skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - i gael mynediad dilynwch y linc :https://gwynedd.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/588927

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Morwena Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 6 GORFFENNAF 2021 pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2021, fel rhai cywir.

6.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - CAIS AM ADNODDAU I ALLUOGI MYNYCHU CYFARFODYDD O BELL pdf eicon PDF 295 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys and Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i ddefnyddio £130,000 o’r ‘Gronfa Trefniadau Adfer yn sgil Covid19’ i ariannu cynlluniau i alluogi cyfarfodydd hybrid a mynediad o bell i gyfarfodydd y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Cytunwyd i ddefnyddio £130,000 o’r ‘Gronfa Trefniadau Adfer yn sgil Covid19’ i ariannu cynlluniau i alluogi cyfarfodydd hybrid a mynediad o bell i gyfarfodydd y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn gais am adnoddau i alluogi mynychu cyfarfodydd o bell. Amlygwyd fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet a Cyngor Llawn diwethaf yn amlinellu gofynion newydd yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn benodol yr angen i sicrhau mynediad o bell i aelodau a sicrhau mynediad i’r cyhoedd. Bu i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn fabwysiadu trefniadau interim gan barhau i gynnal Cyfarfodydd yn rhithiol ar hyn o bryd.

 

Eglurwyd y bydd yn ofynnol sicrhau darpariaeth hybrid i’r dyfodol gyda rhai aelodau yn Siambr gydag eraill yn mynychu o bell. Mynegwyd y bydd hyn yn debygol o fod yn rhan o’r normal newydd ac o ganlyniad y bydd angen iddo fod yn syml ac yn rhedeg yn llyfn i Aelodau a swyddogion ble bynnag y byddant y cysylltu.

 

Amlygwyd y buddion o gynnig y ddarpariaeth â oedd yn cynnwys lleihau ôl troed carbon a sicrhau gwell defnydd o amser unigolion.  Nodwyd fod angen y gefnogaeth ariannol er mwyn uwchraddio’r dechnoleg.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Dangoswyd cefnogaeth i ariannu’r cynlluniau er mwyn nid yn unig lleihau ôl troed carbon ond i ddenu mwy o amrywiaeth i ymgeisio fel Cynghorwyr yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

¾    Cefnogwyd y cais am arian gan fod cymaint wedi arfer defnyddio technoleg yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd fod y swm yn edrych yn uchel ond fod costau teithio cynghorwyr wedi lleihau o ganlyniad i ddefnydd o’r dechnoleg.

¾    Amlygwyd yr angen am gadeirio cadarn os cyfarfodydd hybrid yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau tegwch.

¾   Holwyd os y bydd y dechnoleg i’w gweld yn y siambrau yn unig, nodwyd y bydd ystafelloedd cyfarfod ym mhrif swyddfeydd y Cyngor yn Cae Penarlag, Ffordd Y Cob, Penrhyndeudraeth, Penrallt a’r Pencadlys yn cael eu huwchraddio, gan ddefnyddio’r un dechnoleg ymhob lleoliad, a fydd yn hwyluso mynediad o bell ynghyd a rhoi hyblygrwydd.

Awdur: Geraint Owen

7.

UNED 2A PARC BUSNES ERYRI, PENRHYNDEUDRAETH pdf eicon PDF 415 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i ddefnyddio £83,000 o’r 'Gronfa Trawsffurfio’ i wireddu addasiadau i adeilad Uned 2a, Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth er mwyn hwyluso cyswllt rhwng yr Adran Oedolion â’r gwasanaethau Iechyd a chreu ‘Siop Gwynedd’ i wasanaethu trigolion yr ardal.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

Cytunwyd i ddefnyddio £83,000 o’r 'Gronfa Trawsffurfio’ i wireddu addasiadau i adeilad Uned 2a, Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth er mwyn hwyluso cyswllt rhwng yr Adran Oedolion â’r gwasanaethau Iechyd a chreu ‘Siop Gwynedd’ i wasanaethu trigolion yr ardal.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn am fuddsoddiad o £83,000 o’r gronfa Drawsffurfiol Busnes i wireddu addasiadau i’r adeilad ym Mhenrhyndeudraeth. Mynegwyd yr angen i addasu’r adeilad er mwyn hwyluso’r cyswllt rhwng y Cyngor a thriolion.

 

Eglurwyd cyn y pandemig, fod y nifer o staff a oedd wedi ei lleoli yn swyddfa Galw Gwynedd wedi lleihau, a bellach mai dim ond uchafswm o 12 o staff ac Arweinydd Tîm fyddai wedi eu lleoli yn y ganolfan ar un adeg. Amlygwyd o ganlyniad i’r newid hwn mae cyfle i wneud gwell drefnydd o’r adeilad sydd mewn lleoliad defnyddiol i staff sy’n gwasanaethau Eifionydd. Nodwyd y bydd Siop Gwynedd yn cael ei sefydlu yno ynghyd a lleoliad swyddfa i staff yr Adran Oedolion sy’n cyd-weithio’n agos gyda’r gwasanaeth iechyd a fyddai o fewn pellter rhesymol o Ysbyty Alltwen.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod gwneud yr addasiadau yma yn llenwi bwlch o yn y ddarpariaeth yn yr ardal ac yn rhoi cyfle i staff gofal a’r gwasanaeth iechyd i gydweithio mewn un lleoliad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾    Nodwyd fod addasu’r adeilad yn rhoi cyfle i gynnig gwell gwasanaeth i drigolion Gwynedd ac i annog cyd-weithio gwell rhwng yr Adran Oedolion a’r maes Iechyd.

¾   Holwyd gan fod y swyddfeydd am fod yn integredig rhwng Iechyd ar adran Oedolion holwyd os bydd y Bwrdd Iechyd yn cyfrannu at y costau. Eglurwyd fod lleoliadau yn y Gwasanaeth Iechyd y maes staff integredig y Cyngor yn gweithio ohonynt felly ni fydd angen gofyn am unrhyw gyfraniad.

Awdur: Geraint Owen

8.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG 2022-2032 pdf eicon PDF 331 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 i fynd i gyfnod ymgynghori cyhoeddus yn nhymor yr Hydref 2021.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 i fynd i gyfnod ymgynghori cyhoeddus yn nhymor yr Hydref 2021.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser cyflwyno’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Eglurwyd y bydd y cynllun yn dod i rym ym Medi 2022 ac yn parhau am 10 mlynedd. Pwysleisiwyd y bydd y cynllun yn gosod cyfeiriad ac ymrwymiad clir i’r Cyngor i addysg Gymraeg.

 

Amlygwyd mai dyma’r ail gynllun gan yr Adran Addysg sydd yn ail edrych ar y ddarpariaeth o addysg Gymraeg dros yr wythnosau diwethaf ac amlygwyd fod y Cyngor yn arwain drwy Gymru ar y defnydd o Gymraeg mewn addysg ynghyd a cyfundrefn addysg drochi.

 

Nododd y Pennaeth Adran fod plethiad amlwg rhwng weledigaeth ar gyfer y gyfundrefn drochi a’r cynllun uchelgeisiol hwn. Pwysleisiwyd fod y cynllun yn un uchelgeisiol a heriol ac yn gosod targedau pendant.  Nodwyd y bydd hyblygrwydd y gyfundrefn drochi yn galluogi’r adran i gyrraedd y targedau.

 

Tywysodd y Swyddog Addysg Uwchradd drwy’r cyflwyniad gan amlinellu deilliannau’r strategaeth. Tynnwyd sylw at y cama fydd yn cael ei gwneud eu mwyn cyflawni’r strategaeth gyda’r rhan ddeiliad a oedd yn cynnwys diffinio categorïau ieithyddol ysgolion, ail-gyflwyno’r siarter iaith a sefydlu Fforwm Iaith i sicrhau trefn atebolrwydd ac gadw golwg ar y targedau. Amlygwyd yr amserlen y cyfnod ymgynghori ffurfiol.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet fod gwaith arbennig o dda yn y sir ac cydnabod y gwaith da sydd yn cael ei wneud gan ysgolion y sir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd fod trochi yn digwydd yn ysgolion Gwynedd gan fod 100% o addysg yn gynnal drwy’r Gymraeg ac amlygwyd fod y Cyngor yn arwain drwy Gymru ar hyn. Pwysleisiwyd ei bod yn angenrheidiol fod pob plentyn yn cael ei addysgu drwy’r Gymraeg.

¾    Mynegwyd fod gwaith arbennig yn cael ei wneud drwy’r ysgolion ond holwyd os oes cefnogaeth ar gael i’r rheini sydd yn awyddus i addysgu o adref. Eglurwyd fod cynnydd wedi bod yn nifer y plant sydd yn cael eu addysgu o adref, ond fod y cynllun strategol yn edrych yn benodol ar ysgolion gan mai dyma gylch gwaith ynghyd a grym yr adran. Eglurwyd fod dewis gan rieni i dderbyn pecyn cefnogaeth os yn awyddus i hyrwyddo’r Gymraeg pan yn Dysgu o adref.

¾   Holwyd os yw’n orfodol i ysgolion ddefnyddio’r strategaeth, nodwyd fod angen bellach i ysgolion ddangos eu bod yn symud ac yn datblygu eu dynodiadau iaith.

Awdur: Rhian Parry Jones

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 128 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2020/21 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2020/21 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofyniad statudol i gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Llywodraeth am waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn yn unol a Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Eglurwyd fod y flwyddyn hwn wedi bod yn wahanol ond fod ymroddiad y staff ar draws y rhanbarth wedi bod yn eithriadol. Amlygwyd fod y flwyddyn wedi bod yn heriol o ganlyniad i Covid 19. Nodwyd fod y bwrdd yn canolbwyntio ar bobl, yn gleifion staff a sicrhau cynnal cefnogaeth di-dor. Pwysleisiwyd fod pawb yn arwain at yr un nod sef i wneud gwahaniaeth i’r unigolion. Eglurwyd fod angen edrych ymlaen ar adfer yn dilyn covid 19.

 

Nodwyd fod y Llywodraeth yn dyrannu cyfran o’i harian drwy’r Byrddau Rhanbarthol, ac fod y partneriaid yn cytuno ar yr arian ar y cyd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Amlygwyd bellach fod nifer o byrddau rhanbarthol, a nodwyd pryder o beth fydd rôl Cynghorwyr Lleol mewn materion sydd yn effeithio trigolion eu sir. Pwysleisiwyd nad oes llawer o wybodaeth lawn o fewn yr adroddiadau a nodwyd yr angen am wybodaeth ychwanegol am brosiectau sydd a gwariant o dros £19miliwn.

¾   Pwysleisiwyd fod gwaith da yn cael ei wneud yn y bwrdd Rhanbarthol, amlygwyd pryder am ranbartholi rhai gwasanaethau gan fod gwahaniaethau mawr ar draws y sir. Eglurwyd fod y gweithredu yn gorfod digwydd ar lefel leol ac nid yn rhanbarthol.

Awdur: Morwena Edwards

10.

GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS : RHEOLI CŴN pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig a atodir ar y sail eu bod yn fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd.

 

Cymeradwywyd costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â £67,620 o gyllideb refeniw ychwanegol  un tro eleni o’r Gronfa Trawsffurfio.  Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r gweithrediad yn cyfarch blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid' am £75,620 o gyllideb refeniw parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â chyflwyno’r GDMC.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Catrin Wager.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig a atodir ar y sail eu bod yn fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd.  

 

Cymeradwywyd costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â £67,620 o gyllideb refeniw ychwanegol  un tro eleni o’r Gronfa Trawsffurfio.  Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r gweithrediad yn cyfarch blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid' am £75,620 o gyllideb refeniw parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23. 

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â chyflwyno’r GDMC. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn ôl ym mis ai y bu i’r Cabinet gytuno i fynd i ymgynghoriad statudol ar y broseso o gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas o rheoli cŵn. Eglurwyd bellach fod yr ymgynghoriad wedi cau ac fod dros 1300 o ymatebion wedi eu derbyn. Diolchwyd i bob unigolyn a gymerodd amser i ymateb a bod yn rhan o’r ymgynghoriad. Tynnwyd sylw at y prif sylwadau o’r ymgynghoriad a oedd yn cynnwys 95% o blaid gwahardd cŵn o lefydd chwarae plant, 93% o blaid gwahardd cŵn o feysydd chwarae a 99% yn credo y dylai perchnogion lanhau ar ôl i’w ci faeddu mewn mannau cyhoeddus, a’i waredu mewn ffordd gyfrifol.

 

Eglurwyd mai cais i symud ymlaen gyda cyflwyno y GDMC oedd yr adroddiad hwn ond eglurwyd fod yr adran yn awyddus i fynd gam ymhellach. Amlygwyd fod yr ymgynghoriad wedi amlygu fod 80% o’r ymatebwyr yn credu fod baw ci yn broblem o fewn eu cymunedau ac eglurwyd fod hyn yn tystiolaethu beth mae mwyafrif o Gynghorwyd yn clywed ar lawr gwlad. Pwysleisiwyd yr angen i weithredu felly eglurwyd fod yr adroddiad yn gofyn am adnoddau ychwanegol i wella arwyddion, darparu mwy o finiau ac i benodi dau swyddog a fydd yn cael ei cyflogi i fynd i wraidd y broblem. Eglurwyd fod rhain ym awgrymiadau gan drigolion ac felly fod yr ymgynghoriad wedi cynorthwyo i lunio’r rhaglen waith.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd fod baw ci yn broblem Genedlaethol ac y bydd llawer o waith yn cael ei wneud ar godi ymwybyddiaeth yn benodol ym mis Hydref. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Datganwyd gefnogaeth i’r adroddiad gan amlygu fod y problem wedi cynyddu yn ystod y cyfnod clo. Amlygwyd fod yr adroddiad yn amlygu 10 cynghorydd a ymatebodd i’r ymgynghoriad, nodwyd eu bod yn gobeithio fod y niferoedd yn uwch ond heb glicio’r bocs cynghorydd.

¾    Pwysleisiwyd mai problem perchnogion anghyfrifol ydi hwn ac nid y cŵn nac y Cyngor ond unigolion sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid. 

¾    Holwyd sut mae’r adran am ddal yr unigolion, eglurwyd y bydd y swyddogion yn mynd allan i’r cymunedau tu hwnt i oriau arferol gwaith, pwysleisiwyd yn ogystal bwysigrwydd newid ymddygiad drwy ymgyrchoedd gyda mudiadau megis Cadw Cymru’n Daclus. Eglurwyd y bydd yn anodd ond nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Steffan Jones