skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol ar gyfer Eitem 8: Prydlesu Canolfan Cefnfaes i Bartneriaeth Ogwen gan Cyng. Dafydd Meurig gan ei fod yn Gadeirydd Bartneriaeth Ogwen a Cyng. Catrin Wager gan ei bod yn cael ei chyflogi gan Bartneriaeth Ogwen, roedd y ddau fuddiant yn rhagfarnu a bu i’r ddau adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.  

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorwyr a Swyddogion canlynol ar gyfer Eitem 9: Dyfrig Siencyn, Craig ab Iago, Nia Jeffreys, Dilwyn Morgan, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Catrin Wager, Cemlyn Williams a Dafydd Gibbard gan fod ganddynt blant neu wyrion / wyresau yn derbyn cinio ysgol o fewn y sir. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a nid oedd angen iddynt adael ar gyfer y drafodaeth.  

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. 

5.

COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 18 IONAWR 2022 pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2022 fel rhai cywir.

6.

CYLLIDEB 2022-23 pdf eicon PDF 257 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2022) y dylid:

1.    Sefydlu cyllideb o £295,232,820 ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213,210,400 a £82,022,420 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%.

2.    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £59,074,980 yn 2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2022) y dylid: 

1.    Sefydlu cyllideb o £295,232,820 ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213,210,400 a £82,022,420 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%.  

2.    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £59,074,980 yn 2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd y penderfyniad. Eglurwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r setliad grant terfynol ar gyfer awdurdodau lleol ar yr 2 Mawrth. Mynegwyd fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant drafft ar gyfer 2022/23 sydd yn gynnydd i’r hyn sydd wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd fod yn gynnydd o 8.8% sydd yn cyfateb i werth £18.1m.

 

Mynegwyd er y setliad rhesymol eleni fod nifer o ffactorau fydd yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau yn 2022/23. Eglurwyd yn ogystal a chyfarch graddfa chwyddiant mae cyfle i ymdrin a phwysau gwario ehangach gan gynnwys mynd i’r afael a chostau parhaus sy’n deillio o Covid-19 a dileu neu ohirio cynllunio arbedion nad yw’n ymarferol i’w gwireddu yn 2022/23. Mynegwyd fod gofynion gwario ychwanegol sydd wedi eu ystyried yn gyfanswm o £20.2m a tynnwyd sylw at bedwar pennawd o gynnydd arbennig.

 

Y cyntaf oedd chwyddiant cyflogau o £8.5m, a nodwyd fod y gyllideb yn neilltuo amcan cynnydd yng nghytundeb tal o 4% ar gyfer yr holl weithlu ac amlygwyd y bydd cynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dod yn weithredol yn Ebrill 2022. Yr ail oedd Chwyddiant Arall, ac eglurwyd fod y swm yn cynnwys effaith y ‘cyflog byw’ ar gostau a ffioedd sy’n daladwy i gyflenwyr preifat ynghyd a chynnydd chwyddiant ar gyllidebau tanwydd a prisiau yn dilyn ail-dendro.

 

Pwysau ar Wasanaethau oedd yn drydydd ac argymhellwyd cymeradwyo bidiau gwerth £6.7m am adnoddau parhaol ychwanegol sydd wedi eu cyflwyno gan adrannau’r Cyngor i gwrdd a phwysau anorfod ar wasanaethau. Yn ychwanegol ar y bidiau parhaol, argymhellwyd cymeradwyo bidiau ‘un-tro’ gwerth £6.2m i’w ariannu o’r Gronfa Trawsffurfiol. Y pedwerydd oedd pwysau Covid-19 o £1.4m. Mynegwyd ers Ebrill 2020 fod y Llywodraeth wedi digolledu awdurdodau lleol am gostau ychwanegol y pandemig o’r Gronfa Caledi. Fodd bynnag, nodwyd fod y Llywodraeth wedi datgan y bydd y cymorth hwn yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2022 a bydd disgwyl i’r awdurdodau ariannu unrhyw gostau ychwanegol neu golled incwm o ganlyniad i’r pandemig yn dilyn hyn. Rhagwelir na fydd £1.4m yn ddigonol ac eglurwyd fod cronfeydd eraill o fewn y Cyngor ar gael i gynorthwyo megis y Gronfa adfer Cofid a sefydlwyd wrth gau cyfrifol yn 2020/23.

