Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), y Cynghorydd Craig ab Iago ac Aled Davies (Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant).

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

YSGOL FELINWNDA

   

Eglurodd y Cynghorydd Beca Brown na fydd yr adroddiad Ysgol Felinwnda oedd wedi ei gynnwys fel Eitem 8 ar y Rhaglen yn cael ei gyflwyno. Nodwyd bod materion pellach i’w hystyried a theimlad yn y gymuned bod diffyg trafodaeth ac ymgysylltu wedi bod rhwng y Cyngor â’r cymunedau lleol. Penderfynwyd felly gohirio’r eitem er mwyn galluogi ymgysylltu pellach cyn dod â’r eitem yn ôl i’r Cabinet yn y dyfodol. Cadarnhawyd na fydd trafodaeth ar yr eitem heddiw.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 MAWRTH pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023 fel rhai cywir.

 

6.

ACHOS BUSNES CARTREF GOFAL PENYBERTH, PENRHOS pdf eicon PDF 321 KB

Mae Atodiad B a C ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet yn unig.

 

Mae’r ddau atodiad yn eithriedig o dan Baragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth masnachol sensitif am elfennau ariannol y prosiect. Mae hyn yn berthnasol i nifer o gartrefi preswyl a nyrsio y sector annibynnol yn benodol Atodiad B a C.

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Busnes Strategol yn Atodiad A.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru i geisio am £14.6miliwn o arian Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) i greu datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle Penyberth, Penrhos, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.      

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Achos Busnes Strategol yn Atodiad A.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru i geisio am £14.6miliwn o arian Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) i greu datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle Penyberth, Penrhos, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ategu bod atodiadau B a C yn atodiadau eithriedig i sylw’r Aelodau Cabinet yn unig. Darparwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan nodi bod Cyngor Gwynedd eisoes yn ddarparwr gofal preswyl ar gyfer trigolion y Sir ac ar hyn o bryd yn darparu 50% o’r ddarpariaeth breswyl i bobl hŷn gyda’r sector annibynnol yn darparu’r gweddill. Ategwyd bod hyn yn rhan bwysig o gyfrifoldeb y Cyngor tuag at drigolion fwyaf bregus y Sir.

 

Ychwanegwyd bod holl ddarpariaeth cartrefi nyrsio'r Sir yn cael ei ddarparu gan y sector annibynnol ar hyn o bryd. Nodwyd bod barn y Llywodraeth o ran yr angen i allanoli darpariaethau yn Genedlaethol wedi newid yn ddiweddar fel sydd wedi ei nodi yn y Papur Gwyn ar Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth. Yma nodir y buddion o gael marchnad fwy cytbwys.

 

Eglurwyd bod prinder o welyau preswyl yn Ardal Llŷn ac Eifionydd ers i Gartref Penrhos gau ddechrau Rhagfyr 2020 ac ategwyd nad oes darpariaeth o welyau nyrsio yn ardal Llŷn. Nodwyd y bydd y Bartneriaeth hon yn anelu i gynnig cartref gofal gyda nyrsio, i’w adeiladu ar safle Penyberth, Penrhos er mwyn darparu 32 o welyau preswyl a dementia, ynghyd â 25 o welyau nyrsio gyda 15 o’r rheini yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gofal nyrsio dementia.

 

Soniwyd am yr heriau enfawr o ran recriwtio a chadw staff yn y maes. Nodwyd y bydd y prosiect yma yn edrych ar arferion gwahanol er mwyn sicrhau staff o ansawdd uchel yn ardal Llŷn.

 

Nododd yr Uwch Ymarferydd Prosiectau bod yr adroddiad yn grynodeb gweithredol o’r achos busnes sy’n cynnwys yr angen am y newid a bod y Cynllun yn cyd-fynd â sawl Strategaeth gan y Llywodraeth. Nodwyd bod y weledigaeth wedi ei chynnwys yn yr adroddiad ar gyfer y safle yn ogystal â beth yw amcanion buddsoddi’r Cyngor.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol bod y cynllun Penrhos yn ei gyfanrwydd yn un cyffrous ac arbennig. Nodwyd bod y ddarpariaeth nyrsio yn cyfarch yr angen lleol, yn enwedig y ddarpariaeth dementia gan fod diffyg darpariaeth o’r fath yn yr ardal yn ogystal â phrinder drwy’r Sir. Ategwyd ei fod yn gynllun blaengar gan y tybiwyd nad oes Cyngor Sir arall drwy Gymru yn rhedeg cartref nyrsio a bod hyn yn cael ei wneud law yn llaw efo’r Bwrdd Iechyd.

 

Cymerwyd y cyfle i ddiolch am y cydweithio efo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sydd

wedi llwyr ymrwymo fel partner allweddol yn ogystal â Chymdeithas Dai Clwyd Alyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Aled Davies, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

7.

BIDIAU UN-TRO 2023-24 pdf eicon PDF 269 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £2,119,300 ar gyfer 2023/24 sydd i’w cyllido o’r gronfa Trawsffurfio.

 

Cymeradwywyd y bid cyfalaf gwerth £447,000 sydd i’w hariannu o gyllid cyfalaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Geraint Owen.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £2,119,300 ar gyfer 2023/24 sydd i’w cyllido o’r gronfa Trawsffurfio.

 

Cymeradwywyd y bid cyfalaf gwerth £447,000 sydd i’w hariannu o gyllid cyfalaf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro bod y bidiau un-tro ar gael i wireddu gwaith unwaith ac am byth neu am gyfnod penodol ac yn ychwanegol i’r bidiau refeniw a chyfalaf parhaol. Nodwyd bod cynnig i gyllido'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad o’r gronfa trawsffurfio ar wahân i’r cais am yr Amlosgfa. Nodwyd y byddai’r gwaith o uwchraddio ac adnewyddu’r amlosgydd yn Amlosgfa Bangor yn cael ei ariannu o gyllideb cyfalaf.

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at yr atodiadau sy’n rhestru a manylu’r bidiau ac ategwyd y penderfyniad a geisir.

 

Ni dderbyniwyd sylwadau pellach.

 

Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

8.

YSGOL FELINWNDA pdf eicon PDF 437 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Awdur: Garem P. Jackson, Pennaeth Addysg a Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Cynorthwyol: Cynradd

9.

STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023 pdf eicon PDF 299 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoddwyd sêl bendith i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Iaith ddrafft.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, mewn ymgynghoriad a’r aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, i baratoi a chynnal y broses ymgynghori.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Rhoddwyd sêl bendith i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Iaith ddrafft.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, mewn ymgynghoriad â’r aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, i baratoi a chynnal y broses ymgynghori.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y Strategaeth ddrafft yma yn ddilyniant i’r un bresennol sydd yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo’r Iaith ar draws y Sir ac yn bodloni gofynion statudol Safonau’r Gymraeg. Nodwyd mai’r weledigaeth yw creu Strategaeth gynhwysol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf fydd yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yng Ngwynedd.

 

Adroddwyd bod y Cyngor yn gweithredu cynlluniau mewn nifer o feysydd sydd yn cael effaith ar y gymuned â’r Gymraeg neu sydd yn ceisio cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg. Rhestrwyd y cynlluniau hyn sydd yn cynnwys Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd, Cynllun Datblygu Lleol, Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy a Chynlluniau Adfywio Ardal Ni. Ychwanegwyd bod prif bwyslais y ddogfen ymgynghori ar adnabod y cyfleoedd newydd sydd ar gael.

 

Cyfeiriwyd at gynnwys y Strategaeth sydd yn cyfeirio at y meysydd gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad megis cynyddu nifer siaradwyr a chynyddu defnydd o'r Iaith mewn gwahanol sefydliadau.

 

Ychwanegwyd y bydd y Strategaeth yn cael ei hadolygu yn rheolaidd a manylwyd ar y camau nesaf o fynd i gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau mis Ebrill, yn ddibynnol ar sêl bendith y Cabinet. Ategwyd bod derbyn barn trigolion Gwynedd ar y cyfleoedd newydd sydd ar gael i hyrwyddo’r Gymraeg yn holl bwysig. Nodwyd y bydd dadansoddiad o ganlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Iaith ym mis Mehefin er mwyn derbyn eu sylwadau a’u mewnbwn ar y strategaeth derfynol fydd yn dychwelyd i’r Cabinet yn yr Hydref.

           

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Diolchwyd i’r tîm Iaith am eu gwaith a dymunwyd pob lwc efo’r ymgynghoriad.

¾   Ategwyd bod y Gymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor.

¾   Mynegwyd balchder bod Gwynedd unwaith eto yn arwain ar y Gymraeg a bod y syniadau a gyflwynwyd yma yn rhai blaengar.

