skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Craig ab Iago ac Elin Walker Jones a gan Dewi Aeron Morgan (Pennaeth Cyllid),

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 MAWRTH pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023 fel rhai cywir.

 

6.

RHAGLENNI DECHRAU'N DEG A GOFAL PLANT A'R BLYNYDDOEDD CYNNAR pdf eicon PDF 135 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbynwyd cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y sir.

 

Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Plant a Theuluoedd mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid i baratoi a chyflwyno achosion busnes i’r Llywodraeth ar gyfer grantiau unigol Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar a derbyn cynigion ar ran y Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan yn absenoldeb Cyng. Elin Walker Jones.   

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y Sir.

 

Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Plant a Theuluoedd mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid i baratoi a chyflwyno achosion busnes i’r Llywodraeth ar gyfer grantiau unigol Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar a derbyn cynigion ar ran y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau fod Dechrau’n Deg yn ran o Raglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru. Manylwyd bod y rhaglen yn darparu gofal plant o ansawdd uchel i deuluoedd â plant o dan 4 oed. Adroddwyd bod Dechrau’n Deg yn ehangu ar y ddarpariaeth hyn i bob plentyn 2 oed yn Nghymru, am ddim,  drwy gydweithio mewn cytundeb â Phlaid Cymru a Phlaid Llafur Cymru.

 

Eglurwyd byddai’r Rhaglen yn cael ei ehangu yn raddol gydag uchelgais o gynnig darpariaeth gofal plant am ddim i bob plentyn 2 oed yn y dyfodol. Nodwyd bod yr ehangiad hwn yn cyflwyno darpariaeth i oddeutu 150 o blant yn ychwanegol i’r ddarpariaeth bresennol.

 

Cadarnhawyd bod 10 ardal o fewn y sir wedi cael eu hadnabod fel ardaloedd ble dylai’r ddarpariaeth gael ei flaenoriaethu fel rhan o’r ehangiad er mwyn targedau’r cymunedau sydd â’r gyfran tlodi plant uchaf yn y sir. Manylwyd bod yr ardaloedd hyn wedi cael eu hadnabod fel:

·       Hendre (Bangor)

·       Penygroes

·       De Pwllheli

·       Abermaw 2

·       Hirael a Garth 2 (Bangor)

·       Porthmadog – Tremadog

·       Bala

·       Teigl (Blaenau Ffestiniog)

·       Seiont 1 (Caernarfon)

·       Dewi (Bangor)

 

Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau rhaglen gyfalaf fel rhan o’r cytundeb cydweithio, ar gyfer cynorthwyo i fuddsoddi mewn lleoliadau gofal plant a sicrhau bod y ddarpariaeth gofal plant o ansawdd uchel iawn. Nodwyd y bwriad i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar geisiadau cyfalaf unigol i dderbyn £4miliwn ychwanegol i’r maes yng Ngwynedd yn y dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾   Trafodwyd bod yr ehangiad hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ac byddai’n gymorth allweddol i blant sydd wedi cael eu effeithio’n anghymesur gan Pandemig Covid-19.

¾   Ystyriwyd bod buddion pellgyrhaeddol i’r ehangiad hwn oherwydd byddai mwy o rieni yn gallu dychwelyd i’r gwaith gan nad oedd rhaid ystyried costau gofal plant.

¾   Rhannwyd balchder bod cydweithio parhaus rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn galluogi awdurdodau lleol i leddfu gofidion tlodi ein ardaloedd drwy’r cynigion gofal plant am ddim, yn ogystal â’r gwasanaeth cinio am ddim mewn ysgolion.

¾   Mynegwyd cefnogaeth i’r ehangiad hwn a thrafodwyd byddai’n ddelfrydol i’r ehangiad yma barhau’n hirdymor. Ystyriwyd bod y Cyngor wedi wynebu trafferthion recriwtio yn y ddiweddar a thrafodwyd sut byddai Dechrau’n Deg yn ymdopi â’r angen i recriwtio mwy o staff er mwyn sicrhau bod yr ehangiad hwn yn weithredol yn hirdymor.

¾   Mewn ymateb i’r sylw uchod, cydnabuwyd bod y sefyllfa staffio yn heriol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd ymgyrch ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod modd recriwtio yn y maes gofal plant. Ymhelaethwyd bod buddsoddiad yn cael ei wneud gan y Llywodraeth i uwchraddio sgiliau a datblygu cymwysterau staff.

¾   Trafodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Marian Parry Hughes,Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a Catrin Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd

7.

GWYNEDD OED GYFEILLGAR pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd a chefnogwyd y bwriad o ymgeisio am achrediad Cymru Oed Gyfeillgar i Wynedd a sicrhau perchnogaeth eang ar draws y Cyngor a’i bartneriaid i’r bwriad o gryfhau’r nodweddion oed gyfeillgar er derbyn yr achrediad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.      

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd a chefnogwyd y bwriad o ymgeisio am achrediad Cymru Oed Gyfeillgar i Wynedd a sicrhau perchnogaeth eang ar draws y Cyngor a’i bartneriaid i’r bwriad o gryfhau’r nodweddion oed gyfeillgar er derbyn yr achrediad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau ei fod yn wythnos rhyngwladol Pontio’r Cenedlaethau. Manylwyd bod 15 gwlad ar draws y byd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yr wythnos hon ac ymfalchïwyd bod Cymru yn un o 4 gwlad sydd yn trefnu’r digwyddiadau.

 

Adroddwyd bod cydweithio agos yn digwydd gyda Phrifysgol Bangor yn y gobaith o sefydlu Canolfan Pontio Cenedlaethau yng Ngwynedd.

 

Eglurwyd bod angen caniatâd y Cabinet i ymgeisio am achrediad oes gyfeillgar ac os byddai’r cais yn llwyddiannus, fe fyddai’n galluogi’r Cyngor i berchnogi’r gwaith ac arwain arno. Ymhelaethwyd bod Gwynedd yn gwneud llawer o waith oed cyfeillgar yn barod a byddai’r achrediad yn dathlu hynny. Fodd bynnag, credir na fyddai’r gwaith byth wedi ei gwblhau gan y byddai wastad meysydd i wella.

 

Cadarnhawyd bod swyddogion wedi adnabod meysydd gwaith i ddatblygu os byddai’r cais yn llwyddiannus.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾   Diolchwyd i’r swyddogion am eu hymrwymiad i sicrhau dyfodol gwell i genedlaethau hŷn y Sir.

¾   Pwysleisiwyd nad yw gwaith Gwynedd Oed Gyfeillgar yn ddyletswydd ar yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn unig a gobeithir cael ymrwymiad gan y Cyngor gyfan i’w fabwysiadu fel ffordd ymlaen.

¾   Cytunwyd bod derbyn achrediad yn bwysig iawn i’r Cyngor. Nodwyd yr angen  i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn dilyn cais am achrediad, er mwyn sicrhau bod cyfleusterau megis tai addas a chludiant cyhoeddus ar gael i bawb.

¾   Eglurwyd bod yr achrediad yn cael ei ddarparu gan Sefydliad Iechyd y Byd a phe byddai cais y Cyngor yn cael ei dderbyn, byddai  gan y Cyngor fynediad i rwydwaith byd-eang a fyddai’n cynnig cefnogaeth gan swyddogion penodol.

¾   Manylwyd y byddai Sefydliad Iechyd y Byd yn ystyried cais Cyngor Gwynedd am achrediad Oed Gyfeillgar drwy adroddiad sy’n manylu ar waelodlin o beth sy’n cael ei gwblhau yng Ngwynedd yn barod. Yn ogystal, byddai’r adroddiad yn manylu ar y newidiadau mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi eu cwblhau er mwyn bod yn oed gyfeillgar.

¾   Esboniwyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Llywodraeth Cymru a’r cam cyntaf o ymgeisio am achrediad yw i yrru’r adroddiadau at swyddfa’r Comisiynydd er mwyn derbyn cefnogaeth ac argymhellion i sicrhau y byddai’r adroddiad yn cael ei dderbyn gan Sefydliad Iechyd y Byd. Soniwyd bod trafodaethau cychwynnol gyda’r Swyddfa Comisiynydd yn awgrymu byddai cais y Cyngor am achrediad yn llwyddiannus.

¾   Atgoffwyd bod y prosiect hwn yn rhan o brosiect blaenoriaethu a Chefnogaeth Ataliol yn Lleol yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

Awdur: Aled Davies, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant

8.

ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH OEDOLION GWYNEDD pdf eicon PDF 292 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

      i.         Penderfynwyd byddai’r Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r argymhellion yn yr adroddiad i’w hymgorffori yng Nghynllun y Cyngor.

     ii.         Cymeradwywyd yr argymhelliad o gyflwyno’r asesiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.      

 

PENDERFYNIAD

 

               i.         Penderfynwyd y byddai’r Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r argymhellion yn yr adroddiad i’w hymgorffori yng Nghynllun y Cyngor.

              ii.         Cymeradwywyd yr argymhelliad o gyflwyno’r asesiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd bod yr asesiad hwn o anghenion poblogaeth oedolion Gwynedd yn rhoi darlun lleol o ofynion Gwynedd yn hytrach na’r Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a gymeradwywyd gan Gyngor Gwynedd ar 3 Mawrth 2022.

 

Eglurwyd nad oedd Asesiad Anghenion Poblogaeth Oedolion Gwynedd yn ofyniad statudol ond yn asesiad defnyddiol a phwysig er mwyn galluogi’r Cyngor i gynllunio, blaenoriaethu a datblygu gwasanaethau newydd.

 

Nodwyd bod y ddogfen yn nodi canran tebygol o bobl fyddai’n  dioddef o Dementia rhwng 2020-2040 yn cael ei nodi oddi fewn Graff 12 fel 34%. Roedd y ffigwr hwn, mewn gwirionedd, yn 53% ac ymddiheurwyd am y gwall hwn o fewn y ddogfen, gan gadarnhau y byddai’n cael ei gywiro mor fuan â phosibl.

 

Cadarnhawyd bod yr asesiad yn rhoi sylw i’r themâu a grwpiau isod ac yn rhoi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg:

 

·       Pobl Hŷn

·       Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau

·       Anabledd Dysgu

·       Awtistiaeth

·       Iechyd Meddwl

·       Gofalwyr

·       Trais yn erbyn merched, trais yn y cartref a thrais rhywiol

 

Manylwyd bod yr asesiad yn manylu ar themâu penodol a ystyriwyd yn flaenoriaethau yng nghynllun y Cyngor. Roedd y  rhain wedi cael eu hadnabod fel a ganlyn:

 

·       Gwella llesiant unigolion.

·       Gwella ar y gefnogaeth i ofalwyr di-dâl.

·       Sicrhau gofal cwsmer o safon.

·       Diffyg mewn rhai mathau o  leoliadau.

·       Recriwtio staff yn broblem enfawr ar draws y sector gofal.

·       Cysoni data a gedwir ar systemau.

·       Buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Diolchwyd i swyddogion yr adran am eu gwaith caled a chynhwysfawr wrth baratoi’r asesiad.

¾   Ystyriwyd a fyddai’n  debygol  y byddai bwlch yn ymddangos rhwng gallu’r Cyngor i ddarparu gofal i oedolion, a’r niferoedd o unigolion byddai angen ein gofal, o ystyried  bod ffigyrau rhai cyflyrau megis Dementia yn cynyddu a ffigyrau’r boblogaeth yn gyffredinol yn gostwng.

¾   Mewn ymateb i’r sylw uchod, cadarnhawyd bod swyddogion yn cydweithio’n agos gyda tîm ymchwil er mwyn sicrhau bod ystadegau manwl a chywir yn cael eu datblygu’n barhaus. Manylwyd byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i gynllunio yn effeithlon i’r dyfodol. Pwysleisiwyd hefyd bod sefyllfaoedd argyfyngus yn ymddangos yn bresennol drwy ymgeisio am leoliadau gofal, costau cyflogau a chynnydd mewn costau nwyddau.

¾   Gofynnwyd sut oedd gwaith anghenion poblogaeth Gogledd Cymru, prosiect ar y cyd gyda Sir Fôn yn sgil Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a phrosiectau unigol Cyngor Gwynedd yn cael ei blethu gyda’i gilydd a bod dim gwaith yn cael ei ddyblygu.

¾   Mewn ymateb i’r cwestiwn uchod, atgoffwyd nad oedd yr asesiad yma ar gyfer Wynedd yn ofyniad statudol, yn annhebyg i Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru. Ymhelaethwyd y credwyd bod asesiad Gwynedd yn hollbwysig er mwyn derbyn gwybodaeth am heriau penodol i’r Sir a pha wahaniaethau sy’n ymddangos o fewn ardaloedd gwahanol ohono er mwyn creu cynlluniau effeithlon i’r dyfodol.

¾  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Aled Davies, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant

9.

DATBLYGU UNEDAU BUSNES YM MHARC BUSNES ERYRI pdf eicon PDF 133 KB

I ddilyn: Sylwadau’r Aelod/au Lleol

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Awdurdodwyd datblygu 10 uned gwaith dan reolaeth y Cyngor ym Mharc Busnes Eryri, Minffordd i gyfarch anghenion busnesau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Awdurdodwyd datblygu 10 uned gwaith dan reolaeth y Cyngor ym Mharc Busnes Eryri, Minffordd, i gyfarch anghenion busnesau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod y Cyngor yn awyddus i gydweithio gyda phartneriaid masnachol er mwyn codi unedau busnes ble roedd angen. Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi cydweithio’n llwyddiannus gyda Llywodraeth Cymru ar y datblygiad yma.

 

Adroddwyd bod 37 cais am unedau busnes wedi cyrraedd y Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf a chadarnhawyd bod 28 (76%) ar gyfer unedau yn yr ardal dan sylw.

 

Nodwyd byddai’r cynllun hwn yn bosibl drwy glustnodi £2M o Gynllun Rheoli Asedau’r Cyngor yn ogystal ag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu £925,000 er mwyn sbarduno’r economi leol.

 

Eglurwyd bod swyddogion yn ymwybodol o ddiffyg argaeledd unedau busnes ar draws y Sir a gobeithiwyd y byddai’r cynllun yma yn gam tuag at waredu’r broblem yma. Pwysleisiwyd mai cychwyn ar ddatrys y broblem mae’r cynllun hwn yn hytrach na datrysiad llawn.

 

Cadarnhawyd bod swyddogion yn gweithio gyda tîmau Polisï Cynllunio Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn cael dealltwriaeth o anghenion ac argaeledd tir ac unedau. Bwriediwyd adeiladu rhaglen hirdymor yn seiliedig ar y gwaith cydweithio yma.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Cefnogwyd y cynllun gan gadarnhau bod yr angen am fwy o unedau busnes yn bodoli a'i fod yn annog pobl i aros yn eu cymunedau.

¾   Trafodwyd os oedd polisïau mewn lle er mwyn sicrhau bod yr unedau a ddatblygir yn aros o fewn reolaeth y Cyngor yn y dyfodol, yn hytrach na’u cadw dim ond pan maent yn cynhyrchu incwm. Ystyriwyd os oedd polisïau mewn lle i sicrhau hyn.

¾   Mewn ymateb i’r ymholiad uchod, cadarnhawyd bod ystyriaeth yn cael ei roi i nifer o wahanol ffyrdd bydd modd i’r Cyngor fuddsoddi mewn unedau busnes yn y dyfodol a sut gellir sicrhau perchnogaeth barhaol ohonynt. Er hyn, pwysleisiwyd bod angen cydweithio gydag awdurdodau cynllunio Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn cael dealltwriaeth o ba ardaloedd fyddai’n elwa o unedau busnes a sut y byddai’r ffordd orau o fuddsoddi.

¾   Atgoffwyd bod stoc adeiladau’r Cyngor wedi cael eu gwerthu tua 10 mlynedd yn ôl oherwydd eu bod yn heneiddio a ddim yn cael digon o ddefnydd. Ymhelaethwyd mai bwriad y Cyngor ar y pryd oedd ail-fuddsoddi’r arian hynny mewn unedau newydd, addas i bwrpas ac mewn lleoliadau ble maent ei angen. Cadarnhawyd bod y cynllun hwn yn parhau gyda’r gwaith cychwynnol hwnnw a benderfynwyd gan y Cyngor wrth waredu’r unedau blaenorol.

¾   Ystyriwyd blaenoriaethu ardaloedd ble mae’r Cyngor yn berchen ar dir neu adeiladau gwag er mwyn datblygu unedau busnes yno. Mewn ymateb i’r sylw, cydnabuwyd bod rhai asedau wedi cael eu dal yn ôl er mwyn asesu eu haddasrwydd fel safleoedd tai o fewn cynllun gweithredu tai'r Cyngor. Pwysleisiwyd bod y safleoedd hyn yn cael eu hystyried fel lleoliadau busnes os nad ydynt yn addas fel lleoliadau tai i bobl Gwynedd.

¾   Rhannwyd balchder byddai’r unedau busnes o fewn y cynllun hwn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned