Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - i gael mynediad dilynwch y linc : https://gwynedd.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/581818

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr. 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorwyr – Dyfrig Siencyn, Craig ab Iago, Nia Jeffreys, Gareth Thomas, Ioan Thomas a Catrin Wager ar gyfer eitem 10 – Pris Cinio Ysgolion Cynradd, Arbennig a Dilynol Medi 2021 gan fod ganddynt blant neu wyrion mewn ysgolion cynradd o fewn y Sir.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 MAI 2021 pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2021 fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2020-21, CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-24 pdf eicon PDF 126 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd a nodwyd cynnwys Adroddiad Blynyddol 2020-21, Cynllun Cydraddoldeb 2020-24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd a nodwyd cynnwys Adroddiad Blynyddol 2020-21, Cynllun Cydraddoldeb 2020-24.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-21 ar gyfer Cynllun Cydraddoldeb 2020-24. Eglurwyd fod yr adroddiad ar gyfer blwyddyn anarferol ac anodd o ganlyniad i’r pandemig ble roedd yr angen newid y ffordd o weithio a ble amlygwyd anghydraddoldeb yng Ngwynedd. Pwysleisiwyd fod yr pandemig wedi bod yn waeth i rai unigolion a bod effaith wedi bod yn fwy amlwg i bobl o leiafrifoedd ethnig. Tynnwyd sylw ar y protestiadau sydd wedi cael eu cynnal gan gynnwys rhai gan y mudiad Black Lives Matter yn ystod llynedd.

 

Nodwyd fod y gwasanaeth wedi cyflawni beth oedd wedi ei obeithio o fewn y flwyddyn er bod amserlen wedi ei addasu a dull gweithio wedi newid. Amlygwyd fod addasiadau i’r pum amcan ac amlygwyd y pum amcan. Eglurwyd y bydd angen ail edrych ar amcanion a’i haddasu yn ôl yr angen yn dilyn y pandemig. Pwysleisiwyd fod cydraddoldeb yn ddyletswydd i bawb o fewn y Cyngor a bod angen gwreiddio’r egwyddorion yng ngwaith bob dydd y Cyngor. Mynegwyd balchder yn y cynllun a nodwyd hyder i wneud mwy ‘na dim ond ticio'r bocs. Amlygwyd boddhad o yrru'r gwaith hwn yn ei flaen. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Tynnwyd sylw ar amcan 3 : Adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod i wreiddio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb fel arf i sicrhau gwell penderfyniadau gan nodi'r angen i edrych ar yr asesiadau sydd yn cael eu gwneud gan hyfforddi staff a Chynghorwyr i herio’r asesiadau yn ogystal.

¾    Nodwyd balchder yn yr adroddiad ynghyd a gwaith y Cyngor.

¾    Amlygwyd fod rhai newidiadau bellach yn cael eu gweld yn benodol yn ein meysydd gwrywaidd fod mwy o ferched yn camu i mewn i rolau a fydd yn annog mwy o ferched i’r dyfodol.

¾    Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn hawdd i’w ddarllen a bod cydraddoldeb wedi gwreiddio yn sydyn i mewn i benderfyniadau’r Cyngor.

¾    Diolchwyd i’r Aelod Cabinet am ei arweiniad yn y flwyddyn ac amlygwyd fod y pandemig wedi amlygu cydraddoldeb a bod angen parhau i feddwl am gydraddoldeb wrth symud ymlaen.ity moving forward. 

Awdur: Delyth Williams

7.

POLISI CYDRADDOLDEB A CHYNHWYSIANT pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Polisi Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Polisi Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y polisi yn gosod egwyddorion i sicrhau cydraddoldeb ar draws y Cyngor. Eglurwyd fod y Polisi hwn yn cymryd lle'r Polisi Cydraddoldeb / Cyfle Cyfartal a’r Polisi Mynediad sydd bellach wedi dyddio. Pwysleisiwyd nad yw’n orfodol i gael polisi ond ei fod yn rhoi arweiniad ar sut bydd y Cyngor yn sicrhau fod cymaint o bobl a phosib yn cael mynediad llawn at wasanaethau’r Cyngor a hynny gyda pharch ac urddas. Eglurwyd y bydd y polisi yn cael gwared o unrhyw rwystrau i unigolion cyn meddwl am gael gwasanaeth.

 

Esboniwyd fod y Polisi, yn unol â Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn rhoi arweiniad ar sut i roi sylw i ddiddymu gwahaniaethau a bod y Cyngor yn gweithio i feithrin cyfleoedd cyfartal.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Mynegwyd fod y gwaith mae’r Aelod Cabinet yn ei wneud yn sicrhau fod cydraddoldeb ar frig yr agenda ac yn sail ac yn rhan o bopeth mae’r Cyngor yn wneud.

 

Awdur: Delyth Williams

8.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 pdf eicon PDF 448 KB

Cyflwynwyd gan: Cllr. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd trefniadau a’r Protocol ar gyfer parhau i gyfarfod yn rhithiol hyn eu hadolygir yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd trefniadau a’r Protocol ar gyfer parhau i gyfarfod yn rhithiol hyn eu hadolygir yn unol â’r adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn sefydlu trefniadau i ganiatáu i aelodau fynychu o bell. Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn amlygu’r trefniadau rhithiol y Cabinet o ran mynychu o bell.

 

Tynnwyd sylw fod yr adroddiad yn amlygu mynediad i’r cyhoedd, addasiadau i’r cyfansoddiad ynghyd â chydymffurfio gyda’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Amlygwyd yn y cyfnod interim y bydd y Cabinet yn parhau i gynnal cyfarfod rhithiol yn unig o fis Mai 2021 ymlaen oni nodir yn wahanol. Eglurwyd fod gwaith i ddatblygu trefniadau i gynnal cyfarfodydd hybid yn parhau ac y bydd y sefyllfa yn cael ei adolygu yn gyson.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd yr angen i fynychu o bell wedi bod yn hanfodol eleni, ac wedi lleihau amser teithio ynghyd a mireinio'r gwe ddarlledu i sicrhau fod y cyhoedd yn gallu gweld y penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud.

¾    Mynegwyd y trefniadau yma yn adlewyrchu’r realiti ar hyn o bryd a sut y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol. Pwysleisiwyd o ran cyfarfodydd hybrid y bydd angen gweld sut mae’n gweithio.

¾    Pwysleisiwyd mai penderfyniad yr aelodau fydd y drefn pwyllgorau i’r dyfodol ond fod golwg ar hyn o bryd i ddarparu opsiwn hybrid erbyn yr Hydref.

¾    Nodwyd manteision o gael cyfarfodydd wyneb i wyneb ond fod budd o fod rhwydd, effeithiol ac yn torri i lawr ar deithio a drwy hyn yn edrych ar ôl yr amgylchedd.

 

Awdur: Geraint Owen a Iwan Evans

9.

CYFUNDREFN ADDYSG DROCHI TUA AT 2032 A THU HWNT pdf eicon PDF 512 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd gweledigaeth “Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt”, ynghyd a’i weithredu, i fuddsoddi £1.1 miliwn o arian cyfalaf addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r newydd yn Nhywyn a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym Mhorthmadog yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd gweledigaeth “Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt”, ynghyd a’i weithredu, i fuddsoddi £1.1 miliwn o arian cyfalaf addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r newydd yn Nhywyn a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym Mhorthmadog yn unol â’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi pleser yn cyflwyno’r weledigaeth. Eglurwyd fod Canolfannau Iaith wedi bod mewn bodolaeth ers yr 1980au yng Ngwynedd a'u bod yn arloesol yn ôl yr adeg honno. Pwysleisiwyd fod y weledigaeth sydd yn cael ei chyflwyno heddiw'r un mor arloesol ac yn adeiladau ar waith da'r Canolfannau. Tynnwyd sylw i fygythiad cyllidol oedd i’w gweld dwy flynedd yn ôl, ond fod cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfle i ail edrych ar y ddarpariaeth.

 

Eglurwyd fod gofyn heddiw i’r Cabinet fuddsoddi £1.1miliwn i ehangu ar safleoedd ym Mangor ac yn Nhywyn. Pwysleisiwyd fod y weledigaeth yn amlygu darpariaeth gyfoes a hyblyg. Mynegwyd fod y Gyfundrefn wedi bod yn y Pwyllgor Iaith ac yn y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a bod cefnogaeth unfrydol ganddynt. Nodwyd fod cyfarfod wedi ei gynnal gyda’r Gweinidog Addysg Newydd a bod y Gweinidog wedi uniaethu gyda’r cynllun ac yn awyddus i genhadu’r gwaith da sydd yn cael ei wneud yma yng Ngwynedd. Pwysleisiwyd ei bod yn galonogol fod cefnogaeth i’r Cynllun.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod ychwanegu dau leoliad newydd ar gyfer y Canolfannau Iaith yn hynod gyffroes. Nodwyd fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llwyddiannus a bod y gwasanaeth ei wedi ei ail bwrpasu gan nad oedd modd cyfarfod wyneb yn wyneb. Eglurwyd fod yr ail bwrpasu wedi sicrhau fod mwy o blant wedi cael cefnogaeth gan nodi fod hyn wedi amlygu fod technoleg yn allweddol i’r dyfodol. Tynnwyd sylw fod y model newydd yn edrych yn debyg i’r model Ysgol Ganol gyda phlant blwyddyn 5 i flwyddyn 9 yn cael ei addysgu gyda’i gilydd. Pwysleisiwyd yn ogystal fod lles plant yn ganolog gyda’r model newydd yn sicrhau fod plant yn mynychu eu hysgol ddiwrnod yr wythnos fel eu bod yn parhau i ddatblygu perthynas gyda’r cyfoedion.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg  fod anghenion y dysgwyr yn gwbl ganolog i’r gyfundrefn ynghyd a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd addysg Gymraeg. Eglurwyd y bydd y gyfundrefn newydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r ysgolion i gyd-ddarparu. Pwysleisiwyd fod y diwrnod yn yr ysgol i ddisgyblion o fewn y gyfundrefn drochi yn gyfle i’r disgyblion ymdoddi n ôl i’r ysgol ar ôl y cyfnod drochi. Diolchwyd i bawb am fod yn rhan o’r drafodaeth gan gynnwys y dysgwyr eu hunain.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾    Diolchwyd i’r adran am eu gwaith yn arwain y gwaith ar draws Gwynedd a nodwyd os siroedd eraill yn dilyn bydd angen gofyn i’r Llywodraeth i’w ariannu gan fod angen yr ymrwymiad er mwyn cynnal y gwariant. Holwyd beth a fydd yn digwydd o ran y staff, nodwyd fod mwy o ganolfannau yn golygu’r agen am fwy o staff felly y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Debbie Anne Williams Jones

10.

PRIS CINIO YSGOLION CYNRADD, ARBENNIG A DILYNOL MEDI 2021 pdf eicon PDF 374 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i beidio cynyddu pris cinio Ysgol mewn Ysgolion Cynradd, Arbennig a Dilynol ym Medi 2021. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i beidio cynyddu pris cinio Ysgol mewn Ysgolion Cynradd, Arbennig a Dilynol ym Medi 2021. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi eu bod yn gofyn am ganiatâd i beidio codi pris cinio ysgol ym Medi 2021. Nodwyd yn flynyddol fod targed incwm ysgolion yn codi yn unol â chwyddiant. Cymharwyd y sefyllfa gyda siroedd eraill yng Nghymru a nodwyd os yn codi bydd Gwynedd yn y siroedd uchaf o ran pris cinio ysgol.

 

Nodwyd y bydd bwlch ariannol ac y bydd angen i’r cyfarch y bwlch hwn. Nododd Pennaeth Cynorthwyol – Refeniw a Risg fod y posibilrwydd o beidio cynyddu pris cinio wedi ei gyfarch wrth osod cyllideb y flwyddyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd fod y swm hwn yn un bychan ond yn rhan bwysig o gefnogi teuluoedd bregus.

¾    Eglurwyd fod nifer o deuluoedd wedi cael amser caled eleni ac efallai ddim yn gymwys i gael cinio am ddim ac felly fod angen gwneud y mwyaf i gefnogi teuluoedd ac i gadw’r pris mor isel â phosib.

 

 

Awdur: Owen Owens

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 424 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran o flaen y gad gyda'r drefn herio perfformiad newydd. Eglurwyd fod yr amserlen wedi bod yn gwbl heriol ond diolchwyd i’r swyddogion am eu mewnbwn. Mynegwyd fod yr adran wedi sicrhau fod gwaith yn mynd yn ei blaen a bod sgyrsiau cyson am y mesurau. Ychwanegwyd fod blaenoriaethu gwellaf bellach yn sail i’r gofrestr risg.

 

Tynnwyd sylw at y prosiectau sydd yng Nghynllun y Cyngor gan nodi fod y gwaith yn symud ymlaen gyda’r Strategaeth Cadw Teuluoedd gyda’i Gilydd fel y rhagwelwyd. Ychwanegwyd y bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn fuan. O ran cefnogi Llesiant Pobl eglurwyd ei bod wedi bod yn anodd dros y cyfnod pandemig ond fod gwaith wedi ailgydio bellach i ganolbwyntio ar ymateb i heriau a sgil effeithiau’r pandemig. Eglurwyd o ran sicrhau fod teuluoedd â phlant gydag awtistiaeth yn cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei arnynt bellach wedi tynnu Cynllun Awtistiaeth drafft ynghyd a nodwyd pryder gyda’r rhestr aros am asesiadau.

 

O ran pryderon yr adran mynegwyd fod capasiti y gweithlu yn flaenoriaeth gyda diffyg niferoedd o weithwyr cymdeithasol. Pwysleisiwyd yn ogystal fod pryder ynghylch y system wybodaeth WCCIS sy’n dal cofnodion achosion teuluoedd yr adran, gan egluro fod y mater yn cael ei drafod ar lefel genedlaethol. O ran mesurau nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn gwbl hapus gyda pherfformiad yr adran yn benodol fod 45% o’r plant sy’n agored i’r adran yn byw gyda rheini / teulu neu ffrindiau sy’n cyd-fynd ar un o brosiectau blaenoriaeth yr adran.

 

Nodwyd fod yr adan yn edrych ar gadw o fewn y gyllideb eleni ond pwysleisiwyd nad oedd yr adran yn ymwybodol o bwy fydd angen cefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod nifer o swyddogion yn teimlo’r pwysau o ganlyniad i capasiti’r adran. Ychwanegwyd fod niferoedd o blant yn aros adref neu gyda theulu neu ffrindiau yn golygu llai o angen am leoliadau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾    Diolchwyd am yr adroddiad gan groesawu datblygu strategaeth Awtistiaeth gan fod heriau i’w gweld yn amlwg gyda’r rhestrau aros ar yr effaith cymdeithasol ac iechyd meddwl sydd i’r bobl ifanc yma. Amlygwyd yr angen i sicrhau cydraddoldeb a chefnogaeth gyfartal i’r unigolion.

¾    Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi fod yn amlygu gwaith dydd i ddydd y Cyngor a nodwyd llongyfarchiadau i’r adran am eu gwaith.

 

Awdur: Morwena Edwards

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 354 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y pandemig wedi taflu llawer o heriau tuag at yr adran a bellach ei bod yn braf gallu eistedd ac edrych ar ble mae’r adran arni o ran eu gwaith pellach. Tynnwyd sylw at y cynlluniau yng nghynllun y Cyngor. 

 

Yn gyntaf amlygwyd fod cynllun Darpariaeth Gofal Addas a Chynaliadwy yn parhau i fynd yn ei blaen ac amlygwyd yr angen am gartrefi nyrsio yn Llyn. Eglurwyd fod cynlluniau ar y gweill ar gyfer Safle Penrhos. Yr ail gynllun oedd Ail Ddylunio eu Gwasanaethau Gofal. Pwysleisiwyd fod y gwaith yn mynd rhagddo er mwyn creu Gwasanaeth hyblyg wedi ei deilwra i unigolion ac edrych ar sut y bydd modd cynorthwyo unigolion i barhau adref gymaint â phosib. Y trydydd oedd Gweithlu a Recriwtio yn y maes Gofal ag eglurwyd fod gwaith yn parhau gyda’r cynllun hwn sydd yn her gyson i’r adran. Tynnwyd sylw at lwyddiannau sydd wedi ei gweld yn Nhywyn drwy addasu patrymau gwaith gan sicrhau oriau mwy sefydlog i unigolion sydd wedi arwain at lai o drosiant staff a Gwasanaeth gwell i unigolion. 

 

Nodwyd o ran perfformiad fod symudiad ar droed i ddefnyddio system i edrych yn fwy cyson ar y mesurau. Mynegwyd er ei bod yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nodwyd os bydd lithriad yn rhai cynlluniau arbedon  bydd yr adran yn edrych ar y cynlluniau ac yn chwilio am gynlluniau amgen. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr adran wedi bod yn gweithio ar gynllun integredig gyda’r Bwrdd Iechyd. Eglurwyd nad yw hi wedi bod yn hawdd er yr awydd i weithio gyda’i gilydd ynghyd a rhannu’r un weledigaeth. Mynegwyd fod trafodaeth wedi bod gyda Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd a eglurwyd ei bod yn gefnogol iawn i’r cynllun ac os yn dangos canlyniadau gwell i staff fwrw ymlaen gyda’r gwaith. Diolchwyd i’r staff am eu holl waith dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r cyfnod wedi amlygu ffyrdd i weithio i’r dyfodol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd i’r staff rheng flaen am ei gwaith dros y misoedd diwethaf.

¾    Mynegwyd o ran lles trigolion fod derbyn Gwasanaeth drwy’r Gymraeg yn holl bwysig, a holwyd faint o bwyslais sydd i’r Gymraeg wrth recriwtio. Eglurwyd fod recriwtio yn her barhaus ond eglurwyd fod penodi staff iaith Gymraeg yn rhai rhannau o’r sir yn fwy o her. Nodwyd yn ogystal fod nifer o staff di-gymraeg yn ymgeisio am swyddi yn codi, gan bwysleisio eu bod yn unigolion gyda’r awydd i ddysgu’r iaith ac yn gyffroes am y ffordd newydd mae’r adran yn gweithio. 

 

Awdur: Morwena Edwards