¾   Credwyd bod y Strategaeth ddrafft yn gosod gweledigaeth glir i gynyddu nifer siaradwyr a defnydd yr Iaith a bod hyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono.

¾   Diolchwyd i’r Swyddogion oedd yn bresennol am eu gwaith a’u harbenigedd yn y maes.

 

Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, Llywela Haf Owain, Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a Gwenllian Williams, Ymgynghorydd Iaith

10.

ECONOMI CYLCHOL GWYNEDD pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·        Cytunwyd i Gyngor Gwynedd arwain ar gais grant a rhaglen i ddatblygu cynlluniau blaengar yn y maes gwaith economi cylchol.

 

·        Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned a’r Pennaeth Cyllid i dderbyn cynnig grant Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru a sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd.

 

·        Cytunwyd i gytundebau partneriaethol cael ei rhoi mewn lle i bob partner sy’n amlinellu gweithdrefnau i'r prosiectau unigol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

  • Cytunwyd i Gyngor Gwynedd arwain ar gais grant a rhaglen i ddatblygu cynlluniau blaengar yn y maes gwaith economi cylchol.

 

  • Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned a’r Pennaeth Cyllid i dderbyn cynnig grant Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru a sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd.

 

  • Cytunwyd i gytundebau partneriaethol gael eu rhoi mewn lle i bob partner sy’n amlinellu gweithdrefnau i'r prosiectau unigol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ategu bod angen cymeradwyaeth y Cabinet i dderbyn grant gan Lywodraeth Cymru o’u cronfa Economi Cylchol sy’n ymrwymiad o bron i £6 miliwn. Nodwyd bod hyn o ganlyniad i dros dair mlynedd o waith gan yr Adran Economi a Chymuned i ddatblygu’r Economi Cylchol yng Ngwynedd a pharatoi cais i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru i ariannu pecyn o gynlluniau. Diolchwyd i Swyddogion yr Adran am eu gwaith.

 

Manylwyd ar rai o’r cynlluniau sy’n cynnwys datblygu Llyfrgell y Pethau mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor a Datblygu Sied Werdd i Antur Waunfawr i gynyddu ailgylchu ac ail-greu. Nodwyd bod Antur Waunfawr bellach yn casglu 11 tunnell o ddillad yr wythnos ar draws y Sir sy’n golygu llai o wastraff a mwy o gymorth i drigolion efo costau byw. Bydd cyfleoedd cyflogi hefyd yn deillio o hyn yn ogystal ag ehangu’r gwaith ail ddefnyddio ac ail bwrpasu deunyddiau megis dodrefn.

 

Nodwyd bod y Cynllun hwn yn un arloesol ac yn cyfrannu tuag at flaenoriaethau Cynllun y Cyngor megis cefnogi’r Rhaglen Cefnogi Pobl, y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ogystal â chydweithio efo’r Adran Economi a Chymuned a’r Adran Amgylchedd.

 

Mynegodd y Rheolwr Rhanbarthol ARFOR bod cydweithio agos iawn efo Llywodraeth Cymru wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Ategwyd bod y Cynllun yn adeiladu ar waith a chynlluniau llai cafodd eu creu yn y gorffennol ac yn gyfle i’w datblygu ar raddfa fwy. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn edrych i greu 80 o hybiau ail ddefnyddio ac ail greu yng Nghymru a gall y Cyngor bellach gyfrannu at 27 o’r rheini yng Ngwynedd. Nodwyd ei fod yn gyfle i roi Gwynedd ar y blaen yn y maes yma a chyfle i weithio efo partneriaid y drydydd sector gan eu galluogi i ddatblygu ymhellach.

 

Nodwyd bod nifer o brosiectau o’r newydd ac ar draws ardaloedd a chymunedau’r Sir. Credwyd ei fod yn gyfle i wneud gwahaniaeth yn y maes a gweithio’n agos efo Llywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau hyn dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Croesawyd buddsoddiad o’r maint yma a mynegwyd cefnogaeth lwyr i’r Cynllun.

¾   Ategwyd pwysigrwydd egwyddorion yr Economi Gylchol megis hybu trwsio, benthyg ac ail ddefnyddio fel rhan normal o fywyd.

¾   Dymunwyd gweld ail fframio pellach ar ddeunydd ail lawr neu bethau sydd wedi cael eu hailgylchu a’u bod nhw ddim yn cael ei gweld fel pethau eilradd, yn enwedig yn sgil yr argyfwng costau byw.

¾   Credwyd bod llawer o bethau cyffrous i’w gweld yn yr adroddiad a chydnabuwyd pwysigrwydd newid ymddygiad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned ac Anwen Davies, Rheolwr Rhanbarthol ARFOR

11.

YMATEB CYNGOR GWYNEDD I YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU I SEFYDLU CYNLLUN TRWYDDEDU STATUDOL YNG NGHYMRU AR GYFER LLETY GWYLIAU pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cefnogwyd ymateb Cyngor Gwynedd i ymgynghoriad Croeso Cymru ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol yng Nghymru ar gyfer llety gwyliau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogwyd ymateb Cyngor Gwynedd i ymgynghoriad Croeso Cymru ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol yng Nghymru ar gyfer llety gwyliau

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru nol ym mis Rhagfyr 2022. Nodwyd bod yr ymgynghoriad yn ceisio adborth ar yr opsiynau posibl ar gyfer cyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob math o lety ymwelwyr a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol cael trwydded, gyda'r nod o godi safonau yn y diwydiant Twristiaeth.

 

Nodwyd bod yr uchod yn fater gafodd sylw yn yr adolygiad Tai a Thai Haf ac un o’r argymhellion bryd hynny oedd bod angen gwell rheolaeth yn sgil rheoleiddio gosodiadau llety yng Ngwynedd ac drwy Gymru.

 

Mynegwyd bod cynnig yma i reoleiddio'r holl sector llety yng Nghymru a nodwyd bod copi o’r holiadur ynghlwm â’r adroddiad oedd yn gofyn am farn e.e. a ddylai’r Cynllun fod yn un Cenedlaethol. Eglurwyd bod yr adborth eisoes wedi ei gyflwyno i Croeso Cymru er mwyn cyd-fynd a’r dyddiad cau.

 

Ategwyd bod y Cyngor yn cefnogi’r egwyddor o sefydlu trefn trwyddedu statudol ond y bydd y Cynllun yn un sylweddol i’w weithredu a bydd angen adnoddau a buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru i’w weinyddu. Pwysleisiwyd hefyd y dylai’r Cynllun fod yn un Cenedlaethol ac wedi ei symleiddio er mwyn cael system hyblyg. Ychwanegwyd bod canran o’r Sector Breifat wedi datgan pryder ynglŷn â’r Cynllun yn sgil Cofid, yr  ystyriaethau argyfwng costau byw a’r pwysau ariannol sy’n bodoli ar fusnesau sy’n ategu’r angen i gael system mor syml ag sy’n bosib.

 

I gloi nodwyd bod y Cyngor yn cefnogi’r ymyrraeth yma sydd yn rhan o becyn ehangach gan Lywodraeth Cymru i daclo’r maes rheolaeth Tai, gweddnewid y gyfundrefn cynllunio yn y maes a chyflwyno treth twristiaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Mynegwyd cefnogaeth i’r ymateb gan nodi bod yr ymateb yn cyfleu teimlad y Cyngor.

¾   Credwyd bydd y drefn yma yn help i gadw golwg ar y sefydliadau sydd yn cynnig llety gwyliau.

¾   Nodwyd ei fod yn aneglur i ba raddfa gall y Cyngor reoli niferoedd sefydliadau drwy drefn trwyddedu ond yn hytrach gall y Cyngor reoli ansawdd a diogelwch y sefydliadau hyn sydd yn holl bwysig.

¾   Ategwyd nad diben y gyfundrefn yma yw gosod terfyn ar niferoedd ond yn hytrach codi safon Iechyd a Diogelwch y sefydliadau ar lefel Genedlaethol a chreu cysondeb er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr.

¾   Cytunwyd bod sicrhau safon yn greiddiol ond pryderwyd am gapasiti a’r angen am gymorth ariannol er mwyn gwireddu hyn.

¾   Mynegwyd bod Trefi yn dibynnu ar y sector Twristiaeth a darparwyr llety ymwelwyr a’u bod yn rhan bwysig o’r economi. Credwyd bod yr ymateb yma yn cyd-fynd â strategaeth Economi Ymweld Cynaliadwy’r Cyngor gan fod sicrhau safonau yn bwysig.

¾   Cyfeiriwyd at gynllun tebyg iawn sy’n bodoli yng Ngogledd Iwerddon ar hyn y bryd a chredwyd bod dirwy drom os yw rhywun yn gosod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned, Sian Pennant Jones, Rheolwr Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau a Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd