gwynedd yn ymwneud â rheoli’r gronfa gan nodi y bydd tair swyddogaeth gan Gyngor Gwynedd sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad. Amlinellwyd y gwahaniaeth yn y rôl Sirol a’r rôl ranbarthol gan nodi bod y gwaith Sirol yn cynnwys asesu a chefnogi ceisiadau a’r gwaith rhanbarthol yn ymwneud â phrosiectau traws-sirol a’u hwyluso ynghyd a chyfrifoldebau eraill. 

 

Amlinellwyd y trefniadau a ragwelir ar gyfer y rhanbarth a’r bwriad o sefydlu tîm o 5 o swyddogion ar gyfer ymgymryd â’r gwaith a soniwyd am y costau megis costau cyfreithiol a chyfathrebu. Awgrymwyd trefn o ran strwythur llywodraethu ar yr ochr ranbarthol. Yn ogystal awgrymwyd adnodd i gyflawni’r gwaith yn Sirol a’r bwriad o sefydlu Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd yn ogystal â Phanel fydd yn ystyried argymhellion y Grŵp Ymgynghorol. 

 

Rhedwyd drwy’r camau o ran ymgeisio a gobeithir gallu agor y gronfa a chychwyn derbyn ceisiadau erbyn diwedd Ionawr. Amlygwyd fod yr amserlen yn dynn iawn ar gyfer cyflawni’r gwaith ar ran y rhanbarth a bod sawl proses yn rhedeg yn gyfochrog. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Gwnaethpwyd ychwanegiad i bwynt 5 o’r argymhelliad. Cytunwyd i ychwanegu “a’r hawl i benodi dirprwy ar y Panel” fel rhan o’r penderfyniad rhag ofn i’r gofyn amlygu yn y dyfodol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Sioned E. Williams and Dylan Griffiths

7.

CYLLIDEB REFENIW 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 146 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

·       Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

·       Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.

·       Argymhellwyd mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol fydd defnyddio:

-        yn gyntaf, Balansau Ysgolion i gyllido'r costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddion, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr ysgolion.

-        yn ail, defnyddio’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd.

-        yn olaf, defnyddio'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD 

 

·       Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.  

·       Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.  

·       Argymhellwyd mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol fydd defnyddio:  

·       yn gyntaf, Balansau Ysgolion i gyllido'r costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddion, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr ysgolion. 

·       yn ail, defnyddio’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd. 

·       yn olaf, defnyddio'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad sy’n manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2022/23 a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd bod rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Thai ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn. Ychwanegwyd bod gorwariant sylweddol gan bump o’r chwe Adran sydd yn gorwario, tra bod gweddill Adrannau’r Cyngor yn gweithredu o fewn eu cyllideb.  

 

Nodwyd o ran Covid, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, mae costau ychwanegol, colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn parhau mewn rhai meysydd. Ychwanegwyd bod hefyd oediad mewn gwireddu arbedion sydd wedi cyfrannu tuag at rai Adrannau yn gorwario. Tynnwyd sylw at y prif feysydd ble mae gwahaniaethau sylweddol.  

 

Rhagwelir gorwariant o dros £2.2 miliwn eleni yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu gwerth £930,000 o arbedion. Amlygwyd eleni bod pwysau ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol yng Ngwasanaethau Pobl Hŷn tra bod staffio uwchlaw lefel y gyllideb a diffyg incwm yn faterion yng Ngwasanaethau Gofal Cymunedol.  

 

Manylwyd ar y gorwariant o £1.6 miliwn sy’n cael ei ragweld gan yr Adran Addysg sydd o ganlyniad i effaith cost ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddion a staff gweinyddol £1,031,000 uwchlaw’r gyllideb eleni. Rhagwelir hefyd bod effaith prisiau trydan uwch ar yr ysgolion am y chwe mis o Hydref 2022 ymlaen yn £614,000. Mynegwyd ei bod yn briodol i ddefnyddio balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni o ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig. 

 

Tynnwyd sylw at broblemau gorwariant yn y maes Gwastraff ac Ailgylchu a’r trafferthion mae’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn ei gael i wireddu arbedion gwerth £608,000. Nodwyd hefyd bod Byw’n Iach yn gorwario oherwydd prisiau trydan uwch a gan fod sgil effaith covid yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar allu Cwmni Byw’n Iach i gynhyrchu incwm. Cyfeiriwyd at y pwysau yn y maes Digartrefedd oherwydd goblygiadau’r ddeddfwriaeth newydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Ffion Madog Evans

8.

TROSOLWG ARBEDION - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 576 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2022/23 a blynyddoedd blaenorol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2022/23 a blynyddoedd blaenorol.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad sy’n crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd ers  

2015/16 bod gwerth £35.4 miliwm o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu ar gyfer y cyfnod 2015/16 - 2022/23. Amlygwyd bod cyfanswm o £33.5 miliwn o’r arbedion yma wedi eu gwireddu ers 2015/16, sydd yn 95% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.  

 

Edrychwyd ar y flwyddyn ariannol gyfredol gan fynegi bod 22% o arbedion 2022/23 eisoes wedi eu gwireddu a 2% pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Cyfeiriwyd at yr Adrannau sydd efo’r gwerth uchaf o ran cynlluniau sydd eto i’w cyflawni sef yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.  

 

I gloi soniwyd am werth yr arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2023/24 ymlaen gan nodi bod cynlluniau arbedion a thoriadau ychwanegol ar gyfer 2023/24 eisoes dan ystyriaeth gan y Cyngor.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Mynegwyd bod rhaid cofio bod gwireddu’r arbedion yn golygu effaith uniongyrchol ar drigolion y Sir o ganlyniad i safon rhai gwasanaethau yn gostwng. Eglurwyd ei bod yn bwysig cyflawni’r arbedion ond eu bod yn deillio o bolisïau llymder y Llywodraeth ac nid o ddewis Cyngor Gwynedd.  

·                  Cyfeiriwyd hefyd ar yr effaith yr holl arbedion dros y blynyddoedd ar staff y Cyngor 

·                  Credwyd bod angen gwneud rhywfaint o arbedion yn flynyddol er mwyn bod yn effeithlon sy’n ran o egwyddorion Ffordd Gwynedd ond bod gorfod gwireddu gymaint o arbedion dros yr holl flynyddoedd wedi bod yn anodd.  

 

Awdur: Ffion Madog Evans

9.

RHAGLEN GYFALAF 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 448 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2022) o’r rhaglen gyfalaf.

·       Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-        cynnydd o £30,000 mewn defnydd o fenthyca

-        cynnydd o £2,947,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        cynnydd o £101,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        cynnydd o £20,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        cynnydd o £1,167,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD 

 

·       Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2022) o’r rhaglen gyfalaf. 

·       Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:  

·       cynnydd o £30,000 mewn defnydd o fenthyca 

·       cynnydd o £2,947,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau 

·       cynnydd o £101,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf 

·       cynnydd o £20,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw 

·       cynnydd o £1,167,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai prif ddiben yr adroddiad oedd i gyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf o £140.6 miliwn am gyfnod o dair blynedd o 2022/23 - 2024/25. 

 

Cyfeiriwyd at y ffynonellau i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £4.3 miliwn ers yr adolygiad diwethaf. Mynegwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi oddeutu £53 miliwn eleni, gyda £20 miliwn wedi’i ariannu drwy grantiau penodol.  

 

Eglurwyd bod effaith ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf gyda 40% o’r gyllideb wedi ei gwario hyd at ddiwedd Tachwedd eleni, o’i gymharu â 37% dros yr un cyfnod flwyddyn yn ôl; 31% ddwy flynedd yn ôl a 51% yn 2019/20 cyn amhariad Covid. Nodwyd fod £28.7 miliwn o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a 2024/25 gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys £11.4 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai, £5.5 miliwn Cynlluniau Ysgolion a £4.1 miliwn Adnewyddu Cerbydau.   

 

Tynnwyd sylw at y grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor i’w denu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys £2 miliwn Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, £0.9 miliwn Grant Cyfalaf Anghenion Dysgu Ychwanegol a £0.4 miliwn Grant Llywodraeth Cymru tuag at Gynllunio Gwledig (Gwella Mynediad).  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Nodwyd bod y maes yn ddyrys

 

Awdur: Ffion Madog Evans

10.

CYNLLUN FFLYD WERDD 2023-29 pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cynllun Fflyd Werdd 2023-28 (a weler yn Atodiad 1) a cytunwyd:

·       bod Adrannau'r Cyngor ddim i brynu, adnewyddu, neu waredu unrhyw gerbyd cyn yn gyntaf trafod ei anghenion gyda'r Rheolwr Fflyd, a chael ei gydsyniad;

·       bod angen creu system pŵl corfforaethol yn lle rhai Adrannol;

·       bod y Rheolwr Fflyd i arwain ar y gwaith o chwynnu’r stoc bresennol o gerbydau’r Cyngor, a chreu strwythur cerbydau i bob Adran.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones 

 

PENDERFYNIAD 

 

Mabwysiadwyd y Cynllun Fflyd Werdd 2023-28 (a weler yn Atodiad 1) a cytunwyd: 

·       bod Adrannau'r Cyngor ddim i brynu, adnewyddu, neu waredu unrhyw gerbyd cyn yn gyntaf trafod ei anghenion gyda'r Rheolwr Fflyd, a chael ei gydsyniad;  

·       bod angen creu system pŵl corfforaethol yn lle rhai Adrannol; 

·       bod y Rheolwr Fflyd i arwain ar y gwaith o chwynnu’r stoc bresennol o gerbydau’r Cyngor, a chreu strwythur cerbydau i bob Adran. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gyfeirio nôl at gyhoeddiad y Cyngor o Argyfwng Newid Hinsawdd ym mis Mawrth 2019 a arweiniodd at gyhoeddi Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gan y Cabinet ym mis Mawrth 2022 oedd yn gosod targed y bydd y Cyngor yn garbon sero net erbyn 2023. Nodwyd bod y Cynllun Fflyd Werdd yn cynnwys nifer o brosiectau sy’n mynd ati i helpu i wireddu’r amcan yma drwy leihau allyriadau carbon sydd yn deillio o ddefnydd Fflyd y Cyngor. Nodwyd bod cost yn gysylltiedig â hyn ond byddai cost uwch o lawer yn deillio o wneud dim. 

 

Cyflwynwyd y Cynllun hwn ar weledigaeth y Gwasanaeth Fflyd i’r Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur ym mis Tachwedd 2022 a chytunwyd y byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet am gymeradwyaeth. Adroddwyd bod cryn waith i’w gyflawni a gall unrhyw oedi amharu ar y rhaglen waith o gyrraedd y nod. 

 

Amlygwyd rhai agweddau o’r Cynllun gan y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Cyfeiriwyd at y targedau sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru a’r gofyn i edrych ar newid y drefn o ran sut mae’r Cyngor yn prynu cerbydau. Erbyn 2030 mae disgwyliad bod unrhyw gerbyd bychain mae’r Cyngor yn ei brynu efo allyriadau isel.  

 

Soniwyd am faint Fflyd y Cyngor sydd yn cynnwys o gwmpas 550 o gerbydau ar draws y Sir sy’n cwmpasu ystod eang o wahanol gerbydau. Cyfeiriwyd at y camau fydd yn cael eu dilyn gan y Gwasanaeth syn cynnwys gwaith chwynnu o ran adolygu cerbydau a herio os oes gwir angen y cerbyd yn y lle cyntaf. Yna bydd gwaith arloesol yn dilyn o ail edrych ar y dechnoleg sydd ar gael ac yna'r gwaith adnewyddu fydd yn cynnwys gosod allan y cyfeiriad y mae’r Cyngor yn dymuno ei ddilyn efo’r Cynllun Fflyd. 

 

Nodwyd bod y rhaglen o ran sut fydd y Gwasanaeth yn gweithio wedi ei osod yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau eraill sydd yn digwydd ynglŷn â threialu yn ogystal â datblygiadau ar y cyd fel y Cynllun Defnydd Hydrogen sydd yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Fflint ar gyfer cerbydau trymion. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Nid oedd sylwadau oni bai am ddymuno’r gorau i’r Adran a’r Gwasanaeth Fflyd a mynegwyd ei fod yn waith pwysig o ran ymdrechion y Cyngor i ostwng allyriadau.  

 

Awdur: Steffan Jones

11.

ADRODDIAD YMGYNGHORIAD STATUDOL YSGOL CHWILOG A DIWEDDARIAD O'R GRANT CYFALAF ADDYSG CYFRWNG CYMRAEG pdf eicon PDF 263 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd:

·       Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol.



Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown 

 

PENDERFYNIAD 

 

Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd: 

·                Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad positif hwn sydd yn ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad statudol i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 sydd yn gynnydd o dros 25%. Nodwyd mai arian o grant cyfalaf y Gymraeg yw hon ac mae ymgais yma i geisio cyfarch rhai o anghenion y cymunedau rheini sydd â dros 70% o’r bobl yn siarad Cymraeg. 

 

Mynegwyd bod cefnogaeth glir i’w weld wrth ystyried ymatebion yr ymgynghoriad a bod plant yr ardal hefyd yn credu y bydd yn gam positif i Ysgol Chwilog. Credwyd bod yr adroddiad yn dangos dyhead yr Adran Addysg i gefnogi Cymraeg holl blant y Sir ac yn benodol i gryfhau'r iaith Gymraeg yn ardal Chwilog. 

 

Nodwyd heblaw am y gefnogaeth bod ambell i sylw wedi eu derbyn am faterion fel  neuadd yr Ysgol ac yr ystafell athrawon sy’n dangos bod rhai wedi dal ar y cyfle yn ystod yr ymgynghorid i gyfleu negeseuon eraill. 

 

Nid oedd sylwadau pellach dim ond cefnogaeth gan y Cabinet.  

 

Awdur: Gwern ap Rhisiart

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 417 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn adrodd ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y maes Cyllid dros y misoedd diwethaf. Nodwyd bod perfformiad da yn yr Adran gyda chynnydd boddhaol yn cael ei wneud ar y prosiect blaenoriaeth perthnasol o fewn Cynllun y Cyngor. 

 

Cyfeiriwyd at amryw o wasanaethau megis y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a'r Gwasanaeth Budd-daliadau. Nodwyd bod y Gwasanaeth Budd-daliadau yn parhau i berfformio yn erbyn ei fesurau cyflawni craidd ond bod cyfartaledd yr amser y cymerir i brosesu cais budd-dal newydd wedi cynyddu o 20.7 diwrnod ym mis Tachwedd 2021 i 24.1 diwrnod ar gyfer mis Tachwedd 2022. Eglurwyd bod hyn yn gyfuniad o swyddi gwag a salwch yn ogystal â chynnydd yn y gwaith yn sgil taliadau tanwydd gaeaf. Adroddwyd bod brwdfrydedd o fewn y Gwasanaeth a’u bod yn cymryd rhan mewn dau gynllun corfforaethol sef Cynllun Datblygu’r Gweithlu a’r Cynllun Meithrin Talent. 

 

Nodwyd bod yr un problemau staffio yn bodoli o fewn Gwasanaethau eraill megis y Gwasanaeth Trethi ble mae recriwtio a chadw staff yn broblem gynyddol. Amlygwyd rhwystredigaeth o fewn y Gwasanaethau Cyllid a Chyfrifeg ynghylch derbyn anfonebau yn amserol gan weddill Adrannau’r Cyngor er mwyn eu prosesu. Credwyd bod cyfrifoldeb ar yr holl Aelodau Cabinet i geisio sicrhau bod yr Adrannau yn anfon anfonebau heb oedi. 

 

Nodwyd bod y Gwasanaeth TG wedi bod yn llwyddiannus gyda’u hymdrechion diweddar i lenwi swyddi gwag yn dilyn cyfnod o fethu penodi. Mynegwyd dymuniad i fwy o adborth gael ei roi i’r Gwasanaeth Cefnogol TG ar draws holl Adrannau’r Cyngor. Soniwyd bod yr adborth sy’n cael ei dderbyn ar y cyfan yn bositif iawn ond prin yw’r adborth hwn. I gloi cyfeiriwyd at y Gwasanaeth TG Dysgu Digidol sydd yn wasanaeth newydd gyda chryn dipyn o waith wedi ei gyflawni hyd yn hyn. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Soniwyd am y llythyr diweddar gafodd ei dderbyn gan y Gweinidog Julie James ynglŷn â’r cynllun taliad tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru. Roedd y llythyr yn nodi bod 72% o’r taliadau wedi eu talu ar gyfartaledd ar draws Cymru ond bod Gwynedd wedi talu 95% ac yn parhau i chwilio am y 5% arall i dalu sydd yn glod mawr i waith yr Adran. Gofynnwyd i’r Pennaeth Cyllid gyfleu'r clod hwn i’r Gwasanaeth. 

·                  Nodwyd bod yr Adran wedi bod yn chwilio am ffyrdd gwahanol o wneud y gwaith hwn drwy ddefnyddio’r Swyddfa Bost sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.  

Awdur: Dewi Aeron Morgan

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET ADDYSG pdf eicon PDF 558 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan fynegi balchder ym mherfformiad yr Adran a’r gwaith da sy’n digwydd o fewn Ysgolion Gwynedd. Cyfeiriwyd at yr Ysgol newydd fydd yn cael ei hadeiladu yng Nghriccieth er mwyn gwella’r amgylchedd ddysgu a sicrhau’r adnodd gorau i’r disgyblion a’r balchder sy’n bodoli o ganlyniad i’r datblygiad. Eglurwyd bod oedi wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gyflwyno’r weledigaeth newydd ar gyfer addysg ôl-16 ond bellach fod yr Adran mewn sefyllfa i allu bwrw mlaen efo’r prosiect hwn. Soniwyd am y prosiect Cyflwr ac Addasrwydd oedd wedi profi heriau ar brydiau. Serch hyn adroddwyd bod y buddsoddiad yng nghyflwr ac addasrwydd Ysgol Bethel, Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Cymerau wedi ei gwblhau yn ystod y flwyddyn gyda gwaith yn parhau ar safleoedd Ysgolion eraill ar draws y Sir.  

 

Adroddwyd bod y cyfnod Covid wedi amlygu bregusrwydd plant yn y grŵp oedran 0-5 a 16-24 a bellach bod gagendor lles a chyrhaeddiad yn un o brif flaenoriaethau’r Adran Addysg. Adroddwyd bod anghysondeb ar draws y Sir o ran ystod ac argaeledd gwasanaethau yn y sector blynyddoedd cynnar; bydd grŵp prosiect yn cytuno ar ffrydiau gwaith penodol ac wedi blaenoriaethu cynnal asesiad. 

 

Mynegwyd balchder yn y cwricwlwm newydd i Gymru gan gyfeirio at y sylw cyhoeddus dderbyniodd rhai agweddau o’r cwricwlwm megis y cwricwlwm Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb. Cymerwyd y cyfle i fynegi gwerthfawrogiad o broffesiynoldeb, cefnogaeth ac ymrwymiad yr Ysgolion a mynegwyd pob ffydd yn y Penaethiaid a’r athrawon i fedru dehongli a chyfleu'r cod hwn yn addas i oedran a datblygiad pob plentyn. 

 

Cyfeiriwyd at y Gyfundrefn Addysg Drochi sy’n weledigaeth newydd gan nodi bod cefnogaeth y gyfundrefn drochi ar gael i bob Ysgol yn y Sir. Soniwyd am waith cyffrous ac arloesol sydd wedi digwydd yng Ngwynedd fel y cynllun trochi newydd gafodd ei ysgrifennu a’i ddatblygu yng Ngwynedd a fydd yn cael ei rannu yn genedlaethol. Adroddwyd ar y drefn categoreiddio ysgolion ddaeth i rym ym mis Medi 2022 gan nodi y bydd yr Adran Addysg yn gweithio gyda phob Ysgol sydd yn disgyn i gategori 3 yn y Sir er mwyn sicrhau cynnydd priodol. 

 

I glo mynegwyd diolch i’r Adran Addysg ac yn arbennig i’r athrawon a holl staff yr Ysgolion yng Ngwynedd am eu gwaith diflino mewn cyfnod heriol i sicrhau’r addysg gorau i blant y Sir gan ofalu am eu hiechyd, diogelwch a’u lles a chyflawni ystod anferth o waith. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Dymunwyd longyfarch yr Adran am eu gwaith i uchafu lles plant a phobl ifanc ar draws y Sir. 

·                  Holiwyd am y Gwasanaeth GwE ac os fydd y Cabinet yn debygol o dderbyn adborth o berfformiad GwE. Mynegwyd bod cyfeiriad at GwE yn yr adroddiad ond bod GwE yn rhan o eitem flynyddol yr Adran Addysg yn y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ac adroddir ar eu perfformiad yn y Pwyllgor hwnnw. 

·                  Ychwanegwyd bod bwriad dros  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

Awdur: Garem Jackson

14.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 289 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y Blaen Raglen er gwybodaeth 

 

PENDERFYNIAD 

 

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.