 

Nodwyd o ran cynlluniau arbedion fod y Cyngor wedi gwireddu dros £32.8m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. O ganlyniad i’r hyblygrwydd mae’r setliad eleni yn ei gynnig ni fydd arbedion gwerth 1.8m a gynlluniwyd yn wreiddiol i’w gwireddu yn 2022/23 bellach ddim yn cyfrannu ar gau bwlch cyllidebol. Nodwyd mai £595,000 yw gwrth yr arbedion sy’n weddill yn y rhaglen i’w dynnu allan o gyllideb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dewi Morgan

7.

ADRODDIAD DRAFFT ASESIAD O ANGHENION POBLOGAETH GOGLEDD CYMRU 2022 pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor Llawn i gymeradwyo Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig  

 

PENDERFYNWYD

 

Argymell i’r Cyngor Llawn i gymeradwyo Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r asesiad am eleni. Eglurwyd fod yr adroddiad wedi ei drafod yn y Pwyllgor Craffu gan ychwanegu y bydd yn mynd i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth. Nodwyd fod yr adroddiad wedi ei lunio mewn ymateb i ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru 2014). Mynegwyd gan ei fod yn ofyniad statudol fod yr amserlen yn hynod dynn a diolchwyd i’r staff am eu gwaith yn sicrhau fod y gwaith yn cael ei gwblhau. Eglurwyd fod yr asesiad yn cael ei greu yn rhanbarthol gyda’r 6 Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd ynghlwm gyda’r broses.

 

Nodwyd o ran strwythur yr adroddiad ei fod yn gyffredinol gan ei fod yn rhanbarthol. Er hyn, mynegwyd fod rhai elfennau penodol yn allweddol i Wynedd. Mynegwyd yn dilyn paratoi’r adroddiad bydd llawer o waith yn deillio ohono, eglurwyd y bydd gwaith yn cael ei wneud ar lefel leol er mwyn creu asesiad benodol i Wynedd fydd yn cael ei gyflwyno gobeithio ym mis Rhagfyr 2022.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm Prosiect fod yr adroddiad yn gyffredinol ac y bydd y tîm yn gwneud gwaith mwy manwl ar anghenion Gwynedd er mwyn cael gwir ddealltwriaeth o anghenion bobl yn eu cymunedau. Nodwyd y bydd gwaith pellach o edrych ar y farchnad yn deillio o’r gwaith hwn er mwyn gweld os yw’r farchnad ar gallu i gwrdd a anghenion sydd i’w gweld yn yr adroddiad.

 

Mynegodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Oedolion fod y darn hwn o gwaith am fod yn un parhaus a bydd angen cadw’r wybodaeth yn gyfredol er mwyn cael dealltwriaeth o ble mae bylchau. Nodwyd fod yr amserlen wedi bod yn hynod heriol yn ystod y pandemig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd am yr adroddiad a tynnwyd sylw at y gydnabyddiaeth yn yr adroddiad ar nifer uchel o blant gyda salwch hir dymor gan bwysleisio fod gordewdra yn broblem fawr.

¾    Holwyd gyda Llesiant Meddwl Gwynedd yr uchaf ar draws y gogledd holwyd os oedd hyn yn beth da yntau drwg. Nodwyd ei fod yn newyddion positif ond fod hyn yn amlygu’r angen i’w eirio yn fwy clir.

¾   Diolchwyd i’r staff a wneud y gwaith mewn cyfnod mor heriol gan gynnwys staff rhanbarthol sydd wedi dod a’r holl wybodaeth at ei gilydd. Eglurwyd y bydd yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio i weithio ar feysydd ble nad oes modd ei datrys yn lleol.

Awdur: Rhion Glyn

8.

PRYDLESU CANOLFAN CEFNFAES i BARTNERIAETH OGWEN pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i ddefnyddio pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu safle Canolfan Cefnfaes yn uniongyrchol i Bartneriaeth Ogwen am lai na rhent y farchnad, er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Craig ab Iago 

 

PENDERFYNWYD

 

Cytunwyd i ddefnyddio pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu safle Canolfan Cefnfaes yn uniongyrchol i Bartneriaeth Ogwen am lai na rhent y farchnad, er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  fod yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet i brydlesu Canolfan Cefnfaes i Bartneriaeth Ogwen. Nodwyd fod y Bartneriaeth yn gwneud gwaith arloesol a gyda cynlluniau pendant ar gyfer defnydd i’r adeilad. Eglurwyd fod y Bartneriaeth wedi cael grant ar gyfer ail wneud yr adeilad ac angen cymorth ar gyfer 10 mlynedd cyntaf.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd cefnogaeth i’r cynllun gan nodi pwysigrwydd ei gefnogi. Eglurwyd fod grant o £200,000 ar gyfer y ganolfan wedi ei dderbyn a nodwyd eu bod yn edrych ymlaen i weld y datblygiadau ac i weld yr adeilad ar ei newydd wedd.

 

Awdur: Carys Fon Williams

9.

PRIS CINIO YSGOLION CYNRADD, ARBENNIG A DILYNOL MEDI 2022 pdf eicon PDF 340 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i beidio â chynyddu pris cinio ysgolion cynradd, arbennig a dilynol ym mis Medi 2022.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams   

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i beidio â chynyddu pris cinio ysgolion cynradd, arbennig a dilynol ym mis Medi 2022.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod te eitem hon yn un syml. Eglurwyd ei bod yn ofynnol i’r Cabinet ystyried codi pris cinio ysgol yn flynyddol yn unol â chwyddiant. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cinio am ddim i bob disgybl yn Cyfnod Sylfaen fel rhan o gynllun cinio am ddim i bob disgybl ac fod angen ystyried hyn pan yn gwneud y penderfyniad. Nodwyd awydd i beidio codi pris cinio ysgol gan bwysleisio y bydd hyn ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 yn unig.

 

Eglurwyd fod angen edrych ar ginio ysgol yn gyffredinol ac nodwyd awydd yr adran i edrych yn benodol ar ansawdd o fewn ysgolion uwchradd. Nodwyd y yr angen i greu  gweithgor yn cynnwys Llywodraethwyr, rhieni a disgyblion i edrych yn benodol ar y mater.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Croesawyd y penderfyniad i beidio codi pris cinio ysgol gan nodi fod nifer o deuluoedd o dan bwysau ac fod gan y Cyngor rôl allweddol i gefnogi teuluoedd.

¾    Mynegwyd i rai disgyblion mai cinio ysgol yw’r unig bryd poeth maent yn ei gael rhai dyddiau ac felly mae’r cam hwn yn un cyfrifol i’r Cyngor ei wneud.

¾    Diolchwyd i’r adran am y gwaith ac y awydd i ddatblygu gweithgor. Mynegwyd yr angen i sicrhau fod teuluoedd sy’n gymwys am ginio am ddim eu bod yn ei derbyn a hynny heb gywilydd yn benodol mewn ysgolion uwchradd. Nodwyd fod Swyddog Hybu Cinio Am Ddim am gael ei benodi fydd yn ei gwneud yn haws i deuluoedd wneud ceisiadau

Awdur: Bethan Griffith

10.

GWELEDIGAETH Y CYNGOR AR GYFER GWEITHIO I'R DYFODOL pdf eicon PDF 326 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y weledigaeth ar gyfer Gweithio i’r Dyfodol, a pheidio dychwelyd i’r ffordd o weithio cyn y pandemig.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd y weledigaeth ar gyfer Gweithio i’r Dyfodol, a pheidio dychwelyd i’r ffordd o weithio cyn y pandemig.

  

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cryn dipyn o sylw yn genedlaethol ar fyd gwaith i’r dyfodol. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi nodi nod o 30% o weithlu Cymru yn gweithio o adref. Eglurwyd fod y Cyngor wedi bod yn cynllunio ar gyfer trefniadau gweithio i’r dyfodol gyda Grŵp Swyddfeydd wedi bod yn cyfarfod. Eglurwyd fod y weledigaeth yn rhan o ffrwyth gwaith y grŵp hwn ac yn seiliedig ar drafodaethau gyda grwpiau o staff a cynrychiolwyr yr Undebau yn lleol.

 

Nodwyd y weledigaeth o weithlu yn gallu gweithio’n hyblyg a rhoi eu gorau i gyflawni a darparu gwasanaethau o safon ar gyfer pobl Gwynedd. Yn ogystal a fod y Cyngor yn le da i weithio sydd yn hybu cydbwysedd bywyd a gwaith er lles staff ac er mwyn cadw a denu staff o safon.  Eglurwyd y bydd yn adeiladu ar brofiadau o ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig. Mynegwyd fod datganiadau Llywodraeth Cymru yn amlygu tebygolrwydd o lacio pellach ac y bydd amser yn do di weithredu ar y weledigaeth. Ychwanegwyd fod y Prif Weithredwr wedi rhannu amlinelliad y cynllun gweithredu gyda’r staff ac fod trafodaeth wedi ei gynnal a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wythnos diwethaf.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol mai gwirfoddol yr gweithio o adref i staff i’r dyfodol a na fydd gorfodaeth i wneud hyn. Eglurodd fod nad yw pob swydd yn cael ei chyflawni o adref ac y bydd angen gwneud asesiad gweithfan ar leoliadau cartref unigolion cyn gwneud trefniadau hir dymor. Tynnwyd sylw at ffigwr anghywir yn yr adroddiad ac mai £997,499 oedd arbedion costau teithio staff ar gyfer 2021/23.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at ffigwr o 25% eisiau gweithio adref yn y tymor hir, a nodwyd fod hyn oherwydd fod unigolion yn fwy cyfforddus i fod adref.

¾     Nodwyd fod gweithio o adref yn tynnu’r cyfle i staff fod yn rhwydweithio ac yn colli’r elfen o ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mynegwyd fod angen amlygu fod 59% wedi nodi’r awydd i weithio’n hybrid gyda 15% eisiau bod yn y swyddfa llawn amser. Pwysleisiwyd fod y cyfnod hwn yn gyfnod prawf ac y bydd modd i staff newid eu meddyliau cyn gnwued unrhyw benderfyniad hir dymor.

¾     Pwysleisiwyd fod angen meddwl am sut y bydd Cynghorwyr yn cael eu anwytho ac yn cael cyfleoedd teg yn dilyn yr etholiad ym Mis Mai. Eglurwyd nad yw’r adroddiad yn trafod Cynghorwyr ond fod gwaith yn cael ei wneud yn y cefndir i wneud trefniadau ar gyfer Cynghorwyr.

¾     Eglurwyd fod y sgwrs gyda staff o ran lleoliadau gwaith yn un parhaus a bydd modd newid wrth i staff efallai fagu hyder, ond pwysleisiwyd yr angen i gael balans teg ac i feddwl barhau i flaenoriaethu lles meddyliol staff.

Awdur: Geraint Owen

11.

CYNLLUN Y CYNGOR 2018-23 - ADOLYGIAD 2022/23 pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 – Adolygiad 2022/23 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 3ydd Mawrth 2022.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn   

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 – Adolygiad 2022/23 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 3ydd Mawrth 2022.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma’r adolygiad olaf ar gyfer Cynllun y Cyngor 2018-23. Nodwyd y bydd Cynllun newydd yn cael ei ddatblygu gan y Cyngor newydd. Mynegwyd ei nad oedd newidiadau sylweddol i’r Cynllun am eleni ond ei fod yn rhoi darlun clir o gyfrifoldebau’r Cyngor ynghyd a maint cyfrifoldeb Cynghorwyr Gwynedd ar gyfer cefnogi bywydau trigolion y sir.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor fod yr adolygiad yn datgan beth yw blaenoriaethau’r cyngor am y flwyddyn nesaf. Amlygwyd fod angen ychwanegu rhagair yr Arweinydd cyn ei ychwanegu at raglen y Cyngor Llawn ar gyfer mis Mawrth.

 

Awdur: Dewi Wyn Jones

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABIENT DROS YR ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL A'R ADRAN GYFREITHIOL pdf eicon PDF 576 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Gwasanaeth Cyfreithiol wedi profi cyfnod heriol gyda nifer o swyddi gwag ond fod y gwasanaeth wedi parhau. Eglurwyd fod yr adran wedi bod yn edrych ar ffyrdd i benodi staff a bellach fod y broses recriwtio ar waith.

 

Nodwyd fod yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn arwain ar 9 project blaenoriaeth o fewn Cynllun Cyngor Gwynedd. Mynegwyd o ran prosiect Cadw’r Budd yn Lleol fod y gwasanaeth yn agosáu at ddiwedd y cynllun peilot ac fod cefnogaeth wedi bod i’r gwaith gan y Grŵp Trydydd Sector. Eglurwyd fod cynllun Enwau Lleoedd wedi bod ar waith ers 6 mis ac fod llawer o waith ymchwil wedi ei wneud. Nodwyd y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno yn fuan. Eglurwyd fod y deg maes yn perfformio yn gyson dda ac fod awydd parhaus i wella’r ddarpariaeth. 

 

Diolchwyd i’r Tîm Iechyd, Diogelwch a Llesiant am y gefnogaeth maent wedi ei roi i gefnogi gwasanaethau rheng flaen dros y ddwy flynedd diwethaf. Mynegwyd fod y Gwasanaeth Cyswllt Cwsmer a Chofrestru wedi bod dan bwysau oherwydd swyddi gwag ynghyd a absenoldebau ond fod camau wedi eu cymryd i gynnal y gwasanaeth. Eglurwyd fod angen parhau i gadw golwg ar yr amser cyfartalog i ateb ffon ac amlygwyd fod hyn yn broblem sydd i’w weld ar draws y Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at Wasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth sydd wedi bod yn allweddol ar gyfer casglu a dadansoddi gwybodaeth yn ystod y pandemig ac wedi rhoi sail gadarn i benderfyniadau’r Cyngor. Nodwyd yn dilyn penderfyniad y Cabinet i benodi Pen Swyddog Iaith fod y gwasanaeth yn gobeithio penodi ddechrau Mawrth er mwyn dechrau ar y gwaith sefydlu Hunaniaith fel endid annibynnol. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Pwysleisiwyd fod gweithio i’r Cyngor yn swydd dda ac anrhydeddus gyda nifer o gyfleoedd i ddatblygu ymhellach.

¾    Mynegwyd gwerthfawrogiad i’r adrannau gan eu bod yn ganolog i waith yr adrannau eraill.

¾    Tynnwyd sylw at gynllun cofrestru pobl ifanc 16+ i bleidleisio gan holi os oes modd symud y gwaith hwn yn ei blaen. Eglurwyd fod unigolyn wedi ei phenodi i’r swydd ac fod y cynlluniau gwreiddiol wedi cael ei taro gan y pandemig ond fod y cynllun yn symud ymlaen.

 

 

Awdur: Geraint Owen

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 337 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd yn amlygu cynlluniau yr adran sydd i’w gweld yng Nghynllun Cyngor Gwynedd. Mynegwyd o ran y Cynllun Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud gyda’r cynlluniau Canolfan Economi Wledig yng Glynllifon a Canolfan Prosesu Signal Digidol ym Mhrifysgol Bangor. Nodwyd o ran cynllun Swyddi Gwerth Uchel  nodwyd fod cefnogaeth wedi ei ymestyn  ar gyfer cynllun STEM hyd ganol 2023 ac fod gwaith wedi ei gomisiynu er mwyn creu ymchwil ar y cyd gyda’r adran Addysg i gynorthwyo ysgolion ddeall anghenion sgiliau busnesau lleol. Nodwyd fod swyddogion yn ogystal wedi ei recriwtio i gwmni Egino sydd wedi ei sefydlu i hwyluso denu buddsoddiad pellach i safle Atomfa Trawsfynydd.

 

Pwysleisiwyd y siom oedd i benderfyniad Llywodraeth Cymru i rwystro datblygiad ffordd mynediad newydd i safle Maes Awyr Llanbedr. Nodwyd fod y penderfyniad eisoes wedi arwain at golli £7.5m o arian Ewrop ynghyd a buddsoddiad preifat sylweddol. Mynegwyd balchder o ran rhaglen Arloesi Gwynedd Wledig fod Llywodraeth wedi dynodi £4m ar gyfer ARFOR yn y gyllideb ddrafft yn dilyn llwyddiant y cynllun.

 

Mynegwyd fod perfformiad yr adran ar y cyfan yn dda a nodwyd balchder bod Llyfrgell Neuadd Dwyfor bellach wedi ail agor. Mynegwyd fod gwaith pellach i’w wneud yn y theatr.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd i’r adran am eu gwaith yn arwain ar gynllun arloesol sydd yn gnwued gwahaniaeth i drigolion Gwynedd. Yn ogystal diolchwyd i’r staff am eu gwaith yn cefnogi busnesau Gwynedd yn benodol dros cyfnod y pandemig.

 

 

Awdur: Sioned Williams